Cyrff archwilio yn uno i gynhyrchu canllaw arfer da ar gyfer chwythu'r chwiban

09 Tachwedd 2020
  • Mae canllaw arfer da ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr y sector cyhoeddus wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan bedair prif asiantaeth archwilio'r DU, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru.

    Nod y canllaw hwn yw nodi’n glir ac yn syml sut all gweithwyr yn y sector cyhoeddus fynegi pryderon a’r hyn y dylent ei ddisgwyl gan eu cyflogwr wrth wneud hynny.
    Hefyd, mae’n darparu arweiniad i gyflogwyr sector cyhoeddus ar sut i annog gweithwyr i fynegi pryderon a sut i fynd i’r afael â phryderon yn effeithiol ac mewn modd agored a thryloyw. 
    Mae’n gofyn am ddiwylliant agored a gonest ar draws y sector cyhoeddus, lle mae gan weithwyr wybodaeth glir am sut i fynegi pryderon (yn fewnol ac allanol) ac yn cael eu hannog i wneud hynny gan wybod y bydd rhywun yn gwrando arnynt ac y byddent yn cael eu trin â pharch, heb ofni unrhyw ddial.
     
    Darllenwch y canllaw am fwy o wybodaeth am chwythu'r chwiban.