WALES AUDIT OFFICE

SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

Newsletter November 2005
Tachwedd 2005

Welcome to the latest Wales Audit Office electronic newsletter. It contains useful information about the work we are doing to help promote improvements in Welsh public services. It also gives you easy access to some of our most recent reports. If you want to find out more about us, you can visit our website www.wao.gov.uk

Key news this month

·         Funding for the National Botanic Garden of Wales

·         Adult Mental Health Services in Wales

·         Local Government Studies

·         WAO Draft Welsh Language Scheme

·         Our Strategy and our Partnership Board

·         Public information leaflets

·         Forthcoming reports

Funding for the National Botanic Garden of Wales 

This report examines the decisions made by the Welsh Assembly Government, WDA and Wales Tourist Board to fund the Garden. The Auditor General concludes that some of the public bodies funding the Garden project could have done more to minimise the risks involved. His report also found that those public bodies could have worked together more to share information.

For a copy of the report, click here.

For more information contact James Verity on 029 2026 2580, or e-mail james.verity@wao.gov.uk

Adult Mental Health Services in Wales: A Baseline Review

The Auditor General highlighted problems with the way services are planned, organised and monitored. His baseline review of service provision was commissioned by the Welsh Assembly Government and published on World Mental Health Day (10 October). Publication coincided with the Assembly Government’s announcement of a revised the Mental Health Service National Service Framework and an additional £5m investment into mental health services in Wales.

For a copy of the report, click here.

For more information on the NSF click here

For more information about the report contact Dave Thomas on 029 2026 2559 or, e-mail dave.thomas@wao.gov.uk

Local Government Consultation

We are currently consulting local government colleagues on the proposed study into energy efficiency. We have also been seeking your views on a proposed study that would examine local government’s preparedness to deliver the Making the Connections agenda. The review, funded by the Wales Programme for Improvement (WPI) grant, would form part of the Regulatory Plans agreed with each authority for 2005/6 and would address the question, “Is local government adequately prepared to meet the objectives of Making the Connections?”
Following a consultation period, we are now establishing a Developmental Group.

If you are interested in participating, or would like to discuss either study further, please contact Anthony Snow, WAO Partner, on 029 2026 2685 or e-mail anthony.snow@wao.gov.uk 

Local government audit and inspection fees for 2005-06 and a summary of our response to consultation will shortly be available on our website at www.wao.gov.uk . For more information, contact Simon Edge, WAO Partner, on 029 2067 8564 or e-mail simon.edge@wao.gov.uk

Wales Audit Office Welsh Language Scheme

We are also asking for your views on our Draft Welsh Language Scheme and would invite comments by 13 January 2006.

Click here for the Draft Scheme.

For more information contact Susan Morgan on 029 2026 2696 or e-mail susan.morgan@wao.gov.uk

Our Strategy and our Partnership Board

Our strategic aims and objectives for the next three years are set out in a draft document which will shortly be sent to our stakeholders for consultation. We welcome your views on our blueprint for the future and look forward to your responses.
The final Strategy will then be made available on our website www.wao.gov.uk  

For more information, please contact Ceri Stradling on 01244 288 530, e-mail ceri.stradling@wao.gov.uk

Our management arrangements have recently changed and are now based firmly on a matrix model. Click here for the composition of our Partnership Board.

Public information leaflets

We have produced three leaflets with important information on whistle-blowing, WAO’s own complaints procedure and the rights of citizens to access council accounts. We will shortly be distributing copies to appropriate target audiences in Wales.

For more information, please contact Sue Morgan on 029 2026 2696, e-mail susan.morgan@wao.gov.uk

School Survey 2005

Results from the School Survey 2005 are now available. Local authorities in Wales have been given on-line access to their own report and Estyn has been sent a complete copy of the data. The School Survey is a collaborative tool developed by the Audit Commission in partnership with the Wales Audit Office, Local Authorities, Headteacher and Governor associations. The survey was completed by schools throughout England and Wales. Fourteen Welsh local authorities participated in the scheme.

A new WLGA leader

The Wales Audit Office welcomes Cllr Derek Vaughan as new leader of the WLGA and looks forward to working closely with him in helping to build a world-class system of local government for the people of Wales. The Auditor General and his staff would also like to thank the outgoing leader, Cllr Alex Aldridge, for his contribution over the years and wish him all the very best for the future. 

