Mae'r sefydliad yn cyflogi tua 6,500 o staff mewn 100 o leoliadau ledled y byd gyda'r rhan fwyaf ohonynt yng Nghaerdydd. Yn 2004, roedd y gyfradd gyfredol o absenoldeb yn 10 diwrnod a gollwyd fesul unigolyn y flwyddyn ar gyfartaledd.
|
|
Erbyn mis Ionawr 2007, mae hwn wedi gostwng i 6.5 diwrnod a gollwyd fesul unigolyn. Gyda 261 o ddyddiau fesul unigolyn y flwyddyn, mae hyn yn cyfateb i sicrhau cynnydd o 87 o gyflogeion llawn amser yn nifer y staff sydd ar gael. Drwy leihau goramser, lwfansau dros dro a chost staff asiantaeth dros dro yn uniongyrchol ceir buddiannau ychwanegol. Er bod y trawsnewidiad hwn yn seiliedig ar strategaeth gynhwysfawr i gyflawni newid mewn diwylliant cyfannol, yr elfen graidd yw datblygu rheolwyr hyderus sy'n barod i dderbyn eu cyfrifoldebau.
NODWEDDION ALLWEDDOL
- Ymunodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a benodwyd ym mis Ionawr 2004 â'r Tasglu Gweinidogol dros Iechyd, Diogelwch a Chynhyrchiant (Whitehall), o dan yr Arglwydd Hunt.
Cyhoeddwyd Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mai 2005
Creu'r Cysylltiadau Gorffennaf 2006
Adolygiad Pwyllgor Archwilio Llywodraeth Cynulliad Cymru, mis Hydref 2006 = pryderon mawr gan Randdeiliaid.
- Gwella'r broses o gasglu data a chyflwyno adroddiadau, gan ganolbwyntio ar lefelau Unigol/Adrannol/Sefydliadol, gyda thueddiadau ac adroddiadau pwrpasol. 'Rhaid i reolwyr llinell sicrhau y rhoddir gwybod am bob achos o absenoldeb oherwydd salwch ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, ac ar y diwrnod y dychwelir i'r gwaith'.
- Pwyslais ar gyfres o bolisïau 'hyblygrwydd' a lles cyflogeion, wedi'u cefnogi gan fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd corfforaethol, gan gynnwys Meddyg Iechyd Galwedigaethol.Ail-egluro rolau a chyfrifoldebau o fewn cyfres ddiwygiedig o bolisïau gydag ymrwymiad Ysgrifennydd Parhaol a Bwrdd Rheoli, yng nghyd-destun cyfres benodol o werthoedd craidd y sefydliad (o Greu'r Cysylltiadau).
- Cyfathrebu Mewnol
- Rôl yr adran Adnoddau Dynol a'r adran Iechyd Galwedigaethol yw cynorthwyo, rôl y rheolwr llinell yw rheoli:
‘Mae rheolwyr llinell yn gyfrifol am gynorthwyo staff i gyflawni presenoldeb boddhaol ac mae gofyn iddynt fonitro ac adolygu lefelau absenoldeb yn rheolaidd a chymryd camau priodol fel y bo angen.' Ailstrwythurwyd y tîm Adnoddau Dynol i roi cymorth proffesiynol ymroddedig ar lefel leol.
- ‘Lansiwyd rhaglen 'Rheolwr Hyderus' yn 2004:
'Mae gan reolwyr ddyletswydd gofal i bob aelod o staff yn y gwaith a dylent gynorthwyo eu staff pan fyddant i ffwrdd o'r gwaith. Dylai rheolwyr siarad â'u staff yn rheolaidd i fonitro llwythi gwaith cyfredol a morâl, a lleihau'r posibilrwydd o bryder a/neu bwysau yn y gwaith neu y tu allan i'r gwaith sy'n effeithio ar allu staff i gyflawni eu dyletswyddau. Cyfrifoldeb rheolwyr llinell yw rheoli presenoldeb cyflogeion ac felly mae rheolwyr llinell yn gyfrifol am: (10 pwynt i ddilyn)
- cynnal patrwm cyson o Gynadleddau Achos, gyda'r Ysgrifennydd Parhaol (yn chwarterol), y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (yn fisol) ac yn rheolaidd o fewn Cyfarwyddiaethau.
Yr Ysgrifennydd Parhaol i adolygu tueddiadau gyda phob Cyfarwyddwr 1:1.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Bernard.Galton@wales.gsi.gov.uk
|
|