Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch > Teclyn Proffil Sefydliad
Argraffu'r Dudalen
Teclyn Proffil Sefydliad
Cliciwch ar y botwm sy’n cyfateb i’r naratif sy’n disgrifio’ch sefydliad chi orau yn yr adrannau sy’n dilyn. Wedi ei gwblhau, bydd “Proffil Risg” yn cael ei greu yn awtomatig.
1. Polisi
Lefel a

Mae'r sefydliad wedi cyflawni Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru o leiaf i lefel Arian er mwyn dangos ymrwymiad i 'Weithlu Iach'.
Gall y sefydliad ddangos ei fod yn cymryd camau gweithredu sy'n gyson â Safon Straen yr HSE.

Mae polisïau a gweithdrefnau absenoldeb oherwydd salwch, presenoldeb a gallu wedi'u hadolygu a'u diweddaru ers 2004.
Mae gweithdrefnau cwyno a disgyblu yn dilyn modelau ACAS ac maent yn cyd-fynd â pholisïau presenoldeb a gallu.


Lefel a

Mae'r sefydliad yn ymrwymedig i gyflawni Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n datblygu cynlluniau gweithredu mewn perthynas â Safon Straen yr HSE.
Mae gweithgorau ar waith i fynd i'r afael ag achosion o drais ac ymddygiad ymosodol.
Mae Polisi 'Presenoldeb' yn bodoli, ac mae'n cynnwys canllawiau 'Sut i wneud' er mwyn sicrhau y caiff ei gymhwyso'n gyson.


Lefel c

Mae Gweithdrefn Gallu yn bodoli, ac
mae Polisi Tâl Salwch yn cwmpasu chwe mis cyflog llawn a chwe mis hanner cyflog, ac
mae'r ddau bolisi wedi'u hadolygu ers 2000.

Lefel ch

Rhoddwyd polisïau a gweithdrefnau ar waith yn ystod y ganrif ddiwethaf ac maent yn adlewyrchu cytundebau cenedlaethol hirsefydlog gan amlaf.

2. Systemig
Lefel a

Rhoddir gwybod am bob achos o absenoldeb a chaiff ei gofnodi'n uniongyrchol ar system electronig a gall rheolwyr llinell weld y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein. Mae'r system yn cynhyrchu cofnodion wedi'u diweddaru (cyfredol) y gellir eu cyflwyno yn ôl adrannau/gweithgorau, yn ôl diwrnod o'r wythnos a chyda chymariaethau hanesyddol.
Mae systemau penodol i sicrhau bod aelodau o staff ar gael i gyflenwi swyddi uwch staff allweddol yn ystod cyfnod o absenoldeb hirdymor.


Lefel b

Caiff cofnodion a phatrymau presenoldeb unigol eu cymharu gan ddefnyddio mynegai Bradford neu safonau diffiniedig eraill er cysondeb. Mae rheolwyr llinell yn defnyddio data i nodi achosion cyffredin absenoldeb yn eu meysydd.
Caiff Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol eu rhedeg ar sail Dangosyddion Perfformiad Allweddol diffiniedig a adolygwyd yn ddiweddar.


Lefel c

Delir data absenoldeb yn ganolog a bydd rheolwyr llinell yn cymryd camau gweithredu yn sgîl e-bost/galwad ffôn/llythyr gan dîm canolog.
Rhoddir data ar dueddiadau i uwch reolwyr yn rheolaidd yn ynglyn â'u meysydd cyfrifoldeb.
Mae'r Archwiliad Mewnol yn fodlon bod dros 95 y cant o absenoldeb yn cael ei gofnodi'n briodol.


Lefel ch

Mae data absenoldeb yn deillio fel isgynnyrch o system y gyflogres ac felly nid yw byth yn gyfredol ac mae'n debygol o fod yn anghyflawn oherwydd dibyniaeth ar systemau cofnodi sy'n dibynnu ar reolwyr i gofio cwblhau'r cofnod.
Dim ond pan wneir cais amdanynt y caiff adroddiadau eu cynhyrchu ar gyfer uwch reolwyr.

3i. Gweithredol - Rheolaethol
Lefel a

Caiff targedau lefel presenoldeb eu cynnwys ym mhob un o adolygiadau perfformiad personol uwch reolwyr.
Defnyddir cynlluniau prosiect i gynnwys staff yn y gwaith o wella gwasanaethau yn barhaus mewn meysydd lle ceir cryn absenoldeb.


Lefel c

Caiff gallu rheolwyr llinell o ran ymdrin ag agweddau gweithredol ar bresenoldeb ei gynnwys yn eu hadolygiadau personol, ac mae nifer sylweddol o reolwyr wedi cael eu hyfforddi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar sut i ymdrin ag agweddau amrywiol ar reoli absenoldeb drwy gyfrwng y canllawiau 'Sut i wneud'.


Lefel c

Mae gwybodaeth am lefelau absenoldeb/presenoldeb o flwyddyn i flwyddyn a rhwng adrannau ar gael i uwch reolwyr i nodi meysydd sy'n peri pryder.


Lefel ch

Ni roddir adroddiadau rheolaidd ar absenoldeb i'r Prif Weithredwr, uwch reolwyr na rheolwyr llinell.

3ii. Gweithredol - Arweinydd tîm/cyflogai
Lefel a

Mae arweinwyr tîm yn ymwybodol o brif achosion absenoldeb yn eu grwp(iau) o weithwyr ac maent yn mynd ati i liniaru'r rhain gyda chymorth proffesiynol gan adrannau Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol.


Lefel b

Mae arweinwyr tîm yn cynnal cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith heb anogaeth gan y tîm (/system) canolog.
Cynhelir cynadleddau achos sy'n cwmpasu pob achos o absenoldeb sy'n para dros bedair wythnos ac unrhyw achosion sy'n nodi straen.
Defnyddir y Weithdrefn Gallu ar lefel sy'n cynrychioli un y cant o nifer y gweithwyr bob blwyddyn.


Lefel c

Mae staff yn ffonio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb ac mae arweinwyr tîm yn cael y wybodaeth hon o fewn awr.
Cynhelir trafodaethau dychwelyd i'r gwaith sy'n cwmpasu dros 90 y cant o absenoldebau.


Lefel ch

Ni wyddys pa gyfran o absenoldebau a gwmpesir gan drafodaethau dychwelyd i'r gwaith.
Dim ond ar gyfer nifer fach o achosion eithriadol y cynhelir cynadleddau achos.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru