Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Cyrff sy’n talu grantiau - Hedyn > Cyrff sy’n talu grantiau - Hedyn
Argraffu'r Dudalen
Cyrff sy’n talu grantiau - Hedyn

Hedyn

Egino

Bonion a gwreiddiau

Blodau

Peillio
Cyrff sy’n talu grantiau Cyrff sy’n derbyn grantiau Archwilwyr

Edrychwn ni ar yr hyn y mae’n rhaid i chi feddwl amdano pan fydd gennych syniad ar gyfer cynllun grant newydd.

Bydd cynllunio yn dda a chael pethau’n gywir o’r cychwyn cyntaf yn help mawr i sicrhau llwyddiant eich cynllun yn y pen draw. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud eich ymchwil, yn datblygu eich cynlluniau, yn nodi eich adnoddau ac yn targedu derbynwyr posibl. Byddwch yn elwa ar fod â chynllun sydd wedi’i ddiffinio’n dda, sy’n realistig ac yn glir pam y rhoddir yr arian. Mae rhuthro gyda chynllun newydd yn mentro ei lansio heb sylfaen gadarn - mae hwn yn aneffeithiol a gall fod yn gostus iawn o ran gwastraffu adnoddau, cyhoeddusrwydd negyddol, cydberthynas anodd a hyd yn oed methiant y cynllun ei hun. Yn achos cynllun sy’n rhedeg dros gyfnod hir, gellir cynllunio cynnal gwerthusiad dros dro i nodi unrhyw wersi y gellir eu dysgu er mwyn gwneud i'r cyfnodau diweddaraf redeg yn well.

Defnyddiwch y cwestiynau isod i’ch arwain. Cliciwch ar bob cwestiwn i weld ein hateb sy’n nodi:

  • y peth lleiaf y dylech chi ei wneud;
  • ynghyswllt rhai materion, y camau ychwanegol ar gyfer ymarfer da y gallwch eu hystyried;
  • y buddion y dylai ymarfer da eu hachosi.

 


Beth yw fy mhwrpas i gyda’ch grant a beth yw’r llwyddiant a ddymunir?

Yn gyntaf, gofynnwch i’ch hunan ‘Pam mae angen y grant?’ Mae hyn yn eich helpu i fod yn glir ynghylch nodau ac amcanion y cynllun. Ydych chi’n ‘siopa’ (prynu gwasanaeth), ‘yn rhoi’ (cefnogi achos teilwng), neu ‘yn buddsoddi’ (adeiladu capasiti mewn sector)?

Nodwch ar ffurf ysgrifenedig beth yw pwrpasau'r cynllun a'r hyn y mae'n bwriadu ei sicrhau. Er efallai y byddwch yn pryderu yn y lle cyntaf am sut i gyhoeddi’r llythyron cynnig a gwneud taliadau'n gyflym, mae'n bosibl y byddwch hefyd eisiau canolbwyntio ar yr hyn y dylai’r canlyniadau disgwyliedig fod gan fod hwn yn  hanfodol i lwyddiant eich buddsoddiad a sut y bydd eich cynllun yn cael effaith ar yr anghenion y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy.

Dylai eich canlyniadau disgwyliedig gefnogi nodau datblygu cynaliadwyedd y sector cyhoeddus yng Nghymru. Golyga hyn ddatblygiad sy’n bodloni anghenion y presennol heb gyfyngu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni'r eu hanghenion eu hunain. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd gytbwys ac integredig yn ein hymateb i anghenion a dyheadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydbwysedd rhwng rhannau datblygedig a datblygol y byd.  

Dylai’r strategaeth wneud hyn drwy wreiddio'r pum egwyddor arweiniol gydgysylltiol o fframwaith rhanedig y Deyrnas Unedig ar gyfer datblygiad cynaliadwy:

  • byw o fewn terfynau amgylcheddol;
  • sicrhau cymdeithas gref, iach a chyfiawn;
  • adeiladu economi cryf, sefydlog a chynaliadwy;
  • hyrwyddo trefn lywodraethu dda;
  • defnyddio gwyddoniaeth gadarn yn gall.

Byddai hyn yn cynnwys camau i hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol, i fynd i’r afael â materion cydraddoldeb ac i drin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Gwneud yn siwr bod angen clir am eich cynllun ac a yw cyrff eraill yn cynnig cronfeydd tebyg - os ydynt, mae'n bosibl y bydd gwaith yn gorgyffwrdd ac efallai y byddai'n bosibl cydweithredu gyda hwy a chydweithio gan ategu eich gilydd.

Bydd eglurder yn awr  yn eich helpu yn ddiweddarach, ar y cam ‘bidio a dyfarniad’ a byddwch yn nodi:

  • eich meini prawf dethol ar gyfer asesu bidiau a cheisiadau;
  • eich telerau ac amodau, y bydd angen iddynt fod yn gadarn ac yn ymarferol.

Dychwelyd I frig y dudalen


Sut byddaf i’n bodloni’r amcan polisi a pharatoi ar gyfer y gwerthusiad?

Dylai nodau eich cynllun newydd gyfateb i amcanion strategol a pholisi eich sefydliad. Meddyliwch am:

  • yr opsiynau posibl ar gyfer cyflawni gwasanaeth;
  • manteision, costau, risgiau ac anfanteision cymharol pob un ohonynt.

Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ar y dull gorau o wireddu eich amcan polisi.

Dychwelyd I frig y dudalen


Sut byddaf i'n cael ‘ychwaneged’?

Yn aml, byddwch am i’ch grant ddarparu rhywbeth newydd neu ychwanegol yn hytrach nag ariannu gweithgareddau sy’n bodoli’n unig – er bod ‘arian craidd’ yn bwysig iawn i gyrff sector cyhoeddus gan ei fod yn anodd iddynt ei gaffael.

Gwnewch ‘ychwaneged’ yn fater allweddol yn eich cyhoeddusrwydd cynnar (ac yn eich canllawiau diweddarach i’r cynllun ac yn eich llythyron cynnig). Gallwch weld pa weithgareddau ychwanegol neu wariant a achosir gan eich grantiau drwy ofyn cwestiynau priodol ar y ffurflenni cais.

Efallai yr hoffech i fidwyr gyflwyno cynlluniau gwario a chyflawni manwl i chi eu cymeradwyo hefyd - byddai'r rhain yn dangos eich sefyllfa bresennol (y ‘llinell sylfaen’) a’r lefelau newydd o weithgaredd. Ar ôl hynny, gall y llythyr cynnig bennu targedau perfformiad  y gellir eu monitro’n rheolaidd wedyn.

Fel ymarfer da ychwanegol, ystyriwch sut y gellir cysylltu eich grant â pherfformiad yn glir, drwy fecanwaith talu'n seiliedig ar y canlyniadau a gyflawnwyd. Mae gwobr ariannol am gyflawni’n dda.

Dychwelyd I frig y dudalen


Gaf i ddefnyddio cynllun grant presennol?

Gan fod pob cynllun grant yn golygu gweinyddiaeth, dylech weld a fyddai cynllun presennol (neu gyfuno, symleiddio ac integreiddio cynlluniau eraill) yn gallu bodloni eich amcanion. 

Gallai hyn adael i chi gynnig eich grantiau’n hawdd, yn gyflym a heb risg ormodol.

Dychwelyd I frig y dudalen


Gaf i ddysgu o gynlluniau presennol?

Dylech o leiaf ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennych o unrhyw grantiau eraill rydych yn eu rhedeg yn awr neu rydych wedi’u rhedeg o’r blaen.

Fel ymarfer da  ychwanegol, pam na welwch beth gallwch ei ddysgu oddi wrth gydweithwyr a chyllidwyr eraill hefyd? Gofynnwch am eu cyngor ac am unrhyw ganfyddiadau o ymgynghoriad, monitro ac ymarferion gwerthuso ar gynlluniau eraill.  Bydd eich archwilwyr mewnol yn ffynhonnell ddefnyddiol arall o wybodaeth a chyngor gan ei bod yn bosibl y byddant yn ymdrin â chynlluniau eraill fel rhan o'u rhaglen waith arferol.

Gan fod gwneud grantiau’n gallu bod yn fater peryglus a chymhleth, yn aml yn digwydd o dan bwysau o ran amser ac adnoddau staff, bydd unrhyw help y gellwch ei gael oddi wrth eraill yn atal camgymeriadau rhag cael eu hailadrodd yn ogystal ag yn arbed amser i chi.

Dychwelyd I frig y dudalen


A fyddaf i’n dibynnu ar arian cyfatebol?

Bydd gan eich grant fwy o ‘rym gwario’ (a gyfeirir ato weithiau fel ‘trosoli’) os bydd rhaid i dderbynwyr ddarparu rhagor o gyllid, naill ai o’u hadnoddau eu hunain, o bartneriaid prosiect, neu o gyllidwyr eraill. Gall yr ‘arian cyfatebol’ hyn fod ar ffurf arian parod neu mewn da – er enghraifft rhoddi amser staff, ymdrechion gwirfoddolwyr, a mynediad at adeiladau ac offer.

Fel arfer da ychwanegol, ymgynghorwch â chyllidwyr arfaethedig eraill i sicrhau y bydd yr amryw grantiau’n tryfalu ac yn gweithio mewn ffordd gyflenwol.

Bydd ceisio cadarnhad ffurfiol oddi wrth dderbynwyr a chyllidwyr eraill am y cyfansymiau y gallant eu rhoi ar gael ar gyfer prosiectau yn eich helpu i benderfynu ar werth y cyfanswm sydd ei angen i’ch cynllun. Gan weithio gyda chyllidwyr eraill drwy gydgyfrannu adnoddau, bydd monitro prosiectau’n hyrwyddo effeithiolrwydd ac yn arbed ymdrech i bawb.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi isafu cymhlethdod?

I’r graddau y mae’n bosibl , ceisiwch gyflawni’r egwyddorion ar gyfer rhoi grantiau da:

  • symlrwydd a chymesurdeb; 
  • cysondeb;
  • cydlynu clir ac effeithiol; 
  • tryloywder ac atebolrwydd.

Gwiriwch na fydd eich trefniadau arfaethedig yn rhoi unrhyw feichiau diangen neu anghymesur ar dderbynwyr.

Bydd mynd i’r afael â’r materion hyn i gyd yn eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw feirniadaethau, yn hyrwyddo defnydd o’ch cynllun ac yn helpu derbynwyr ffocysu ar gyflawni prosiectau heb gael eu hailgyfeirio gan fiwrocratiaeth.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi penderfynu beth sy’n gymwys ac yn anghymwys?

Bydd amcan polisi a bwriadau eich grant yn eich arwain o ran pa gostau y dylech eu hystyried yn gymwys ar gyfer cyllido. A yw eich grant ar gyfer ‘costau rhedeg’ (refeniw) yn unig, ‘buddsoddi mewn adeiladau neu offer’ (cyfalaf) neu ar gyfer y ddau fath o gost?  Ac ydych yn barod i gynnig ‘arian craidd’ i gwrdd â rhan o dreuliau sylfaenol a chyfredol y derbynwyr megis lle swyddfa a gweinyddiaeth ganolog?

Dylech hefyd feddwl am a hoffech ddiffinio unrhyw gostau yn gostau sy’n anghymwys yn benodol ar gyfer cyllido – gall y rhain fod yn ‘weithgareddau gwleidyddol’ costau nad ydynt yn rhai arian parod megis dibrisiad, treuliau refeniw pob dydd ar grant cyfalaf ar gyfer adeiladau neu offer, a chyllido costau megis llog. Pan ddaw at ‘weinyddiaeth a rheolaeth’ cyffredinol efallai yr hoffech gyfyngu hawliau i ganran fach (5-15 y cant) o gyfanswm y grant a roddir gennych.

Bydd eglurdeb ynglyn â chymhwyster yn ei gwneud yn haws o lawer i chi ddala derbynwyr yn gyfrifol a setlo hawliadau heb ddadlau. Bydd nodi beth yw costau annerbyniol yn helpu eich arian i fynd ymhellach trwy atal ei gamddefnyddio.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ddylwn i roi grant neu fenthyciad – neu brynu gwasanaethau’n uniongyrchol?

Mae grantiau, benthyciadau a chontractau i gyd yn ffyrdd o drefnu y caiff rhywbeth ei ddarparu. Mae angen i chi ddeall goblygiadau pob llwybr er mwyn bod yn gallu dewis yr un sy'n gywir i’ch amgylchiadau penodol. Cymerwch gyngor arbenigol ar Dreth Ar Werth gan fod rheolau gwahanol ar gyfer grantiau a chontractau.

