Shared Learning Seminar
Seminar Dysgu a Rennir i Ymddiriedolwyr

Fe wnaeth y seminar hwn paratoi mynychwyr fel eu bod nhw'n gallu sicrhau llwyddiant eu helusen drwy gynllunio’n dda, a diogelu eu helusen at y dyfodol.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Trawsgrifiad fideo [Word 68KB Agorir mewn ffenest newydd]

Mae symiau sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei wario gan rai elusennau er mwyn darparu gwasanaethau sydd o’r un natur â gwasanaethau cyhoeddus. Mae patrymau newidiol y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn awgrymu fod hyn yn debygol o ehangu i feysydd lle y bu cyrff sector cyhoeddus yn gweithredu’n flaenorol. Mae’n bwysig sicrhau gwerth da am arian i’r bunt gyhoeddus, waeth pa fath o sefydliad sy’n darparu gwasanaethau. 

At bwy oedd y digwyddiad wedi ei anelu 

Roedd y digwyddiad wedi ei anelu at sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus. Fe gydnabyddir fod elusennau sydd ddim yn defnyddio arian cyhoeddus yn uniongyrchol yn meddu ar wybodaeth a phrofiad helaeth, y gallai gael ei rannu er mwyn gwella’r defnydd o arian cyhoeddus, felly roedd croeso iddynt hwythau fynychu hefyd. 

Yn benodol, roedd y digwyddiad wedi ei anelu at ymddiriedolwyr a chadeiryddion:

  • sefydliadau’r sector cyhoeddus
  • sefydliadau’r sector gwirfoddol
  • mentrau cymdeithasol
  • busnesau cymunedol
  • mudiadau cydweithredol

Roedd yn cynnwys sesiwn arddangos lawn ar oresgyn materion cyffredin a dewis o fynychu dau o’r gweithdai canlynol:

  1. Diogelu eich elusen [PDF 284KB Agorir mewn ffenest newydd] - Rosie Stokes, Comisiwn Elusennau
  2. Cael y bobl iawn o amgylch y bwrdd i arwain eich mudiad [PDF 479KB Agorir mewn ffenest newydd] - Anna Bezodis, WCVA a Alex Swallow, Ymddiriedolwyr Elusennau Ifanc
  3. Ffynonellau incwm newydd ac amgen posibl [PDF 699KB Agorir mewn ffenest newydd] - Sara Powell-Davies, Renewable UK Cymru a Neil Lewis, Cronfa Bancio Gymunedol Robert Owen

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan