|
Yn draddodiadol, roedd iechyd galwedigaethol yn gangen benodol o feddyginiaeth. Roedd yn ymwneud â sut y gall iechyd cyflogai effeithio ar ei allu i wneud y gwaith a sut y gall gwaith a'r amgylchedd gwaith effeithio ar iechyd cyflogai. Heddiw, mae iechyd galwedigaethol hyd yn oed yn fwy eang ei gwmpas. Mae'n dal i ganolbwyntio ar iechyd cyflogeion ond gall hefyd gynnwys hybu iechyd, asesu risg a lles. Weithiau mae'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â ffordd o fyw megis smygu, ffitrwydd, rheoli straen, maeth a gordewdra.
Yn y DU, mae'n rhaid i gyflogwyr ddewis sut y byddant yn cyflawni eu dyletswydd gofal tuag at gyflogeion. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnynt i ddarparu systemau rheoli a gwasanaethau digonol i ymdrin yn effeithio â risgiau iechyd galwedigaethol. Mae angen i gyflogwyr benderfynu ar lefel y ddarpariaeth iechyd galwedigaethol sydd ei hangen arnynt i gyflawni hyn. Mae angen iddynt hefyd fod yn glir ynghylch y rôl maent yn dymuno i gynghorwyr iechyd galwedigaethol ei chwarae o ran eu helpu i reoli absenoldeb oherwydd salwch. Mae llawer o gyflogwyr yn cynnwys cymal yn eu polisi tâl salwch i'r perwyl y gall fod yn ofynnol i gyflogai ymweld â'r gwasanaeth iechyd galwedigaethol fel un o'r amodau ar gyfer parhau i gael tâl salwch. Mae llawer hefyd yn hybu lles eu cyflogeion.
Un o'r prif wahaniaethau rhwng gwasanaeth iechyd galwedigaethol da a gwasanaeth iechyd galwedigaethol nad yw cystal yw'r wybodaeth sydd gan y cynghorwyr iechyd galwedigaethol am weithle'r cyflogwr. Mae hyn yn amrywio o amgylchedd y swyddfa i'r gwaith corfforol yn y storfannau gwaith a phopeth rhyngddynt.
Gall gwasanaeth iechyd galwedigaethol gynnwys:
Arweiniad a chyngor cyffredinol
- Datblygu polisïau a safonau iechyd galwedigaethol ar y cyd â'r holl randdeiliaid.
- Monitro iechyd cyflogeion, yn cynnwys straen sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Nodi peryglon ac asesu risgiau yn y gweithle.
- Cynghori cyflogwyr ar oblygiadau deddfwriaeth, yn cynnwys Deddfau Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005. Cliciwch yma i gael canllaw hawdd i'w ddarllen ar oblygiadau'r Ddeddf i gyflogeion. Fe'i cynhyrchwyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bellach).
Dychwelyd I frig y dudalen
Materion iechyd
- Mae sgrinio cyn cyflogaeth yn sicrhau nad yw pobl sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau yn cael eu hatal yn afresymol rhag cael swyddi. Mae hefyd yn sicrhau bod sefydliadau'n osgoi recriwtio cyflogeion y bydd eu hiechyd yn eu hatal rhag gwneud y gwaith y'u dewiswyd i'w wneud.
- Darparu rhaglenni imiwneiddio galwedigaethol, lle y bo'n briodol.
- CyfIwyno mesurau rheoli addas i atal salwch, megis poen cefn, sy'n codi o amodau neu arferion gwaith.
- Lleihau absenoldeb oherwydd salwch ac ymddeol oherwydd salwch drwy:
- Asesu ffitrwydd ar gyfer gwaith ac addasrwydd swyddi sydd ar gael.
- Sicrhau y gellir cael gafael ar ymyriadau megis ffisiotherapi neu gwnsela. Gall cyflogwyr ystyried defnyddio gwasanaethau iechyd galwedigaethol i ddarparu llwybr cyflymach i wasanaethau na'r hyn sydd ar gael drwy'r GIG ar hyn o bryd. (Gweler Heddlu Dyfed-Powys: Iechyd Galwedigaethol Ataliol)
- Cynghori ar addasiadau i'r amgylchedd gwaith neu ailhyfforddi i gadw cyflogeion a fyddai efallai fel arall yn methu â pharhau yn eu rôl bresennol.
- Adolygu cofnodion damweiniau, salwch ac absenoldeb oherwydd salwch galwedigaethol i nodi achos craidd problemau.
- Cynorthwyo adsefydlu yn ôl i'r gwaith. Gall camau adsefydlu gynnwys dychwelyd yn raddol i'r gwaith, addasu oriau gwaith, darparu cymorth trafnidiaeth, rhoi amser rhesymol i gyflogeion fynd i gael triniaeth a gwneud addasiadau i'r swydd a/neu'r adeilad.
- Rheoli cyllideb ‘Ymyriad’ i hwyluso lleihad mewn amser aros ar gyfer ymgynghori, diagnosteg neu driniaeth (Gweler astudiaeth achos Heddlu Dyfed-Powys).
- Helpu sefydliadau i gydymffurfio â'u dyletswydd gyfreithiol er mwyn sicrhau system reoli a darpariaeth ddigonol i ymdopi â risgiau iechyd galwedigaethol. Bydd y systemau a gyflwynir yn cael eu teilwra at anghenion penodol y sefydliad. Mae angen i gyflogwyr gynnal asesiad risg hyddysg ar gyfer pob swydd i nodi a oes unrhyw ran ohoni'n debygol o achosi salwch yn y gweithle neu gyfrannu ato a phenderfynu ar y camau sydd eu hangen i atal pobl rhag mynd yn sâl oherwydd eu gwaith.
- Ategu cymorth cyntaf, naill ai drwy ddarpariaeth uniongyrchol, drwy hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf, neu ddarparu cymorth wrth gefn.
Dychwelyd I frig y dudalen
Materion Iechyd a Diogelwch
Gall gwasanaeth iechyd galwedigaethol, drwy ddarpariaeth uniongyrchol, neu mewn ffordd gynorthwyol, yn dibynnu ar drefniadau diogelwch y sefydliad, chwarae rôl yn y canlynol:
Dychwelyd I frig y dudalen
Hybu Iechyd
- darparu neu drefnu addysg iechyd yn y gweithle ac addysgu cyflogeion sut i lynu wrth ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch;
- darparu sgrinio iechyd, er enghraifft pwysedd gwaed, colesterol ac archwiliadau iechyd;
- cynorthwyo strategaeth lles cyflogeion y sefydliad, er enghraifft drwy Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dychwelyd I frig y dudalen
|