Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da > Seminarau Dysgu a Rennir
Argraffu'r Dudalen
Seminarau Dysgu a Rennir
Yn ystod 2006/2007 cynhaliwyd gwaith ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ystyried y cynnydd a wneir i weithredu'r agenda a bennwyd yn Creu'r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru.
 
Ym mis Hydref 2007 cyflwynwyd adborth gennym ar y canfyddiadau i 130 o Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn chwe seminar ledled Cymru.  Roedd y seminarau yn gyfle i drafod yr atebion i rai o'r rhwystrau a nodwyd, gan annog rhannu gwybodaeth a phrofiadau er mwyn osgoi dyblygu ymdrech.

Mae canlyniad pob seminar yn rhoi crynodeb o'r sylwadau, yr arsylwadau a'r dysgu a rennir a nodwyd gan y cynadleddwyr, ochr yn ochr â'r negeseuon allweddol.

Mae'r tudalennau hyn yn cysylltu â chanlyniadau manwl pob seminar yn cynnwys cyflwyno canfyddiadau allweddol, y cynadleddwyr a oedd yn bresennol a dolenni i astudiaethau achos dysgu a rennir, yn cynnwys yr enghreifftiau gan y siaradwyr gwadd.
 
Dros y mis nesaf bydd Swyddfa Archwilio yn trosglwyddo'r negeseuon allweddol i fformat sy'n crynhoi canlyniadau'r seminarau, a chanfyddiadau ein gwaith ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ein nod yw cyflwyno hyn mewn fformat hygyrch ar y we.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y seminarau a'u canlyniadau, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru