Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Cyrff sy’n talu grantiau - Hedyn > Cyrff sy’n talu grantiau - Peillio
Argraffu'r Dudalen
Cyrff sy’n talu grantiau - Peillio

Hedyn

Egino

Bonion a gwreiddiau

Blodau

Peillio
Cyrff sy’n talu grantiau Cyrff sy’n derbyn grantiau Archwilwyr
Gadewch i ni ystyried yr hyn y bydd angen i chi feddwl amdano pan ddaw eich grant i ben.

Mae proses a reolir yn dda yn lleihau effaith dod â'ch grant i ben a bydd yn ategu sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y prosiectau a gefnogir yn y tymor hir. Mae hefyd yn helpu i nodi'r hyn a oedd yn gweithio'n dda a'r hyn nad oedd yn gweithio'n dda fel y gellir cofio neu ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Ac efallai y byddwch am osod rhwymedigaethau parhaus ar dderbynyddion i ddiogelu buddiant y cyhoedd mewn asedau gwerthfawr y telir amdanynt gan eich grant (neu eu gallu i'w cael).

Defnyddiwch y cwestiynau isod fel awgrymiadau. Cliciwch ar bob cwestiwn i weld ein hateb sy'n nodi:

  • y pethau gofynnol y mae'n rhaid i chi eu gwneud;
  • y camau ychwanegol ar gyfer arfer da y gallwch eu hystyried; 
  • y manteision y dylai arfer da eu cynnig i chi!

 

 

Sut y gallaf sicrhau cynllun olynol a'i gyflwyno?

Ceisiwch gynllunio mewn da bryd ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol.

Dylid gweithredu'r strategaeth ymadael a nodwyd pan gynlluniwyd y grant ar y dechrau - ynghyd ag unrhyw weithdrefnau olynol a nodwyd yng nghais y derbynnydd.

Dylid lledaenu canfyddiadau'r gwerthusiad yn briodol ac ystyried unrhyw wersi a ddysgwyd wrth roi grantiau yn y dyfodol.

Dychwelyd I frig y dudalen


Sut y byddaf yn gwerthuso fy nghynllun  yn y pen draw - ac yn cynnwys rhanddeiliaid?

Mae gwerthuso yn rhan allweddol o'r broses o gynllunio a chyflawni cynlluniau a phrosiectau - ni ddylid ond ei ystyried ar y diwedd.  Mae'n ystyried ac yn mesur 'llwyddiant' (neu fethiant) eich cynllun neu brosiect yn erbyn cyfres o feini prawf perfformiad i ganfod:

  • a yw'r amcanion wedi'u cyflawni;
  • beth oedd allbynnau, canlyniadau ac effeithiau'r gweithgareddau a gynhaliwyd;  
  • beth oedd y gost.

Yn wir, dylech fod eisoes wedi cynllunio eich cynllun gwerthuso pan ddechreuoch eich rhaglen a gallech eisoes fod wedi gweithredu gwerthusiad yn y cyfamser.

Dylai pob gwerthusiad o gynlluniau â chymorth grant gynnwys gwerthusiad o'r prosiect yn erbyn y meini prawf cymhwysedd datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn gyfle da i ddangos arfer da o ran datblygu cynaliadwy.

Dylid gwerthuso pob cynllun ar ôl iddo ddod i ben - a dylid gwerthuso pob cynllun peilot neu gynllun hir yn rheolaidd. Mae'r broses werthuso yn eich galluogi i ddefnyddio gwybodaeth fonitro a gwybodaeth arall i wneud penderfyniadau am weithrediad a chyflawniadau eich cynllun. Bydd yn eich helpu chi a'r derbynyddion i ddysgu gwersi a all arwain at newidiadau a gwelliannau yn y dyfodol.

Ymhlith y cwestiynau allweddol i'w hystyried fel arfer bydd:

  • i ba raddau y llwyddodd y cynllun i gyflawni ei nodau a'i amcanion?
  • os bu diffyg sylweddol, pam ddigwyddodd hyn?
  • a oes unrhyw beth arall y gellir ei ddysgu o'r cynllun (e.e. enghreifftiau o arfer da a sut y gellid osgoi peryglon yn y dyfodol)?
  • beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol?

Gall rhywun annibynnol gynnal y gwerthusiad - ymgynghorwyr ac academyddion allanol efallai. Bydd y gwerthusiad yn dibynnu ar faint a natur y cynllun. Gallai'r dulliau gwerthuso gynnwys:

  • ymchwil desg ar bolisi a chymharu â chynlluniau eraill;
  • cyfweliadau ymchwiliol gyda buddiolwyr, rhanddeiliaid a rheolwyr prosiect;
  • grwpiau ffocws;
  • gweithdai;
  • astudiaethau achos manwl; 
  • ffurflenni adborth;  
  • arolygon (drwy'r post, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb).

Dylai gynnwys rhanddeiliaid hefyd.

Fel enghraifft o arfer da, dylech lunio cynllun gwerthuso. Bydd hwn yn nodi:

  • ar ran pwy y cynhelir y gwerthusiad;
  • pwy fydd yn cynnal y gwerthusiad (staff mewnol neu ymgynghorwyr/academyddion allanol);
  • beth fydd yn cael ei werthuso;
  • sut y caiff ei werthuso;
  • pryd y cynhelir y gwerthusiad;  
  • y costau a'r gyllideb.

Dylai'r cynllun nodi cyfrifoldebau unigol am dasgau sy'n gysylltiedig â'r gwerthusiad e.e. rolau a chyfrifoldebau rheolwyr.

Dylai'r cynlluniau fod yn ddigon hyblyg fel y gellir eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod darpariaethau'n parhau'n ymarferol, yn ddealladwy ac yn deg.  Lle y nodir diffygion mawr neu gyfleoedd ar gyfer gwelliant sylweddol, dylid unioni'r rhain neu eu rhoi ar waith yn ddi-oed.  Fodd bynnag, ni ddylid gwneud gormod o addasiadau yn ystod y flwyddyn (yn enwedig lle na fyddent yn cael effaith berthnasol ar y ffordd y mae derbynyddion yn gweithredu cynllun neu ar eu hawl).

Ar ddiwedd y gwerthusiad, ystyriwch ba welliannau y gellir eu gwneud i'r cynllun (e.e. o ran ei ffurf neu ei ddulliau cyflawni) er mwyn goresgyn rhwystrau ac anawsterau a rhoi'r opsiynau gorau ar waith yn y dyfodol.  Nodwch bob enghraifft o arfer da a dysgwch wersi ar gyfer y dyfodol.

Lle bydd cynllun yn ategu prosiectau mawr, fel arfer bydd angen i chi werthuso'r rheini ar y cyd â'r gwaith gwerthuso a wneir gan dderbynnydd y grant.

Dychwelyd I frig y dudalen


Sut y byddaf yn rhannu arfer da?

Dylid cyhoeddi prosiectau llwyddiannus ac enghreifftiau o arfer da. Gellid gwneud hyn drwy dudalennau gwe ar y fewnrwyd, llyfrynnau, adroddiadau gwerthuso, sioeau teithiol, papurau mewn cyfnodolion proffesiynol ac erthyglau yn y wasg a chylchgronau masnach.

Dychwelyd I frig y dudalen


Sut y byddaf yn adennill gordaliadau/cyfranddaliadau o incwm yn y dyfodol neu elw o asedau a waredir?

Os bydd rhai materion a nodir yn eich telerau ac amodau yn gymwys o hyd ar ôl i'r arian ddod i ben, bydd angen i chi barhau â'r gweithgareddau monitro. Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod yr asedau yn parhau i gael eu defnyddio at y dibenion y cytunwyd arnynt neu fod y corff talu yn derbyn ei ran briodol o'r incwm parhaus neu elw unrhyw asedau y cytunwyd i'w gwerthu (oherwydd gall gwerth tir ac adeiladau fod wedi cynyddu ers eu darparu'n wreiddiol).

Dychwelyd I frig y dudalen


A allaf uno'r cynllun hwn, neu gynllun olynol, â chynlluniau eraill?

Gan fod materion gweinyddu a biwrocratiaeth yn gysylltiedig â phob cynllun grant, dylech gadarnhau y gall cynllun presennol arall (neu uno, rhesymoli ac integreiddio cynlluniau eraill) fodloni eich amcanion. Efallai y bydd hyn yn eich galluogi i gynnig grantiau yn y dyfodol yn hawdd, yn gyflym a heb ormod o risg.

Edrychwch ar eich cynllun eto yng nghyd-destun polisïau ehangach eich sefydliad a'u cysylltedd i annog meddwl yn gydgysylltiedig.

Bydd hyn yn eich helpu i feddwl am syniadau a dulliau gweithredu newydd ac i nodi bylchau ac anghysondebau rhwng grantiau a chyfleoedd ar gyfer darpariaeth newydd neu well.

Dychwelyd I frig y dudalen


A wyf yn gwybod beth i'w wneud os oes amheuaeth o dwyll?


Dylech gyfeirio at lawlyfr staff eich cyflogwr ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill a roddwyd i chi. Mae disgresiwn yn bwysig.

Fel arfer byddwch yn dweud wrth eich Rheolwr Llinell a fydd yn cysylltu ag eraill ac yn trefnu camau pellach, fel ymchwiliad neu gysylltu ag archwilwyr a'r heddlu.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 'berson penodedig' y gall cyflogeion penodol o'r sector cyhoeddus gysylltu ag ef am bryderon sydd ganddynt ynglyn â chynnal busnes yn briodol, gwerth am arian, twyll a llygredd o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus. Nodir ei rôl yn Neddf Dadlennu Buddiant Cyhoeddus 1998 ac mae llyfryn Swyddfa Archwilio Cymru’ ar 'chwythu'r chwiban' ar gael yma.

Dychwelyd I frig y dudalen


Pryd y dylid atal, terfynu neu adennill grant?

Dylai eich telerau ac amodau nodi amgylchiadau penodol lle y gellir addasu, terfynu neu adennill taliadau grant.

Mae angen i chi gynnal prosesau rheoli a monitro gweithredol a chadarn er mwyn nodi:

  • achosion o lithriant a thangyflawni;
  • problemau cyllidebol fel gorwariant neu danwariant;
  • rheolaeth a gweinyddiaeth wael gan dderbynyddion;
  • cofnodion a chyfrifon gwael;
  • anawsterau ariannol (e.e. problemau o ran llif arian parod, problemau credyd, ad-daliadau dyledion)
  • achosion o gaffael neu gontractio annoeth neu ar frys;
  • ansawdd gwael gweithgareddau prosiect;
  • achosion o gamddefnyddio grantiau ac asedau;
  • achosion o beidio â darparu gwybodaeth am berfformiad nac adroddiadau cynnydd;
  • newidiadau mewn risgiau (e.e. colli arian cyfatebol, partneriaid yn tynnu'n ôl, tensiynau mewn partneriaeth);   
  • unrhyw achos o dorri telerau ac amcanion allweddol.

Ystyriwch pa gamau y dylech eu cymryd i sicrhau y caiff materion eu hunioni ac y diogelir eich arian. Gall hyn gynnwys

  • atal taliadau nes y caiff problemau eu datrys neu nes bod cynllun adennill credadwy ar waith;
  • ailbroffilio grantiau mewn cyfnodau diweddarach;
  • lleihau faint o grant a gynigir;
  • terfynu grantiau;  
  • adennill rhywfaint o'r grant a dalwyd eisoes neu'r cyfan.

Dychwelyd I frig y dudalen

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru