Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Y Gyfnewidfa Arfer Da > Seminarau Dysgu a Rennir > Caerfyrddin
Argraffu'r Dudalen
Caerfyrddin
Mid & West Fire Service Headquarters, Carmarthen -  15 October
  • Seminar Caerfyrddin a gynhaliwyd ym mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru oedd y drydedd seminar o blith chwe seminar gyda 23 o arweinwyr o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru yn bresennol, mae'r manylion ar gael yma
  • Mae crynodeb o ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Gweithredu Anthony Snow ar gael yma.
  • Bu Mark Lewis, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Penfro yn trafod sut y mae diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer wedi cael ei ddatblygu a'i ymgorffori yng ngwasanaethau hamdden y Cyngor, Hamdden Sir Benfro. Datblygwyd crynodeb o'r dull hwn o weithredu fel astudiaeth achos ac mae ar gael drwy'r fforwm dysgu a rennir.

     Negeseuon allweddol gan gynadleddwyr Caerfyrddin:
    • Roedd cynadleddwyr o'r farn bod targedau a therfynau amser a osodir yn ganolog yn aml yn rhwystro cydweithio ar lefel leol. Mae angen mecanwaith i'r neges hon gael ei chyfleu i'r Cynulliad.
    • Mae angen cydnabod y gallai gweithredoedd un sefydliad sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol a gwell lefel o wasanaeth i nifer o sefydliadau. Sut y gellir cydnabod, mesur a hyrwyddo'r ymagwedd hon?
    • Mae llawer o fanteision ynghlwm wrth waith traws-sefydliadol. Mae'r hyn a ddysgir yn codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o'r amgylchedd a'r materion sy'n dylanwadu ar sefydliadau eraill.  Mae hefyd yn rhoi atebion ac opsiynau creadigol i'r cyhoedd

    • Ceir crynodeb o allbynnau'r seminar yma. Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan y cynadleddwyr eu hystyried ynghyd â chanlyniadau'r seminarau eraill dros y misoedd i ddod.

    Swyddfa Archwilio Cymru
    24 Heol y Gadeirlan
    Caerdydd
    CF11 9LJ

    Ffôn: 029 2032 0500
    Ffacs: 029 2032 0600
    Ebost: info@wao.gov.uk

    © Archwilydd Cyffredinol Cymru