| Gadewch inni edrych ar yr hyn y mae angen i chi feddwl amdano wrth i chi ddatblygu cynllun grant newydd.
Bydd cynllunio da a chael pethau地 iawn yn awr yn help mawr i sicrhau lansiad llwyddiannus eich cynllun. Byddwch yn elwa trwy fod â chynllun sy'n ddeniadol (yn helpu sicrhau defnydd uchel ohono) ac sy地 gadael i chi ddewis y rhai gorau o blith y bidwyr a'r prosiectau a gyflwynir.
Defnyddiwch y cwestiynau isod i団h arwain. Cliciwch ar bob cwestiwn i weld ein hateb sy地 nodi:
- y peth gofynnol y mae地 rhaid i chi ei wneud;
- yng nghyswllt rhai materion, y camau ychwanegol ar gyfer ymarfer da y gallwch eu hystyried;
- y manteision y dylai arfer da eu cynnig i chi!
|
A fyddaf i地 defnyddio cylchoedd bidio?
Gellir gwneud llawer o grantiau地 agored i ymgeiswyr ar unrhyw adeg dros gyfnodau hir - yn aml dyma grantiau a roddir drwy statud a grantiau ar gyfer rhaglenni'n bod ers tro sydd â chyllidebau sy'n eithaf sicr.
Fodd bynnag, mewn achosion eraill, gall y grant ddod o syniad polisi newydd neu o gronfeydd a fydd ar gael am gyfnod byr yn unig. Gall hefyd fod mwy o dderbynwyr posibl nag y gallai'r swm o gronfeydd ar gael eu cefnogi.
Mae cylchoedd bidio地 cyflwyno elfen o gystadleuaeth i団h helpu i gyfeirio grantiau i池 ymgeiswyr a phrosiectau gorau. Mae hyn yn golygu bod angen i chi roi cyhoeddusrwydd i fidiau y bydd rhaid iddynt eich cyrraedd erbyn dyddiad cau penodedig fel y gallwch eu hasesu i gyd gyda'i gilydd.
Dychwelyd I frig y dudalen
Sut y byddaf i地 rhoi cyhoeddusrwydd iddo?
Dylech ystyried sut i roi cyhoeddusrwydd i池 cynllun ac i ofyn am geisiadau - mae opsiynau地 cynnwys y wasg, cylchlythyrau, cyrff canolig a池 rhyngrwyd. Gellir hyrwyddo grantiau i unigolion mewn adeiladau cyhoeddus fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol lleol.
Gwnewch gylchoedd bidio'n agored, gyda'r nod o ddenu lefel uchel o ddiddordeb oddi wrth ymgeiswyr cymwys.
Fodd bynnag, pan fydd yn bosibl y bydd llawer o ymgeiswyr, mae地 arfer da rheoli disgwyliadau a defnyddio ymgyrch marchnata wedi段 dargedu.
Bydd gwneud hyn yn osgoi llwyth gwaith gormodol i chi yn ystod y cam asesu a dethol ac yn sicrhau na fydd gennych nifer mawr o ymgeiswyr siomedig oherwydd nad oedd digon o gyllid i dalu cymaint o fidiau neu nad oedd eu prosiectau'n hollol gymwys.
Dychwelyd I frig y dudalen
Sut y byddaf i地 gwerthuso bidiau ac yn dethol enillwyr?
Mae angen pennu gweithdrefnau asesu cadarn a thryloyw - gydag amserlen ymarferol - a'u cymhwyso地 gyson.
Yn y lle cyntaf dylid asesu ceisiadau yn erbyn eich meini prawf cymhwyster.
Dylai池 meini prawf cymhwyster adlewyrchu nodau datblygu cynaliadwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu datblygiad sy地 ateb anghenion heddiw heb gyfyngu ar allu cenedlaethau池 dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd gytbwys ac integredig yn ein hymateb i anghenion a dyheadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y cydbwysedd rhwng y rhannau o池 byd sydd wedi datblygu ac sy'n datblygu.
Dylai池 meini prawf wneud hyn drwy gynnwys y pum egwyddor gydgysylltiedig arweiniol o fframwaith rhanedig datblygiad cynaliadwy'r Deyrnas Unedig.
- byw o fewn terfynau amgylcheddol;
- sicrhau cymdeithas gref, iachus a chyfiawn;
- adeiladu economi cryf, sefydlog a chynaliadwy;
- hyrwyddo trefn lywodraethu dda.
Byddai hyn yn cynnwys camau i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, gan fynd i池 afael â materion cydraddoldeb a thrin yr iaith Gymraeg a池 iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Os na ddiwellir y meini prawf cymhwyster, yna dylai ymgeiswyr gael eu hasesu'n fanylach a'u sgorio yn erbyn meini prawf dethol. Dylid egluro unrhyw faterion yn codi gydag ymgeiswyr.
Mae angen i chi fod yn glir iawn am yr holl feini prawf cymhwyster:
- pwy fydd yn gymwys (pa fath o sefydliad ac unrhyw hanes);
- pa fath o weithgareddau prosiect fydd yn gymwys;
- pa gostau fydd yn gymwys (a pha rai nad ydynt yn gymwys).
Fel ymarfer da ychwanegol, gellir cymhwyso pwysoliadau gwahanol i feini prawf unigol, yn ôl eu pwysigrwydd cymharol.
Bydd hyn yn gadael i池 sgoriau canlyniadol roi cyfrif priodol i'r meini prawf pwysicaf.
Dychwelyd I frig y dudalen
|