Fel rhan o 'ddiwylliant' y sefydliad mae rheolwyr yn gyfrifol am absenoldeb, gyda'r adran Adnoddau Dynol yn pennu'r fframwaith trefniadol, gan ddarparu data rheolaidd a defnyddiol, a chymorth mewn achosion unigol.
'Ar un adeg, dim ond i Whitehall neu Gaerdydd y rhoddwyd gwybod am ddata absenoldeb, bellach mae Comanderiaid Sirol a Rheolwyr Goruchwylio am wybod am gofnod eu tîm.'
Mae'r Gwasanaeth Tân yn ymdopi â sawl mater o reoli newid ar raddfa fawr, gan gynnwys moderneiddio cyflog, a all fod yn gysylltiedig â lefelau uchel o absenoldeb weithiau, ond yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r lefelau absenoldeb yn agos iawn at eu lefel darged eu hunain sef saith sifft sy'n Gyfwerth ag Amser Llawn y pen a gollwyd y flwyddyn. Mae hynny'n rhoi'r Gwasanaeth hwn ymhlith y gorau yn y DU, ac yn cymharu'n dda â chyfran o dros 13 o sifftiau a gollwyd ar gyfartaledd 10 mlynedd yn ôl.
O ystyried galw corfforol penodol llawer o rolau'r gwasanaeth, mae ffitrwydd sefydliadol i ailafael yn eich dyletswyddau llawn yn gofyn am safon uwch na llawer o sefydliadau eraill, ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio system o gynadleddau achos sy'n sicrhau y cynigir cyfleoedd i adsefydlu drwy gyflawni dyletswyddau ysgafn lle y bo hynny'n bosibl. Un arwydd o lwyddiant yr agwedd hon yw pe bai'r holl sifftiau hynny a weithiwyd ar ddyletswyddau ysgafn wedi parhau'n absennol yn hytrach, byddai'r gyfradd absenoldeb a weithiwyd yn cynyddu i tua 8.6 sifft a gollwyd.
Arwydd arall o'r newid mewn diwylliant yw'r ffaith bod 75 y cant o'r bobl a ymddeolodd yn 1996 wedi gwneud hynny oherwydd salwch. Heddiw mae llai na 19 y cant o'r bobl sy'n ymddeol yn gwneud hynny oherwydd salwch.
Cysylltwch â:Kevin Jones
Pennaeth Adnoddau Dynol Corfforaethol
k.jones@mawwfire.gov.uk