Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Ffyrdd Callach o Weithio >Gweithio gartref > Polisïau
Argraffu'r Dudalen
Polisïau
Mae'r amrywiaeth o waith y gellir ei wneud o bell yn ehangu wrth i dechnoleg gynyddu, ac mae mwy o reolwyr, yn cynnwys llawer nad ydynt o bosibl wedi ymdrin â'r mater yn flaenorol, yn wynebu ceisiadau i gefnogi gweithio o bell.

Rhaid i gwmpas polisïau gweithio gartref fod yn gynhwysfawr. Mae hyn yn creu risg na fydd yn bosibl rheoli swm y deunydd, a'i bod yn haws i'r rheolwr ddweud 'Na'. Efallai y bydd rheolwyr yn dymuno osgoi'r dasg o orfod ymdrin â'r materion gweithdrefnol. Gall ofn y bydd arbenigwyr yn gwneud y prosesau'n rhy gymhleth hefyd fod yn rhwystr.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu canllawiau cynhwysfawr ar ddiogelwch a gweithio gartref, sydd yn syml i'w dilyn ac wedi'u cynllunio i'w defnyddio, yn hytrach na'u hailysgrifennu mewn dogfen fewnol.

http://www.hse.gov.uk/pubns/indg226.pdf

Dylai polisi gweithio gartref gwmpasu:

  • Perchenogaeth: sicrhau bod cofrestr briodol yn cael ei chynnal a'i llofnodi sy'n cofnodi'r holl gyfarpar, yn cynnwys desgiau, cadeiriau, a TG. Mae hyn er mwyn osgoi dadl pan fydd y cyfnod cyflogaeth yn dod i ben.
  • Cyfrifoldebau: nodi pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch, ffisegol ac electronig, ac yswiriant; sicrhau bod unrhyw ddeunydd cyfrinachol yn cael ei ddiogelu a gwneud trefniadau ar gyfer cynnal profion statudol ar gyfarpar electronig.
  • Goruchwyliaeth: nodi'r materion arbennig sy'n deillio o weithio gartref, megis rhoi gwybod am salwch, risgiau gweithio ar eich pen eich hun, cadw mewn cysylltiad, targedau a safonau; ac egluro disgwyliadau ynglyn ag oriau gwaith. Os yw'r gweithio gartref yn seiliedig ar allbynnau heb unrhyw ofyniad o ran union amseroedd argaeledd, dylai hyn gael ei gynnwys fel amrywiad cytundebol.
  • Materion ariannol: nodi pa ddarpariaeth a wneir, os o gwbl, i gefnogi costau gartref (gall y rhain gael eu gwrthbwyso gan gostau teithio llai), ffioedd ffôn, rhyngrwyd ac ati.
  • Darpariaeth rhannu desgiau ar gyfer yr adegau hynny pan fydd y cyflogai'n gweithio yn y swyddfa.
  • Adolygiad cyfnodol. Gall fod yn beth doeth sefydlu'r trefniant ar sail 'prawf' ac adolygu ei weithrediad, o bob safbwynt, o bryd i'w gilydd.

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru