Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch >Esiamplau o arfer da > Heddlu Gwent: Camau Gweithredu ar y cyd gan y Rheolwyr i wella presenoldeb
Argraffu'r Dudalen
Heddlu Gwent: Camau Gweithredu ar y cyd gan y Rheolwyr i wella presenoldeb
Dechreuodd y Prif Gwnstabl ei swydd yn 2004 a nododd gwella presenoldeb fel blaenoriaeth. Mae ganddo ef a'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, sy'n gyfrifol am faterion Adnoddau Dynol, brofiad blaenorol o reoli Adnoddau Dynol mewn Heddluoedd eraill.
Mae Heddlu Gwent yn cyflogi dros 1,500 o swyddogion heddlu, ac mae ganddynt dros 900 o Staff yr Heddlu (gan gynnwys llawer sy'n gweithio'n rhan amser).

Lluniwyd cynlluniau gweithredu rheoli presenoldeb cynhwysfawr ar gyfer y ddwy flynedd 2005/2006 a 2006/2007 â thargedau, amserlenni a chyfrifoldebau penodol, gan sicrhau ffocws integredig ar welliant ar draws yr heddlu ac o ganlyniad roedd nifer y dyddiau a gollwyd fesul swyddog yn 2005/2006 5.22 diwrnod yn llai (gwell) nag yn 2003/2004 ... gyda phob un o'r 1,510 o swyddogion wedi'i gontractio i weithio 227 o ddiwrnodau'r flwyddyn ar gyfartaledd, mae hyn yn gyfwerth ag ychydig yn llai na 35 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gweithio yng Ngwent drwy gydol y flwyddyn. (34.7)
Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd lleihad o 6.27 yn nifer y dyddiau a gollwyd y pen ymhlith staff yr heddlu, sy'n gynnydd mewn amser yn y gwaith sy'n gyfwerth â bron 25 o staff llawn amser. (24.8)

NODWEDDION ALLWEDDOL:

  1. Mae Presenoldeb yn fater i'r Arweinyddiaeth: Mae arweiniad clir o'r brig a chynnwys swyddogion yn weithredol wrth wraidd y llwyddiant hwn. Y modiwl cyntaf yn Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Graidd yr Heddlu oedd Rheoli Presenoldeb, a chynhaliwyd 32 o gyrsiau undydd mewnol ac aeth hyd at 12 o reolwyr llinell ar bob un ohonynt.
    Mae'r hyfforddiant parhaus a roddir i reolwyr llinell gan arbenigwyr Adnoddau Dynol wedi helpu i ddatrys achosion.
  2. Yn sgîl archwiliad cyflawn o'r set gyfan o bolisïau a gweithdrefnau, gan gynnwys ymgynghoriad helaeth â chynrychiolwyr staff, ac ymweliadau â Heddluoedd eraill, crëwyd 'Llawlyfr Rheoli Presenoldeb' sy'n cynnwys canllaw arfer da, ac 'Eich Canllaw i Salwch'. Mae'r ddau ar gael ar fewnrwyd yr Heddlu.
    Dosbarthwyd ‘Yr hyn y gallwch ddisgwyl iddo ddigwydd os byddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch' i bawb a chafodd y Canllaw i Reolwyr 'Beth i'w wneud os bydd rhywun yn rhoi gwybod ei fod yn sâl' ei ddosbarthu'n eang. 
  3. Rhoddwyd hyfforddiant i'r prif reolwyr llinell a enwebwyd yna rhoddwyd cyfle iddynt ddefnyddio system cofnodi presenoldeb ar-lein, gyda chysylltiadau ag 'arwyddion' i sbarduno camau penodol fel y'u diffinnir yn y rheoliadau, a'u galluogi i ddefnyddio system sgorio Bradford, gydag 192 yn destun 'pryder'.
    Adolygiad lefel uchel rheolaidd o ystadegau presenoldeb.
  4. Trefnwyd cynadleddau achos gan weithwyr Iechyd Galwedigaethol mewnol er mwyn adolygu achosion penodol gan gynnwys achosion yn ymwneud â dyletswyddau i wella, gydag opsiwn llwybr carlam i Gynghorydd Meddygol yr Heddlu.
  5. Rhwydwaith o 'Gynghorwyr Cyfrinachol' hyfforddedig i gynnig cymorth i gydweithwyr. 

Cysylltwch â: Robert Parker, Pennaeth Adnoddau Dynol, Robert.Parker@gwent.pnn.police.uk

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru