Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch >Costiau, Risgiau a Dolenni > Polisi Enghreifftiol: Hyrwyddo Presenoldeb a Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
Argraffu'r Dudalen
Polisi Enghreifftiol: Hyrwyddo Presenoldeb a Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
Model yw hwn a gynlluniwyd i ddangos ffurf a chynnwys. Mae ACAS yn cynnig arweiniad ar ddatblygu polisïau newydd a'u rhoi ar waith.
1. Rhagair:

Mae talu unrhyw gyflog i gyflogai nad yw wedi gweithio amdano yn fraint. Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyflogwr i wneud unrhyw daliadau ar ben tâl salwch statudol y wladwriaeth, ac mae gwneud hynny yn creu costau sylweddol. Os gellir cadw’r gost honno i'r isafswm, yna gall y sefydliad ddarparu gwasanaethau gwell a lleihau costau ychwanegol o dalu am staff cyflenwi hanfodol.
Mae'r angen i gynnal lefelau gwasanaeth yn ystod cyfnodau o absenoldeb yn anochel yn rhoi baich ychwanegol ar gydweithwyr ac aelodau eraill o'r tîm y mae ganddynt eu cyfrifoldebau eu hunain i'w cyflawni.

Cydnabyddir bod achosion lle nad yw aelodau o staff yn ddigon da i weithio, a diben y ddarpariaeth tâl salwch yw sicrhau nad yw achosion o absenoldeb o'r fath na ellir eu hosgoi yn achosi caledi diangen.
Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o achosion o absenoldeb staff yn gyfnodau o 'hunan-ardystio', lle mae'r unigolyn yn gwneud ei benderfyniad ei hun o ran p'un a yw'n bwriadu dod i'r gwaith ai peidio, a ph'un a yw'n bwriadu aros gartref am un diwrnod, neu ddau ddiwrnod.
Yn ystod y cyfnodau hirach o absenoldeb, ceir hefyd gyfnod lle caiff y dyddiad dychwelyd i'r gwaith penodol ei bennu â pheth disgresiwn.
Mae'r ffactorau dewisol hyn yn golygu bod gan bobl wahanol yn yr un grwp o weithwyr lefelau presenoldeb gwahanol.

Bwriad y Polisi hwn felly yw hyrwyddo presenoldeb da a rheoli absenoldeb oherwydd salwch fel y gwneir y penderfyniadau dewisol hynny er mwyn lleihau absenoldeb.
Gallai methu â chydymffurfio â gofynion y Polisi hwn arwain at ddiddymu tâl salwch.


2. Cyflwyno adroddiadau a Chofnodi:

Rhaid i unrhyw un na allant ddod i'r gwaith ar unrhyw ddiwrnod penodol pan ddisgwylir iddynt wneud hynny ffonio eu goruchwyliwr (rheolwr llinell) cyn 10.00am i ddweud pam, a sicrhau y caiff unrhyw ymrwymiadau gwaith hanfodol ar y diwrnod hwnnw eu gwneud gan rywun arall.
Os yw'r salwch yn cael effaith ddifrifol, yna mae'n dderbyniol i'r alwad hon gael ei gwneud ar ran y cyflogai gan rywun arall.
Rhaid i alwadau o'r fath gael eu gwneud bob diwrnod hyd nes cyhoeddir tystysgrif feddygol gan Feddyg, ac mae tystysgrif o'r fath yn ofynnol os yw'r absenoldeb yn parhau am fwy na saith diwrnod calendr (h.y. yn cynnwys penwythnosau neu ddiwrnodau eraill pan nad oedd disgwyl i'r cyflogai weithio).

Mae'n ofynnol i weithwyr sifft wneud yr alwad mwy na dwy awr cyn i'w sifft ddechrau, oni bai bod amgylchiadau penodol yn gwneud hyn yn amhosibl (e.e. trawiad ar y galon, damwain ffordd).