CIPFA conference

The theme of this year’s CIPFA in Wales annual conference was “Innovating public services in Wales.” WAO Partner, Gill Lewis, chaired the event at the Macdonald Holland House Hotel in Cardiff. Auditor General Jeremy Colman spoke on the Welsh national perspective on audit and improvement and the Wales Audit Office mission statement.

Click here for the Chartered Institute of Public Finance and Accountancy website.

Forthcoming reports

NHS Energy Management

This report will consider whether NHS trusts in Wales have been successful in controlling their energy costs over recent years and the prospects for the future. In particular, it will examine whether trusts have secured a good deal in their procurement of electricity and gas and have made good progress in reducing energy consumption and improving energy efficiency.

For more information contact Paul Dimblebee, WAO Partner, on 029 2026 2687, e-mail paul.dimblebee@wao.gov.uk 

We hope you find this bulletin useful. However, if you do not wish to receive monthly updates by e-mail please let us know at: wales@wao.gov.uk

WAO will not pass on, sell or in any way use recipients’ addresses other than for the distribution of relevant information.

 

 

Taflen Newyddion Tachwedd 2005
Tachwedd 2005

Croeso i daflen newyddion electronig ddiweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaith yr ydym yn ei wneud i helpu i hyrwyddo gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymreig. Mae hefyd yn rhoi hwyluso mynd at rai o’n hadroddiadau diweddaraf i chi. Os ydych chi am ddarganfod mwy, gallwch ymweld â’n gwefan www.wao.gov.uk

Newyddion allweddol y mis hwn

·         Cyllid i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

·         Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru

·         Astudiaethau Llywodraeth Leol

·         Cynllun Iaith Gymraeg Drafft Swyddfa Archwilio Cymru

·         Ein Strategaeth a’n Bwrdd Partneriaeth

·         Taflenni gwybodaeth gyhoeddus

·         Adroddiadau arfaethedig

Cyllid i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y WDA a Bwrdd Croeso Cymru i gyllido’r Ardd.  Mae’r Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, yn dod i’r casgliad y gallai rhai o’r cyrff cyhoeddus sy’n ariannu’r prosiect fod wedi gwneud mwy i fynd i’r afael â’r risgiau ynghlwm â hi. Gwnaeth ei adroddiad hefyd ddarganfod y gallai’r cyrff cyhoeddus hynny fod wedi gweithio gyda’i gilydd yn fwy i rannu gwybodaeth.

Am gopi o’r adroddiad, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â James Verity ar 029 2026 2580, neu anfonwch e-bost at james.verity@wao.gov.uk

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru: Adolygiad Sylfaenol

Tynnodd yr Archwilydd Cyffredinol sylw at broblemau gyda’r ffordd y cynllunnir, y trefnir ac y monitrir gwasanaethau.  Comisiynwyd ei adolygiad sylfaenol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chafodd ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref).  Cafodd ei gyhoeddi ar yr un pryd â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru o Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a buddsoddiad ychwanegol o £5m mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Am gopi o’r adroddiad, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth ar y NSF cliciwch yma

Am ragor o wybodaeth am yr adroddiad cysylltwch â Dave Thomas ar 029 2026 2559 neu anfonwch e-bost at dave.thomas@wao.gov.uk  

Ymgynghoriad Llywodraeth Leol

Rydym wedi mynd ati i geisio eich barn ar astudiaeth arfaethedig fyddai’n archwilio parodrwydd llywodraeth leol i gyflawni’r agenda Creu’r Cysylltiadau. Byddai’r adolygiad, a ariennir gan grant Cynllun Cymru ar gyfer Gwella (WPI), yn ffurfio’r rhan o’r Cynlluniau Rheoleiddio a gytunwyd gyda phob awdurdod ar gyfer 2005/6 a byddai’n mynd i’r afael â’r cwestiwn, “A yw llywodraeth leol wedi’i pharatoi’n ddigonol i ateb amcanion Creu’r Cysylltiadau?”
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, rydym yn awr yn sefydlu Grŵp Datblygu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech drafod yr un astudiaeth neu’r llall yn fanylach, mae croeso i chi gysylltu ag Anthony Snow ar 029 20262685, neu anfonwch e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk

Maes o law bydd Ffїoedd arolygu ac archwilio llywodraeth leol ar gyfer 2005-06 a chrynodeb o’n hymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan yn www.wao.gov.uk. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Simon Edge, Partner Swyddfa Archwilio Cymru ar 029 20678564 neu anfonwch e-bost at simon.edge@wao.gov.uk

Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Archwilio

Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar ein Cynllun Iaith Gymraeg Drafft ac mae croeso i chi gyflwyno sylwadau erbyn 13 Ionawr 2006.

Cliciwch yma am y Cynllun Drafft.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Susan Morgan ar 029 20262695 neu anfonwch e-bost at susan.morgan@wao.go.uk

Ein Strategaeth a’n Bwrdd Partneriaeth

Cyflwynir ein nodau ac amcanion strategol am y tair blynedd nesaf mewn dogfen ddrafft a gaiff ei anfon maes o law at ein rhanddeiliaid at bwrpasau ymgynghori.  Rydym yn croesawu eich barn ar ein cynllun ar gyfer y dyfodol ac yn edrych ymlaen at eich ymatebion.
Bydd y Strategaeth derfynol ar gael ar ein gwefan www.wao.gov.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Stradling ar 01244 280 530, neu anfonwch e-bost at ceri.stradling@wao.gov.uk

Mae ein trefniadau rheoli wedi newid yn ddiweddar a bellach maent yn seiliedig yn gadarn ar fodel matrics. Cliciwch yma am aelodaeth ein Bwrdd Partneriaeth.

Taflenni gwybodaeth gyhoeddus

Rydym wedi cynhyrchu tair taflen sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig ar chwythu’r chwiban, gweithdrefn gwyno Swyddfa Archwilio Cymru ei hunan a hawliau dinasyddion i weld cyfrifon cynghorau. Byddwn yn dosbarthu copïau i gynulleidfaoedd targed priodol yng Nghymru maes o law. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sue Morgan ar 029 2026 2696, e-bost susan.morgan@wao.gov.uk

Arolwg Ysgolion 2005

Mae canlyniadau Arolwg Ysgolion 2005 yn awr ar gael. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael mynediad ar-lein i’w hadroddiad eu hunain ac anfonwyd copi cyflawn o’r data at Estyn. Mae’r Arolwg ysgolion yn offeryn cydweithredol a ddatblygwyd gan y Comisiwn Archwilio mewn partneriaeth â Swyddfa Archwilio Cymru, Awdurdodau Lleol, cymdeithasau Penaethiaid a Llywodraethwyr. Gorffennwyd yr arolwg gan ysgolion ledled Cymru a Lloegr. Diolch i bob un o’r 14 o awdurdodau a gymerodd ran.

Arweinydd newydd i CLlLC

Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n croesawu’r Cynghorydd Derek Vaughan fel arweinydd newydd CLlLC ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ef wrth helpu i adeiladu system llywodraeth leol i bobl Cymru sydd gyda’r gorau yn y byd. Hoffai’r Archwilydd Cyffredinol a’i staff hefyd ddiolch y cyn arweinydd, y Cynghorydd Alex Aldridge, am ei gyfraniad dros y blynyddoedd a dymuno’n dda iddo am y dyfodol. 

Cynhadledd CIPFA

Thema cynhadledd flynyddol CIPFA yng Nghymru eleni oeddArloesi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Cadeiriwyd y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty Macdonald Holland yng Nghaerdydd gan Gill Lewis, Partner yn Swyddfa Archwilio Cymru. Siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol Jeremy Colman ar bersbectif cenedlaethol Cymru ar archwilio a gwelliant a gweledigaeth Swyddfa Archwilio Cymru.

Cliciwch yma am wefan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

Adroddiadau arfaethedig

Rheoli Ynni yn y GIG

Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried a yw ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus wrth reoli eu costau ynni dros y blynyddoedd diwethaf a’r rhagolygon am y dyfodol. Yn enwedig, bydd yn archwilio a yw ymddiriedolaethau wedi sicrhau bargen dda wrth gaffael trydan a nwy ac a ydynt wedi gwneud cynnydd da wrth leihau’r defnydd o ynni ac wrth wella effeithlonrwydd ynni.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Paul Dimblebee ar 029 2026 2687, neu anfonwch
e-bost at paul.dimblebee@wao.gov.uk

Gobeithiwn y bydd y bwletin hwn yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, os nad ydych am dderbyn newyddion misol drwy e-bost rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i: wales@wao.gov.uk

Ni fydd Swyddfa Archwilio Cymru yn trosglwyddo cyfeiriadau derbynwyr i unrhyw un, na’u gwerthu na’u defnyddio mewn unrhyw ffordd heblaw ar gyfer dosbarthu gwybodaeth berthnasol.