Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Y Gyfnewidfa Arfer Da > Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch > Cyfeiriadur arfer da
Argraffu'r Dudalen
Cyfeiriadur arfer da
Absenoldebau yn ymwneud â straen - Adolygiad - Adolygiadau perfformiad - Adroddiadau Meddygol - Adsefydlu - Anabledd - Ardystio - Asesiad Risg - Bwlio - Cofnodi a chyflwyno adroddiadau - Contract Cyflogaeth - Cost absenoldeb - Creu'r Cysylltiadau - Cyfathrebu - Cyfeiriadau - Cyfrifydd parod - Cyfrinachedd meddygol - Cymhelliant - Cymhellion - Cynhadledd Achos - Cysondeb - Cyswllt - Data rheoli absenoldeb - Deddf Diogelu Data 1998 - Deddf Hawliau Dynol - Diswyddo - Dydd Gwener - Dyletswydd gofal - Dyletswyddau cyhoeddus ac amser arall i ffwrdd - Ffonio - Gallu - Gelyniaeth - Gweithdrefnau Disgyblu - Gwerthfawrogiad - Hanner tymor - Hunan-ardystio - Iechyd Galwedigaethol - Iechyd galwedigaethol: pennu safonau - Integreiddio presenoldeb â phrosesau eraill - Llythyrau rhybuddio - Materion cyfreithiol - Meincnodi - Mynegai Bradford: CYMHWYSO - Mynegai Bradford: FFORMIWLA - Presenoldeb nid absenoldeb - Rheolwyr llinell - Safon Iechyd Gorfforaethol - Straen - Straen cyhyrysgerbydol - Targedau - Techniflex - Trafodaeth dychwelyd i'r gwaith - Trais - Trais ac Ymddygiad Ymosodol - Trosiant staff - Twyll - Tystysgrifau Meddygol - Uwch Reolwyr - Ymddeoliad yn gysylltiedig â salwch - Ymgynghori - Ymreolaeth - Yn ystyriol o deuluoedd - Ysmygu a ffordd o fyw -
 
Absenoldebau yn ymwneud â straen
Dylai sgyrsiau ag unrhyw un sy'n dangos lefel gyson o absenoldeb ystyried y posibilrwydd mai straen sy'n gyfrifol, hyd yn oed os yw'r achosion a nodir yn amrywiaeth o boen bol, 'ffliw', cur pen ac ati. Mae tystiolaeth glir bellach y gall yr hormonau a ryddheir yng nghorff rhywun sy'n dioddef straen arwain at leihau gallu'r system imiwnedd i wrthsefyll heriau arferol bob dydd. (Garvan Institute of Medical Research, Sydney.) Wrth gwrs efallai na fydd llawer o'r elfennau hynny sy'n achosi straen yn ymwneud â'r gwaith, ac efallai na fydd y sawl sy'n dioddef am drafod cydberthynas deuluol sensitif iawn neu faterion ariannol personol â rheolwr llinell swrth. Ond mae presenoldeb gwael ynddo'i hun yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder i reolwyr, ac os amheuir, neu os gwyddys bod y sbardunau yn rhai sensitif, dylai'r Rheolwr annog yr unigolyn i gysylltu â'r adran iechyd galwedigaethol neu gynghorydd.   
Dychwelyd I frig y dudalen

Adolygiad
O bryd i'w gilydd, bydd cofnod presenoldeb unigolyn yn cyrraedd pwynt 'sbarduno' neu 'drothwy', lle y bydd yn rhaid i'r achos fod yn destun adolygiad.
Yn gyntaf, dylid pwysleisio nad yw'r broses o gynnal adolygiad, ynddo'i hun, yn unrhyw fath o broses ddisgyblu, ond oherwydd gellid rhoi rhybudd* o ganlyniad i'r adolygiad. Dylid rhoi gwybod i'r cyflogai dan sylw yn ysgrifenedig o'r digwyddiad sydd ar y gweill, dylid rhoi'r hawl iddo ddod i'r digwyddiad a chael cwmni rhywun arall, a dylid ei sicrhau y caiff y cyfle i gyflwyno ei achos.
*Dylid nodi'r materion hyn mewn gweithdrefn gallu glir.

Diben yr adolygiad yw ystyried cofnod absenoldeb yr unigolyn ac i sicrhau eu bod yn deall eu bod wedi cyrraedd y pwynt sbarduno hwn, bod eu cofnod yn achosi pryder. Dylent ystyried unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r gwaith sy'n achosi'r absenoldebau ac ystyried y camau nesaf.

Dylid cynnal adolygiadau o'r fath ym mhob achos lle y cyrhaeddwyd y sbardun, hyd yn oed os bydd 'pawb yn gwybod' bod yr achos yn gwbl ddilys. Nid amau absenoldeb yn y gorffennol yw'r mater, ond annog presenoldeb yn y dyfodol. Hyd yn oed yn yr achosion hyn sy'n ennyn cydymdeimlad, ni wyr neb beth yw'r dyfodol, a bydd methiant i gynnal adolygiad pan gaiff ei sbarduno yn golygu nad oes sail dros unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol. G
allai'r achos hwn hefyd gael ei nodi wrth amddiffyn rhywun arall sy'n hawlio 'erledigaeth' yn dilyn hynny.

Bydd canlyniad yr adolygiad yn amrywio yn ôl barn y Rheolwr Llinell dan sylw wrth ystyried y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r achos penodol. Dylai bob amser gynnwys ystyriaethau cydymdeimladol o amgylchiadau personol yr unigolyn dan sylw er mwyn ceisio ffyrdd o liniaru achos yr absenoldeb.

Gellid bod wedi osgoi rhai o'r achosion proffil uchel a chostus iawn a gyflwynwyd yn erbyn sefydliadau o'r sector cyhoeddus 
(gweler
www.unison.org.uk/acrobat/12879.pdf ) pe bai dulliau adolygu o'r fath wedi'u cynnal yn briodol. (Cyf: Risg)

Yn amlwg, caiff y pwyntiau sbarduno mwy difrifol eu rhagflaenu bob amser gan y lefelau cyntaf, a dyma pam dylid cadarnhau canlyniad pob adolygiad drwy lythyr a dylai'r adran Adnoddau Dynol gadw copi ohono. Dylai'r llythyr hwnnw ailddatgan beth yw'r pwynt sbarduno nesaf (copi o'r weithdrefn Gallu).

Mae'n arfer da sicrhau bod unrhyw reolwr sy'n gysylltiedig â chynnal adolygiad yn gallu gwneud hynny, gyda hyfforddiant neu gymorth gan yr adran Adnoddau Dynol lle y bo'n ofynnol. Dylai'r adran Adnoddau Dynol weithredu dull cyfathrebu sy'n hyblyg ac yn addas: gall adolygiad teg ac adeiladol sydd wedi sicrhau gwelliant ym morâl y cyflogai gael ei danseilio drwy eiriad rheolaethol amhriodol mewn llythyrau safonol gan yr adran Adnoddau Dynol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Adolygiadau perfformiad

Dylid cynnwys cofnod presenoldeb yr unigolyn ymhlith yr ystyriaethau o fewn unrhyw arfarniad neu adolygiad perfformiad, gyda data clir, ffeithiol am yr unigolyn mewn cymhariaeth ag eraill.
Mae aelodau o staff nad ydynt yn colli unrhyw amser yn nodi eu bod yn cyfrannu 100 y cant at eu swydd eu hunain a'u bod yn ysgwyddo baich ychwanegol eu cydweithwyr absennol yn y pen draw hefyd. Un o'r cwynion mwyaf cyffredin yw eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael digon o sylw ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o aros gartref pan fyddant yn teimlo ychydig yn sâl, yn hytrach na mynd i'r gwaith - gweler cymhelliant.

Dylai adolygiad perfformiad pob arweinydd tîm, rheolwr llinell, uwch reolwyr a chyfarwyddwr, gynnwys proses o fonitro cyfraddau presenoldeb cymharol, defnyddio trafodaethau dychwelyd i'r gwaith, nifer yr absenoldebau hirdymor, nifer yr adolygiadau a gynhaliwyd, y rhybuddion a roddwyd a'r achosion o ddiswyddo.
Dylid gosod targedau "S.M.A.R.T." ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi'r ystadegau canlynol ar draws y Gwasanaeth Prawf yn Lloegr mewn blwyddyn nodweddiadol:

roedd angen adolygu 1322 o gofnodion unigol
cynhaliwyd 918 o adolygiadau
rhoddwyd 96 o rybuddion ysgrifenedig
diswyddwyd 25 aelod o staff

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn dweud, yn wahanol i'r Gwasanaeth Carchardai, bod pwyntiau 'trothwy' yn y Gwasanaeth Prawf yn sbarduno adolygiad, lle ystyrir amgylchiadau'r achos unigol yn hytrach na sbarduno rhybudd awtomatig.

Dychwelyd I frig y dudalen

Adroddiadau Meddygol
Os yw sefydliad yn gweithredu cyfundrefn cynadleddau achos , yna mae'n debyg y bydd pwynt yn codi lle y bydd cyfraniad manylach gan feddyg teulu'r cyflogai neu arbenigwr yn helpu i lywio'r ystyriaethau o'r achos. Mae'n sicr y bydd unrhyw bosibilrwydd o wneud addasiadau mewn cysylltiad â'r anabledd, neu unrhyw gais am ymddeoliad ar sail salwch, yn gofyn am gyfraniad o'r fath.

Nid oes hawl gan feddygon roi adroddiadau i gyflogwyr am iechyd un o'u cleifion heb ganiatâd penodol yr unigolyn dan sylw, ond nod Deddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988, sy'n diffinio'r hawliau hynny, yw sicrhau bod yr adroddiadau hynny'n cael eu rhoi yn briodol 'at ddiben cyflogaeth'.

Er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hynny, mae'n rhaid i'r cyflogai (/claf) roi ei ganiatâd ysgrifenedig, a roddir yn gyffredinol drwy gyfrwng pro fforma sydd hefyd yn nodi 'diben a chwmpas' bwriadedig y wybodaeth. Os gellir cynllunio bod y cwmpas hwnnw er budd y claf er enhraifft i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch adsefydlu yn y gwaith, mae hyn yn fwy tebygol o gael ymateb cadarnhaol nag unrhyw beth sy'n gosbol yn ôl pob golwg. Mae Deddf Diogelu Data 1998 hefyd yn rhoi'r hawl i'r unigolyn dan sylw i weld yr adroddiad cyn iddo gael ei anfon at y cyflogwr a chael y cyfle i ofyn am wneud diwygiadau i gywiro gwallau.

Mae gan y sefydliad sy'n cyflogi rwymedigaeth i sicrhau dibynadwyedd unrhyw un o'i gyflogeion sydd â hawl i weld data personol o'r fath.

Dychwelyd I frig y dudalen

Adsefydlu

Mae unrhyw un sydd i ffwrdd o waith dros dair wythnos yn wynebu'r risg o golli cysylltiad â'r datblygiadau yn ei waith. Wrth i wythnosau droi'n fisoedd, mae'r risg hon yn cynyddu, a gall y syniad o ddychwelyd i'r gwaith, i'r hyn sydd wedi dod yn fyd anghyfarwydd, fod yn brofiad brawychus a gall fod yn rhwystr i ddychwelyd.

Bydd rhaglen gefnogol o gyswllt ac ymweliadau cartref fel arfer yn annog rhywun i ddychwelyd yn gynt, a gall  gwaith adsefydlu ei helpu i ddychwelyd dipyn yn gynt. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig wrth atal staff rhag teimlo wedi'u hynysu ac yn isel eu hysbryd, rhywbeth a all ymestyn absenoldebau yn sylweddol. Mae rôl cydweithwyr a goruchwylwyr yn y maes hwn yn hynod o bwysig.
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu


Mae llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu rheol lle na all neb a fu'n absennol am gyfnod penodedig, er enghraifft chwe wythnos, ddychwelyd i'r gwaith hyd nes ei fod wedi cael ei awdurdodi gan yr adran iechyd galwedigaethol.

Gall hyn arwain at sefyllfa ryfedd lle y bydd meddyg teulu'r unigolyn wedi awdurdodi ei fod yn holliach i ddychwelyd i'r gwaith, ond bydd y rheol fewnol wedyn yn arwain at oedi, er enghraifft o ganlyniad i amseroedd aros am apwyntiad â'r adran iechyd galwedigaethol.

Mae oedi o'r fath yn annhebygol o gael ei gyfiawnhau oni bai fod sensitifrwydd iechyd arbennig iawn i'r gwaith.

Unwaith eto, dylai gweithredu cynadleddau achos yn briodol, mewn perthynas ag unrhyw absenoldeb hirdymor nodi'r achosion unigol lle y dylai dychwelyd fod yn amodol ar ymweliad â'r adran iechyd galwedigaethol. Yn yr achosion hynny, gellid anfon llythyr yn datgan y gofyniad hwn i'r unigolyn a rhoi copi i'r Meddyg Teulu, gyda rhyw arwydd o'r sensitifrwydd arbennig sy'n ei gyfiawnhau.

Mae'n amheus a yw rheol absoliwt a gymhwysir at bob absenoldeb hirdymor yn fynnir nad yw'r unigolyn yn dychwelyd hyd nes ei fod wedi cael ei weld gan yr adran iechyd galwedigaethol, yn gallu cael ei chyfiawnhau. Mae'n arfer da i'r adran echyd galwedigaethol gael mwy o gysylltiad cyn penderfynu ar ddyddiad dychwelyd, ac felly dylai'r adran Iechyd Galwedigaethol gymryd rhan adeiladol yn y broses cyn i'r meddyg gadarnhau bod yr unigolyn yn holliach i ddychwelyd, ac nid ar ôl hynny.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru  yn gweithredu cynllun adsefydlu wedi'i reoli o'r canol, sy'n paru'r rhai sy'n dychwelyd â dyletswyddau penodol dan oruchwyliaeth sydd wedi'u lleoli i ffwrdd o'u 'canolfan'.

Bydd opsiynau llai dwys yn dibynnu ar natur y gwaith dan sylw, ond gallai gynnwys: ymweliadau achlysurol â'r gweithlu/gwaith rhan amser/dyletswyddau diwygiedig/patrymau sifft diwygiedig. Dylid trafod y cwmpas yn ystod cynadleddau achos a dylid ei ddatblygu gyda chyfraniad meddygol gan yr adran iechyd galwedigaethol a thrwy'r adran honno, gan y meddyg teulu.
Dim ond fel syniad adeiladol i helpu'r cyflogai i ddychwelyd i'r gwaith y dylid defnyddio cynllun o'r fath.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi hysbysu pob practis meddyg teulu yn eu rhanbarth o'u polisi newydd ar Adsefydlu.

Gallai  effaith y broses o weithredu cynllun llai dwys ar dâl fod yn niwtral neu gallai fod o fudd i'r unigolyn, ond ni fydd y sefydliad yn gallu hawlio unrhyw fath o ad-daliad tâl salwch statudol am unigolyn sy'n gweithio, hyd yn oed os yw hynny yn llai dwys.
Os digwydd y broses o ddychwelyd yn raddol pan fydd yr unigolyn yn parhau i gael 'tâl llawn', mae'n anhebygol y gellir gwneud unrhyw addasiad i ystyried gwaith rhan amser. Wedi'r cyfan, mae'r sefydliad eisoes yn talu 100 y cant am ddim cyfraniad o gwbl, felly mae unrhyw gyfraniad er budd y sefydliad.


Os yw'r cyflogai yn cael tâl llai am ei fod wedi bod yn absennol cyhyd, gallai fod yn briodol i'r cyfnod llai dwys gael ei dalu ar raddfa pro-rata neu ar yr un lefel â'r hawl tâl salwch, pa un bynnag sydd fwyaf.
Os yw'r unigolyn wedi cyrraedd y cyflwr dim tâl, yna mae'n amlwg bod yn rhaid iddo gael ei dalu am y gwaith a wna.
Gan fod amgylchiadau, wedyn, lle efallai nad yw'r unigolyn yn well ei fyd, yn ariannol, o gyfrannu at gynllun llai dwys o'r fath, efallai y byddai'n ddoeth cynnwys y rhwymedigaeth i ymwneud â dulliau o'r fath  yn y contract cyflogaeth yn amodol ar gadarnhad meddygol bod y dulliau penodol yn ymarferol.

 Astudiaeth Achos - Dychwelyd i'r gwaith yn raddol: Coleg Abertawe

Mae Coleg Abertawe wedi cyflwyno rhaglen dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Mae'r rhaglen ar gyfer naill ai absenoldebau hirdymor neu ar gyfer achosion o absenoldeb sydd wedi cael effaith fawr ar y cyflogai, fel straen ac iselder.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol am hyd at bedair wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn gall y cyflogai weithio llai o oriau ar dâl llawn a bydd yn cael adolygiadau rheolaidd gan Swyddog Meddygol y Coleg. Ar ddiwedd y cyfnod, caiff yr achos ei adolygu gan staff adnoddau dynol. Yna bydd gan y cyflogai dri dewis:

  • dychwelyd i weithio'r oriau llawn dan gontract;
  • parhau i weithio llai o oriau, ond gyda gostyngiad cyfatebol mewn tâl;
  • cyfnod parhaus o gynnydd graddol yn y gwaith gan ddychwelyd i weithio'r oriau llawn dan gontract, ond gyda gostyngiad mewn tâl.

Yn ogystal â helpu i leihau nifer yr absenoldebau hirdymor oherwydd salwch, mae'r rhaglen hefyd wedi helpu i wella canfyddiad cyflogeion am y swyddogaeth adnoddau dynol. Nododd y Coleg fod cynlluniau o'r fath wedi helpu staff i werthfawrogi y gellir rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn ofalus fesul achos.

Swyddfa Archwilio Cymru: Rheoli absenoldebau salwch mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, Mai 2005


Dychwelyd I frig y dudalen

Anabledd
Nid yw anabledd yn rhoi hawl awtomatig i gael lefel presenoldeb wael, na hyd yn oed yn esgus dilys am hyn.

O dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 mae'n ofynnol i unrhyw un sydd ag anabledd gael trafodaeth adeiladol â'i gyflogwr i ystyried yr angen i wneud 'addasiadau rhesymol' i'w waith, a'r angen i'r cyflogwr ymgymryd â'r cyfryw addasiadau ag sy'n 'rhesymol ymarferol'. Rhwymedigaeth y sefydliad (ac nid dim ond y cyflogai) yw sicrhau bod unrhyw reolwr sydd â chyfrifoldebau sy'n gorgyffwrdd yn ymwybodol o gytundeb o'r fath.

Os yw'r addasiadau hynny yn cynnwys gostyngiad mewn oriau contract i ganiatáu ar gyfer cyrraedd yn hwyr/gadael yn gynnar, neu ostyngiad yn nifer y dyddiau a gaiff eu gweithio bob wythnos, caiff y rhain eu dynodi mewn cytundeb ffurfiol y bydd pob parti yn ymwybodol o'i baramedrau.
Unwaith y cytunir ar yr addasiadau hynny ac y cânt eu gweithredu, bydd y cyflogai hwnnw o dan yr un rhwymedigaethau i gynnal perfformiad cyson ag unrhyw gyflogai arall, o fewn y fframwaith y cytunwyd arno, ac nid yw'r cyflogai wedi'i 'eithrio' rhag
meini prawf cymhwysedd a gymhwysir yn briodol.

Cyn symud unrhyw achos sy'n ymwneud ag absenoldebau byr cyson i weithdrefn ffurfiol, mae'n werth gofyn i'r cyflogai a oes un rheswm sylfaenol, hyd yn oed os yw'r rhesymau a roddir yn amrywio, oherwydd mae posibilrwydd y gallai rheswm sylfaenol gyfateb i anabledd.
Dylid cadw nodyn o unrhyw sgwrs o'r fath, a dylid ei gynnwys ym mhapurau'r achos.

Mae gan gyflogai sy'n mynd yn anabl yn ystod ei gyflogaeth ac a allai effeithio ar ei allu i gyflawni'r swydd benodol, hawliau y mae'n rhaid i'r cyflogwr eu parchu, mewn perthynas ag ymdrechion adeiladol i wneud addasiadau rhesymol. Mewn un achos allweddol, llwyddodd glanhawr stryd a aeth yn anabl a oedd yn golygu na allai gyflawni ei gwaith i ennill ei hachos yn erbyn y Cyngor, am fod y Cyngor, a hynny'n afresymol ym marn y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, a chadarnhawyd hyn yn y pen draw gan Dy'r Arglwyddi, wedi mynnu mai dim ond pe bai'n llwyddo yn y broses ddethol fewnol y câi ei phenodi i swydd glercol â thâl uwch.

Yr hyn i'w ddysgu o'r achos hwn yw bod rhwymedigaeth ar y cyflogwr i ystyried y posibiliadau ar gyfer ailhyfforddi er mwyn ail-leoli unrhyw gyflogai sy'n mynd yn anabl, a bod rhwymedigaethau'r cyflogwr i'r unigolyn anabl hwnnw yn cael blaenoriaeth dros weithdrefnau mewnol arferol ynghylch dethol cystadleuol.

(Archibald vs. Cyngor Sir Fife, 2004)

Dychwelyd I frig y dudalen

Ardystio
Yn gyffredinol, nid oes hawl dan gontract i dalu unigolyn os nad yw'n dod yn ôl i'r gwaith.

Er mwyn bod yn gymwys i gael tâl, rhaid i gyflogai naill ai cwblhau'r broses hunan-ardystio (ar gyfer absenoldebau o hyd at saith diwrnod calendr) neu gyflwyno
tystysgrif feddygol ar gyfer absenoldeb o hyd at wyth diwrnod neu fwy.

Mae polisïau rhai sefydliadau yn cynnwys yr hawl i'r cyflogwr dynnu'r hunan-ardystio yn ôl os bydd unigolyn yn absennol am gyfnod sy'n hwy na
lefel benodedig.
Dychwelyd I frig y dudalen

Asesiad Risg
Wrth i reolwyr ddod i ddeall achosion absenoldeb yn y swyddi yn eu meysydd cyfrifoldeb, dylent nodi'r risgiau sy'n gynhenid yn y gwaith. Gall staff iechyd galwedigaethol gyfrannu at hyn.
Y cam nesaf yw cynnal trafodaethau gyda'r staff dan sylw i gasglu eu syniadau ac i nodi camau y gellid eu cymryd i ddileu'r
risgiau hynny.

Mae Prifysgol Caerdydd yn categoreiddio lefel y risg iechyd ym mhob swydd yn rhai coch/melyn/gwyrdd a chaiff hyn ei nodi ym mhrosesau swyddi gwag i sicrhau y trefnir dulliau sgrinio cyn cyflogi yn briodol, gan amrywio o ddull syml o graffu ar holiadur iechyd wedi'i lunio'n dda ar gyfer rhai rolau (gwyrdd) i archwiliad corfforol trylwyr ar gyfer y rolau coch.

 
Dychwelyd I frig y dudalen

Bwlio
Gall bwlio godi yn y lle gwaith, a gall arwain at absenoldeb. Weithiau gall ffynhonnell y bwlio fod yn rheolwr llinell neu oruwchwyliwr a fydd hefyd yn ofnnol i gynnal y trafodaethau dychwelyd i'r gwaith. Cynghorir uwch reolwyr sy'n gyfrifol am dimau gwaith lle y ceir cyfnodau  o absenoldeb yn fynych lle nad yw'r rhesymau'n glir, i gynnal eu hasesiad eu hunain. Gallant siarad yn uniongyrchol, ac yn breifat ag aelodau o'r tîm dan sylw, neu gynnal eu hymweliadau cartref â chyflogeion absennol, a rhoi sicrwydd o gyfrinachedd llwyr, dylid holi'n benodol ynghylch cydberthnasau gwaith. Os bydd gan dimau gwaith tebyg o dan oruchwyliwr gwahanol lefelau presenoldeb gwell ac na fydd unrhyw resymau amlwg eraill dros y gwahaniaethau, dylid craffu ar arddull yr arweinydd tîm dan sylw. Gall camau a gymerwyd yn hollol ddidwyl, a ystyrir yn rheolaeth 'gadarn' gan y rheolwr, gael ei ystyried yn 'fwlio' gan  derbynnydd. Mae'r defnydd diwyd a phroffesiynol o brotocolau penodedig, e.e. ar gyfer cynnal trafodaethau dychwelyd i'r gwaith, yn helpu i leihau'r risg hon drwy sicrhau yr ymdrinnir â phrosesau rheoli presenoldeb yn briodol ac yn deg, gan leihau'r cyfle felly am wrthhoniadau yn erbyn y rheolwr llinell.
Cyfeiriwch hefyd at 'Trais'
Dychwelyd I frig y dudalen

Cofnodi a chyflwyno adroddiadau
Gweler ‘Data Rheoli Absenoldeb’

Mae llawer o sefydliadau yn dibynnu ar reolwyr sydd eisoes yn brysur i gofio llenwi ffurflen pan fyddant yn derbyn galwad ffôn yn eu hysbysu o absenoldeb.
Wrth gynllunio neu adolygu'r system hon, mae'n arfer da canfod ffyrdd o sicrhau ei bod yn system 'gaeëdig'. Trwy hynny bydd methiant i gwblhau unrhyw gam yn amlwg, er enghraifft cysylltu â sgriniau logio i mewn post electronig neu systemau cofnod amser hyblyg eraill; croesgyfeirio â cheisiadau ar gyfer staff cyflenwi dros dro neu gysylltu â'r system hysbysu drwy gyfrwng hunan-ardystio.

Mae'n arfer da ei gwneud yn ofynnol i gyflogeion absennol ffonio bob dydd y byddant yn absennol hyd nes eu bod yn cael tystysgrif feddygol.

Mae Cyngor Sir Caerdydd, sy'n cyflogi tua 18,000 o bobl, wedi gosod eu cronfa ddata ar gofnodion cyflogeion i sicrhau bod 'prif swyddog' penodedig, h.y. yr arweinydd tîm, rheolwr llinell ac ati, gan bob unigolyn, a fydd yn derbyn negeseuon e-bost mewn perthynas â hysbysu am yr absenoldeb, yn cwblhau prosesau dychwelyd i'r gwaith ac ati, ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf dros yr e-bost am unrhyw ddiwygiadau i bolisïau/ceisiadau.

Dychwelyd I frig y dudalen

Contract Cyflogaeth
Mae Contractau Cyflogaeth fel arfer yn cynnwys casgliad mawr o ddogfennau sy'n cynnwys dogfennau polisi, gweithdrefnau, ac ati., ac nid ydynt wedi'u cyfyngu'n unig i Lythyr Cynnig neu 'Datganiad o'r Prif Delerau' (ond rhaid iddynt gynnwys un o'r rheini.)

Felly gall y cyflogwr bennu hawliadau a rhwymedigaethau dan gontract mewn dogfennau ar wahân i'r prif Ddatganiad.
Fodd bynnag, os yw Datganiad gwreiddiol yn cynnwys, er enghraifft, tabl sy'n nodi budd-daliadau salwch penodol sy'n briodol i lefelau gwasanaeth amrywiol ac os bydd y cyflogwr yn penderfynu diwygio hwnnw, rhaid i'r cyflogwr sicrhau bod unrhyw un sy'n meddu ar y ddogfen wreiddiol yn cael ei hysbysu o'r newid. (Gweler Ymgynghori)

Os caiff y cyfryw ddisgrifiadau o fudd-daliadau eu cynnwys, er enghraifft, mewn llawlyfr o gytundebau cenedlaethol neu mewn ffynonellau mewnol (yn cynnwys y fewnrwyd), yna dylai'r prif Ddatganiad gyfeirio'n benodol at y rheini a dylai'r cyflogwr sicrhau bod pob cyflogai yn gallu gweld y wybodaeth.

Mae'r un peth yn wir am rwymedigaethau dan gontract, lle y mae'n anarferol i'r holl fanylion gael eu nodi yn y prif Ddatganiad. Ni ddylai cyflogwr ddibynnu ar reoliadau y mae'n anodd dod o hyd iddynt, a dylai sicrhau bod pob cyflogai yn ymwybodol o unrhyw newid mewn rhwymedigaethau, fel y protocolau i'w dilyn yn achos absenoldeb. Yn amodol ar yr uchod, gellid ystyried bod methiant i gydymffurfio â gweithdrefnau a gaiff eu pennu a'u cyfleu yn briodol yn achos o dorri'r contract a gellir ymdrin ag achosion o'r fath drwy weithdrefnau disgyblu.

Er bod llawer o faterion polisi dan gontract mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi'u diffinio o fewn cytundebau cenedlaethol, ceir cyfle cynyddol am ddatblygiadau lleol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Cost absenoldeb
Gweler Cost Absenoldeb  
Dychwelyd I frig y dudalen

Creu'r Cysylltiadau
‘Wales is a small country with close-knit communities’ Adolygiad Beecham
‘Benefit can be gained from public service organisations working together on common problems.’ Creu'r Cysylltiadau

Mae agweddau amrywiol ar absenoldeb oherwydd salwch y gellid eu harchwilio er mwyn gweld a yw'n bosibl i sefydliadau'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gydweithio yn y dyfodol:
  • Lledaenu profiad: beth sy'n gweithio orau?
  • Gosod y safonau: mae 28 y cant o'r bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus. Os gallant oll ymrwymo i arfer gorau, bydd hyn yn helpu i lunio diwylliant y wlad.
  • Gwasanaethau a rennir:

     i) Ceir prinder staff iechyd galwedigaethol Proffesiynol ar gael, ac nid yw eu sgiliau yn ymwneud â sefydliadau penodol. Gallai fod gan rai awdurdodau wasanaethau mewnol penodol sydd wedi'u rheoli'n dda a allai gyflenwi ar gyfer eu cymdogion.
    ii) Gall y broses o gasglu a rheoli data ddefnyddio cryn dipyn o adnoddau, ac eto mae sefydliadau eraill eisoes wedi datblygu a gosod systemau effeithiol.

Mae lefel Platinwm y Safon Iechyd Gorfforaethol yn gofyn am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol y gellid ei ddangos drwy fentrau sy'n cael effaith ar iechyd y boblogaeth ehangach. Gallai cydweithio mewn perthynas ag arfer da ar reoli absenoldeb gyfrannu at hyn.

Dychwelyd I frig y dudalen

Cyfathrebu

Mae'r modd y caiff gwybodaeth ei gyflwyno yn allweddol i effeithlonrwydd cyfathrebu. Prif fantais hybu presenoldeb  wrth gwrs, yw gwell gwasanaethau gan fod mwy o bobl yn y gwaith.


Yn ogystal, mae lefelau presenoldeb gwell yn golygu nad oes gofyn i gydweithwyr gyflenwi ar gyfer gweithwyr absennol ar draul eu cyfrifoldebau eu hunain.


Wrth gyfrathebu am bresenoldeb, y peth gorau yw trosi canrannau 'safonol' neu ffigurau 'dyddiau a gollwyd' yn friffiau ystyrlon y gall staff eu deall.



Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn Ionawr 2006, collwyd 79 o sifftiau o ganlyniad i absenoldebau, ond ym mis Ionawr 2007, 43 oedd y ffigur.


 

Mae Heddlu Gwent wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r holl bolisïau ac arferion mewn perthynas â phresenoldeb, a'r canlyniad oedd bod nifer y dyddiau a gollwyd fesul swyddog yn 2005/2006 yn well nag yn 2003/2004 yn ôl 5.22 o ddyddiau…ar sail 1,510 o swyddogion, mae hyn yn cyfateb i 30 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gweithio yng Ngwent drwy gydol y flwyddyn.

Dychwelyd I frig y dudalen

Cyfeiriadau
Wrth lunio geirda, mae gan yr awdur ddyletswydd gofal i'r ddwy ochr: (i) i destun y Geirda, i sicrhau bod y deunydd yn gywir, yn seiliedig ar ffeithiau lle y bo'n bosibl, ac (ii) i'r derbynnydd, i sicrhau bod y deunydd yn gynhwysfawr, h.y. y datgelir ffeithiau arwyddocaol yn briodol.


Felly mae'n gywir ddigon i sefydliad gynnwys datganiad am lefelau presenoldeb/absenoldeb fel mater o drefn ym mhob geirda. Mae'n ffaith berthnasol ac arwyddocaol o bosibl, ond rhaid ei wirio er cywirdeb cyn ei ddatgelu i drydydd parti. Nid yw hyn yn mynd yn groes i unrhyw reolau cyfrinachedd meddygol ar yr amod nad yw'r awdur yn manylu ar wybodaeth bersonol breifat.

Mae hawl gan unrhyw sefydliad geisio gwybodaeth fel mater o drefn am ffurflenni cais am swydd, yn gofyn i'r ymgeisydd am wybodaeth am nifer yr absenoldebau dros y ddwy flynedd diwethaf, er enghraifft.


Gall y ffurflen gais wedyn ddatgan y caiff y wybodaeth a roddir ei chadarnhau â'r cyflogwr/cyflogwyr blaenorol, a dylai geiriad safonol llythyrau cais am eirda geisio'r cadarnhad hwnnw.


Gan nad yw'r wybodaeth hon yn mynd y groes i gyfrinachedd meddygol, Ni ddylai gael ei chynnwys yn rhan gyfrinachol y cais ar gasglu data cyfle cyfartal/amrywiaeth. Ond dylai gael ei chynnwys yn y prif gais i'w thrafod mewn cyfweliad yn yr un modd ag y trafodir materion megis mynd ar gyrsiau hyfforddi dewisol, neu ddiddordebau personol.

Mae'n arfer da cynnwys ffeithiau wedi'u gwirio am batrymau presenoldeb/absenoldeb (e.e.sgorau Mynegai Bradford) fel rhan o'r deunyddiau gwneud penderfyniadau ym mhob cais mewnol am ddyrchafiad.

Dychwelyd I frig y dudalen

Cyfrifydd parod
Gweler 'Cost Absenoldeb'
Dychwelyd I frig y dudalen

Cyfrinachedd meddygol
Ar adeg y penodi, mae llawer o sefydliadau yn casglu hanes meddygol manwl am eu recriwtiaid newydd, ac, yn naturiol, cedwir y wybodaeth hon yn gyfrinachol gan weithiwyr gofal iechyd proffesiynol priodol. Fodd bynnag, os bydd y wybodaeth honno yn cynnwys rhywbeth sy'n berthnasol i allu'r unigolyn i gyflawni dyletswyddau'r swydd, dylid trosglwyddo'r wybodaeth honno. Er mwyn i hyn allu digwydd fel mater o drefn, dylai'r ffurflen datganiad Iechyd wreiddiol gynnwys geiriad addas ynglyn â diben a chwmpas y data a'r defnydd a wneir o'r data.

 

Gall gwybodaeth a roddir ar ffurflenni hunan-ardystio a thrwy gyfrwng tystysgrifau meddygol ynglyn â'r rheswm dros absenoldeb, greu cofnod sydd yr un mor sensitif, a rhaid i'r sefydliad sy'n cyflogi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw un sydd â hawl i weld y wybodaeth honno neu sy'n ymwneud â'i gweinyddu yn ei thrin â'r sensitifrwydd priodol.
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae rhwymedigaeth i sicrhau bod y data a ddarperir yn ddigonol, yn berthnasol ac nad yw'n ormodol i'r diben. Felly mae'n arfer da cynnwys datganiad ar y ffurflen hunan-ardystio, ac yn y dogfennau polisi perthnasol. Dylai'r datganiad egluro y caiff y wybodaeth a roddir a'r rheswm dros yr absenoldeb eu casglu dros amser a'u defnyddio i lywio adolygiadau yn y dyfodol neu bresenoldeb mewn cynadleddau achos gan reolwyr llinell/arweinwyr tîm, ac ati. er bod y ffocws ar bresenoldeb yn golygu nad yw'r rhesymau meddygol manwl yn aml yn rhan o ystyriaethau o'r fath.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu canllawiau defnyddiol, awdurdodol ar y materion hyn yn:
http://www.ico.gov.uk/Home/for_organisations/topic_specific_guides/employment.aspx
 

Ond caiff y pwynt allweddol ei gynnwys yn y Cod Arferion Cyflogaeth, 2.3.4:

Gellir rhoi gwybodaeth i reolwyr am y rhai sy'n gweithio iddynt cyhyd ag y bo hyn yn angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu rolau fel rheolwyr.

Rhaid i'r rheolwr wybod beth yw achosion yr absenoldeb, fel y gall gyflawni ei ddyletswydd gofal i'r cyflogai sy'n dychwelyd megis cymryd camau i sicrhau nad yw'r achos yn codi eto, dileu achosion yr absenoldeb, neu gyfrannu at y gwaith adsefydlu.
Mae unrhyw weithdrefn sy'n sicrhau nad yw'r rheolwr fel arfer yn dod i wybod am y rheswm dros absenoldeb unigol o ganlyniad i faterion cyfrinachedd yn debygol o gyflwyno risgiau cynhenid mwy mewn perthynas â methu â chyflawni dyletswydd gofal (gweler
www.unison.org.uk/acrobat/12879.pdf ).

Dychwelyd I frig y dudalen

Cymhelliant
 

Mae'r mwyafrif o'r absenoldebau yn rhai byrdymor, ac fel arfer ni fyddant yn gofyn am ymyrraeth feddygol nac ardystio. Ym mron bob un o'r achosion hyn bydd yr unigolyn yn penderfynu nad yw'n gallu dod i'r gwaith, a bydd rheolwyr da yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau hyn yn gadarnhaol. Mae unigolyn nad yw'n teimlo'n gwbl holliach yn llawer mwy tebygol o ddod i'r gwaith os yw'n gweithio mewn amgylchedd cefnogol, ysgogol a chymhellol ac amgylchedd lle y gwyr y bydd ei gydweithwyr a'i oruchwyliwr yn sylwi ar ei absenoldeb. Absenoldebau cyson yn y categori hwn yw'r rhai sy'n achosi'r ymyrraeth a'r anghyfleustra mwyaf, a fydd yn arwain at y sgorau Bradford uchaf, oherwydd mai'r prif ffactor yn sgôr Bradford yw nifer yr absenoldebau.

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

 

Gwneud Gwaith yn Ddiddorol!

Mae hyn yn golygu bod angen i gyflogwyr fynd y tu hwnt i feddwl am waith ac iechyd yng

 nghyd-destun naill ai absenoldeb oherwydd salwch neu hybu iechyd yn y gweithle.

Wrth gwrs, ni ddylid tanbrisio'r flaenoriaeth a roddir i ddiogelwch yn y gweithlu na thanseilio gwerth ymdrechion cyflogwyr i wneud mwy na chydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae llawer o enghreifftiau o bolisïau atal llwyddiannus, darpariaeth iechyd galwedigaethol effeithiol a rhaglenni adsefydlu llwyddiannus.

Ond mae mwy a mwy o sefydliadau yn canolbwyntio ar agenda sydd wedi'i chynllunio i ysgogi newidiadau yn ymddygiad unigolion (sydd bob amser yn anodd) yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion systemig y salwch. Dyma lle y ceir y pwyslais hefyd yn y Papur Gwyn, Dewis Iechyd.

 

Felly, er enghraifft, gallai cyflogwyr gynnig bwyd iachach mewn bwytai yn y gweithle, gostyngiad mewn ffioedd aelodaeth â'r gampfa, profion meddygol rheolaidd ac amgylchedd ffisegol wedi'i gynllunio'n dda.

Caiff hyn oll ei groesawu, mae'n werthfawr ac yn welliant sylweddol ar y meddylfryd nad oes gan gyflogwyr unrhyw gyfrifoldeb dros y materion hyn. Serch hynny, os dyma'r cyfan a wna cyflogwyr i ddatblygu 'gwaith iachach' yna cânt eu siomi. Efallai y bydd rhywfaint o welliant o ran ymrwymiad a morâl cyflogeion, ond nid yw hyn yn cymryd lle ffocws penodol ar y ffactorau sy'n llywio penderfynyddion sylfaenol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.'

 

Y Sefydliad Gwaith ‘Healthy Work, Productive Workplaces’ Rhagfyr 2005



Aiff yr adroddiad hwn rhagddo i ddadlau mai'r peth pwysicaf yw gwneud gwaith yn 'ddiddorol', ac mae'n glir bod cydberthynas gadarn rhwng lefel yr  ymreolaeth mewn swydd a phresenoldeb da.
Gellir cynnal cymhelliant drwy gyfathrebu rheolaidd sy'n cynnwys gwerthfawrogiad o'r rhai â chofnodion da.

Noder hefyd: ‘Happiness & well-being’ Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd

http://www.cardiff.ac.uk/psych/cpdr/index.html

Dychwelyd I frig y dudalen

Cymhellion

Gall cymhellion cymharol fach gael effaith fuddiol ar y broses o annog unigolion i ddod i'r gwaith yn hytrach nag aros gartref a ffonio i ddweud eu bod yn sâl. O ran lefel y gwobrau hynny, mae'n debygol y bydd cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad lawn cyn bwysiced â gwerth y wobr, ond os gellir rhoi'r gwobrau mewn digwyddiad blynyddol addas, gall cymorth ychwanegol gan gydweithwyr ychwanegu at yr effaith.
Byddai unrhyw wobr wrth gwrs yn agored i dreth incwm, a dylai'r gwerth cyffredinol gael ei bennu ar lefel sy'n sicrhau bod y budd net i'r unigolyn yn parhau i fod yn ddigon i fod yn amlwg.
Ar y llaw arall, dim ond cyfran o staff y mae eu cyflwr iechyd yn eu galluogi i wneud y dewis rhwng aros gartref neu fynd i'r gwaith sy'n mynd i gael budd o gynllun o'r fath, ac os nad yw'r patrwm hwnnw yn fater sylweddol, mae'r gost o gyflwyno cynllun yn annhebygol o fod yn werth chweil.

 

(Gwrth-gymhelliant: dim tâl am dri diwrnod cyntaf yr absenoldeb sy'n syniad sydd wedi'i brofi, ond y rhoddwyd y gorau iddo wedyn, oherwydd arweiniodd at sicrhau bod pob absenoldeb yn para o leiaf bedwar diwrnod)

Dychwelyd I frig y dudalen

Cynhadledd Achos

Fe'i defnyddir fel arfer mewn perthynas ag absenoldebau hirdymor. Mae diffiniad sefydliadau gwahanol o hyn yn amrywio o fwy na phythefnos i fwy na 12 mis. Mae'r cyfarfod yn cynnwys

rheolwr Llinell

Cynrychiolydd Adnoddau Dynol

Swyddog proffesiynol iechyd Galwedigaethol

Gallai aelod o staff iechyd a diogelwch fod yn gysylltiedig os yw'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Mae'r amser a gollir gan gyfran gymharol fach o staff cymaint fel y gall cymorth effeithiol a rheolaeth dda o'r achosion hynny gael effaith sylweddol ar berfformiad cyffredinol y sefydliad.                                                



Diben cynhadledd achos yw adolygu ffeithiau hysbys yr achos i ddwyn y dyddiad dychwelyd i'r gwaith ymlaen, drwy'r ffyrdd canlynol:

  • sicrhau cyswllt/ymweliadau rheolaidd; 
  • dadansoddi'r rheswm sylfaenol dros yr absenoldeb ac ystyried mentrau a allai helpu'r unigolyn i ddychwelyd i'r gwaith;
  • cysylltu â meddyg teulu'r unigolyn drwy swyddog iechyd proffesiynol cymwys, fel nyrs iechyd galwedigaethol, ac ar sail awdurdodiad penodol gan yr unigolyn dan sylw; 
  •  adolygu sgôr/patrwm Mynegai Bradford yr unigolyn a'i hanes o absenoldeb; 
  • cytuno ar y camau nesaf, pwy fydd yn gwneud beth a phryd y caiff ei adolygu.

Gallai proses raddol o ddychwelyd i'r gwaith yn y byrdymor, a phroses lai dwys fod o gymorth.  (gweler Adsefydlu)

Yn y pen draw, os bydd yr absenoldeb yn parhau, ac y bydd pob opsiwn adeiladol arall wedi methu, gallai'r drafodaeth droi at derfynu'r gyflogaeth o bosibl. Gall hyn fod drwy ymddeoliad ar sail salwch os bydd y cyflwr mor ddifrifol fel na fydd yr unigolyn yn iach i weithio'n barhaus. (gweler Salwch)

Heddlu Dyfed-Powys:
'Dim ond neges e-bost gyflym i ddiolch i bawb ohonoch yn yr adran iechyd galwedigaethol am y gwasanaeth a'r help a gefais dros y chwe mis diwethaf. Mae arnaf ofn meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na fyddai gwasanaeth o'r fath ar gael nid yn unig i mi ond hefyd i aelodau eraill o staff sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg i mi. Cydnabu'r adran Iechyd Galwedigaethol yn gyflym nad oedd popeth yn iawn â'r gwasanaeth yr oeddwn yn ei gael eisoes a gwnaethant ymyrryd ar gam cynnar i ymdrin â'r problemau a oedd yn gysylltiedig â'm hanaf. Pe na fyddech wedi ymyrryd mor brydlon ag y gwnaethoch teimlaf y gallai'r driniaeth yr oeddwn yn ei chael am fy anaf fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol i'm gyrfa.'

Dylid cadw nodiadau o ganlyniadau pob cynhadledd achos o'r fath, ond cofiwch y bydd y rhain yn cael eu datgelu i'r unigolyn (Gwrthrych y data’) o dan y Ddeddf Diogelu Data, neu yn achos unrhyw her gyfreithiol.
O ystyried y bydd unrhyw achos sy'n mynd drwy broses ffurfiol yn y pen draw drwy Weithdrefn Gallu neu Ddisgyblu wedi'i drafod yn flaenorol mewn cynadleddau achos, mae'r nodiadau achos sy'n cwmpasu'r trafodaethau cynharach yn debygol o fod yn rhan allweddol o'r gwaith papur y gellid craffu arno os bydd achos cyfreithiol.

Rolls Royce plc:

Fel rhan o raglen rheoli ehangach cyflwynodd Rolls Royce system a oedd yn sicrhau bod unrhyw un a oedd yn absennol am bedair wythnos neu fwy yn gallu manteisio ar gynllun gweithredu, yn cynnwys gwasanaethau ffisiotherapi (ar gyfer anafiadau yn ymwneud â'r gwaith ac anafiadau nad ydynt yn ymwneud â'r gwaith).
O ganlyniad i hyn a chamau gweithredu eraill mae Rolls Royce wedi gweld: 

  • gostyngiad mewn absenoldeb staff o 2.9% (1999) i 2.4% (2002) o'r gweithlu, gan arbed tua £11 miliwn; 
  • nifer y dyddiau a gollir fesul cyflogai yn gostwng o 6.8 diwrnod i 4.2; 
  • newid yn y diwylliant lle mae cyflogeion bellach yn teimlo bod gan reolwyr ddiddordeb byw yn eu gallu i ddychwelyd i'r gwaith yn fuan; 
  • mwy o staff i gyfrannu at weithgareddau'r busnes; 
  • Wrth i gyflogeion ddychwelyd i'r gwaith yn gynt mae'r amser a dreulir gan reolwyr ar bob absenoldeb yn fwy effeithiol.

Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch yn y Sector Cyhoeddus.

Dychwelyd I frig y dudalen

Cysondeb
Yr amcan sy'n sail i greu polisïau a gweithdrefnau ffurfiol ynghyd â darparu hyfforddiant gofynnol i reolwyr llinell, yw sicrhau cysondeb. Fodd bynnag, mae angen i reolwyr llinell werthfawrogi nad yw gweithredu'r prosesau hynny mewn modd priodol yn 'ddewisol', oherwydd gall methiant i wneud hynny mewn un maes danseilio camau gweithredu rhesymol mewn maes arall.

Dylai'r prawf 'cysondeb' gael ei ddefnyddio yn sgîl cychwyn adolygiad.

Bydd canlyniad yr adolygiadau yn amrywio yn ôl barn y rheolwr llinell sy'n gysylltiedig o ganlyniad i'r ffeithiau a gysylltir â'r achos penodol. Ond hyd yn oed lle mae'r achosion sy'n sail i'r adolygiad yn gwbl ddilys ac y gallent fod yn ddirdynnol o ran eu heffaith, mae'n hanfodol bod yr adolygiad yn cael ei gynnal. Mae'n dileu'r posibilrwydd o honiadau o erlid mewn achosion yn y dyfodol,a gall gynnig cyfle i wneud ymdrech wirioneddol i helpu yn yr achos hwn.


 
Dychwelyd I frig y dudalen

Cyswllt
Efallai y bydd staff sy'n absennol am unrhyw gyfnod dros bythefnos yn dechrau colli cysylltiad â'u gweithle, a gallant golli hyder, a allai ymestyn eu habsenoldeb.
Efallai y bydd ofn arnynt ddychwelyd hefyd i lwyth gwaith sylweddol.
Dylai fod protocolau penodedig i sicrhau y cynhelir cyswllt cyfeillgar a chefnogol gan yr Arweinydd Tîm, y Rheolwr Llinell a'r uwch reolwyr dan sylw, ar adegau gwahanol yn ystod absenoldeb hir, er mwyn holi ynghylch eu cynnydd, sôn am y sefyllfa bresennol yn y gwaith, a holi beth y gellir ei wneud i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Dychwelyd I frig y dudalen

Data rheoli absenoldeb
Dylid cyflwyno adroddiad ar berfformiad cyffredinol y sefydliad yn rheolaidd i'r Bwrdd neu Bwyllgor Gwaith neu bwyllgor cyfatebol, ynghyd ag arwyddion o newidiadau mewn tueddiadau, meysydd sy'n destun pryder, a chamau gweithredu sydd ar droed.
Dylai rheolwyr gweithredol allu adolygu patrymau cyffredinol eu meysydd cyfrifoldeb mewn cymhariaeth ag eraill ac wedi'u rhannu yn ôl grwp galwedigaethol, tîm gwaith neu ddiwrnod o'r wythnos.
Rhaid bod rheolwyr llinell yn gallu gweld patrymau presenoldeb/absenoldeb unigolion.
Os nad yw data o'r fath ar gael, dylai rheolwyr gadw eu cofnodion eu hunain, ond dylent sicrhau bod y rhain yn (a) cynhwysfawr: rhaid iddynt gwmpasu'r holl gyflogeion yn y tîm, er mwyn osgoi honiadau o erledigaeth; a (b) yn gywir.

Better information would help the Service manage sickness absence more effectively.

The information provided by Areas is not wholly accurate and, as a consequence, the reliability of overall data on sickness absence in the National Probation Service is undermined. Only 37 per cent of Chief Officers consider the national data to be ‘very accurate’, 54 per cent had ‘some doubts’ and 10 per cent thought data were only indicative. Internal Audit has also raised concerns about the reliability of sickness absence data.’
Ffynhonnell: Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Absence Management in the Probation Service, Ebrill 2006

Gweler: Cost’.

Dychwelyd I frig y dudalen

Deddf Diogelu Data 1998
Mae darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998, mewn perthynas â datgelu dogfennau perthnasol os ceir achosion cyfreithiol yn berthnasol i reoli absenoldeb. Gellir datgelu negeseuon e-bost agored a gaiff eu cyfnewid rhwng rheolwyr megis 'Beth y gallwn ei wneud am Bloggs?' 'Mae'n osgoi gwaith'; nodiadau a gymerir mewn cynadleddau achos ac unrhyw ddeunydd ysgrifenedig arall am yr unigolyn hwnnw.
Mae gan reolwyr ddyletswydd gofal i'w staff, a rhaid iddynt ymddwyn yn rhesymol ym mhob sefyllfa, ac mae'n annhebygol y caiff sylwadau amhriodol eu gwneud.
Fodd bynnag, yn ystod camau cynnar achos, mae'n arferol i Reolwr geisio cyngor, er mwyn ystyried opsiynau.
Os caiff y cyngor hwnnw ei geisio a'i roi mewn ffordd nad yw'n ymwneud yn benodol ag achos unigol a enwir, ac na chaiff ei gadw mewn ffeil sy'n ymwneud ag unigolyn, nid yw'n berthnasol i unrhyw achos cyfreithiol dilynol.
Caiff unrhyw systemau ffeilio sy'n cynnwys enwau cyfeirio neu fanylion adnabod unigryw sydd wedi'u mynegeio i nodi unigolyn penodol er mwyn adfer data personol eu dosbarthu'n system ffeilio berthnasol at ddibenion datgelu o dan Ddeddf 1998.
{Durrant vs. FSA, 2003}

Ni ddylai Rheolwr sy'n debygol o fod yn ymwneud â phroses gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag apeliadau gymryd rhan mewn trafodaethau cudd am opsiynau ar gamau cynharach gan y bydd hyn yn peryglu annibyniaeth. I'r gwrthwyneb, os bydd rheolwr wedi bod yn ymwneud â chamau cynnar achos, dylai cydweithiwr addas ar lefel uwch gymryd ei le yn yr apêl.
Mae'n debygol y deuir i glywed am bob cysylltiad o'r fath ac y gwneir defnydd ohono mewn achos cyfreithiol ffurfio. Efallai y byddai'n ddoeth sicrhau bod unrhyw gyfathrebu o'r fath yn defnyddio labeli cwbl ddienw, fel 'Achos B', nad ydynt wedi'u mynegeio ac na allant cael eu cysylltu ag unigolyn drwy unrhyw system. Gall trafodaeth wedyn fod am egwyddorion cyffredinol yn hytrach nag unigolion penodol. Caiff unrhyw gyngor a geir gan gyfreithiwr y sefydliad, a chaiff unrhyw drafodaeth fewnol o'r cyngor hwnnw, ei ddiogelu ac nid yw'n agored i gael ei ddatgelu.

Gall rheolwyr yn rhesymol ddefnyddio data sy'n ymwneud â chofnod presenoldeb unigolyn sy'n deillio, dyweder, o swyddfa'r gyflogres, yn rhesymol gan y rheolwyr mewn mannau eraill yn y sefydliad i ategu trafodaethau am allu'r unigolyn yn ei swydd, neu effaith risgiau sy'n ymwneud â swydd benodol, gan fod y rhain oll yn gysylltiedig â'r un pryder, megis y broses o weinyddu a rheoli cyflogaeth yr unigolyn hwnnw.
Gan fod patrymau presenoldeb yn y gwaith yn deillio o'r tu mewn i'r sefydliad yn ôl ei ddulliau ei hun, ac nad yw'n dibynnu ar unrhyw fath o ddatganiad gan yr unigolyn dan sylw, yna mae'n rhesymol i reolwyr llinell allu gweld y cofnodion presenoldeb a'u defnyddio, cyhyd bod y data yn gywir.

Ystyrir cofnodion absenoldeb sy'n cynnwys gwybodaeth feddygol bersonol sy'n ymwneud â chyflogai fel data sensitif o fewn Deddf Diogelu Data 1998 ac fe'u cwmpesir gan rwymedigaeth benodol i sicrhau bod y data a ddarperir yn 'ddigonol, yn rhesymol ac nad yw'n ormodol o ran y diben.' (gweler Cyfrinachedd Meddygol’)
Mae canllaw awdurdodol ar bob agwedd ar Ddeddf Diogelu Data 1998 ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yn

http://www.ico.gov.uk/

 

Dychwelyd I frig y dudalen

Deddf Hawliau Dynol
Mae cyfraith achos yn ymwneud â'r 'Hawl i barchu bywyd Preifat a Theuluol' yn y Ddeddf Hawliau Dynol wedi cadarnhau nad yw arsylwi, yn cynnwys ffilmio, a wneir mewn lle cyhoeddus, yn mynd yn groes i'r Ddeddf hon.

Gall rheolwr sy'n cynnal ymweliad heb ei gynllunio â chartref cyflogai absennol, â bwriad adeiladol ac yn unol â gweithdrefnau salwch y sefydliad, hefyd fod yn sicr ei fod yn gweithredu o fewn y gyfraith.

Bydd rhaglen gefnogol o gyswllt ac ymweliadau cartref fel arfer yn annog rhywun i ddychwelyd yn gynt, a gall gwaith adsefydlu ei helpu i ddychwelyd dipyn yn gynt. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig wrth atal staff rhag teimlo wedi'u hynysu ac yn isel eu hysbryd, rhywbeth a all ymestyn absenoldebau yn sylweddol. Mae rôl cydweithwyr a goruchwylwyr yn y maes hwn yn hynod o bwysig.

Ffynhonnell: Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

 
Dychwelyd I frig y dudalen

Diswyddo
Mae'n anochel y bydd rhai pobl yn parhau i fod yn absennol yn ystod cyfnod talu tâl salwch.
Bydd y cynadleddau achos yn nodi a oes posibilrwydd o ddychwelyd i'r gwaith, efallai drwy ail-leoli i rôl arall, a rhaid ystyried yr opsiynau hynny.
Mae rhwymedigaeth arbennig ar sefydliadau mawr o'r sector cyhoeddus i gael eu gweld yn gweithredu'n rhesymol wrth ymdrin â materion disgyblu/gallu, ac erbyn hyn, disgwylir iddynt gadw nodiadau ar bapur yn ymwneud â'r ffordd y maent wedi ymdrin ag achosion yn ystod eu cyfnodau cynnar os ceir apêl yn erbyn achos o ddiswyddo. Nid yw hyn yn golygu na ddylai rheolwyr gymryd camau  gweithredu lle y mae'n ofynnol yn unol â gweithdrefnau, mae'n awgrymu y dylai'r camau gweithredu hynny fod yn adeiladol a dylent gael eu dogfennu'n ofalus.

Dylid ystyried diswyddiad mewn perthynas ag absenoldeb hirdymor (yn hytrach nag absenoldebau byr cyson) yng nghyd-destun y rhagolwg ar gyfer y dyfodol. Dylai cyflogwyr ystyried am ba hyd y bydd yn rhaid aros cyn y gellir helpu'r unigolyn hwn i ddychwelyd i'r gwaith. Dylid gydweithio'n adeiladol i ystyried y posibiliadau o ailhyfforddi, ail-leoli, ac ati. dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl, nid dim ond pan ddaw'r tâl salwch i ben.
Os yw'n amlwg, hyd yn oed ar gam cynnar, nad yw'n debygol y bydd yr unigolyn yn dychwelyd i'r gwaith, bydd llawer o gyflogwyr yn cychwyn trafodaethau a fydd yn arwain at derfynu cyflogaeth hyd yn oed cyn i'r cyfnod tâl salwch ddod i ben, ond mae'n bwysig ceisio cyngor cyfreithiol penodol mewn achosion o'r fath.

Nodwch fod cyflwr sy'n parhau am 12 mis ac a gaiff ei ystyried yn feddygol fel cyflwr 'parhaus' yn anabledd, ac mae rhwymedigaeth ar y cyflogwr i gymryd camau gweithredu mewn perthynas â gwneud addasiadau rhesymol i helpu'r unigolyn i ddychwelyd i'r gwaith, hyd yn oed os bydd hynny mewn rôl wahanol a allai gynnwys gradd uwch neu waith rhan amser.

 

Dychwelyd I frig y dudalen

Dydd Gwener
Rhaid i reolwyr allu dadansoddi patrymau absenoldeb unigol i nodi a yw unigolyn yn absennol yn gyson ar ddydd Gwener, neu ddydd Llun neu unrhyw batrwm arall sy'n ailadrodd (penwythnosau rygbi).

Mae hyn yn her i'r system cofnodi absenoldeb, ond os nad yw'n darparu data ar y ffurf hon yna, dylai unrhyw reolwr sydd ag amheuaeth ddilys bod y patrwm hwn yn bodoli, gadw ei nodiadau ei hun neu ddyddiadur ac ymgymryd â'r mater yn ystod trafodaethau dychwelyd i'r gwaith dilynol. (Mae Microsoft Office on-line yn darparu templedi amrywiol ar gyfer cofnodi Absenoldeb Cyflogeion.)

Dylai'r adolygiad hwnnw gynnwys ymchwilio'n adeiladol i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith neu nodi cyfrifoldebau gofalu neu ffactorau eraill, ac os bydd ffactorau o'r fath yn bodoli dylid ymdrin â hwy drwy gyfrwng y Polisi perthnasol. Ond nid yw'r polisïau hynny yn cyfiawnhau y math yma o salwch.

Os bydd unigolyn yn absennol o'r gwaith yn gyson ar ddydd Gwener, ac yn parhau i fod yn absennol ar ôl adolygiad dychwelyd i'r gwaith, yna gyda chyngor gan yr adran Adnoddau Dynol mae hwn yn debygol o fod yn fater am weithdrefnau disgyblu.
Dychwelyd I frig y dudalen

Dyletswydd gofal
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar bob cyflogwr i ystyried iechyd a lles cyflogeion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae llawer o gyrff mawr o'r sector cyhoeddus yn y DU wedi cael eu herlyn am fynd yn groes i'r ddyletswydd hon ac am achosion amrywiol o fethu â diogelu eu staff rhag peryglon amlwg yn y gwaith - lle y mae 'amlwg' yn golygu eu bod wedi'u nodi'n gyson fel achos yr absenoldeb, ac ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu i leihau'r risgiau nac i ddiogelu'r cyflogai. Gweler
Risg
Dychwelyd I frig y dudalen

Dyletswyddau cyhoeddus ac amser arall i ffwrdd
Mae amryw o resymau ar wahân i salwch sy'n peri i aelodau o staff fod i ffwrdd o'u gwaith, yn bennaf ym maes 'dyletswyddau cyhoeddus', fel gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol, neu aelodaeth o'r Fyddin Diriogaethol.
Wrth gwrs mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eu hunain yn dibynnu ar ymrwymiad o'r fath, ac felly bydd gan y rhan fwyaf ohonynt bolisïau sy'n galluogi ac yn cefnogi'r broses o awdurdodi amser i ffwrdd.
Yn yr un modd, mae rhwymedigaethau ar sefydliadau i gefnogi undebau llafur mewnol a chynrychiolwyr diogelwch i gyflawni'r rolau hynny drwy roi amser i ffwrdd iddynt o'u swyddi eu hunain.

Fodd bynnag, nid yw'n afresymol i'r polisïau hynny gynnwys cymal: 'yn amodol ar alwadau'r gwasanaeth', y gellir ei ymestyn i ddiffinio lefelau presenoldeb cyffredinol gofynnol, felly, os bydd aelod o staff yn absennol oherwydd salwch ac yna'n ei chael yn anodd cyflawni ei gyfraniad at y gwasanaeth oherwydd ymrwymiadau blaenorol i amser arall i ffwrdd, dylai galwadau'r swydd gael blaenoriaeth uwch nag ymrwymiadau eraill.

Ar yr adeg y rhoddir caniatâd i'r cyflogai gyflawni'r ymrwymiad arall, mae'n arfer da sicrhau bod unrhyw gyfeiriadau at 'yn amodol ar', neu ddisgwyliadau ynghylch lefelau presenoldeb gofynnol yn cynnwys yr holl resymau dros yr absenoldeb, yn cael eu hegluro yn y llythyr ffurfiol sy'n rhoi'r caniatâd cychwynnol.

O ganlyniad, byddai hyn yn sicrhau nad oedd unigolyn yn ymrwymo i lawer o ymrwymiadau allanol, y byddai modd cyfiawnhau unrhyw un ohonynt ar ei ben ei hunan, ond gallai'r ymrwymiadau, gyda'i gilydd, olygu bod yr unigolyn i ffwrdd o'r gwaith am fwy o amser nag yr oedd yn bresennol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Ffonio
Mae'n arfer da sicrhau bod y rhwymedigaeth dan gontract yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw un sy'n absennol yn ffonio ei oruchwyliwr/arweinydd tîm/rheolwr llinell bob dydd y bydd yn absennol hyd nes y caiff dystysgrif feddygol.
Mae llawer o sefydliadau yn cynnwys gofyniad bod y cyswllt hwn yn cael ei wneud o fewn terfyn amser penodedig, ac i weithwyr sifft, bydd y terfyn hwnnw yn aml cyn amser dechrau'r sifft, er mwyn rhoi trefniadau cyflenwi ar waith.

Rhaid i'r sefydliad sicrhau bod pob rhwymedigaeth o'r fath yn cael ei nodi a'i deall, e.e. drwy'r broses sefydlu neu drwy brosesau cyfathrebu mewnol achlysurol.
Er mwyn i hyn gael unrhyw effaith ataliol, dylid gwneud yr holl alwadau hyn i'r rheolwr llinell, ond lle nad yw hynny'n bosibl, mae'n well pennu pwynt cyswllt a awdurdodwyd yn hytrach na gadael negeseuon yma ac acw gyda ffrindiau.

 

Mae'r mwyafrif o'r absenoldebau yn rhai byrdymor, ac fel arfer ni fyddant yn gofyn am ymyrraeth feddygol nac ardystio. Ym mron bob un o'r achosion hyn bydd yr unigolyn yn penderfynu nad yw'n gallu dod i'r gwaith, a bydd rheolwyr da yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau hyn yn gadarnhaol. Mae unigolyn nad yw'n teimlo'n gwbl holliach yn llawer mwy tebygol o ddod i'r gwaith os yw'n gweithio mewn amgylchedd cefnogol, ysgogol a chymhellol ac amgylchedd lle y gwyr y bydd ei gydweithwyr a'i oruchwyliwr yn sylwi ar ei absenoldeb. Absenoldebau cyson yn y categori hwn yw'r rhai sy'n achosi'r ymyrraeth a'r anghyfleustra mwyaf, a fydd yn arwain at y sgorau Bradford uchaf, oherwydd mai'r prif ffactor yn sgôr Bradford yw nifer yr absenoldebau.
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Dychwelyd I frig y dudalen

Gallu

Mae adolygu gallu yn galluogi'r cyflogwr/rheolwr i gynnal adolygiad rhesymol o allu amlwg yr unigolyn i gyflawni gofynion ei gontract, ac i gymryd camau gweithredu gan ddefnyddio'r broses gywir.
Yn gyffredinol, nid yw'n bosibl herio dilysrwydd tystysgrif feddygol a lofnodwyd gan feddyg teulu, ac mae'n anodd iawn i reolwyr herio datganiad a wnaed mewn hunan-ardystio 'Roeddwn yn sâl ddydd Mawrth'.

Yr hyn y gall y rheolwr ei wneud, yw adolygu 'gallu' o ran presenoldeb cyson a ddangoswyd yn y gwaith.

Y ffordd orau o ddisgrifio 'gallu' yw gweithdrefn sy'n wahanol i disgyblu, ond sydd â chamau cyffelyb a'r un hawliau yn union i gael gwrandawiad, cynrychiolaeth ac apêl.

Dylai'r egwyddor wrth wraidd adolygiad o allu unigolyn, ar unrhyw sail, ymwneud â gosod safonau realistig a mesuradwy a bod y cyflogeion yn ymwybodol o'r rhain.

Mae'r rhwymedigaeth o ran
cysondeb mewn perthynas â phresenoldeb felly yn awgrymu y dylai polisïau'r sefydliad bennu pwyntiau trothwy neu ysgogi er mwyn adolygu unrhyw achos unigol.


Dylid pennu trothwyon o fewn dogfennau polisi corfforaethol y gall staff gael gafael arnynt yn hawdd.

Mae rhai sefydliadau yn defnyddio dulliau ysgogi syml megis nifer yr wythnosau o absenoldeb, ond mae'r rhain wedyn yn anwybyddu'r absenoldebau byr cyson sy'n achosi cryn ymyrraeth ac sy'n cyfrif am ran helaeth o'r amser a gollwyd.


Mae defnyddio Mynegai Bradford i ddiffinio'r pwyntiau 'ysgogi' yn sicrhau yr eir i'r afael ag ymyrraeth absenoldebau byr cyson (sef y rhan fwyaf o absenoldebau) o fewn y system rheoli presenoldeb gyffredinol.

Dengys ymchwil genedlaethol gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu y DU fod 60 y cant o'r amser a gollir yn deillio o absenoldebau o hyd at wyth diwrnod.

www.CIPD.co.uk/surveys                        

Dychwelyd I frig y dudalen

Gelyniaeth
Gweler 'Trais'
Dychwelyd I frig y dudalen

Gweithdrefnau Disgyblu
Yn gyffredinol, mae'n amhriodol 'cosbi' rhywun am fod yn sâl, ac mae'n annhebygol y gall unrhyw reolwyr herio tystygrif feddygol neu hyd yn oed hunan-ardystio.
Felly, mae'n arfer da adolygu absenoldeb o dan label gallu, ac mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus ddarpariaeth benodol ar gyfer hyn.

Gallai gweithdrefnau disgyblu fod yn berthnasol, er enghraifft, os bydd yr unigolyn yn methu â ffonio'r swyddfa, felly ni fydd yr absenoldeb wedi'i 'awdurdodi', neu os bydd yn gwrthod cyfrannu at
drafodaethau dychwelyd i'r gwaith, neu'n gwrthod yn afresymol ymgymryd â gwahoddiadau adeiladol i fynychu adolygiadau iechyd galwedigaethol.

Mae gweithdrefnau disgyblu yn anelu i fod yn adeiladol. Mae'r broses wedi'i chynllunio i ddenu sylw at fater penodol ac i egluro'r safonau disgwyliedig.

Mae un cwestiwn cyffredin yn ymwneud â'r amgylchiadau lle y bydd cyflogai yn cyflwyno tystysgrif feddygol, yn aml ar gyfer straen, ychydig cyn gwrandawiad disgyblu a drefnwyd, a gallai hyd yn oed nodi'r gwrandawiad sydd ar fin cael ei gynnal fel achos y straen.


Disgwylir i gyflogwyr y Gwasanaeth Cyhoeddus yn arbennig weithredu'n rhesymol, ac felly yn sgîl y dystiolaeth hon dylent ohirio'r gwrandawiad a threfnu dyddiad newydd. Dylai'r cyflogwyr hysbysu'r cyflogai y bydd y gwrandawiad yn mynd rhagddo yn ei absenoldeb os bydd yn parhau i fod yn rhy sâl i fod yn bresennol, ac yn ei wahodd i anfon ei gynrychiolydd a/neu roi sylwadau ysgrifenedig mewn ymateb i'r materion a gaiff eu hystyried. Gallai gohirio'r Gwrandawiad am gyfnod parhaus neu hirdymor waethygu'r straen ac ni fyddai'n gyson â rhwymedigaethau dyletswydd gofal.

Dychwelyd I frig y dudalen

Gwerthfawrogiad

Bydd nodi bod unigolyn heb fod yn absennol ers blwyddyn neu'n hwy, neu longyfarch timoedd sydd â phresenoldeb da neu wedi gwella , neu i gydweithwyr am gyflenwi ar gyfer aelod o staff a fu'n absennol, yn cyfleu'r pwynt bod absenoldeb/presenoldeb yn rhywbeth y rhoddir sylw iddo ac yn rhywbeth pwysig, a gall gael effaith gadarnhaol ar y rhai sy'n cael eu gwerthfawrogi.

Dychwelyd I frig y dudalen

Hanner tymor
 
Os bydd cynnydd sydyn mewn absenoldeb oherwydd salwch yn ystod hanner tymor, dylai'r rheolwr gadw nodyn gofalus o bawb a oedd yn absennol a rhoi gwybod iddynt y caiff patrwm absenoldeb yn ystod hanner tymor ei fonitro yn y dyfodol.
Gallai trafodaeth adeiladol ynglyn â newid i gontractau 'tymor yr ysgol yn unig', neu ddefnydd mwy
hyblyg o wyliau blynyddol helpu i oresgyn y mater hwn.
Er mwyn osgoi'r risg o 'erledigaeth', dylid ymdrin â gwaith monitro o'r fath fel rhan o arfer rheoli
presenoldeb parhaus ehangach.
Gallai data ynglyn â chost ac effaith y lefel uwch o absenoldeb, yn cynnwys cost darparu staff cyflenwi dros dro helpu mewn cyfarfodydd briffio tîm dilynol.
  Gweler 'Dydd Gwener'.

 
Dychwelyd I frig y dudalen

Hunan-ardystio

Mae cwblhau ffurflen hunan-ardystio, sy'n debygol o fod yn ddogfen electronig, ar gyfer pob absenoldeb o hyd at wyth diwrnod yn cynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul yn broses arferol. Mae'n cyflawni'r rhwymedigaeth dan gontract i roi cyfrif am yr absenoldeb er mwyn bod yn gymwys i gael cyflog er na wneir unrhyw gyfraniad.

Ar gyngor Cymdeithas Feddygol Prydain, mae meddygfeydd yn anhebygol o roi tystysgrifau meddygol am gyfnodau sy'n llai nag wyth diwrnod, ac os gofynnir iddynt wneud hynny, maent yn debygol o godi ffi. Sy'n golygu mai dim ond derbynneb am y taliad yw'r dystysgrif a roddir yn y bôn.

Wrth reoli presenoldeb dylid rhoi'r pwyslais ar reolwyr llinell ac nid ar y proffesiwn meddygol, sy'n gyfrifol am ofalu am bobl sâl: gweler gallu ac iechyd galwedigaethol, uchod.

Mae'n hanfodol y defnyddir data sy'n seiliedig ar gwblhau pob achos o absenoldeb ar sail hunan-ardystio i greu cofnod cynhwysfawr a chywir (gweler uchod).

Dengys ymchwil genedlaethol gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu y DU fod 60 y cant o'r amser a gollir yn deillio o absenoldebau hyd at wyth diwrnod.
 

www.CIPD.co.uk/surveys

Ar bob achos o absenoldeb ar sail hunan-ardystio, mae'r cyflogai yn ystyried y cwestiwn:
'A wyf am dderbyn canlyniadau peidio â mynd i'r gwaith heddiw?'

Wrth gwrs, dichon y bydd y cyflogai yn teimlo'n well, ond bydd cynnydd bach yn nifer y staff sy'n penderfynu mynd i'r gwaith yn cynyddu'r lefelau presenoldeb.

 

Dychwelyd I frig y dudalen

Iechyd Galwedigaethol
Dylai iechyd Galwedigaethol anelu at - hyrwyddo a chynnal y lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol mwyaf ymhlith gweithwyr ym mhob galwedigaeth; atal achosion o salwch ymhlith gweithwyr o ganlyniad i'w hamodau gwaith; diogelu gweithwyr wrth eu gwaith rhag risgiau sy'n deillio o ffactorau sy'n amharu ar iechyd; gosod a chynnal gweithwyr mewn amgylchedd galwedigaethol sydd wedi'i addasu i'w gallu ffisiolegol a seicolegol ac, i grynhoi, addasu'r gwaith yn ôl gofynion pob unigolyn.
Cyfadran Meddygaeth Alwedigaethol, Coleg Brenhinol y Meddygon, yn dyfynnu Sefydliad Iechyd y Byd, 1950 (a'r wybodaeth ddiweddaraf am ‘What is Occupational Medicine?’, http://www.facoccmed.ac.uk/
)

Mae'r diffiniad hwn yn egluro bod y proffesiwn yn ystyried mai ei rôl, yn rhesymol, yw cyfrannu'n adeiladol at hybu iechyd. Nid cangen o reolaeth ydyw a ddefnyddir i helpu i ddisgyblu staff ystyfnig.

Felly mae'r ddyfais 'cael eich anfon i weld yr adran iechyd galwedigaethol' yn annhebygol iawn o arwain at unrhyw ganlyniad ar wahân i gyngor defnyddiol, adeiladol am hybu lles, neu gyngor i reolwyr ynghylch y camau y gallent eu cymryd i wella'r broses o 'ddiogelu gweithwyr rhag risgiau.'

Dylid ystyried yr eglurder hwn wrth adolygu cynllun gweithdrefnau sefydliadol. Os bydd Rheolwr yn poeni am lefel cysondeb presenoldeb unigolyn, y rheolwyr llinell sydd yn y sefyllfa orau i ddelio â hyn, fel mater o allu.

Gall staff iechyd galwedigaethol proffesiynol wneud cyfraniadau hyddysg at:

  • sgrinio cyn cyflogi yn erbyn manylebau penodedig;
  • cyngor ar ddileu peryglon iechyd mewn swyddi;
  • dadansoddi patrymau yn achosion absenoldeb;
  • datblygu strategaethau ymyrryd ataliol (e.e. cefnogi cynlluniau rhoi'r gorau i smygu; cynnal rhaglenni imiwneiddio, cyngor ar ffyrdd o fyw'n iach, ac ati);
  • cyfranogi mewn cynadleddau achos, cael adborth gan feddygon teulu;
  • cynnal cynlluniau dychwelyd i'r gwaith yn gynnar drwy gyfrwng adsefydlu.

Rhondda Cynon Taf:

Un o'r prif ffyrdd o gyflawni enillion effeithlonrwydd o fewn y Cyngor yw drwy reoli absenoldeb oherwydd salwch. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn cael budd o ymdrech ar y cyd i leihau nifer y dyddiau salwch a gollir gan gyflogeion drwy gyfrwng ei Uned Iechyd Galwedigaethol ei hun. Mae'r cyfle i gael cymorth gan Feddygon Iechyd Galwedigaethol, Cynghorwyr, Nyrs a Ffisiotherapydd yn helpu cyflogeion i naill ai parhau yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith yn gynt nag a fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Mae'r Uned Iechyd Galwedigaethol hefyd yn cynnal ymgyrchoedd Gorchwylio Iechyd a Hybu Iechyd rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd sylweddol a sut i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Caiff llwyddiant yr Uned ei adlewyrchu yn y gostyngiad mewn ystadegau absenoldeb oherwydd salwch dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Dychwelyd I frig y dudalen

Iechyd galwedigaethol: pennu safonau
Fel gydag unrhyw faes rheoli, mae prinder safonau neu ddisgwyliadau penodedig o ran lefelau gwasanaeth yn arwain at wahaniaeth barn ynghylch yr amcanion.
Caiff y gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol mwyaf effeithiol eu rhedeg o fewn fframwaith cytûn o safonau lefel gwasanaeth, fel y gellir gweld cyflogeion mewn categorïau penodol o fewn n dydd, caiff adroddiadau eu hysgrifennu o fewn m dydd, cynhelir yr asesiad cyn cyflogi o fewn y awr, ac yn y blaen yn gyffredinol (gweler yr astudiaeth achos, Cyngor Sir Gaerfyrddin).

Yn yr un modd, dylai unrhyw atgyfeiriad at nyrsys iechyd galwedigaethol neu swyddogion meddygol nodi'r materion penodol sy'n achosi pryder, a dylai fod sianel gyfathrebu, efallai drwy reolwyr y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol er mwyn sicrhau dealltwriaeth o'r materion. 

Heddlu Gwent:

Mae parhau i gael cydweithredu agos rhwng Rheolwyr Llinell, Adnoddau Dynol/Rheolwyr Personél/Swyddogion a chynrychiolwyr cyflogeion h.y. Ffederasiwn yr Heddlu, Unsain, Cymdeithas yr Uwcharolygwyr, yn hanfodol i'r broses hon. Mae gweithwyr proffesiynol Iechyd Galwedigaethol yn aml mewn sefyllfa dda i hyrwyddo dull cadarnhaol o ddelio ag absenoldeb oherwydd salwch, mewn perthynas â sefydliadau ac unigolion.   (Llawlyfr Rheoli Absenoldeb)

 
Dychwelyd I frig y dudalen

Integreiddio presenoldeb â phrosesau eraill
Mae'n arfer da i ystyried sgorau Mynegai Bradford sy'n uwch na lefelau penodedig mewn:

Adolygiadau perfformiad
Arfarniadau
Ceisiadau am ddyrchafiad
Adolygiadau prawf

Mae llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu graddfeydd cyflog gyda chynnydd blynyddol sy'n 'amodol ar' berfformiad boddhaol.
Byddai defnyddio Mynegai Bradford yn golygu y gallai presenoldeb cyson gael ei gynnwys ymhlith y ffactorau sy'n penderfynu a ddylid rhoi dyrchafiad.

Heddlu Gwent:
Yn ôl polisi Heddlu Gwent os bydd gan swyddog neu gyflogai sgôr Mynegiad Bradford o 192 neu fwy yn ystod y cyfnod treigl 12 mis diwethaf , yna:

 *          Efallai na fydd swyddogion yr heddlu yn gallu gwneud cais am ddyrchafiad

*           Efallai na fydd staff yr heddlu yn gallu gwneud cais am swyddi uwch neu swyddi o'r un radd
*           Efallai na fydd swyddogion yr heddlu yn gymwys am daliadau yn gysylltiedig â chymhwysedd
*           Efallai y tynnir yr hawl i gael hunan-ardystio yn ôl

Rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun....


Gall y broses o reoli absenoldeb oherwydd salwch yn effeithiol, gyda mesurau penodedig, gael ei chynnwys yn sicr o fewn y dangosyddion a ddefnyddir i asesu perfformiad rheolwyr.

 
Dychwelyd I frig y dudalen

Llythyrau rhybuddio

Dim ond ar ôl gweithredu'r weithdrefn briodol y gellir rhoi unrhyw fath o 'rybudd' i gyflogai, er mwyn iddo gael unrhyw fath o ddilysrwydd yn y dyfodol: naill ai'r weithdrefn gallu neu ddisgyblu. Yn sgîl newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth cyflogaeth, dylai'r gweithdrefnau hynny fod wedi cael eu diwygio ers 2004.

Cyfeiriwch at: http://www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=335

Gwnaeth llawer o sefydliadau'r gwasanaeth cyhoeddus gynllunio a chytuno ar eu gweithdrefnau cyn y newidiadau diweddar ac erbyn heddiw, mewn cymhariaeth â'r modelau ACAS, maent yn cynnwys gormod o fanylion ac maent yn anodd eu defnyddio.
Po fwyaf cymhleth yw gweithdrefn, y mwyaf yw'r risg o beidio â chydymffurfio â rhai manylion mewnol, sy'n creu'r posibilrwydd o danseilio unrhyw gamau gweithredu gall gael ei gymryd, hyd yn oed os yw'r achos yn eu cyfiawnhau mewn gwirionedd.

Os yw rheolwyr llinell prysur yn teimlo y cânt eu boddi gan brosesu biwrocratiaeth hirfaith, maent yn anhebygol o sbarduno camau gweithredu drwy weithdrefn. Mae yna risg y gall gymryd camau gweithredu amhriodol y tu allan i'r prosesau,  arwain at honiadau dilys o fwlio.

Mae'n arfer da ADOLYGU gweithdrefnau disgyblu a gallu yn erbyn model ACAS, a sicrhau bod y rhain yn cael eu symleiddio er mwyn dileu cymhlethdod traddodiadol y sector cyhoeddus. Gan fod y rhain yn ddogfennau cytundebol pwysig, dylai unrhyw waith diwygio fod yn seiliedig ar ymgynghori dilys, ac mae ymgynghori â'r grwp defnyddwyr allweddol, rheolwyr llinell, yn hanfodol.

Mae rhwymedigaeth arbennig ar sefydliadau mawr o'r sector cyhoeddus i gael eu gweld yn gweithredu'n rhesymol wrth ymdrin â materion disgyblu/gallu, ac erbyn hyn, disgwylir iddynt gadw nodiadau ar bapur yn ymwneud â'r ffordd y maent yn ymdrin ag achosion yn ystod y cam cynnar os ceir apêl yn erbyn achos o ddiswyddo. Nid yw hyn yn golygu na ddylai rheolwyr gymryd camau  gweithredu lle y mae'n ofynnol yn unol â gweithdrefnau, mae'n awgrymu y dylai'r camau gweithredu hynny fod yn adeiladol a dylent gael eu dogfennu'n ofalus.

Dylai llythyrau rhybuddio eu hunain fod yn glir ac yn benodol, gan gofnodi'r ffaith bod gwrandawiad wedi'i gynnal ar ddyddiad penodol, y cafwyd cynrychiolaeth gan swyddog undeb llafur mewnol priodol (neu fod hynny wedi'i gynnig a'i wrthod) a beth oedd y canlyniad. Dylai'r llythyron nodi canlyniadau methiant dilynol a chynnwys dyddiadau adolygu y cytunwyd arnynt a dyddiadau pan na fydd y rhybudd yn ddilys mwyach ar gyfer cymryd camau pellach.
Dylid cadw copïau o bob rhybudd a roddir i staff mewn ffeil Adnoddau Dynol ganolog.     

Dychwelyd I frig y dudalen

Materion cyfreithiol
Egwyddor hollbwysig: os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch!

Er ei bod yn gwbl bosibl cymryd camau gweithredu yn erbyn pobl sydd â chofnodion absenoldeb gwael, ac yn wir, cydnabyddir ei bod yn gwbl briodol gwneud hyn, mae'r gyfraith yn darparu mesurau diogelu i sicrhau bod rheolwyr bob amser yn ymddwyn yn rhesymol.

Yr allwedd i fod yn 'rhesymol' yw cysondeb: dyna'r rheswm pam mae'n rhaid i sefydliadau mawr sicrhau bod ganddynt weithdrefnau penodol iawn ar waith, a rhaid i bob cam gweithredu a gymerir ddilyn y weithdrefn.

Caiff llawer o absenoldebau eu cwmpasu gan 'Nodyn Salwch' gwirioneddol -
tystysgrif feddygol a roddir gan feddyg teulu, ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi egluro nad swyddogaeth eu haelodau yw 'goruchwylio' cynlluniau tâl salwch cyflogwyr, a dyma'r rheswm pam mae'n rhaid i'r cyflogwr sy'n adolygu unrhyw achos adolygu preseonldeb.
Os yw'r meddyg teulu wedi dweud na allai'r unigolyn weithio ar y dyddiad hwnnw, nid yw'n bosibl i Reolwyr herio'r gwirionedd sy'n sail i'r datganiad hwnnw.

Yr hyn y gall y Rheolwr ei herio a'r hyn y dylai ei herio, yw lefel presenoldeb gyffredinol yr unigolyn hwnnw.

"Ym mhob achos mae'n hanfodol i reolwyr ganolbwyntio ar bresenoldeb yn hytrach nag iechyd: rheoli absenoldeb sy'n bwysig. Felly mae p'un a yw absenoldeb unigolyn wedi'i achosi gan salwch gwirioneddol neu beidio yn amherthnasol. Os oes problem feddygol bydd angen cyngor a chymorth meddygol, naill ai gan feddyg teulu'r unigolyn neu gan wasanaeth Iechyd Galwedigaethol yr Heddlu fel y bo'n briodol, ond cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rheoli presenoldeb..’"
Ffynhonell: Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Dychwelyd I frig y dudalen

Meincnodi

Meincnodi:

Adolygiad rheolaidd a systematig o ddata o grwpiau galwedigaethol neu sefydliadau cyffelyb, i alluogi (i) cymariaethau â'r 'norm' a (ii) nodi arfer da/arloesedd.

Data cymharol ledled y DU



Nifer y dyddiau a gollwyd fesul cyflogai ar gyfartaledd

Canran o amser gwaith*

Nifer y dyddiau a gollwyd y pen yn y Sector Preifat ar gyfartaledd

Nifer y dyddiau a gollwyd y pen yn y Sector Cyhoeddus ar gyfartaledd

 

Gweithwyr llaw

8.2

3.9

7.5

11

Gweithwyr nad ydynt yn gweithio â llaw

5.7

2.6

5.1

7.9

Pob math o weithwyr

6.6

3.1

6.0

8.5

Ffynhonnell: ‘Health of the Workplace’, Norwich Union Healthcare, Mehefin 2006, adroddiad ar arolwg blynyddol y CBI.
*Nid yw'r 'amser gwaith' a ddefnyddir yma yn cynnwys unrhyw hawl Gwyliau.
Nodwch fod risgiau'n gysylltiedig â'r defnydd o gyfartaleddau syml fel targedau, gan fod cyfrifo cyfartaledd yn amlwg yn cynnwys y sefydliadau sy'n perfformio waethaf. Nid yw cyfartaledd yn rhoi unrhyw awgrym o sgorau uchaf/isaf o fewn sefydliad: gallai fod clystyrau o arfer ardderchog!

Mae Archwilydd Cyffredinol Gorllewin Awstralia yn nodi nifer y dyddiau gwaith a gollwyd y flwyddyn fesul aelod o staff sy'n gyfwerth ag amser llawn mewn gwasanaethau cyhoeddus yno, sef 6.6 ('Absent Friends', Mai 2001), ac mae'n awgrymu targed o bedwar diwrnod y pen.

Dychwelyd I frig y dudalen

Mynegai Bradford: CYMHWYSO

Mae'r Gyfraith Cyflogaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr a rheolwyr weithredu'n 'rhesymol'.

Byddai hyn yn awgrymu y dylai'r defnydd o Fynegai Bradford, neu unrhyw drothwy arall, fod yn seiliedig ar ymgynghoriad â chynrychiolwyr cyflogeion, ac y dylid ei gymhwyso'n gyson, er mwyn ysgogi adolygiad o bob achos sy'n mynd y tu hwnt i'r trothwyon penodedig. (Nodwch y dylai fod bwriad adeiladol i 'adolygiad' a dylai unrhyw gamau gweithredu a gymerir drwy gyfrwng gweithdrefnau gallu ddibynnu ar amgylchiadau'r achos.)

Heddlu Gwent:


Yn ôl polisi Heddlu Gwent os bydd gan swyddog neu gyflogai sgôr Mynegiad Bradford o 192 neu fwy yn ystod y cyfnod treigl 12 mis diwethaf, yna:

  • Efallai na fydd swyddogion yr heddlu yn gallu gwneud cais am ddyrchafiad
  • Efallai na fydd staff yr heddlu yn gallu gwneud cais am swyddi uwch neu swyddi o'r un radd
  • Efallai na fydd swyddogion yr heddlu yn gymwys am daliadau yn gysylltiedig â chymhwysedd
  • Efallai y tynnir yr hawl i gael hunan-ardystio yn ôl
  • …ac ati

Rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun....
Dylid defnyddio sgôr Bradford hefyd i nodi a oes angen cymorth ar unigolyn, e.e. cymorth gan gydweithwyr, adran les, adran Iechyd Galwedigaethol, Cynghorydd Meddygol, neu a oes ganddo anghenion hyfforddi ychwanegol.



Rhydd ACAS fwy o wybodaeth am gymhwyso Mynegai Bradford:: www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=1184.

Mae'r Gwasanaeth Carchardai yn defnyddio sgôr presenoldeb i ysgogi camau gweithredu gan reolwyr, 51 o bwyntiau mewn chwe mis: Rhybudd ar Lafar
201 o bwyntiau mewn 12 mis: Rhybudd Ysgrifenedig
401: Rhybudd Terfynol
gall 601 arwain at ddiswyddiad
cafodd 300 o staff eu diswyddo yn ystod 2003/2004 ar y seiliau hyn.
Ffynhonnell: Swyddfa'r Cabinet/HSE, ‘Sickness Absence in the Public Sector’, 2004.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn diffinio sgôr Bradford o 187 fel achos pryder sy'n cyfiawnhau adolygiad o'r achos.

Dychwelyd I frig y dudalen

Mynegai Bradford: FFORMIWLA

Fformiwla yw hon a luniwyd gan Brifysgol Bradford i ystyried sut mae absenoldebau byr cyson yn ogystal ag absenoldeb hirdymor yn amharu ar weithle.

Dyma Fformiwla Mynegai Bradford:

                  S x S x D = (MYNEGAI)

 

 

S yw nifer yr achlysuron (Sbeliau) o absenoldeb a

D yw Cyfanswm y Dyddiau yn absennol.

 

Er enghraifft:

Mae pum absenoldeb o un neu ddau ddiwrnod (2 +1+2 +2 +1) yn rhoi S = 5, a
D = 8

Felly (5 x 5 x 8) = 200

Mae un absenoldeb hir o chwe wythnos (30 diwrnod) yn rhoi'r sgôr canlynol

 

1 x 1 x 30 = 30

 

Ond pe bai'r unigolyn hwnnw'n cael absenoldeb arall o dri diwrnod, byddai'r cyfrifiad newydd fel a ganlyn:

2 x 2  x 33 = 132

Nodwch: gellir defnyddio'r Mynegai yn ôl lefel yr oriau a weithiwyd/y bu staff yn absennol os yw hynny'n fwy priodol - gweler
www.acas.co.uk/absence

 

Dychwelyd I frig y dudalen

Presenoldeb nid absenoldeb
Gweler ‘Gallu’ a Materion Cyfreithiol’

In all cases it is vital for management to concentrate on attendance rather than health: the issue is managing attendance. Thus whether an individual absence is caused by a genuine illness or not is irrelevant. If there is a medical issue then medical advice and assistance is needed, either from the individual’s general medical practitioner (GP) or from the Force Occupational Health service as appropriate, but the management of attendance is the responsibility of line management.’

Ffynhonnell: Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu Cymru, Lloegre a Gogledd Iwerddon - 'Guidance on the management of staff attendance in Police Service'  

Dychwelyd I frig y dudalen

Rheolwyr llinell

Yr unigolion allweddol o ran rheoli absenoldeb ynghyd â chymaint o bethau eraill. Gall y bwriadau gorau, polisïau Adnoddau Dynol a luniwyd yn wych, a hyd yn oed penderfyniadau ar lefel y Bwrdd olygu dim yn y pen draw oni fydd gan reolwyr llinell y dyhead, yr amser a'r cymhwysedd i'w gweithredu.    

Cyngor Sir Caerdydd:

Cynhaliodd Cyngor Sir Caerdydd arolwg o'r ffordd y câi systemau rheoli absenoldeb eu gweithredu ac, ymhlith pethau eraill, canfu'r canlynol:
Rhoddodd yr adran Adnoddau Dynol wybodaeth rheoli am absenoldeb oherwydd salwch - cydnabu 83% o reolwyr eu bod wedi derbyn y wybodaeth hon, ond o'r rhain ni weithredodd 72% ar y wybodaeth a gafwyd.’

Gyda'r her 'rheoli perfformiad' glasurol hon,  mae'n well defnyddio systemau rheoli perfformiad safonol i ymateb iddi. Sicrhewch fod polisi clir a chyfoes a gaiff ei gyfleu'n dda. Sicrhewch fod y data yn gadarn ac yn ddefnyddiol. Yna mesurwch sut y mae'r rheolwr unigol yn ei weithredu er enghraifft faint o absenoldebau y mis a gwblhawyd yn briodol neu'r gymhareb o'r achosion a gwblhawyd yn briodol. Mae'n ddefnyddiol canfod y bydd gan grwpiau o weithwyr lle y mae cydymffurfiaeth y rheolwr yn symbolaidd, achlysurol neu hyd yn oed ar goll yn llwyr lefelau absenoldeb uchel. Felly mae'n rhesymol defnyddio cyfraddau presenoldeb yn y meysydd cyfrifoldeb fel mesur o effeithiolrwydd rheolaethol. Mae cymariaethau syml, er (e.e. 'Eich maes chi yw'r un gwaethaf yn y sefydliad...') fwy na thebyg yn mynd i fod yn rhy fras lle y mae gwelliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda chymariaethau tebyg am ei debyg yn fwy tebygol o nodi perfformiad y Rheolwr unigol.

Heddlu Gwent:
Fel rhan o'r rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth graidd, penodwyd sarsiant priodol i ddarparu hyfforddiant ymarferol ar reoli absenoldeb: 32 o gyrsiau undydd gyda 10-15 o arweinwyr ar bob un.


 

Dychwelyd I frig y dudalen

Safon Iechyd Gorfforaethol
Y nod ansawdd ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle yng Nghymru. Mae wedi'i weinyddu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i cyflwynir mewn categorïau efydd, arian, aur neu blatinwm i sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu breifat sy'n gweithredu polisïau ac arferion a gynlluniwyd i hybu iechyd a lles eu cyflogeion.

Fel mentrau ansawdd eraill yn y gweithle, mae'n rhaglen sy'n datblygu a chaiff sefydliadau eu hailasesu bob tair blynedd.

Mae'r gwaith i gyflawni'r safon yn gyson â'r Model Rhagoriaeth Busnes, a ddefnyddir i hybu ansawdd a datblygiad sefydliadol mewn llawer o sefydliadau. Mae integreiddio camau gweithredu i wella iechyd cyflogeion o fewn prosesau datblygu busnes ac arferion busnes wedi dod â manteision sylweddol i'r gweithlu ac i'r sefydliad cyfan.

I gael rhagor o wybodaeth, a phecyn Safon Iechyd Gorfforaethol, ewch i:
http://new.wales.gov.uk/topics/health/improvement/health-at-work/corporate-standard/?lang=en

Dychwelyd I frig y dudalen

Straen
Mae ymchwil yr HSE yn dangos bod pob achos o absenoldeb sy'n gysylltiedig â straen yn debygol o arwain at golli 30.9 o ddyddiau, a bod straen yn achos sy'n cyfrannu at gyfran fawr iawn o'r absenoldebau.
Mae straen o ryw fath neu'i gilydd yn gyffredin mewn llawer o'r erlyniadau costus iawn a ddygir yn erbyn sefydliadau o'r sector cyhoeddus yn y DU.

Felly, cynghorir unrhyw sefydliad sy'n dymuno gostwng lefelau absenoldeb i ganolbwyntio ar osgoi straen.

Cyfeiriwch at:

http://www.hse.gov.uk/stress/why.htm

http://www.cipd.co.uk/subjects/health/stress/stress.htm


Mae'r HSE wedi cynhyrchu Safon Rheoli, y bydd cydymffurfio â'r Safon honno yn (a) cael effaith gadarnhaol ar ddileu achosion straen, a (b) yn creu'r sail ar gyfer amddiffyn rhag ymgyfreitha.

Fodd bynnag, o fabwysiadu'r safon hon ni ddylai fod yn 'bolisi arall' i ymuno â'r casgliad da sydd eisoes ar y silff/rhyngrwyd. Er ei bod yn amlwg yn angenrheidiol creu datganiad polisi ffurfiol, yr agwedd bwysicaf yw integreiddio'r poilsi i arfer bob dydd. Er enghraifft dylai ategu cwestiynau safonol mewn trafodaethau dychwelyd i'r gwaith neu mewn cyfweliadau ymadael, a helpu i greu mwy o ddiddordeb mewn swyddi sydd fel arall yn undonnog.

Mae straen yn cynyddu yn ôl lefel yr ymreolaeth yn y gwaith. Hynny yw, mai'r swyddi sydd â'r lefel isaf o ymreolaeth sy'n peri'r straen mwyaf ond swyddi â lefel uchel o ymreolaeth sy'n fwy tebygol o beri blinder. Swyddi sydd â lefel isel o ymreolaeth sydd hefyd yn dangos y lefelau uchaf o absenoldeb.

Er bod hyn yn anhebygol o roi ateb cyflym, mae cynyddu cyfranogiad cyflogeion drwy ddirprwyo mwy o ymreolaeth neu drwy ymgymryd â rhyw fath o gynllun gwelliant parhaus yn debygol o gyfrannu at welliant hirdymor cynaliadwy.

http://www.hse.gov.uk/stress/standards/standards.htm
Gweler hefyd: 'Trais'

(there is …. ) ‘no substitute for a laser-like focus on the factors that shape the underlying determinants of health and health inequalities.’

Y Sefydliad Gwaith ‘Healthy Work, Productive Workplaces’ Rhagfyr 2005

Mae llawer o sefydliadau (yn cynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) yn gweithredu rhwydweithiau cymorth cydweithwyr. Mae gwirfoddolwyr o blith y staff yn ymgymryd â hyfforddiant ac maent ar gael wedyn i wrando ar gydweithwyr i'w galluogi i ddelio ag unrhyw broblem mewn lleoliad cwbl gyfrinachol nad yw'n hierarchaidd. Gallai'r system hon hefyd ymestyn i gymorth digwyddiadau critigol, i gynnig sesiynau dadfriffio i unrhyw un sy'n dymuno siarad am brofiadau o'r fath.

Dychwelyd I frig y dudalen

Straen cyhyrysgerbydol
Ynghyd â straen, dyma un o'r ddau brif ffactor sy'n cyfrannu at absenoldeb:

Gostyngiad o chwarter yn nifer y dyddiau gwaith a gollir

Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Iechyd a Diogelwch yn datgelu bod nifer y dyddiau gwaith a gollwyd o ganlyniad i anafiadau a salwch sy'n gysylltiedig â gwaith wedi gostwng o 40 miliwn o ddyddiau gwaith yn 2000/2002 i 30 miliwn yn 2005/2006.

Dengys ffigurau heddiw y cynnydd diweddaraf yn erbyn targedau 10 mlynedd i wella perfformiad iechyd a diogelwch cenedlaethol erbyn 2010. Mae'r cynnydd i ostwng salwch 20 y cant ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed, ac mae'r cynnydd i ostwng nifer y dyddiau gwaith a gollir 30 y cant ar y trywydd iawn hefyd yn fwy na thebyg. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr anafiadau angheuol a difrifol a gafwyd yn 2005/2006 hefyd, er nad yw'r cynnydd a wneir ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed, sef gostyngiad o 10 y cant.

Roedd salwch yn cyfrif am tua 24 miliwn o'r dyddiau gwaith a gollwyd. Straen ac anhwylderau cyhyrysgerbydol oedd achosion mwyaf cyffredin absenoldeb o bell ffordd, ac roeddent yn creu tri chwarter o'r ffigur hwn.     HSE 2 Tachwedd 2006

Yng Nghymru, mae'r Prif Swyddog Meddygol yn nodi mai "anhwylderau cyhyrysgerbyol yw'r salwch iechyd galwedigaethol mwyaf cyffredin ym Mhrydain, ac yng Nghymru, caiff £90 miliwn ei wario bob blwyddyn ar dalu budd-daliadau analluogrwydd i unigolion sy'n dioddef poen yn y cefn, ac mae costau gofal iechyd tua £150 miliwn y flwyddyn."
(Safon Iechyd Gorfforaethol)

Mae osgo, yn enwedig wrth fysellfwrdd yn ffactor pwysig a dylai pob gweithfan gael ei gosod yn unol â rheoliadau'r sgriniau arddangos.
Mae'n arfer da i staff sicrhau eu bod yn cael seibiant bob hyn a hyn pan fyddant yn cyflawni tasgau sy'n undonog yn gorfforol drwy wneud symudiadau gwahanol: ymestyn, symud o gwmpas, ac ati a dylai'r cyflogwr hybu ffordd o fyw iach ac egnïol, yn unol â'r Safon Iechyd Gorfforaethol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Targedau
Mae amser a gollir o ganlyniad i absenoldeb oherwydd salwch yn broblem fawr iawn a chymhleth iawn, ond gellir ei mynegi yn y pendraw drwy gyfrwng un ffigur, megis canran yr amser a gollwyd, neu nifer y dyddiau a gollwyd fesul cyflogai ar gyfartaledd.
Os gall y Prif Weithredwr ymrwymo i ffigur targed penodol ar y perfformiad cyffredinol, yna dylai uwch reolwyr eraill fod yn gallu ymrwymo i welliannau ym mhatrymau eu meysydd cyfrifoldeb. Gall y targedau yma eu cynnwys yn eu hadolygiadau perfformiad personol, a sicrhau y caiff ymdrech ei gyfeirio at y gwahanol agweddau:
  • lleihad yn nifer yr absenoldebau achlysurol a geir ar sail hunan-ardystio (nodwch o > i )
  • lleihad yn hyd absenoldebau dros bedair wythnos ar gyfartaledd (nodwch)
  • cynnydd yn y defnydd o raglenni adsefydlu llai dwys
  • cynnydd yn y defnydd o gynadleddau achos
  • lleihad yn nifer yr absenoldebau hirdymor
  • cynnydd yn nifer y rhybuddion a roddir
  • cynnydd yn nifer y bobl a gaiff eu diswyddo oherwydd gallu

Defnyddir targedau yn y ffordd orau lle y mae'r ffigurau yn rhai SMART
(Penodol, Mesuradwy, Wedi’i gytuno, Realistig, Amserol)

Dychwelyd I frig y dudalen

Techniflex

Cyswllt i well furf o weithio

 

O ganlyniad i dechnoleg, gellir cyflawni llawer o swyddogaethau desg yn y cartref, ond mae'r datblygiadau hyn yn creu ystod newydd o heriau i reolwyr.


Er y gallai delio â'r mewnflwch e-bost o'r gwely priodasol ganol nos fod yn destun pryder mewn perthynas â ffyrdd iach o fyw, a'i fod yn fwy na thebyg yn arwydd o lwyth gwaith gormodol, mae delio â rhywfaint o waith gartref yn gwbl normal. Gall hyblygrwydd o'r fath alluogi rhai aelodau o staff i gydbwyso galwadau yn y cartref ac yn y gwaith helpu i leihau absenoldeb (gweler yn ystyriol o deuluoedd).


Ni fydd parhau i ymgymryd â gwaith o bell yn ystod cyfnod o absenoldeb o dan dystysgrif feddygol yn helpu gwellhad yr unigolyn sâl a gall beri dryswch i'r staff sy'n gweithio ar y sail nad yw'r unigolyn hwn yn y gwaith. Hyd yn oed yn ystod absenoldebau byr gallai'r anallu i dorri cysylltiad â'r gwaith atal y broses wella ac ymestyn yr absenoldeb. Nid yw'r penderfyniadau a wneir gennych pan fyddwch yn sâl neu'n cymryd meddyginiaeth ymhlith y penderfyniadau gorau.


Y ffordd orau o ddelio â'r ymdeimlad hwn o 'golli cysylltiad' sy'n aml yn codi yn ystod cyfnodau hir o absenoldeb yw drwy gadw cysylltiad personol, ac mae'n arfer da, pan fydd yr unigolyn yn cael tystysgrif feddygol, i ailgyfeirio e-bost gwaith y cyflogai at rywun arall er mwyn sicrhau parhad y broses gyfathrebu ac osgoi creu ôl-groniad o waith.


Dylid datgan yr egwyddor hon yn glir fel bod staff yn ymwybodol, os byddant yn absennol o'r gwaith, bod eu cyfrif e-bost cyfan yn debygol o gael ei ddarllen gan eraill yn y sefydliad.

   

Dychwelyd I frig y dudalen

Trafodaeth dychwelyd i'r gwaith
Dyma'r dull mwyaf grymus o reoli presenoldeb, ac eto, yn ôl y dystiolaeth ni chaiff ei gynnal mewn modd cynhwysfawr mewn llawer o sefydliadau.

- Cynhaliodd Cyngor Sir Caerdydd arolwg o staff a rheolwyr ynghylch agweddau amrywiol ar reoli absenoldeb, a nodwyd bod
cyfweliadau 'dychwelyd i'r gwaith' yn nodwedd allweddol o'r polisi ac er i 93% o reolwyr nodi eu bod yn cynnal y cyfweliadau hyn, nododd llai na 60 y cant o staff eu bod wedi cael cyfweliad o'r fath - yn aml, roedd y cyfweliadau mor anffurfiol fel nad oedd cyflogeion yn eu cysylltu â'u habsenoldeb oherwydd salwch.

Awgryma arfer da y dylid cynllunio'r system gofnodi i sicrhau'r canynol:

  • dylai pob absenoldeb agor 'cyfrif' cyn gynted ag y mae'n digwydd;
  • dim ond drwy gwblhau ffurflen hunan-ardystio yn briodol y gellir cau cyfrif (a dylai hyn ddigwydd ar-lein yn ddelfrydol), a'i gydlofnodi gan y rheolwr llinell / arweinydd tîm. Dylai'r ffurflen gadarnhau:
    • bod trafodaeth dychwelyd i'r gwaith wedi'i chynnal;
    • bod y sawl sy'n cynnal y drafodaeth wedi cael Mynegai Bradford yr unigolyn, a/neu ei gofnod presenoldeb o'i flaen cyn i'r cyfweliad ddechrau;
    • bod y cyflogai unigol yn gwybod y gallai methiant i gwblhau'r broses olygu bod ei 'gyfrif' salwch yn parhau ar agor, a fydd yn dangos ei fod yn parhau i fod yn absennol pan fydd yn bresennol mewn gwirionedd;
    • bod nodiadau priodol wedi eu cadw. Dylai'r rhain gofnodi'r ffaith bod y drafodaeth wedi'i chynnal o leiaf, ond yn ddelfrydol dylai gofnodi unrhyw ffeithiau perthnasol a adolygwyd yn y drafodaeth (ond nid gwybodaeth sy'n sensitif yn feddygol.)

"Mae gan reolwyr yng ngwasanaeth yr heddlu ddyletswydd gofal tuag at eu staff, i gynnal safonau iechyd a ffitrwydd da i bawb, ac i ddarparu lefelau priodol o les a chymorth. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu, cyhyd ag y bo'n bosibl o ystyried anghenion plismona effeithiol, arferion gwaith priodol a phatrymau dyletswydd ac amgylchedd cefnogol i sicrhau bod staff yn dymuno dod i'r gwaith.

Un o'r ffyrdd symlaf a mwyaf pwerus o reoli absenoldeb yw sicrhau bod staff yn credu y rhoddir sylw i bob achos o absenoldeb ac y caiff ei gofnodi ac y bydd eu goruchwyliwr yn siarad â hwy pan ddychwelant. Dylid ystyried cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith felly yn rhywbeth gorfodol ac yn gyfrifoldeb personol pob rheolwr llinell. Ni ddylai pobl eraill fel swyddogion Personél neu glercod dyletswyddau eu cynnal."
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Yn ymarferol, bydd staff yn dychwelyd i'r gwaith ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, ac yn ymddangos ar adegau lle na allai fod yn gyfleus i'r Rheolwr Llinell prysur roi o'i amser i edrych ar y data cefndirol angenrheidiol (patrymau presenoldeb) neu i baratoi trafodaeth, yn enwedig os nad yw'r data ar gael ar unwaith.

Mae'n arfer da i'r cyflogai sy'n absennol ffonio bob diwrnod y bydd yn absennol hyd nes y ceir tystysgrif feddygol. O ganlyniad, bydd gan y Rheolwr Llinell syniad pryd y bydd cyflogai yn dychwelyd i'r gwaith, naill ai o'r cyswllt dros y ffôn neu o wybodaeth ar y dystysgrif feddygol, ac felly dylai fod yn bosibl paratoi. Os na fu'n bosibl paratoi, mae'n bwysig pennu amser ar gyfer y drafodaeth yn hwyrach y diwrnod hwnnw, neu'r diwrnod nesaf, fel bod y drafodaeth yn un ystyrlon yn hytrach nag yn rhywbeth a gaiff ei ruthro fel mater o fiwrocratiaeth.

"Dylai'r fformat amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Nid yw'n ofynnol i unigolyn sydd wedi cael un diwrnod i ffwrdd ar ôl blwyddyn o ddim absenoldeb gael trafodaeth hir oni bai ei bod yn amlwg bod problem wirioneddol. Ar y pegwn arall, efallai y bydd angen i rywun sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb hir gael cymorth gofalus a sensitif i ddychwelyd i'r gweithlu, ac efallai y bydd angen rhoi trefniadau arbennig ar waith am gyfnod. Os bydd problemau lles neu feddygol, bydd angen hysbysu'r bobl briodol o'r rhain. Os bydd sgôr Bradford sy'n cynyddu yn achosi pryder, bydd angen tynnu sylw at hyn fel bod yr unigolyn yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa. Dylai heddluoedd roi dull cofnodi syml ar waith a sicrhau y caiff cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith eu monitro i sicrhau y cânt eu cynnal ar bob achlysur a'u cynnal yn briodol i'r amgylchiadau."
       Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

(Gweler hefyd: Hunan-ardystio ac absenoldeb mewn perthynas â straen)

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
Rhaid i gyflogai sy'n sâl ffonio cyn amser dechrau'r sifft dan sylw.
Ar ôl iddo ddychwelyd i'r gwaith, cyfrifoldeb y cyflogai yw cwblhau'r ffurflen a gweld y rheolwr ar gyfer y drafodaeth dychwelyd i'r gwaith ar y diwrnod cyntaf yn ôl yn y gwaith.

Dychwelyd I frig y dudalen

Trais
Gweler 'Trais'
Dychwelyd I frig y dudalen

Trais ac Ymddygiad Ymosodol
Mae'n ffaith ffisiolegol y bydd wynebu unrhyw fath o elyniaeth yn creu ymadwaith mewn pobl, gan fod gelyniaeth yn sbarduno ymatebion 'ymladd neu ffoi' sy'n codi'r pwysedd gwaed, y llif gwaed niwrol a'r adrenalin.


Er y gellir hyfforddi staff proffesiynol mewn technegau sy'n helpu i dawelu pobl a'u helpu hwythau i adfer rheolaeth dros sefyllfa, os oes rhaid delio ag ymddygiad ymosodol drwy'r amser, gall gynnwys ymosodedd dros y ffôn yn ogystal ag wyneb yn wyneb, greu symptomau gwirioneddol salwch yn fwy aml. Er enghraifft mae diffyg cwsg yn aml yn cael ei achosi gan unigolyn sy'n 'ailchwarae' digwyddiad gelyniaethus yn eu meddwl, mae poen bol yn symptom adweithiol cyffredin ac felly, os bydd yr achos yn parhau, mae'n debygol y bydd y symptomau yn ailgodi heb unrhyw sbardun penodol. (gweler Absenoldeb yn gysylltiedig â straen)


Mae dadansoddiad o lefelau absenoldeb yn ôl grwp galwedigaethol yn debygol o ddangos mai'r bobl sydd â swyddi â galwadau emosiynol mawr o ran darparu gwasanaethau i'r cyhoedd sydd fel arfer â'r lefelau uchaf o absenoldeb.
Mae hefyd yn drawiadol bod yr achosion mwyaf difrifol lle y mae cyrff cyhoeddus wedi cael eu herlyn am fethu â chyflawni eu dyletswydd gofal yn aml yn cynnwys galwedigaethau lle y ceir gelyniaeth sy'n digwydd dro ar ôl tro mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - cyfeiriwch at risg. Ni all yr awdurdod sy'n cyflogi gymryd yn ganiataol y bydd unrhyw un sy'n gwneud y swyddi hynny yn gorfod wynebu cam-drin o'r fath, a rhaid iddo gymryd camau i ddileu neu o leiaf i liniaru canlyniadau unrhyw risg o ymddygiad ymosodol.


Mae Safon Rheoli'r HSE ar straen yn y gweithle yn ddefnyddiol yn hyn o beth, yn enwedig os gellir ei weithredu drwy broses o ymgysylltu â staff.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi canllawiau ar y defnydd o 'Arwyddion Rhybuddio Treisgar' o fewn system gofnodi sefydliad. Gweler:

http://www.ico.gov.uk/

Dychwelyd I frig y dudalen

Trosiant staff
Ceir cysylltiad cadarn yn aml rhwng lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch a lefel uchel o drosiant staff. Grwpiau galwedigaethol neu adrannau â'r perfformiad gwaethaf sydd â throsiant uchel yn aml.

Mae'r cysylltiad hwn yn ychwanegu at Achos y Sefydliad Gwaith mai materion ynglyn â chynllun sylfaenol gwaith ('ei wneud yn ddiddorol') yw prif achos absenoldeb oherwydd salwch, ac awgryma y bydd dadansoddiad o'r rhesymau pam mae pobl yn gadael hefyd yn llywio dadansoddiad o achosion absenoldeb.

Mae'n arfer da felly i weithredu systemau arferol a fydd yn nodi rhesymau cyflogeion dros adael, e.e. drwy gwblhau 'Holiaduron Ymadael'. Dylai cyflogwyr ategu'r rheini â chyfweliadau manwl a gynhelir gan bobl annibynnol (e.e. yr adran Adnoddau Dynol) er mwyn asesu a oes problemau penodol y gellid eu goresgyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar absenoldeb a throsiant.

Gallai'r canfyddiad fod rheolwyr yn methu â delio'n effeithiol ag achosion cyson o gamddefnyddio'r system, neu'n methu â gwerthfawrogi'r rhai sy'n bresennol yn rheolaidd, gyfrannu at y trosiant uchel a byddai'n creu 'dirywiad graddol' yn yr ystyr mai'r bobl orau fydd y rhai a fydd yn gadael, a'r rhai â chofnodion presenoldeb gwael fydd yn aros.
Dychwelyd I frig y dudalen

Twyll
Mae rheolwyr weithiau'n cynhyrfu ac yn hawlio achos o dwyll os credant fod y cyflogai yn hawlio tâl salwch pan  fo'n iach i weithio mewn gwirionedd.


Dylid bod yn ofalus mewn achos o'r fath, gan ei bod yn gwbl ymarferol bod meddyg teulu wedi gwahardd yr unigolyn rhag mynd i'r gwaith, ond wedi ei annog i fyw bywyd arferol fel arall.

Mae salwch seicolegol a salwch sy'n ymwneud â straen yn aml yn cynnwys ymdrechion i barhau i arfer normalrwydd fel rhan o'r broses wella, ac mae'n debygol y bydd staff sy'n dioddef salwch o'r fath yn cael eu gweld gan eu cydweithwyr hwnt ac yma.


Mewn achosion o'r fath, mae'n bwysig bod y Rheolwr, yn ystod y broses reolaidd o gysylltu â'r cydweithiwr sy'n absennol, yn ceisio caniatâd i roi gwybod i gydweithwyr eraill y gallent weld yr unigolyn hwnt ac yma.


Fodd bynnag, ceir achosion lle y bydd pobl yn camddefnyddio tâl salwch yn llwyr, er enghraifft bydd y cyflogai yn ymgymryd â chyflogaeth â thâl yn rhywle arall.

Mae'r gofyniad i ddangos dull darbodus o reoli arian cyhoeddus yn golygu y dylid ymchwilio'n drylwyr i bob achos o'r fath a delio â hwy yn briodol, ond anaml iawn y mae'r rhain yn achosion syml. Mae bob amser yn ddoeth cynnwys yr adran Adnoddau Dynol,  sicrhau bod polisïau'r sefydliad yn gwahardd unigolion yn benodol rhag ymgymryd â chyflogaeth arall â thâl tra eu bod yn cael tâl salwch.



Ni ddylai diswyddo byth fod yn rhywbeth a wneir fel mater o drefn, mae rhwymedigaeth ar y cyflogwr, a phawb sy'n gweithio ar lefel rheoli, weithredu'n rhesymol, a dilyn y gweithdrefnau mewnol. Mae llawer o achosion sy'n dod gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn seiliedig ar fethiant rhywun sy'n gweithio ar ran y cyflogwr i ddilyn gweithdrefn briodol, felly hyd yn oed pan fyddant yn wynebu cyfres o amgylchiadau a allai fod yn 'syml', mae'n hanfodol glynu wrth y prosesau gofynnol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Tystysgrifau Meddygol

Dim ond Ymarferydd Meddygol Cofrestredig (h.y. Meddyg) a all lofnodi Med 3, sef 'Nodyn Salwch' y DU. Mae tensiwn bob amser rhwng cyflogwyr, sy'n credu y bydd rhai meddygon teulu yn llofnodi'n rhy gyflym, a'r meddygon teulu eu hunain, sy'n nodi mai eu swyddogaeth yw delio â'r rhai sy'n sâl ac nid cyflawni rôl oruchwyliol ar ran cyflogwyr. (cyf Norwich Union Healthcare, Adroddiad 'Health of the Workplace’, Mehefin 2006) Mae arfer da yn goresgyn y broses hon o 'roi bai' drwy sicrhau ymgysylltu rhwng y sefydliad sy'n cyflogi a'r meddyg teulu mewn perthynas â chymryd camau adeiladol i helpu'r cyflogeion sy'n sâl yn yr hirdymor i ddychwelyd i'r gwaith drwy ryw fath o gynllun adsefydlu y cytunwyd arno.

Ni ddylai bodolaeth tystysgrif feddygol olygu bod gweithdrefnau disgyblu neu allu yn cael eu gohirio: gweler
Diswyddo.

Dylid ceisio barn arbenigol hyddysg Swyddog Meddygol Iechyd Galwedigaethol lle y credir, drwy'r system cynhadledd achos, er enghraifft, y gallai dychweliad cynnar i'r gwaith fod yn ymarferol drwy ddyletswyddau a gyflwynir yn raddol neu ddyletswyddau ysgafn, hyd yn oed os yw'r meddyg teulu wedi llofnodi tystysgrif feddygol safonol, ond dylid nodi bod barn swyddogion Iechyd Galwedigaethol yn fwyaf defnyddiol pan ofynnir cwestiynau penodol yn y llythyr cyfeirio.

Dychwelyd I frig y dudalen

Uwch Reolwyr
 ‘Leadership is the key to a healthy workplace. Health promotion initiatives will only be effective under conducive managerial conditions, primarily those that stimulate employee job satisfaction.’
‘Creating a Healthy Workplace’ Faculty of Public Health Ionawr 2006

Mae llawer o sefydliadau yn defnyddio grwp addas o uwch reolwyr i oruchwylio'r broses o reoli presenoldeb megis  ‘Bwrdd Perfformiad’ o Gyngor Dinas Casnewydd, a ‘Grwp Rheoli Absenoldeb’ o Gyngor Dinas Caerdydd. Gall y grwpiau hyn astudio'r cynlluniau gweithredu a ddatblygir yn yr ardaloedd hynny sydd â'r cyfraddau presenoldeb gwaethaf, ‘delio â'r problemau mwyaf, a sicrhau bod ymrwymiad gwirioneddol i ddatblygu gweithlu iach.
Er mwyn meithrin perchenogaeth ymhlith rheolwyr llinell, mae'n arfer da mynd â'r mater y tu hwnt i'r adran Adnoddau Dynol, ac mae'n bwysig iawn craffu'n rheolaidd ar berfformiad yn gyffredinol ar y lefel uchaf.

Dychwelyd I frig y dudalen

Ymddeoliad yn gysylltiedig â salwch
Dyma'r opsiwn yn niffyg popeth arall i reoli absenoldeb ac un adeg roedd rhai sefydliadau yn gwneud defnydd llawer ehangach o'r dull hwn nag a wneir heddiw.

Yn 2002 dyfarnodd y Gwasanaeth Carchardai ymddeoliad oherwydd salwch i 285 o staff a diswyddodd 100 o staff o ganlyniad i 'aneffeithlonrwydd meddygol'.
Mae'r patrwm hwnnw wedi'i wrthdroi bellach.

Ffynhonnell: Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol 2004

Ni ellir 'negodi' ymddeoliad oherwydd salwch, mae'n seiliedig ar ddyfarniad meddygol, yn erbyn y meini prawf llym na all yr unigolyn gyflawni ei swydd na gwaith sy'n debyg i'w swydd yn barhaol, a gwneir y penderfyniad hwnnw yn unol â gweithdrefnau penodedig.

Mae'r cymhlethdod yn codi mewn achos unigol os bydd y broses o wneud penderfyniad ar y pensiwn yn araf neu wedi'i oedi ac yn y cyfamser bydd yr unigolyn yn mynd heibio i bwyntiau sbardun lle y dylid rhoi terfyn ar ei gyflogaeth oherwydd gallu, h.y. nid yw wedi gallu cyflawni ei waith yn gyson.


Mae'n arfer da i gynnal cynadleddau achos o bwynt llawer cynharach fel y gellir osgoi'r sefyllfa hon. Dylid cyflwyno'r cais am ddyfarnu ymddeoliad oherwydd salwch cyn gynted ag y mae'n amlwg mai achos 'anallu parhaol' yw hwn, ac nid dim ond pan fydd y tâl salwch yn dod i ben y dylid ei ystyried.

Mewn sawl sefydliad, mae diswyddo yn awtomatig ar ddiwedd cyfnod tâl salwch, hyd yn oed os oes yna gais am ymddeoliad oherydd salwch ar waith.

Dychwelyd I frig y dudalen

Ymgynghori

Dim ond drwy ymgynghori y gellir ystyried unrhyw newid arfaethedig i delerau contract (buddiannau neu rwymedigaethau). Mae hyn yn golygu y dylid sicrhau proses lawn ac agored o gyfnewid syniadau, lle y mae'n ofynnol i'r cyflogwr ystyried awgrymiadau a gyflwynir gan gynrychiolwyr cyflogeion. Os bydd y cyflogwr yn penderfynu parhau â'r newidiadau er gwaethaf y gwrthwynebiad, yna rhaid rhoi rhesymau teg dros y penderfyniad, ac os na chytunir ar y newid yn ffurfiol, bydd hawl gan y cyflogeion yr effeithir arnynt gael cyfnod o rybudd, yn ôl eu contractau, cyn y gweithredir y newid. Dylai unrhyw newidiadau cytundebol gael eu gwneud gan Adnoddau Dynol yn unig.

Os yw'r newid yn sylweddol, ac yn mynd i wraidd y gyflogaeth, dylid gweithredu'n ofalus a cheisio cyngor cyfreithiol penodol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Ymreolaeth
Mae amrywiadau sylweddol mewn lefelau absenoldeb rhwng galwedigaethau, a’r rhai sydd â’r ymreolaeth fwyaf sydd â’r lefelau isaf o absenoldeb.

Mae’r Sefydliad Gwaith yn awgrymu y byddai dylunio swyddi i wneud gwaith yn ddiddorol, adeiladu ymdeimlad o ymrwymiad ac ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith cyflogeion yn cyflawni mwy o leihad mewn absenoldeb nag unrhyw weithrediad arall.

Lle y mae’n anodd newid gwaith yn sylfaenol, gall gwella prosesau gweithio mewn tîm a chyfranogiad drwy ‘ansawdd cyflawn’ - cynlluniau gwella parhaus gychwyn annog cyflogeion i deimlo mwy o ddiddordeb yn eu gwaith ac o ganlyniad, lleihau absenoldeb.(Gweler Cynllun Prosiec).

Gall gynnwys staff mewn gweithio trwy Safon HSE ar osgoi straen , a/neu adolygu swyddi o ran straen cyhyrysgerbydol gyflawni’r budd uniongyrchol o leihau achosion o absenoldeb oherwydd salwch a’r budd anuniongyrchol o ran cyfathrebu dwy ffordd gwirioneddol i ddarganfod atebion adeiladol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Yn ystyriol o deuluoedd

Prin iawn yw'r sefydliadau yn y sector cyhoeddus y mae arnynt angen rhagor o bolisïau. Yr her allweddol yw sicrhau bod y rhai sydd yn bodoli yn cael eu cyfleu yn dda fel bod cryn ymwybyddiaeth o'r polisïau a ddarperir. Yn hanfodol, rhaid i  reolwyr llinell ddeall bod angen iddynt gynorthwyo eu staff i gymhwyso'r polisiau yn briodol. Er enghraifft, bydd y rhan fwyaf o staff swyddfa y mae angen iddynt ymweld â'r deintydd neu aros gartref i ddelio ag argyfwng gwasanaeth o ryw fath yn y cartref, yn trefnu bod hynny'n digwydd ar ddechrau neu ar ddiwedd y dydd a byddant yn addasu eu hamser dechrau/gorffen er mwyn gallu cyflawni hyn. Darperir y math hwn o hyblygrwydd yn gyffredinol o fewn dogfennau polisi ffurfiol ar y silff adnoddau dynol.
Fodd bynnag, os ydych yn casglu sbwriel a bydd y lori yn gadael y ganolfan am 0700 p'un a ydych yno neu beidio, efallai y byddech yn dewis delio â'ch argyfwng domestig drwy ffonio i mewn yn 'sâl'. Y realiti wrth gwrs yw bod y polisïau hynny yr un mor berthnasol i'r gweithredwyr â llaw ag y maent i'r staff swyddfa, y gwahaniaeth yw bod un grwp yn ymwybodol  o hyn, ond nid felly'r llall.
Mae rhai sefydliadau (e.e. Heddlu Gwent) yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r dulliau hyblyg hyn o dan y label 'Opsiynau amgen yn lle rhoi gwybod eich bod yn sâl.'

Dychwelyd I frig y dudalen

Ysmygu a ffordd o fyw
Mae pobl sy'n ysmygu yn fwy tebygol o fod yn absennol yn amlach neu am gyfnodau hwy o'u swydd, ac maent yn fwy tebygol o farw yn ystod eu gwasanaeth. Er y gallai'r bobl hynny ddadlau mai eu dewis hwy yw hyn, caiff y ddau ddigwyddiad effaith wrth gwrs ar y cyflogwr ac ar gydweithwyr/ffrindiau.
{*
http://www.gosmokefree.co.uk/whygosmokefree/ }

Mae pobl nad ydynt yn ysmygu yn gwrthwynebu fwy fwy i arferion megis caniatáu seibiannau estynedig neu seibiannau cyson i ysmygwyr.

Bydd ymrwymiad sefydliadol i Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod ffocws ar ddatblygu 'gweithlu iach'.

Mae'r daith tuag at roi'r gorau i ysmygu yn un wahanol i bob unigolyn, ond naill ai drwy'r ddyletswydd gofal i'r cyflogai, neu drwy bryder ynghylch y cydweithwyr yn y tîm nad ydynt yn ysmygu, neu drwy bryder ynghylch rheoli arian cyhoeddus yn briodol, dylai rheolwyr llinell annog y syniad o roi'r gorau i ysmygu i unrhyw aelod o'u tîm sy'n parhau i ysmygu. Dylid cyfeirio'n benodol ac yn adeiladol ato yn ystod unrhyw drafodaethau dychwelyd i'r gwaith, gan roi gwybodaeth gefnogol efallai am ffynonellau cymorth.

Gall llawer o agweddau ar ddewisiadau 'ffordd o fyw' gael effaith ar bresenoldeb, ac er bod gan unigolion wrth gwrs y rhyddid i ddewis faint o alcohol y maent yn ei yfed/faint o ymarfer corff a wnânt ai peidio/p'un ai ydynt yn poeni am eu pwysau. Ond os caiff y dewisiadau hynny effaith yn y pendraw ar lefelau presenoldeb ac ar allu'r unigolyn i gyflawni ei rwymedigaethau dan gontract a'i allu i ennill yn yr hirdymor, yna dylent fod yn destun pryder i'r cyflogwr sy'n gofalu am ei staff. Mae hyrwyddo lle o fudd cyffredinol amlwg i'r cyflogai a'r cyflogwr ac mae llawer o sefydliadau yn cynnig rhaglenni sgrinio i staff er enghraifft i leihau'r risg o glefyd coronaidd y galon.

Dychwelyd I frig y dudalen

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru