Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Ffyrdd Callach o Weithio >Gweithio gartref > Natur y gwaith
Argraffu'r Dudalen
Natur y gwaith
Gwthio'r ffiniau

Mae systemau Rhwydwaith Preifat Rhithwir yn darparu cysylltiadau TG o bell diogel i alluogi mynediad at y fewnrwyd, cyfnewid dogfennau. Mae eisoes yn bosibl i lawer o rolau gael eu cyflawni o bell, a oedd yn gaeth i'r ddesg yn flaenorol oherwydd gofynion mynediad.

Gweler: http://www.cisco.com/web/UK/products/products_home.html
http://citrix.co.uk/lang/English/ps2/segments/index.asp

Meddyliwch yn gadarnhaol

Wrth gwrs, ceir llawer o alwedigaethau lle nad yw gweithio o bell yn addas ar gyfer agweddau creiddiol ar waith. Ond, faint o amser mae'r bobl hynny'n treulio ar yr e-bost? Efallai y bydd yn bosibl amrywio patrymau teithio i'r gwaith i alluogi rhywfaint o weithio gartref.

Patrymau gwahanol o weithio gartref

Mae'n bosibl gweithio gartref yn achlysurol, ar sail ad hoc, i fodloni terfyn amser, cynnal ymchwil, neu arbed amser teithio i gleient. Defnyddir y patrwm hwn fwyaf gan uwch aelodau ac yna dyma a feirniadir amlaf gan y staff eraill nad ydynt yn gallu mwynhau'r un fraint. Mae pobl yn sylwi os yw'r patrwm yn tueddu i ffafrio dydd Gwener, neu'r bore ar ôl y gynhadledd. Efallai ei bod yn gyngor da i uwch reolwyr fabwysiadu patrymau na allant ychwanegu amheuaeth ymhlith staff, a sicrhau eu bod ar gael i dderbyn galwadau ffôn bob amser.
Mae'r trefniant hwn yn tueddu i beidio â'i gwneud yn ofynnol i gael cymorth y cyflogwr ar gyfer swyddfa gartref.

Gellir trefnu patrymau rhanedig rheolaidd o weithio gartref rhannol - fel bod yr unigolyn yn y swyddfa'n rheolaidd ar rai diwrnodau, ac yn gweithio o bell ar ddiwrnodau eraill.

Ceir goblygiadau tebyg o ran gweithio symudol : mae'r swydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogai dreulio amser sylweddol allan o'r swyddfa. Yn hytrach na gorfod dychwelyd i'r swyddfa i gasglu cyfarwyddiadau papur neu i ddosbarthu adroddiadau cwblhau, gellir gweithio ar y dogfennau drwy fynediad o bell, drwy liniadur neu ddyfais llaw.

Gweithio gartref llawn yw'r patrwm lle nad oes gan yr unigolyn le gweithio penodol yn y swyddfa mwyach, a'r disgwyliad arferol yw ei fod yn gweithio gartref.

Amrywiad yw gweithio gartref, lle mae natur y gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i deithio'n rheolaidd i ymweld â chleientiaid, a'r cartref yw'r swyddfa ond mae'r unigolyn yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser allan o'r swyddfa mewn gwirionedd.

Mae gweithio gartref rhannol a llawn yn debygol o'i gwneud yn ofynnol i'r cyflogwr sicrhau bod y trefniadau ffisegol yn foddhaol mewn perthynas ag ergonomeg y weithfan.

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru