Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Y Cynnyrch Gartref yw 170% - 190%
Argraffu'r Dudalen
Y Cynnyrch Gartref yw 170% - 190%
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gynllun peilot ar gyfer Gweithio Gartref o fewn ei swyddogaeth Refeniw a Budd-daliadau fis Hydref 2006. Mesurir cynnyrch y sawl sy’n gweithio yn rheolaidd o ran dogfennau a brosesir, mae hyn yn galluogi tynnu cymariaethau cyn ac ar ôl (hy yn erbyn y llinell sylfaen), a rhwng gwaith gartref a gwaith swyddfa.

Dros bedwar mis (Ebrill & Mai a Medi & Hydref), y cynnyrch gwirioneddol a gyflawnwyd gartref oedd rhwng 170% a 190% o’r ‘llinell sylfaen’. Mae ffigurau o fis Tachwedd 2007 yn dangos bod y lefelau perfformiad wedi’u cynnal a’u bod o hyd rhwng 150% a 170% o’r llinell sylfaen.

Strwythurwyd y prosiect peilot i ddechrau fel bod y staff oedd wedi gwirfoddoli ar gyfer gweithio gartref o hyd yn treulio tridiau yn y swyddfa (a deuddydd gartref), ond mae hyn wedi cynyddu i 3 gartref.

Bu’r ymateb ymhlith y staff dan sylw hefyd yn arbennig o gadarnhaol, fel y mesurwyd gan arolygon staff.

Mae’r Awdurdod wedi ymestyn y rhaglen i gynnwys swyddogaethau swyddfa eraill, gan gynnwys Adnoddau Dynol, o dan Strategaeth ‘Gweithio Amgen’ sydd hefyd yn galluogi gweithio ‘Symudol’ ar gyfer rolau y mae’r model hwnnw’n addas iddynt.

System Rheoli Dogfennau oedd y ‘sylfaen’ ar gyfer y prosiect cyfan, yn galluogi staff i wneud gwaith achosion drwy gysylltiad o bell, heb fynediad at ffeiliau papur.

Mae’r Awdurdod yn darparu cyfrifiadur personol ar gyfer gweithio gartref, fel y gellir llwytho meddalwedd penodol, a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Yswirir yr offer hwnnw gan yr Awdurdod, a'i roi ar gael ar gyfer defnydd personol gan yr aelod o staff a'i deulu/a'i theulu. Cafodd hyn ei ymestyn i gynnwys ffôn rhyngrwyd (clustffon Bluetooth) sy’n galluogi staff i siarad â’i gilydd, i ffonio’r Asiantaeth Budd-daliadau ac i ffonio cleientiaid heb y cymhlethdodau o ddefnyddio eu cyfrifon ffôn eu hunain.
Cyfrifoldeb yr aelodau o staff yw cost a chynnal a chadw’r cysylltiad band eang, gosodiad y weithfan a chaniatáu mynediad ar gyfer asesiadau diogelwch.

Mae oriau gweithio hyblyg yr un peth ag yn y system swyddfa, h.y. 7am i 7pm Dydd Llun - Dydd Gwener, ac mae’n rhaid hysbysu arweinydd y tîm drwy e-bost o amserau dechrau, egwyl a gorffen. Mae mynychu Cyfarfodydd Tîm yn orfodol, hyd yn oed os daw'r rhain ar ddiwrnodau ‘cartref’ dynodedig (gwneir ymdrech i  gylchdroi amseriad y cyfarfodydd, er mwyn osgoi patrymau cylchol).

Ni fu Daearyddiaeth yn bwnc llosg, gan fod y staff dan sylw yn dueddol i fyw o fewn 8 milltir i’r swyddfeydd, er bod un ohonynt (gweithwraig dros dro sydd wedi ymddeol yn ddiweddar) yn gwneud ei gwaith o’i chartref yn Sbaen.

Mae materion eraill wedi codi - gan gynnwys y fantais o alluogi staff â phroblemau iechyd difrifol i ddychwelyd i'r gwaith, gartref, pan na fyddai hyn, efallai, wedi bod yn bosibl yn amgylchfyd y swyddfa; y fantais o gadw staff - gall staff ‘ffitio’ eu gwaith o gwmpas gofynion bywyd eraill a allai yn y gorffennol fod wedi peri iddynt orfod cymryd gwyliau.

Mae angen Goruchwylwyr ac Arweinyddion Tîm yn y Swyddfa a gallant wneud gwaith gartref ar sail ad-hoc yn unig, a gallai hyn beri i rai sy’n awyddus iawn i weithio gartref osgoi cael eu dyrchafu.

Ni fu gofal plant yn y gartref tra bo’n gweithio gartref yn gymaint o broblem ag yr oedd rhai, o bosibl, wedi ei rhagweld (ac mae’r data cynnyrch yn cadarnhau hyn.)

Gall y swyddogaethau sydd angen rhyngweithio wyneb yn wyneb, neu argraffu ar raddfa fawr, gael eu hamserlenni i mewn i’r diwrnodau ‘swyddfa’, ac mae’n wir i faterion cychwynnol godi ynglyn â mynediad at argraffyddion a chysondeb o ran ymgysylltu â chleientiaid.

Manylion Cyswllt

Richard.Davies
Rôl: Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau
Ebost: Richard.Davies@Torfaen.gov.uk

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru