Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Grantiau >Astudiaethau achos grantiau > Cyngor Chwaraeon cymru – Cwpan Ryder Cymru
Argraffu'r Dudalen
Cyngor Chwaraeon cymru – Cwpan Ryder Cymru
Crynodeb o’r fenter

Ryder Cup Wales 2010 Ltd (RCW) yw'r cwmni a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i gyflawni'r ymrwymiadau a gynhwysir yn y cais llwyddiannus am Gwpan Ryder, ac mae ganddo Gronfa Etifeddiaeth o £2 miliwn i'w dosbarthu rhwng 2005-2011. Bwriedir y bydd y gronfa'n helpu i sicrhau y caiff yr etifeddiaeth o lwyfannu Cwpan Ryder yng Nghymru ei brofi, ac i fuddion uniongyrchol o hyn gael eu teimlo, ledled y wlad. Fe’i defnyddir i ddarparu cyfleusterau hygyrch cost isel i bawb na fyddai fel arall yn cael y cyfle i chwarae golff.

Gweinyddir y gronfa ar ran RCW gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sy’n cynnwys y broses fonitro.

Cwmpesir y prosiect gan gytundeb fydd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2005 a bydd yn parhau tan 31 Mawrth 2011 neu nes iddo gael ei derfynu gan y naill barti neu’r llall yn rhoi rhybudd o dri mis.

Y Buddion a geir a’r ffactorau llwyddiant a ddeillia ohonynt

Sefydlu cyfleusterau hygyrch cost isel ledled Cymru i gynyddu cyfranogiad mewn golff.

Yn hanesyddol, pryd bynnag y daw cyllid newydd ar gael, fel gyda'r gronfa etifeddiaeth £2 miliwn, y broses arferol fyddai gyflogi rhagor o bobl i weinyddu'r cynllun a dosbarthu'r cronfeydd.

Fodd bynnag, yr ymagwedd a ddefnyddiwyd y tro hwn oedd asesu a oedd rhywfaint o allu yn y system eisoes (rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Chwaraeon Cymru) fel y gellir dosbarthu’r £2 miliwn heb gymryd unrhyw ran o’r arian ar gyfer gweinyddu.

O ganlyniad i’r asesiad hwn cytunwyd y gellir perfformio’r holl waith gweinyddu a monitro gan Gyngor Chwaraeon Cymru (Tîm Buddsoddi Cyfalaf) heb angen rhagor o adnoddau.

Y canlyniad a sicrhawyd

Chwaraeon sy’n cael y budd gwirioneddol o hwn. Fel y dywedwyd eisoes, oherwydd bod y gwaith gweinyddol yn digwydd o fewn adnoddau sydd eisoes yn bodoli, gellir bellach ddosbarthu pob ceiniog o'r gronfa etifeddiaeth £2 miliwn i ateb amcanion y cynllun.

Mae Syr Jon Shortridge  wedi sôn droeon am ei weledigaeth am ‘Wasanaeth Cyhoeddus Gymreig’. Mae’r cynllun a’r dull yn ymddangos fel ei fod yn corffori’r weledigaeth. Mae’n ‘feddylfryd’ newydd sy’n ystyried mwy na dim ond yr adnoddau sydd ar gael o fewn un endyd yn unig. Mae’n edrych ar y darlun ehangach ac yn cydrannu pob adnodd sydd ar gael o bob corff cyhoeddus o dan gytundeb.

Enw: Helen Adams
E-bost: helen.adams@scw.org.uk
Ffôn: 029 2033 8250

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru