|
Er bod y rhan fwyaf o gyflogeion yn ddiwyd ac yn ymrwymedig i'w gwaith, bydd bob amser rhai a fydd yn ceisio camddefnyddio trefniadau gweithio gartref, fel y byddai'r unigolion hyn yn camddefnyddio unrhyw drefniant arall. Nid yw'r ffaith bod unigolyn yn eistedd mewn swyddfa'n edrych yn ddiwyd ar sgrîn cyfrifiadur o reidrwydd yn golygu ei fod yn cyfrannu at y broses o ddarparu gwasanaeth.
Arfer adnoddau dynol da yw sefydlu arferion rheoli perfformiad teg a rhesymol sy'n berthnasol i bawb. Caiff allbwn y gwaith ei drafod yn agored a'i adolygu â phob aelod o staff. Ceir ymrwymiad gan bawb i flaenoriaethau darparu gwasanaethau, yn cynnwys y rhai sy'n gweithio gartref. Cytunir ar dargedau a safonau ac mae pobl yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt.
Mae'r bod dynol yn anifail cymdeithasol, a cheir risgiau sy'n deillio o unigrwydd. Yn amgylchedd y gweithle, rydym oll yn ymateb i eiriau a siaredir; gall ystumiau, gwenau ac absenoldeb y rhain arwain at lai o hyder neu hyd yn oed iselder ysbryd. Mae pobl sy'n absennol o'r gwaith am gyfnodau estynedig yn aml yn nodi'r symptomau hyn. Felly yr her benodol i oruchwylwyr gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a gweithwyr gartref yw gwneud trefniadau penodol i roi adborth cefnogol. Gall goruchwylwyr wneud hyn yn uniongyrchol neu drwy aelodau eraill o'r tîm, efallai drwy greu system cyfaill. Ond mae angen i'r adborth fod yn fwy mynych na'r hyn fyddai'n digwydd pan geir cyswllt anffurfiol yn y gwaith.
|