|
|
|
Amcan
|
 |
Amcanion y grant fydd y gweithgareddau a gefnogir a fydd yn cyflawni'r newidiadau y mae'r grant i fod i'w hachosi. Mae angen nodi'r amcanion pan gynllunnir y grant yn y lle cyntaf a dylai gyd-fynd ag amcanion strategol y cyllidwr ei hun. Mae hyn wedyn yn caniatáu i’r ffurflenni cais a gwerthusiad o’r bid gael eu hysgrifennu.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Amod
|
 |
Pan fydd yr archwilydd neu’r cyfrifydd annibynnol yn dod o hyd i wall mewn hawliad sy'n cael ei ardystio (nad yw'r derbyniwr yn cytuno ei gywiro), neu i ryw fater ble y mae ansicrwydd (e.e., ynghylch y swm sydd ynghlwm, amod y gwariant, neu agwedd ar gyflawni prosiect), bydd yr archwilydd yn nodi'r ffeithiau ochr yn ochr â'r casgliad. Bydd rhaid i’r corff talu grantiau wedyn ystyried amod yr archwilydd yn ofalus a phenderfynu ar sut i ymateb iddo.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Arbenigwyr Grantiau
|
 |
Gan fod llawer o grantiau’n gallu bod yn gymhleth iawn, efallai y bydd yr archwilwyr am ddefnyddio Arbenigwr Grantiau i ardystio cynlluniau penodol. Mae hyn yn galluogi'r archwilydd i ddatblygu gwybodaeth a phrofiad trylwyr o'r gofynion ar gyfer pob cynllun, yn enwedig ar yr hyn sy'n gymwys ac nad yw’n gymwys, ac o unrhyw systemau TG pwrpasol a ddefnyddir i weinyddu grantiau (e.e., Budd-daliadau Tai a Chyngor, data dysgwyr yn y man gwaith).
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Ardystio
|
 |
Cwblhau tystysgrif ar hawliad neu ddatganiad. Mae'n rhaid i'r hawliad neu ddatganiad bob amser gynnwys tystysgrif oddi wrth y derbyniwr - fel arfer bod y ffigurau yn gywir; i'r grant gael ei ddefnyddio at y pwrpas a ganiatawyd yn unig ac na chyflwynwyd unrhyw hawliad dwbl. Darperir enghraifft yma. Os yw’r hawliad neu’r datganiad hefyd yn gofyn am dystysgrif archwilydd (neu gyfrifydd annibynnol), yna mae'n arfer da cynnwys tystysgrif yr archwilydd hefyd - fel bod pob tystysgrif ar yr un ddogfen â’r ffigurau y maent yn ymdrin â hwy. Fodd bynnag, bydd hawliadau hir a thystysgrifau hir gan yr archwilydd yn golygu y bydd angen i archwilydd yr archwilydd fod ar bapur ar wahân y mae’n rhaid iddo ddod gyda’r hawliad neu’r datganiad. Rhoddir enghreifftiau o’r tystysgrifau a roddwyd gan archwilwyr sector cyhoeddus a sector preifat/gwirfoddol yma ac yma.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Arfarniad
|
 |
Asesiad a yw cais neu brosiect arfaethedig o werth, gan ystyried ei amcanion, y gwahanol opsiynau ar gael, eu costau a'u buddion a'r risgiau ac ansicrwydd. Mae’r asesiad hwn i'w wneud cyn rhoi penderfyniad i wneud cais am (neu ddyfarnu) grant gan ei fod yn helpu i sicrhau'r canlynol:
- mae’r prosiectau arfaethedig yn bodloni amcanion y grant;
- mae angen y grant mewn gwirionedd er mwyn i’r prosiect ddigwydd;
- cedwir at briodoldeb ariannol dros arian cyhoeddus;
- sicrheir datblygu cynaliadwy gwerth am arian;
- mae trefniadau rheoli priodol wedi’u sefydlu i gyflawni canlyniadau a monitro cynnydd.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Arian cyfatebol
|
 |
Mae llawer o grantiau, gan gynnwys y rhai o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, yn talu rhan o gostau’r prosiect llawn yn unig. Golyga hyn fod rhaid talu’r costau sy’n weddill o ffynhonnell arall, y ‘cronfeydd cyfatebol’, a thasg y derbyniwr fydd sicrhau'r rhain. Mae ffynonellau posibl o gronfeydd cyfatebol yn cynnwys:
- rhaglenni a grantiau eraill y Llywodraeth;
- grantiau gan awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill;
- cyfraniadau gan y sector gwirfoddol, gan gynnwys rhoddion gan elusennau ac ymddiriedolaethau;
- cyfraniadau gan y sector preifat;
- benthyciadau gan wahanol gyrff.
Gall arian cyfatebol gynnwys ‘cyfraniadau o fath arall’ yn ogystal ag arian – er enghraifft defnyddio staff cyflogedig ar y prosiect, gwirfoddolwyr, a swyddfeydd.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Broceriaeth
|
 |
Pan fydd corff talu'n cefnogi nifer o brosiectau cyfalaf cymhleth a all gymryd blynyddoedd lawer i'w gorffen, gall ddewis i weithredu fel 'brocer' rhwng y derbynwyr y mae arnynt angen yr arian yn gynnar ac eraill y bydd arnynt ei angen yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu ail broffilio arian rhwng derbynwyr dros sawl blwyddyn. Mae cyrff sy’n derbyn arian ychwanegol yn gynnar (a ariennir o’r grant fyddai fel arall yn daladwy i’r defnyddwyr arafach) ac wedyn yn rhoi heibio'r cyfan neu ran o'u dyfarniad mewn blynyddoedd diweddarach i alluogi'r corff talu i wneud taliadau 'dal i fyny' i'r defnyddwyr araf. Gan fod broceriaeth yn beryglus, dylid ei defnyddio mewn amgylchiadau anorchfygol yn unig ac nid ddylid ei defnyddio i wneud yn iawn am ddiffygion ym mhroses wreiddiol y dyfarniad.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cadw
|
 |
Gall cyrff talu grantiau ddewis diogelu eu sefyllfa drwy gadw yn ôl gyfran fechan o'r grant y byddai gan y derbyniwr hawl iddi fel arall. Wedyn rhyddheir yr arian a gadwyd yn ôl pan gwblheir y prosiect os yw popeth yn iawn, a phan fo angen tystysgrif archwilydd, pan dderbynnir y dystysgrif honno’n ddiamod.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Caffael
|
 |
Gall prynu fod yn opsiwn mwy addas na grant ar gyfer gwneud taliadau gwerth uchel i bwrpasau a ddiffiniwyd gan y corff talu ble y sefydlir ‘perthynas contract’ gyda derbyniwr yr arian. Yn aml bydd gweithdrefnau ffurfiol iawn i'w dilyn (fel caffael sawl dyfynbris neu dendr ysgrifenedig) a bydd rhaid rhoi sylw i Reoliadau Contractau'r Sector Cyhoeddus (SI 5/2006) os yw’r pryniant dros werth ‘trothwy’.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cais
|
 |
Mae angen i bobl sy'n ceisio grant wneud cais ffurfiol ar bapur i'r corff talu. Byddant yn cyflwyno eu manylion a'u gwybodaeth am eu prosiectau ar y Ffurflen Gais a gaiff ei hasesu gan y corff talu i gael ei chymeradwyo neu ei gwrthod. Darperir ffurflen gais enghreifftiol yma.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Canllawiau'r Cynllun
|
 |
Canllawiau a gyhoeddir gan gyrff talu grantiau o bryd i’w gilydd ar faterion o drefn megis paratoi bidiau, cynlluniau cyflawni prosiectau, gweithio mewn partneriaeth, arfarnu prosiectau a chymeradwyo gweinyddiaeth ariannol yn ymwneud â gweithrediad cynllun grant penodol.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Casgliad
|
 |
Mae gwaith archwilydd wrth ardystio grantiau'n wahanol i natur ei waith ar y cyfrifon, bydd archwilwyr yn rhoi ‘casgliad’ yn hytrach na ‘barn’ o ganlyniad i'w gwaith profi hawliadau a datganiadau. Mae casgliad yr archwilydd yn dibynnu ar lefel y sicrwydd a geisir gan y corff talu (gweler ‘Llythyr Ymgysylltu’) ond fel arfer mae’n ymwneud â’r archwilydd yn dweud a fodlonwyd y meini prawf cymhwyster a/neu a wariwyd yr arian grant ar gyfer y pwrpasau a gymeradwywyd.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cerrig milltir
|
 |
Nodir digwyddiadau allweddol, gyda dyddiadau, ar y cam cynllunio gan nodi cam clir o gynnydd tuag at y canlyniadau terfynol (‘targedau’.)
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cronfa ddata grantiau
|
 |
Defnyddir y gofrestr i reoli grantiau a ddyfarnwyd neu a dderbyniwyd. Dylai gofnodi:
- enwau’r cynlluniau neu brosiectau;
- dyddiad cychwyn a therfynol grantiau;
- enwau cyrff talu neu dderbyn;
- y Rheolwr Prosiect a’r Uwch Gyfrifyddion sy’n gyfrifol amdanynt;
- y diwrnodau priodol ar gyfer paratoi hawliadau;
- os oes angen ardystiad gan archwilydd, dyddiadau cau'r archwilydd;
- y dyddiadau ac y cyflwynwyd ac yr ardystiwyd hawliadau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cydlynydd Grantiau
|
 |
Pwynt cysylltu wedi’i ddynodi yng nghorff y derbyniwr ar gyfer cydlynu rhwng yr archwilydd a’r uwch gyfrifyddion/uwch reolwyr prosiectau os digwydd unrhyw anawsterau wrth wneud gwaith yr archwilydd neu unrhyw oedi wrth baratoi hawliadau. Dylai'r Cydlynydd Grantiau:
- gaffael manylion pob cynllun a hawlir gan y derbyniwr;
- cynnal y Gronfa Ddata o Grantiau;
- cynllunio pryd y paratoir ac yr ardystir hawliadau a datganiadau fel y byddant yn cwrdd â'u dyddiadau cau yn ôl eu trefn;
- rhannu gohebiaeth rhwng y derbyniwr a'r cyrff talu gyda'r archwilydd;
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cyfarwyddyd Ardystio
|
 |
Cyfarwyddyd i’r archwilydd yn ardystio hawliad grant neu ddatganiad terfynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Darperir enghraifft yma. Cytunir ar y cyfarwyddyd gyda’r corff talu grant cyn iddo gael ei gyhoeddi i'r archwilydd, fel arfer dyma’r archwilydd a benodir (neu a ddynodir) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r cyfarwyddyd yn cyflwyno rhaglen o brofion y bydd yr archwilydd yn eu perfformio ac mae’n esbonio telerau ac amodau ariannol allweddol y grant. Mae hefyd yn dweud wrth yr archwilydd pa ffurflen neu ddatganiad y dylid ei ddefnyddio a’r dyddiadau cau i'r corff sy'n eu derbyn a'r archwilydd gwblhau eu tystysgrifau priodol.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cyfyngiadau Cymorth Gwladwriaethol
|
 |
Diffinnir cymorth gwladwriaethol yn fras fel cymorth o unrhyw gronfeydd cyhoeddus sydd o bosibl yn ystumio cystadleuaeth a masnach yn yr Undeb Ewropeaidd trwy ffafrio un fenter fasnachol dros un arall. Nid oes unrhyw ddiffiniad swyddogol o gymorth gwladwriaethol, ond mae’n cynnwys grantiau gwladwriaethol uniongyrchol (er enghraifft, cymorth grant i ddenu buddsoddiad mewnol), esemptiadau treth, benthyciadau ar gyfraddau llog is, gwarantau neu indemniadau ar delerau ffafriol, gwerthu tir o dan bris y farchnad neu ddileu dyledion. Fel arfer darperir cymorth gwladwriaethol i fusnesau preifat ond gall hefyd gynnwys elusennau, cyrff gwirfoddol a chyrff sector cyhoeddus sy’n masnachu’n fasnachol.
Fel rheol gyffredinol, mae cymorth gwladwriaethol yn anghyfreithlon o dan Gyfraith Ewropeaidd oni bai iddo gael ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu canllawiau, fframweithiau ac esemptiadau bloc i egluro ei bolisi cymorth gwladwriaethol. Er enghraifft, mae wedi sefydlu rheolau penodol, gan gynnwys esemptiadau, ar gyfer meysydd fel ymchwil a datblygiad, amddiffyn yr amgylchedd a hyfforddiant.
Mae’r rheoliadau’n gymhleth ac mae’n rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn sicrhau bod y cymorth yn gyfreithlon. Mae derbynwyr cymorth anghyfreithlon mewn perygl o gael eu dal yn gyfrifol am gost unrhyw gosb a gymhwysir gan y Gymuned Ewropeaidd ac unrhyw weithredu ar gyfer difrod gan drydydd partïon.
Pan fydd rhaglen neu brosiect grant yn defnyddio gwariant cyhoeddus (gan gynnwys cronfeydd strwythurol y Gymuned Ewropeaidd) i ddarparu buddion i unrhyw fenter fasnachol, fel arfer bydd rhaid i'r cymorth a ddarperir gydymffurfio â rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd (er bod terfyn de-minimis nad oes angen i roi gwybod am y cymorth os yw'n is na'r terfyn).
Cyhoeddir canllawiau ar wefan Llywodraeth y DU, cliciwch yma.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cylch bidio
|
 |
Pan fo grantiau ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig a dim ond ychydig o’r prosiectau posibl sy’n fforddiadwy, gall cyrff talu ddewis gwahodd bidiau erbyn dyddiad penodedig a byddant yn eu harfarnu wedyn cyn penderfynu pa rai i'w cefnogi. Yn aml mabwysiedir y broses hon ar gyfer grantiau newydd iawn ble y mae'n bosibl y rhoddir cefnogaeth i ychydig o 'brosiectau peilot' er mwyn galluogi gwerthuso eu llwyddiant cyn i eraill ehangu'r cynllun. Mae defnyddio ‘cylchoedd ceisiadau’ yn helpu cyrff talu i reoli eu cyllidebau a’u llwythi gwaith gan ei fod yn paru dyfarniadau â'r cyllid gwirioneddol sydd ar gael ar ryw adeg.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Cymeradwyaeth
|
 |
Cytundeb ffurfiol gan berson sydd wedi’i awdurdodi i ryddhau'r grant cyfan neu ran ohono. Gellir rhoi cymeradwyaeth yn llawn neu – os oes unrhyw agweddau ar y cais y mae eu hailwampio neu eu hegluro – gellir ei rhoi 'mewn egwyddor’.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Dangosydd Perfformiad
|
 |
Dylid mesur cynnydd prosiect yn erbyn dangosyddion allweddol a gytunwyd sy'n Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol (‘CAMPUS’). Dylid monitro a mesur cynnydd yn erbyn y rhain.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Datblygu cynaliadwy
|
 |
Mae datblygu sy’n cwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau y dyfodol i gwrdd â’u hanghenion nhw. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd dull cytbwys ac integreiddiedig yn ein hymateb i anghenion a dyheadau amgylcheddol, economegol a chymdeithasol. Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd y cydbwysedd rhwng rhannau o’r byd sydd wedi datblygu a’r rhannau sy’n datblygu ar hyn o bryd.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Datganiad
|
 |
Gellir hawlio rhai benthyciadau ar amcangyfrifon (e.e, pan delir elusennau’n chwarterol o flaen llaw) ac mae’n bosibl na fydd angen i eraill drefnu i bob hawliad gael ei ardystio gan archwilydd neu gan gyfrifydd annibynnol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n arferol i drefnu i’r derbyniwr dderbyn datganiad ‘alldro’ yn dangos yr incwm a’r gwariant gwirioneddol a gafwyd (ar gyfer y flwyddyn, neu ar gyfer cyfnod cyfan y prosiect). Fel arfer bydd angen i hyn gael ei ardystio gan archwilydd neu gan gyfrifydd annibynnol.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Derbyn
|
 |
Dylai cyrff talu ei gwneud yn ofynnol bod derbynwyr yn derbyn yn ffurfiol llythyrau cynnig grant – gan gynnwys y telerau ac amodau – cyn i unrhyw gronfeydd gael eu rhyddhau. Mae hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o ansicrwydd ac anghydfodau yn y dyfodol ac yn galluogi dal y derbyniwr yn gyfrifol am ei ddefnydd ar gronfeydd a'i reolaeth ar brosiectau a ariennir drwy grantiau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Ffurflen Hawlio
|
 |
Y ffurflen a ddosberthir gan y corff sy’n talu i’r derbyniwr y mae’n rhaid ei defnyddio i hawlio grant. Cynhwysir enghraifft yma. Er y gellir gwneud grantiau bach, syml trwy daliad unigol, telir grantiau fel arfer mewn rhandaliadau naill ai’n gysylltiedig â’r calendr (yn fisol, yn chwarterol neu’n flynyddol) neu i’r cyfnodau allweddol mewn cynnydd prosiect. Telir y rhan fwyaf o grantiau fel ôl-daliadau - felly ad-delir y derbyniwr ar gyfer y costau gwirioneddol a achoswyd - gan mai’r egwyddor yw ni ddylid talu derbynwyr ‘o flaen yr angen’. Fodd bynnag, nid yw’n anarferol i elusennau a grwpiau cymunedol gael eu talu ‘yn chwarterol o flaen llaw’ i’w helpu gyda’u llif arian. Mae’n bwysig y gwneir hawliadau ar y sail gywir – mae’r sail ‘incwm a gwariant’ (croniadau) yn normal er y nodir y sail 'derbyniadau a thaliadau' weithiau yn nhelerau ac amodau'r grant. Mae’r sail ‘incwm a gwariant’ yn caniatáu hawliadau am nwyddau a gwasanaethau a dderbynnir erbyn diwedd cyfnod yr hawliad hyd yn oed os na thelir y cyflenwyr tan yn ddiweddarach. Dyma sail normal cyfrifeg. Ond, o dan y sail ‘derbyniadau a thaliadau’, gall derbynwyr hawlio am y taliadau a wnaed ganddynt hyd at ddiwedd y cyfnod hawlio yn unig.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Gwaith systemau
|
 |
Dylai archwilwyr integreiddio eu gwaith ar grantiau gyda chyfrifon y derbyniwr, i osgoi dyblygu ymdrech a lleihau costau. Mae lle i wneud hyn ar gyfer grantiau cyfalaf ac ar gyfer grantiau refeniw sy'n ddibynnol iawn ar systemau cyfrifo canolog (enghreifftiau ar gyfer llywodraeth leol fyddai hawliadau Budd-daliadau Tai a Chymorth Cynghorau a’r ffurflenni ar gyfer Cyfraddau Annomestig Cenedlaethol a chyfraniadau Pensiynau Athrawon.)
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Gweithdrefnau wedi’u diffinio
|
 |
Ar gyfer grantiau i dderbynwyr sector preifat/cymunedol, gall y corff talu gyflwyno rhestr o weithdrefnau a phrofion ar gyfer archwilydd y derbyniwr neu gyfrifydd annibynnol i'w perfformio (gweler ‘Llythyr Ymgysylltu’) wrth ardystio hawliadau a datganiadau. Mae hyn yn lleihau’r cyfle ar gyfer camddealltwriaeth ynglyn â gwaith archwilydd a'r sicrwydd a ddarperir ganddo.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Gwerth am Arian
|
 |
Dylai derbynwyr ddefnyddio arian grantiau yr un mor ofalus ag y defnyddient eu hadnoddau eu hunain. Dylent sicrhau y gwarir yr arian mewn ffordd sy’n lleihau’r costau (darbodusrwydd), yn mwyafu'r canlyniadau (effeithlonrwydd), ac yn sicrhau'r canlyniadau’n llawn (effeithiolrwydd). Un agwedd allweddol yw ‘ychwaneged’.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Gwerthusiad
|
 |
Mae hwn yn debyg i arfarniad. Ei brif bwrpas yw sicrhau y dysgir gwersi’n eang, y cânt eu cyfathrebu, a’u cymhwyso wrth arfarnu cynigion y dyfodol ar gyfer gweithgareddau. Mae gwerthuso’n gymwys i raglenni grantiau a phrosiectau unigol. Mae'n digwydd yn ystod neu ar ôl y rhaglen neu'r prosiect ac yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Fel arfer, y cyllidwr yn unig fydd yn gwerthuso rhaglen ond yn aml caiff prosiect ei werthuso gan y cyllidwr yn ogystal â chan dderbyniwr y grant.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Llithriad
|
 |
Cyfrifoldeb y derbyniwr yw cyflawni'r prosiect er mwyn bodloni cerrig milltir a thargedau mewn pryd. Fodd bynnag, gall oedi o ran cyflawni ddigwydd (oherwydd i anawsterau ddigwydd wrth recriwtio staff neu gyda gwaith adeiladu) a all hefyd olygu yr anfonir y grant hwnnw yn hwyrach na'r disgwyl ac, efallai, ni ddefnyddir ond rhan o'r swm a gynigir. Os yw’r prosiect a’r derbyniwr yn aros yn ‘fusnes byw’, gellir mynd i’r afael â’r materion hyn drwy roi estyniad i’r amser, trosglwyddiadau, yn cymeradwyo gweithgareddau eraill gan gynnwys bodloni amcanion polisi’r grant, ailbroffilio cronfeydd rhwng blynyddoedd ariannol, neu leihau’r cynnig grant. Os oes, fodd bynnag, amheuon difrifol am ymarferoldeb parhaus y prosiect neu'r derbyniwr, mae'n bosibl y bydd angen gohirio'r grant, dod ag ef i ben neu ei adennill.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Llythyr cynnig
|
 |
Llythyr gan y corff talu i’r derbyniwr sy’n cadarnhau bod y bid neu'r cais am grant (gan gynnwys unrhyw gynllun cyflawni) yn dderbyniol ac y dyfernir cyllid. Mae’r llythyr cynnig yn rhoi manylion llawn y grant, gan gynnwys:
- enw’r derbyniwr (ac unrhyw bartneriaeth ehangach a ariennir);
- y gweithgareddau cymwys a gymeradwywyd i gael eu hariannu;
- mathau ar wariant cymwys (ac unrhyw beth arall sy'n anghymwys);
- swm uchaf y grant y bydd gan y derbyniwr hawl iddo;
- natur y grant (cyfalaf, refeniw);
- cyfradd y gefnogaeth grant a chost uchaf cymwys y prosiect (os yw’r grant yn llai na 100 y cant);
- cyfnod y grant, yn dangos y dyddiadau cychwyn a gorffen a’r dyddiad olaf ar gyfer hawliadau;
- y canlyniadau i’w cyflawni, gan ddangos cerrig milltir a thargedau terfynol;
- y telerau ac amodau ac unrhyw ganllawiau eraill;
- ffurflen hawlio (ac unrhyw ddatganiad alldro).
Dylai’r llythyr gynnwys gofyniad bod y derbyniwr yn dychwelyd llythyr ‘derbyn’ ffurfiol cyfeirir hefyd at ‘lythyrau cynnig’ fel ‘cytundebau cyllid’.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Llythyr Ymgysylltu
|
 |
Pan fydd angen tystysgrif gan archwilydd neu gyfrifydd annibynnol ar gyfer grantiau i gyrff sector preifat neu gymunedol, mae’n ymarfer da i’r cyrff talu bennu telerau ac amodau ymgysylltiad (gan y derbyniwr). Mae hyn yn galluogi’r tri pharti i egluro eu disgwyliadau, cwmpas gwaith yr archwilydd a ffurf gytunedig casgliad ac adroddiad yr archwilydd. Os bydd corff talu’n rhoi llawer o grantiau tebyg, gall gyhoeddi ‘llythyr ymgysylltu safonol’. Darperir enghraifft o lythyr ymgysylltu tri pharti yma.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Prif ffrydio
|
 |
Diben prif ffrydio yw i'r derbyniwr grantiau wneud gweithgareddau a ariennir trwy grant yn rhan o'r hyn y mae'n ei wneud fel arfer yn y dyfodol. Gall gynnwys unrhyw un neu bob un o’r canlynol:
- ailddyrannu adnoddau cyfredol i dargedu nodau rhaglen grant;
- ail-lunio gwasanaethau i adlewyrchu anghenion penodol yn lleol;
- cydgysylltu gwasanaethau, yn enwedig drwy weithio rhyngadrannol a chyflawniad amlasiantaeth;
- dysgu ymarfer da o brosiectau peilot.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Protocol grantiau
|
 |
Gweithdrefnau ysgrifenedig a chyfrifoldebau perthnasol ar gyfer derbynwyr grantiau a’u harchwilydd. Mae’n darparu fframwaith iddynt o weinyddiaeth grantiau a rheoli hawliadau sydd angen ardystiad gan archwilydd. Darperir protocol enghreifftiol yma.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Rhaglen gyfalaf
|
 |
Rhestr y derbyniwr o wariant arfaethedig ar brosiectau buddsoddiad, megis ar gyfer gwaith adeiladu newydd a gwaith adnewyddu mawr, offer TG ac offer arall a cherbydau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Rheolwr Cyllido
|
 |
Unigolyn (neu Weithgor) y mae ei swyddogaethau'n cynnwys:
- rhoi mewnbwn i reolwyr yr holl dderbynwyr ar yr hyn sydd ei hangen gan y Strategaeth Cyllido Allanol, a sicrhau y cynhwysir buddion pawb;
- cynnal cronfa ddata o brosiectau cyfredol ac arfaethedig gan ddefnyddio cyllid allanol;
- cynnal cronfa ddata o ffynonellau cyllido y gellir eu defnyddio;
- rhoi hyfforddiant priodol i gydweithwyr sy’n gyfrifol am baratoi ceisiadau, am ddatblygu prosiectau ac am reoli/monitro prosiectau;
- darparu trosolwg strategol o godi arian yn allanol a chydlynu cynnydd i'w sicrhau;
- darparu mewnbwn i geisiadau drwy ddefnyddio ymarfer da, gwybodaeth bersonol ac effeithlonrwydd adnoddau i sicrhau bod y derbyniwr yn gwneud y gorau o bob cyfle a ddaw;
- cydlynu a chofnodi manylion pob cais am gyllid a monitro cynnydd;
- Monitro gweithredu’r prosiect ac effaith cronfeydd, gan sicrhau y cymhwysir strategaethau ymadael yn briodol.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Rhestr wirio ar gyfer paratoi hawliadau
|
 |
Rhestr wirio a ddefnyddir gan y derbyniwr fel cymorth cof wrth baratoi ac adolygu hawliadau cyn eu hardystio a’u cyflwyno. Rhoddir enghraifft yma. Mae'n helpu sicrhau y cefnogir hawliadau yn llawn a heb wallau sylfaenol ac yn meddwl y gall tystysgrif y derbyniwr ei hunan fod wedi’i seilio’n dda.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Sicrwydd
|
 |
Gwybodaeth berthnasol a dibynadwy ynghylch defnydd y derbyniwr o’r grant. Gall hyn ymdrin â’r symiau a hawlir ac a warir; beth a roddodd y grant; a sut y rheolodd y derbyniwr yr arian. Mae angen i gyrff sy’n talu grantiau benderfynu ar ba ddulliau o sicrwydd sydd fwyaf dibynadwy gan gofio gwerth y grantiau; hanes y derbynwyr; cost gwaith archwilwyr/cyfrifwyr a'r risgiau sydd ynghlwm. Mae ffynonellau sicrwydd yn cynnwys:
- tystysgrifau gan y derbyniwr (gan ei Reolwr Prosiect, ei Gyfarwyddwr Cyllid neu ei Uwch Swyddog Cyfrifo);
- cysylltiad cyson y corff talu â’r derbyniwr a monitro prosiect;
- defnydd y corff talu o’i hawliau mynediad i ddogfennau; i wybodaeth ac esboniad, ac i archwilio asedau neu gyflawniad gwasanaeth (cyflwynir yr hawliau mynediad hyn yn nhelerau ac amodau'r grant);
- defnydd o archwiliad mewnol (gan y corff talu neu’r derbyniwr);
- adolygiadau o adroddiadau cynnydd a dangosyddion perfformiad.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Strategaeth Cyllido Allanol
|
 |
Mae’r Strategaeth Cyllido Allanol yn dala pwrpas, cyfeiriad, cwmpas a dyfnder gweithgareddau cyllido’r derbyniwr. Gan y dylai hefyd ddisgrifio'r adnoddau, y protocolau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir i godi arian, hwn ddylai fod y pwynt cyfeirio pwysicaf oll ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried ceisio am grant - dylai pob cais am arian allanol eu hasesu er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol. Dylai’r strategaeth helpu swyddogion i wneud cais am gyllid mewn ffordd gyson a chydweithredol.
Yn enwedig, dylai:
- darparu cyfeiriad ac arweiniad ar gyfer y corff derbyn i gymhwyso grantiau ac arian allanol arall (e.e., nawdd preifat, mentrau gan y Llywodraeth a’r UE, loterïau, cronfeydd ymddiriedolaeth, cyfraniadau datblygwyr, derbyniadau cyfalaf) i brosiectau dros y tymor canolig;
- nodi materion allweddol (amcanion) y mae angen mynd i’r afael â hwy a’r methodau a ddefnyddir i’w hateb; a
- nodi gweithgareddau a chyfrifoldebau i sicrhau yr atebir y nodau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Strategaeth Ymadael
|
 |
Mae’r rhan fwyaf o grantiau’n rhedeg am gyfnod cyfyngedig yn unig. Dylai cyrff talu grantiau a derbynwyr ill dau ystyried beth fydd yn digwydd i sicrhau cynaliadwyedd y dyfodol a datblygu gweithgareddau a ariennir drwy grantiau pan fydd grantiau’n dirwyn i lawr ac yn dod i ben. Gall prosiectau aeddfed gynhyrchu incwm i ddod yn hunan-ariannol neu i fod yn gallu defnyddio grantiau eraill. Dylid cymryd i ystyriaeth hygrededd a chryfder y strategaeth ymadael pan gaiff prosiectau eu harfarnu yn y lle cyntaf. Gellir hefyd alw’r strategaeth yn ‘strategaeth flaen’ neu ‘strategaeth olyniaeth’ – gweler ‘trefniadau olyniaeth’ isod. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd angen nodi corff arall fel corff olynol neu fel corff sy’n gyfrifol am ymrwymiadau parhaus er enghraifft cadw dogfennau a stocrestrau asedau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Swyddfa Archwilio Cymru
|
 |
Ystyr Swyddfa Archwilio Cymru yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (Jeremy Colman) neu aelodau ei staff (Swyddfa Archwilio Cymru).
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Talu
|
 |
Fel arfer gwneir taliadau i gyrff ar sail y ffurflenni hawlio a gyflwynir gan dderbyniwr y grant. Fodd bynnag, fel arfer gwneir grantiau i unigolion yn llawn unwaith y derbynnir y cais gan y corff talu grantiau (er y bydd y telerau a'r amodau yn nodi amgylchiadau lle y gellir adennill rhan neu'r cwbl o'r grant).
Mae talu’r grant yn amodol ar gydymffurfio â’r telerau ac amodau ac ar wneud cynnydd boddhaol yn erbyn cerrig milltir tuag at amcanion a thargedau.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Targedau
|
 |
Canlyniadau cytunedig y prosiect (e.e. nifer y swyddi a grëwyd, neu nifer y bobl a hyfforddwyd yn cael swyddi) y mae’n rhaid i’r derbyniwr eu cyflawni fel y’u nodir yn y llythyr cynnig. Mae’n rhaid pennu targedau fel ‘maxima’ a ‘minima’ nid ‘minima’ yn unig. Unwaith eto dylent fod yn ‘CAMPUS' (gweler ‘dangosyddion perfformiad’).
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Telerau ac amodau
|
 |
Cyhoeddir y rhain gyda'r llythyr cynnig (neu wedi'u cynnwys ynddo), mae'r rhain yn nodi'r hyn y mae'r corff talu'n mynnu y bydd y derbyniwr yn ei wneud yn gyfnewid am gyllid. Mae’n rhaid i’r telerau ac amodau fod yn benodol i’r grant a roddir ac fe ddylai cyfreithiwr eu gwirio cyn eu rhoi. Fodd bynnag, mae enghreifftiau o’r materion y mae'r telerau a'r amodau'n ymdrin â hwy yn cynnwys:
- gofyniad am i’r derbyniwr gadw at y telerau a'r amodau;
- trefniadau rheoli, cyfrifo, bancio, cadw cofnodion a phartneriaeth;
- method ac amserlen taliadau grantiau a chyfrifo/bancio;
- defnydd y grant at y pwrpasau a gytunwyd arnynt yn unig;
- ychwaneged;
- mae angen cytundeb i newid cwmpas neu fanylion prosiect;
- buddiolwyr cymwys;
- unrhyw derfynau daearyddol neu eraill i weithgareddau;
- darpariaethau ar gyfer tanwario, trosglwyddiadau a llithriadau a rhoi unrhyw estyniad yn yr amser;
- gofynion arian cyfatebol a chymorth gwladwriaethol;
- trethi, e.e. Treth Ar Werth, treth stamp;
- trefniadau monitro trwy'r corff talu a chan y derbyniwr;
- cyflwyno adroddiadau cynnydd ffurfiol;
- pwyntiau adolygu cynnydd;
- gwerthuso;
- anwiredd, cuddiad, atal gwybodaeth;
Darpariaethau ar gyfer atal, terfynu ac adennill grant:
- yswiriannau;
- cyhoeddusrwydd;
- an-asiantaeth;
- amrywiaeth, cyfleoedd cyfartal, materion Cymraeg a materion iaith eraill, gwahaniaethu ar sail anabledd,
- materion amgylcheddol/datblygu cynaliadwy;
- hawlfraint a hawliau eiddo deallusol;
- asedau (caffaeliad, gwarchodaeth, newidiadau mewn defnydd, gwaredu);
- caffaeliad;
- trefniadau olynu;
- ardystio (gan gynnwys ardystio gan archwilwyr neu gyfrifon annibynnol).
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Trefniadau olyniaeth
|
 |
Mae cynllunio olyniaeth yn bwysig os yw prosiectau i barhau unwaith y daw'r grant i ben (gweler ‘strategaeth ymadael’) Dylai derbynwyr ystyried yr hyn y maent am ei gynnal; pwy ddylai ei wneud a sut. Mae perygl y collir staff allweddol allweddol ac y collir asedau gwerthfawr. Opsiynau y gellir eu hystyried yw trosglwyddo staff ac asedau i:
- yr awdurdod lleol;
- partneriaeth;
- elusen;
- cwmni buddsoddi mewn cymuned neu gwmni cyfyngedig drwy warant.
Mewn rhai achosion, bydd y corff talu grant yn gosod telerau ac amodau sy'n parhau i roi llais iddo yn y ffordd y defnyddir asedau neu y'u gwaredir; sut y cedwir cofnodion; a sut y dylid cymhwyso incwm y dyfodol neu sut y dylid ei rannu.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Trosglwyddiad
|
 |
Trosglwyddo'r cynnig grant o un gweithgaredd (neu fath o wariant) i un arall, gan roi hyblygrwydd i’r corff talu a’r derbyniwr i ddelio â gorwario ac â thanwario. Gan fod trosglwyddiadau’n newid y ffigurau a nodir yn y llythyr cynnig, fel arfer cânt eu cytuno'n ysgrifenedig gan y ddau barti er y gall y telerau ac amodau ganiatáu trosglwyddiadau bach (hyd at ryw 10 y cant o’r grant a roddir) i’w wneud gan y derbyniwr ‘fel hawl’ cyhyd ag y rhoddir gwybod am y newidiad i'r corff talu.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|
|
Ychwanegedd
|
 |
Er mwyn sicrhau gwerth am arian, dylai’r corff talu a'r derbyniwr fod yn glir ynglyn â'r pethau ychwanegol sy'n digwydd o ganlyniad i'r grant (e.e. gwasanaethau newydd neu wedi'u hehangu, mwy o fuddiolwyr cyfranogol, gwell mynediad i ehangu defnydd). Mae hyn yn golygu bod yn gallu gwybod ‘llinell sylfaen’ y sefyllfa ar ddechrau unrhyw ymyriad grant. Fel arfer mae dangos ychwanegedd yn ofyniad gorfodol ar gyfer prosiectau’n derbyn arian Ewropeaidd.
|
| Dychwelyd I frig y dudalen
|
|