Ar ôl derbyn yr alwad, caiff y system rheoli absenoldeb ei hysgogi, a chaiff yr aelod o staff ei ystyried yn absennol hyd nes y daw'r system i ben drwy gwblhau'r broses dychwelyd i'r gwaith.
Cyfrifoldeb yr aelod unigol o staff yw sicrhau y caiff y camau dychwelyd i'r gwaith eu cwblhau, ar gyfer pob achos o absenoldeb.
Bydd y Rheolwr Llinell yn sicrhau y bydd cydweithiwr yn gallu cael gafael ar negeseuon e-bost gwaith yr unigolyn er mwyn sicrhau na chaiff negeseuon pwysig eu colli, ac er mwyn rhwystro deunydd newydd rhag cronni.

Rhaid i reolwyr llinell sicrhau eu bod yn cynnal cofnodion cynhwysfawr a chywir o bresenoldeb ac absenoldeb staff fel y gallant drafod manylion cofnodion unigol o'u cymharu ag eraill.

Bydd y sefydliad yn defnyddio Mynegai Bradford i fonitro patrymau absenoldeb.
Mae'r Mynegai yn nodi 'sgôr' cyffredinol yn seiliedig ar bob achos o absenoldeb dros y cyfnod o 12 mis blaenorol, drwy ddefnyddio'r fformiwla:

S x S x D

S yw nifer yr achosion o absenoldeb (cyfnodau), a D yw cyfanswm nifer y Dyddiau (gwaith) a gollwyd.
Felly bydd 'Cyfnodau' o absenoldeb o ddau ddiwrnod, tri diwrnod, un diwrnod a phum diwrnod, yn creu Sgôr o:

4 x 4 x 11 = 176

Fel arall,
Bydd dau achos o absenoldeb â chyfanswm o 120 o ddyddiau a gollwyd yn creu sgôr o 480.


3.   Dychwelyd i'r gwaith

Cyfrifoldeb y cyflogai sy'n dychwelyd yw gwneud apwyntiad i gyfarfod â'i reolwr llinell/goruchwyliwr/arweinydd tîm yn ystod ei diwrnod cyntaf yn ôl yn y gwaith er mwyn cwblhau Ffurflen Hunan-ardystio ac adolygu cofnod o bresenoldeb yr unigolyn, gan ddefnyddio sgôr Mynegai Bradford.

Mewn unrhyw achos lle mae’r sgôr yn fwy na 160, rhaid cyfeirio'r achos at Uwch Reolwr i'w adolygu.
Os yw'r sgôr yn fwy na 200, yna rhaid cynghori'r unigolyn dan sylw bod ei gofnod yn wael ac y caiff ei lefelau presenoldeb eu monitro drwy gydol y 12 mis nesaf, ac y disgwylir i'r sgôr ostwng.

Bydd rheolwyr yn adolygu pob achos lle y mae'r sgôr yn fwy na 200 a gallant ddewis rhoi'r Weithdrefn Gallu ar waith.


4.   Cadw mewn Cysylltiad

Drwy gydol unrhyw achos o absenoldeb o fwy nag wythnos, anogir rheolwyr i gadw mewn cysylltiad â'r aelod o staff sy'n absennol, dros y ffôn a thrwy ymweld â hwy gartref, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau yn y gwaith. Fel arfer cysylltir ag aelodau o staff sy'n absennol yn wythnosol o leiaf, a gellir rhannu'r ddyletswydd honno ymhlith uwch gydweithwyr priodol.


5.  Cynadleddau Achos

Mewn unrhyw achos unigol lle mae'r absenoldeb yn parhau am fwy na phedair wythnos, ceir Cynhadledd Achos (gan gynnwys yr Ymgynghorydd Adnoddau Dynol, gweithiwr proffesiynol ym maes Iechyd Galwedigaethol, ac os yw'n briodol, cynrychiolydd o'r Tîm Diogelwch.

Diben y Gynhadledd hon fydd adolygu amgylchiadau'r achos penodol, trafod unrhyw beth perthnasol a ddaeth i'r amlwg drwy gysylltu â'r unigolyn, adolygu cofnod presenoldeb yr unigolyn yn y gorffennol, cadw golwg am faterion sy'n gysylltiedig â gwaith, sicrhau nad yw gwaith y person yn 'cronni' wrth ei ddesg (yn arbennig negeseuon e-bost) a chymryd camau cadarnhaol i gynorthwyo'r broses adsefydlu.


6. Adsefydlu Llai Dwys

Yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos penodol, gellir trefnu weithiau i aelod o staff sy'n absennol ddychwelyd i'r gwaith yn gynt na'r arfer er mwyn ei gynorthwyo i ddychwelyd i lwyth gwaith llawn, drwy weithio'n rhan amser am ychydig o ddiwrnodau, neu drwy leihau ei ddyletswyddau ar gyfer yr wythnos gyntaf neu ddwy, neu drwy ddefnyddio dulliau byrdymor tebyg eraill.
Dylid annog unrhyw un sydd wedi bod yn absennol am fwy na phedair wythnos i ymweld â'r gweithle os gallant wneud hynny, i helpu i sicrhau nad ydynt yn colli cysylltiad.

Dylid nodi mai Meddyg Teulu'r unigolyn sy'n gyfrifol am ei ofal, ac os yw'r Meddyg Teulu wedi nodi ei fod yn iawn i ddychwelyd i'r gwaith, yna nid oes angen gwneud unrhyw drefniadau 'llai dwys'.
Lle mae'r Meddyg Teulu wedi nodi y dylai'r unigolyn fod yn addas i ddychwelyd mewn X o wythnosau, yna gall y sefydliad, drwy'r adran Iechyd Galwedigaethol, gysylltu â'r Feddygfa dan sylw i ofyn p'un a fyddai cyfnod byr llai dwys yn helpu'r unigolyn hwnnw i ddychwelyd i'r gwaith.
Os bydd Meddyg Teulu yn nodi na all unigolyn barhau i weithio yn ei swydd, ond y gallai gyflawni rhai dyletswyddau eraill, bydd y sefydliad yn archwilio'r posibilrwydd hwn, ond dim ond am gyfnodau penodol o hyd at dair wythnos y gellir eu hadnewyddu.


7. Cyflogaeth Arall

O ystyried hyblygrwydd yr opsiynau gweithio yn y polisi hwn, ni all aelodau o staff ymgymryd ag unrhyw fath o gyflogaeth arall (gan gynnwys hunangyflogaeth) tra'n absennol oherwydd salwch.


8.   Asesu Risg

Caiff y rhesymau dros absenoldeb ym mhob grwp galwedigaethol eu hadolygu yn flynyddol o leiaf i nodi unrhyw batrymau cylchol a allai adlewyrchu rhyw agwedd ar y gwaith ei hun.

Lle y caiff risgiau penodol i iechyd eu nodi, gwneir pob ymdrech i ddileu'r risg honno, neu os na ellir gwneud hynny, caiff camau eu cymryd i liniaru effeithiau'r risg, e.e. trwy gylchdroi staff, hyfforddiant sgiliau rhyngbersonol ac ati.


9.   Camau Gweithredu Cadarnhaol

Mae'r sefydliad hwn yn ymrwymedig i Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac wedi cyrraedd lefel (---), gyda chynlluniau gweithredu ar waith i ennill cydnabyddiaeth ar lefel uwch o fewn dwy flynedd.

Mae'r sefydliad hwn yn ymrwymedig i Safon yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o ran rheoli straen yn y gweithle, ac mae (UWCH SWYDDOG A ENWYD), ar y cyd â (grwp cynnwys staff/cydweithredol) yn gyfrifol am  gyrraedd y safon honno.


10.  Monitro ac Adolygu:

Cyflwynir adroddiad ar y lefelau absenoldeb cyffredinol, ar gyfer y sefydliad cyfan ac fesul adran a galwedigaeth, i'r (Bwrdd/Pwyllgor Craffu) yn chwarterol o leiaf. 
Bydd y Prif Weithredwr hefyd yn adolygu'r data hwnnw yn ogystal â chost trefniadau cyflenwi ac yn eu cymharu â sefydliadau eraill.
Caiff targedau ar gyfer gwella eu pennu ar gyfer y sefydliad cyfan yn ogystal ag unedau gweithredol, a chânt eu cynnwys yn y meini prawf rheoli perfformiad ar gyfer y (Cyfarwyddwr//) dan sylw.

Caiff effaith gyffredinol y polisi hwn, a darpariaethau penodol y manylion, eu hadolygu a'u hadnewyddu mewn tair blynedd.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru