|
Cymerodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ran mewn prosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gynhaliwyd gan Chwarae Teg yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol (gweler http://wlbinwales.org.uk).
Cynlluniwyd y prosiect i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau, lleihau absenoldeb oherwydd salwch, a lleihau trosiant staff drwy wella ymrwymiad, teyrngarwch a chymhelliant. Profwyd dros 50 o fentrau, ac roedd gan bob un fesurau 'cyn ac ar ôl'. Lleihaodd absenoldeb oherwydd salwch i 7.1% yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 14.1% (DU) ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Yn y flwyddyn a fesurwyd, roedd trosiant staff wedi lleihau i 4.1% (mae llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd yn disgwyl tua 14%).
Ymhlith yr enghreifftiau o gyflawniadau gwasanaeth a gwelliannau i gyflogeion mae'r canlynol:
- Mae'r rhaglen arolygu diogelwch bwyd wedi'i diweddaru gan fynd i'r afael ag arolygiadau gyda'r nos sy'n hwyr ac ymdrin â gwaith y tu allan i oriau a chyfarfodydd hwyr yn haws;
- Mae oriau cyswllt y cyhoedd/cleientiaid wedi'u hymestyn y tu allan i oriau gwaith arferol;
- Cafwyd proses darparu gwasanaethau well mewn cynllun peilot a gyflwynodd gyfnodau o wyliau blynyddol wedi'u hymestyn dros y flwyddyn ariannol. Roedd mwy o bobl yn bresennol ar ddiwedd y cyfnod gwyliau, sef mis Mawrth;
- Roedd yn haws i gyflogeion allu cydbwyso ymrwymiadau personol a gwaith oherwydd estyniad sylweddol yn nifer yr arferion gweithio hyblyg, a gyflwynwyd yn y rhaglen hon. Mae'r rhain wedi cynnwys dileu oriau craidd (ond gydag unigolion yn cofnodi eu horiau), ymestyn y diwrnod gwaith a gwyliau ychwanegol. Ymhlith y mentrau roedd:
a. Cael gwared ar oriau craidd ond gweithredu system lle mae'n ofynnol i unigolion gofnodi eu horiau; b. Ymestyn y diwrnod gwaith i hyrwyddo gweithio ar adegau gwahanol ac oriau agor estynedig; c. Gweithio dros y penwythnos – fel rhan o'r wythnos waith wedi'i chontractio heb gost ychwanegol i'r Cyngor; ch. Prynu gwyliau ychwanegol – o ddiwrnod i nifer amhenodol ac am unrhyw resymau ag achos busnes ategol. Caiff cost diwrnodau ei rhannu dros gyfnod o 12 mis; d. Wythnos/pythefnos cywasgedig o weithio; dd. Gweithio ad-hoc gartref – wedi'i dargedu ac yn benodol i amser ac wedi'i hyrwyddo fel yr eithriad yn hytrach na'r norm. Mae'n cynorthwyo'r staff hynny nad oes yn rhaid iddynt fod yn y swyddfa pan fyddant yn ysgrifennu adroddiadau, er enghraifft. Cynhaliwyd hunanasesiadau risg yn y cartref gan yr unigolyn dan sylw a chadwyd cofnodion ar y ffeil; e. Cynnydd o ran nifer yr oriau ychwanegol a gariwyd drosodd (y tu hwnt i'r uchafswm arferol yn y cynllun oriau gweithio hyblyg). Fodd bynnag, rhoddwyd terfyn o uchafswm o 21 awr fesul cyfnod o bedair wythnos ar hyn; f. Dim cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gellir defnyddio cerdyn llithro (ar y system cofnodi amser) ar gyfer cael egwyl i fynd i apwyntiadau meddygol neu apwyntiadau eraill; ff. Blwyddyn wyliau wedi'i hymestyn dros y flwyddyn ariannol (ar gyfer rhai timau) i osgoi'r broblem diwedd y flwyddyn arferol lle mae gormod o gyflogeion yn dymuno defnyddio eu dyraniad gwyliau blynyddol ar yr un pryd.
“Rydym wedi hyrwyddo diwylliant lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith a wneir ganddynt ac am sut y darperir y gwasanaeth, yn hytrach na lle maent ar unrhyw adeg benodol. Mae ymddiriedaeth yn rhan o hyn. Drwy hyrwyddo'r ffordd hon o weithio ac ymddiried mewn staff i ddarparu'r gwasanaeth mewn ffordd sydd hefyd yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i'w cydbwysedd bywyd a gwaith, maent yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ac yn sgîl hyn daw teyrngarwch cynyddol i'r cyflogwr, mwy o gymhelliant ac, yn y pen draw, mwy o gynhyrchiant a gwell proses darparu gwasanaeth.”
|