Dull Proffilio a Rhestr Wirio |
Defnyddiwch y rhain i'ch helpu i ddeall y broses o reoli absenoldeb oherwydd salwch yn eich sefydliad |
| Cyfeiriadur A i Y ac Astudiaethau Achos Cymru |
Defnyddiwch y tudalennau hyn i nodi'r arfer da a fydd yn eich helpu i wella |
Wrth gwrs, mae llawer o sefydliadau eisoes yn cymryd rhai camau gweithredu i hyrwyddo gwell presenoldeb, ac mae'r canllawiau hyn yn seiliedig yn bennaf ar hynny, yn gyson â'n nod o 'nodi, gwerthuso a hwyluso trosglwyddo arfer da o fewn sectorau a rhyngddynt.’
Bydd rhywfaint o fudd yn deillio o fabwysiadu rhai o’r camau, ond dim ond os mabwysiedir y system gyfan y ceir y buddiannau mwyaf.
Yr un 'cyfarwyddyd' syml yw bod hwn yn fater llywodraethu sylweddol y dylid ymdrin ag ef ar y lefelau uchaf. Cyn dechrau unrhyw gamau gweithredu, argymhellir y dylid defnyddio'r Rhestrau Gwirio a'r dull Proffilio Sefydliad i nodi eich blaenoriaethau.
Mae rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwnc pwysig i bob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, o gofio bod pob un ohonynt yn dibynnu ar gyfraniad staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson. Er ei bod yn anochel, wrth gwrs, fod pobl yn dioddef o salwch, mae hefyd yn amlwg bod:
- dros hanner o'r holl absenoldebau yn dod o dan y cyfnod 'hunan-ardystio' lle mae'r unigolyn yn defnyddio'i ddisgresiwn ei hun i benderfynu p'un a aiff i'r gwaith ai peidio,
- ceir camau y gellir eu cymryd i gefnogi staff a fu'n sâl yn hirdymor i ddychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n gallu cael effaith sylweddol.
Gan fod tua 28% o'r bobl sy'n gweithio yng Nghymru wedi'u cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gallai effaith gadarnhaol ar hybu iechyd o fewn y gweithluoedd hynny hefyd gael effaith gadarnhaol ar les y genedl.
Cwmpesir budd hirdymor hybu iechyd ar draws y gweithlu hwn yn dda gan ‘Safon Iechyd Gorfforaethol’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
A wyddoch chi?
Mae'r budd uniongyrchol yn sgîl lleihau nifer cyfartalog y diwrnodau a gollir o un yn unig yn cyfateb i £27 miliwn ychwanegol i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dim ond drwy gael diwrnod o waith gan staff a delir eisoes.
Byddai lleihad yn nifer cyfartalog y diwrnodau a gollir y flwyddyn yn gyffredinol o un yn unig yn creu cyfraniad ychwanegol o:
90,000 o ddiwrnodau person yn GIG Cymru, 50,000 o ddiwrnodau person yn llywodraeth leol Cymru, 6,000 o ddiwrnodau person yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn y blaen, gan roi cyfanswm sy'n cyfateb i 1,000 o staff llawn amser ychwanegol.
Gallai'r gost lawn yn sgîl absenoldeb, i gynnal gwasanaethau hanfodol, ymddangos hefyd fel goramser, locwm, ffioedd cyflenwi neu asiantaeth, sy'n dyblygu'r arian a delir eisoes fel tâl salwch, ac a all fod yn gostus iawn fel bod un diwrnod o absenoldeb yn costio hyd at 240% o gost cyflogaeth sylfaenol pan fo'r gyllideb wedi'i pharatoi ar gyfer 100%. | Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn neu am ein cyfnewidfa arfer da ehangach, cysylltwch â naill ai Anthony Snow (Prif Swyddog Gweithredu (anthony.snow@wao.gov.uk) neu Chris Bolton, Rheolwr Prosiect Arfer Da (chris.bolton@wao.gov.uk).
Mae'r canllaw yma ar reoli absenoldeb oherwydd salwch cynaliadwy wedi ei ddatblygu fel rhan o waith Arfer Da ehangach Creu'r Cysylltiadau ac mae'r wybodaeth wedi ei ddarparu fel cyfarwyddyd a deunydd cyfeirio ar gyfer holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cyngor, y deunydd a'r astudiaethau achos o fewn y gyfnewidfa wedi dod o amryw o ffynonellau ac wedi eu cyflenwi i Swyddfa Archwilio Cymru gyda chaniatâd ffurfiol y partïon awdurdodedig. Cynorthwyo yn unig yw bwriad y canllaw ac nid yw Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i drydydd parti mewn perthynas â hawlio, atebolrwydd, colled neu niwed o ganlyniad i ddibynnu’n ormodol ar y wybodaeth a gyflwynir yn y canllaw.
Dilynwch y cyswllt hwn i'r Golwg Gyffredinol: Prosesau Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch.
|