Mae grantiau yn rhywfath o ‘anrhegion’ neu ‘roddion’ - er bod gennych hawl i osod telerau ac amodau rhesymol a all, os nad yw derbynwyr yn eu bodloni - arwain at hawlio'r grant (ac asedau a gafaelwyd drwy'r grant) yn ôl neu ei dynnu yn ôl. Mae’r opsiwn grant yn debygol os yw’r cyllid yn rhywfath o ‘roi’ neu ‘fuddsoddi’. Mae pethau eraill sy’n arwain at grant yn cynnwys:

  • nad oes gan y corff talu bwer i wneud y gwaith neu i gyflawni’r gwasanaethau;
  • caiff gwasanaethau eu darparu i ystod eang o dderbynwyr ac nid yn uniongyrchol i’r corff talu;
  • trydydd parti’n cynnig y prosiect yn y lle cyntaf ac yn cadw perchnogaeth ar y prosiect;
  • dim ond canran o’r cyllid a ddarperir gan y corff talu.

Mae prynu’n ymwneud â chontractio - pennu perthynas gyfreithlon rhwng y cyllidwr a’r derbyniwr sy’n darparu ar gyfer methodau cywiro megis iawndal a pherfformiad penodol, y gall Llys eu gorfodi. Mae’n debygol y defnyddir yr opsiwn caffael os yw'r cyllid i fod i dalu am ‘brynu’ rhywbeth penodol. Ymhlith y pethau eraill sy’n awgrymu caffaeliad y mae’r canlynol:

  • y mae gan y corff talu bwer i wneud y gwaith neu i gyflawni’r gwasanaethau ei hunan;
  • ar y cyfan mae'r canlyniadau er budd y corff talu ei hunan;
  • ceir dewis o blith darparwyr eraill.
  • mae’r corff talu’n ysgwyddo'r holl gost;
  • mae ar y corff talu angen disgresiwn llawn dros bennu’r gweithiau neu'r gwasanaethau a'r canlyniadau terfynol.


Byddwch yn ymwybodol y gall ‘Cytundeb Lefel Gwasanaeth’ ddod i fodolaeth yn y ddau opsiwn. Bydd p'un ai a yw Llys yn gallu ei orfodi neu beidio yn dibynnu ar a yw’n bosibl dehongli’r cytundeb fel contract.

Mae benthyciadau’n wahanol i grantiau – mae benthyciadau’n arian sydd i’w ad-dalu i chi, er y bydd risg y bydd rhai derbynwyr yn methu gwneud hyn. Bydd benthyciadau yn gadael i chi ailgylchu arian dros y blynyddoedd ac efallai y byddant yn rhoi mwy o reolaeth i chi nag y byddai grant.

Dylech geisio cyngor eich cynghorwyr cyfreithiol ac edrych ar wefan Swyddfa Masnach y Llywodraeth - mae'n ffynhonnell ragorol o gyngor ac ymarfer da ar beth i’w wneud ac i beidio â’i wneud wrth gaffael, gan ddarparu telerau ac amodau model y gallwch eu haddasu wrth brynu.

Bydd y camau hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor sydd ei angen arnoch i wneud y penderfyniad cywir am y llwybr y dylech ei chymryd ac i osgoi problemau a all ddigwydd oherwydd diffyg profiad neu ddiffyg diwydrwydd ynghylch materion treth a chyfreithiol.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi gwirio cyfreithlondeb a rheoliadau?

Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n rhoi grantiau wirio bod ganddynt awdurdod statudol ar gyfer darparu cyllid, neu ryw sail arall i'w gyfreithlondeb.

Dylech wirio bob amser a oes rhaid i chi gydymffurfio â gofynion a bennwyd gan gorff arall (e.e. y Comisiwn Ewropeaidd, Adrannau’r Llywodraeth) gan fod hyn yn gallu cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud neu gall benderfynu ar y gweithdrefnau a fabwysiedir gennych.  Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd materion yn gysylltiedig â ‘Chymhorthion Gwladwriaethol’.

Mae hefyd yn werth edrych ar ffynonellau eraill o arweiniad (e.e. ‘Managing Public Money 2007’ a ‘Guidance to Funders’, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM, ac unrhyw Gompact gyda’r sector gwirfoddol).

Bydd hyn yn sicrhau bod eich cynllun yn cydymffurfio â’r gyfraith a’i fod yn hollol gyfreithlon.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi cael caniatadau a chyllideb?

Mae angen i chi gynllunio sut byddwch chi’n cael yr adnoddau angenrheidiol (cyllidebol, staffio, ymgynghori a TG).

Ar gyfer cyrff talu grantiau yn y sector cyhoeddus, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd Gweinidog neu Gabinet a bydd angen i'r gyllideb gael ei chymeradwyo hefyd.

Mae sicrhau cyllidebau ar gyfer y tymor canolig yn golygu y gellir cynnig grantiau ar gyfer sawl blwyddyn, gan roi rhywfaint o amddiffyniad a pharhad i’r derbynwyr ac i’w staff sy'n cyflawni’r prosiect.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi ymgynghori fel sy’n briodol?

Canlyniad gwneud grantiau yn dda yw partneriaeth effeithiol rhwng y corff talu a derbynwyr, yn cyflawni buddion i bawb. Mae hyn yn gwneud ymgynghori priodol yn gam allweddol o ran cynllunio cynllun grantiau newydd.

Mae ymgynghori â rhanddeiliaid yn eich helpu i benderfynu:

  • i bwy y dylech chi roi grantiau; 
  • pa delerau ac amodau y byddwch yn eu gosod; 
  • pa wariant bydd (neu na fydd) yn gymwys.

Bydd hefyd yn eich helpu i wirio a ellir deall a defnyddio eich cynllun arfaethedig yn hawdd. Mae cydbwysedd cynnil rhwng gwneud eich cynllun yn hawdd ac yn ddeniadol ond hefyd yn ddigon trylwyr ac atebol.

Fel ymarfer da ychwanegol, gofalwch eich bod yn ysgrifennu dogfennau yn glir, mewn iaith blaen ac yn eu dosbarthu yn ddigon cynnar i adael amser ar gyfer ymatebion ystyrlon. Rhowch gyhoeddusrwydd digonol ar gyfer eich ymarfer ymgynghori.

Dylai deall anghenion a gofynion eich gilydd eich helpu i osgoi neu i ddatrys problemau a gwireddu’r canlyniadau a ddymunir gennych. Mae ymgynghori yn eich helpu i nodi rhwystrau i gyflawni prosiectau ac i asesu sut y gellir pasio risgiau i’r parti a all ddelio â hwy orau. Gall hefyd gynhyrchu syniadau ac ymagweddau newydd yn ogystal â helpu i sicrhau bod partïon perthnasol wedi’u hymrwymo o’r cychwyn cyntaf.

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi cydgysylltu â’r archwilwyr/ â Swyddfa Archwilio Cymru?

Dylech bob amser hysbysu eich archwilwyr mewnol ac allanol o gynlluniau newydd arfaethedig. Maent yn ffynhonnell o gyngor arbenigol ar y gweithdrefnau ariannol priodol a’r rheolaethau cadarn y bydd angen i chi eu gweithredu. Bydd angen iddynt ystyried a ddylid cynnwys eich cynllun yn eu cynlluniau archwilio.

Gallant hefyd eich cynghori ar sut i osgoi (neu i reoli) buddiannau’n gwrthdaro ac i’ch helpu i sicrhau y dilynwch ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ (anhunanoldeb, gwrthrychedd, atebolrwydd a stiwardiaeth, didwylledd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth)  (Nolan report)

Os ydych yn ystyried bod rhaid i ddefnyddwyr ddarparu tystysgrifau archwilwyr, yna mae’n rhaid i chi ystyried:

  • ffurf tystysgrif yr archwiliwr (neu’r cyfrifydd annibynnol) gan fod angen cytuno ar hyn yn gynnar, fel y gellir ei ymgorffori i mewn i'r ffurflen hawlio yn y pen draw 
  • pa archwilwyr (neu gyfrifwyr annibynnol) y byddwch yn eu nodi fel rhai a all ardystio hawliadau (er enghraifft o bosibl yr archwilydd a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, archwilydd allanol y cwmni, neu archwilydd cofrestredig)

Bydd angen i chi fod yn glir am swyddogaethau perthnasol y corff talu, derbynwyr ac archwilwyr. Ar gyfer cyrff a ddaw o dan Swyddfa Archwilio Cymru, dylid cyfeirio at Ddatganiad Cyfrifoldebau grantiau Archwilydd Cyffredinol Cymru (copi yma)

Wrth roi grantiau i awdurdodau lleol, cyrff GIG lleol a chyrff llywodraeth ganolog yng Nghymru, cysylltwch â’r Tîm Cydymffurfio yn swyddfa Archwilio Cymru (e-bost: wao grants@wao.gov.uk) i ddarganfod y protocolau sy’n bodoli ar gyfer  ardystio ac i sicrhau cytundeb ysgrifenedig Archwilydd Cyffredinol Cymru i wneud trefniadau ardystio ar gyfer eich grant cyn rhoi gwedd derfynol ar ei delerau ac amodau.

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu help i chi i ddyfeisio cynllun newydd i benderfynu ar y trefniadau terfynol ar gyfer gwaith archwilwyr trwy

  • drafod a yw ardystio gan archwilwyr yn ddymunol ac yn ymarferol; 
  • penderfynu a ellir disgwyl yn rhesymol y lefel o sicrwydd yr ydych yn ei geisio gan archwilwyr;
  • darparu asesiad amserol ar a ellir ardystio’r darpariaethau ar gyfer cynllun newydd neu ddiwygiedig heb fod yn rhy gostus;
  • trafod a yw amserlenni ardystio yn ymarferol;
  • eich cynghori ar ffurflenni hawlio ac arweiniad y cynllun drafft.

(Ar gyfer grantiau i’r sectorau preifat a gwirfoddol, edrychwch ar arweiniad Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ar adroddiadau grantiau i gyrff sector cyhoeddus, sy’n delio â llythyrau ymgysylltu a gweithdrefnau a ddiffinnir i archwilwyr eu dilyn.)

Dychwelyd I frig y dudalen


A ydwyf wedi gosod amserlen realistig?

Mae angen i chi ddiffinio’r cyfnod pryd y byddwch yn cefnogi gwariant cymwys ac yn gosod dyddiadau dechrau a gorffen penodol. Cofiwch y gall cau fod yn gymhleth - yn enwedig ar gyfer grantiau partneriaeth - ac yn cynnwys dyddiau cau critigol.

Dylech lunio amserlen, gan nodi’r prif dasgau a dyddiau cau ar gyfer rheoli eich cynllun. Byddai hon yn cwmpasu gosod cyllideb, gwahodd ceisiadau, gwerthuso ceisiadau; gwneud cynigion; hysbysu ymgeiswyr; gwneud taliadau; monitro cynnydd; unrhyw arfarniad dros dro a chau/gwerthuso'r cynllun am y tro olaf.

Dylech sicrhau:

  • fod telerau ac amodau a ffurflenni hawlio ar gael mewn digon o amser i alluogi derbynwyr i gasglu gwybodaeth a llenwi eu hawliadau erbyn y dyddiad cau dynodedig;
  • eich bod yn gosod proffiliau talu ar gyfer talu'r grant mewn rhandaliadau ac ar gyfer y setliadau terfynol.

Mae caniatáu digon o amser ar gyfer ymgynghori ac yn gadael digon o amser i dderbynwyr baratoi ar gyfer cyflawni eu prosiectau’n helpu i sicrhau llwyddiant eich cynllun. Drwy gyhoeddi telerau am amodau cynhwysfawr cyn i’ch cynllun gychwyn, gall derbynwyr gynllunio eu gweithgareddau a defnyddio arian grant i’r eithaf. O'r cychwyn cyntaf gallant drefnu casglu unrhyw ddata sydd ei angen ar gyfer monitro'r prosiect a hawliadau.

Dychwelyd I frig y dudalen


Beth sy’n digwydd ar ddiwedd grant (strategaeth ymadael)?

Mae’n rhaid, fel y cam lleiaf, i gyrff llywodraeth sy’n rhoi grantiau a ddefnyddir i gaffael neu i wella asedau cyfalaf bennu amodau arbennig er mwyn amddiffyn eu sefyllfa rhag ofn y bydd derbyniwr yn eu gwaredu.

Gan ei fod yn bosibl y bydd eich grant yn rhedeg am gyfnod cyfyngedig yn unig, yn aml gyda lefelau cyllido'n disgyn tua diwedd y cynllun, dylech ystyried pa drefniadau efallai y byddwch eu hangen  yn y dyfodol er mwyn sicrhau y bydd gweithgareddau'n parhau.

Mae gwneud hyn yn gadael i chi barhau i gael llais yn y ffordd y defnyddir neu y gwaredir asedau yn y tymor canolig, neu sut y gellir rhannu ffrydiau incwm y dyfodol gyda chi os bydd prosiectau'n creu gwarged ariannol.

Dychwelyd I frig y dudalen

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru