Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Seminarau Dysgu a Rennir > Abercynon
Argraffu'r Dudalen
Abercynon
  • Y seminar yng Nghanolfan Arloesi'r Cymoedd, Abercynon, oedd y bedwaredd o'r chwe seminar a gynhaliwyd ledled Cymru gydag 17 o arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r manylion ar gael yma.
  • Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Gweithredu Anthony Snow yma.
  • Rhannodd Chrissie Hayes, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Caerffili, fanylion sut y maent yn mynd i'r afael â heriau Creu'r Cysylltiadau. Roedd hyn yn cynnwys nifer o enghreifftiau megis datblygu Canolfan Adnoddau Gofal Cymdeithasol ar y cyd mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth GIG a'r Awdurdod Lleol, a'r trefniadau datblygu'r gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Awdurdodau Lleol. Mae'r enghreifftiau hyn yn cael eu datblygu yn astudiaethau achos ar gyfer y fforwm dysgu a rennir ar hyn o bryd.

 Negeseuon allweddol gan gynadleddwyr Abercynon:

  • Mae sefydliadau'n wynebu nifer o'r un materion, ond yn siarad iaith wahanol. Peidiwch â bod ofn dweud 'Nid wyf yn deall’.
  • Nododd cynadleddwyr bod yr angen am systemau a phrotocolau mwy effeithiol, sy'n ategu rhannu gwybodaeth, yn hanfodol i lawer o weithio mewn partneriaeth.
  • Mae cydfenter rhwng Iechyd a Llywodraeth Leol yn datblygu gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â sylfaen cyffredin, a bydd yn sail i weithlu cydgysylltiedig ar gyfer y dyfodol.
  • Nododd cynadleddwyr y dylai ymgynghori â dinasyddion o ran sut y dylid ymgynghori â hwy helpu i leihau gorgyffwrdd a lleihau'r baich ymgynghori arnynt.

Ceir crynodeb o allbynnau'r seminar yma. Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan y cynadleddwyr eu hystyried ynghyd â chanlyniadau'r seminarau eraill dros y misoedd i ddod.

Os hoffech wneud sylwadau am y negeseuon allweddol, gwneud sylwadau mwy cyffredinol neu egluro pwynt penodol, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru