Bydd angen newid sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ran y ffordd y maent yn gwneud penderfyniadau, er mwyn ymateb yn effeithiol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae goblygiadau'r Deddf, ynghyd â thirwedd gwasanaethau cyhoeddus sy'n newid o hyd, yn golygu ni allwn barhau i gynnal, darparu a dwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif yn yr un ffordd ag o'r blaen.
Os ydych yn rhan o wneud penderfyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus neu'n craffu arnynt, ni ddylech golli'r seminar hwn. Roedd y seminar hwn yn eich tywys yn ymarferol drwy'r sgiliau a'r ymddygiadau y bydd eu hangen ar wneuthurwyr penderfyniadau er mwyn cyflawni ysbryd a bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cafodd unigolion ddealltwriaeth well o sut a pham y bydd yn rhaid iddynt wneud pethau'n wahanol a byddant yn fwy parod i sicrhau bod lles cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd gwneud penderfyniadau.
Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer
Cafodd y seminar hon ei hanelu at staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y swyddi canlynol:
- Aelodau Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau craffu ac archwilio;
- Aelodau anweithredol byrddau;
- Arweinwyr ac aelodau o gabinetau;
- Prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch aelodau timau arwain gwasanaethau cyhoeddus;
Cyflwyniadau
- Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol [PDF 1.9MB Agorir mewn ffenest newydd] - yr Athro Tony Bovaird