- Y seminar ar Faes Sioe Llanelwedd oedd yr ail o'r chwe seminar a gynhaliwyd ledled Cymru ac roedd yn cynnwys 11 o arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r manylion ar gael yma.
- Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Gweithredu Anthony Snow yma.
- Rhannodd Mark Kerr, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, ei brofiadau o ddatblygu partneriaeth gan weithio gyda chyrff eraill ym Mhowys, trwy eu cynnwys yng nghyfarfodydd uwch dîm rheoli'r Cyngor. Roedd effaith y dull hwn o weithredu yn sylweddol o ran datblygu cydberthnasau cadarnhaol â'r Cyngor. Datblygwyd crynodeb o'r dull hwn o weithredu fel astudiaeth achos ac mae ar gael drwy'r fforwm dysgu a rennir.
|
Negeseuon allweddol gan gynadleddwyr Llanelwedd:
- Roedd y cynadleddwyr o'r farn bod angen i reoleiddwyr gydnabod nad oedd pob menter yn gweithio'n dda y tro cyntaf, a'i bod yn bwysig dysgu o'r profiad. Mae angen cymryd gofal wrth sôn am fentrau llai llwyddiannus i osgoi arafu cynnydd a momentwm.
- Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i lwyddiant holl themâu Creu'r Cysylltiadau.
- Roedd y cynadleddwyr o'r farn bod cael negeseuon clir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bwysig. Mae angen i'r Cynulliad sicrhau na cheir negeseuon croes gan adrannau gwahanol.
- Roedd y cynadleddwyr o'r farn nad oedd bob amser yn glir bod y Cynulliad yn cydnabod y pwysau ar sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau lleol. Roedd angen i'r Cynulliad gefnogi trefniadau presennol ac osgoi ychwanegu mwy o bethau i'w gwneud heb ystyried adnoddau.
|
Ceir crynodeb o allbynnau'r seminar yma. Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan y cynadleddwyr eu hystyried ynghyd ag allbynnau'r seminarau eraill dros y misoedd i ddod.
Os hoffech wneud sylwadau am y negeseuon allweddol, gwneud sylwadau mwy cyffredinol neu egluro pwynt penodol, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.
|