Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch >Esiamplau o arfer da > Astudiaethau achos iechyd galwedigaethol
Argraffu'r Dudalen
Astudiaethau achos iechyd galwedigaethol
Logo Cyngor Sir CaerfyrddinCyflwynodd Cyngor Sir Caerfyrddin Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol mewnol proffesiynol ag adnoddau priodol ym mis Hydref 2005. Roedd iddo ystod eang o safonau gwasanaethau penodedig mewn gweithgareddau Iechyd Galwedigaethol, ac roedd yn canolbwyntio i ddechrau ar leihau achosion o absenoldeb oherwydd salwch yn y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai.
Gwnaethpwyd buddsoddiad o £109,000 a oedd yn cynnwys gweithwyr  Iechyd Galwedigaethol proffesiynol, cymorth gweinyddol, swyddog Adnoddau Dynol rhan amser a dyraniad ar gyfer cynllun carlam i'r cyflogeion peilot. 

Mae eu camau wedi arwain at leihau achosion o absenoldeb yn yr ardal o 8.4 y cant i 7.4 y cant, a hynny drwy gymryd camau ar y cyd ar draws y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai

Gyda 2,500 o bobl yn gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai honno, mae'r gwelliant hwn wedi creu 6,525 o ddiwrnodau gwaith llawn sy'n cyfateb i 25 o staff llawn amser ychwanegol.

Os mai £20,000 yr un oedd y gost gros o gyflogi pob un o'r aelodau o staff hynny, yna'r prif elw ar fuddsoddiad o £109,000 yw gwerth £500,000 o amser yn y gwaith.

Roedd rhai o'r achosion o absenoldeb yn cynnwys costau staff dros dro felly byddai lleihau nifer yr achosion hynny yn ychwanegu at fuddiannau.

Cysylltwch â: (
HFont@carmarthenshire.gov.uk)


PWYNTIAU DYSGU ALLWEDDOL:

1. Diffyg safonau - Cytundeb Lefel Gwasanaeth (o ran dyddiau gwaith) o fewn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, e.e.:

Ymateb i negeseuon e-bost o fewn   dau ddiwrnod
Ymateb i ymholiadau ffôn     un diwrnod 
Sgrinio cyn cyflogi      un diwrnod
Cynhyrchu adroddiad o fewn    pum diwrnod
Uchafswm amser aros am apwyntiad  pum diwrnod (chwe diwrnod ar hyn o bryd)
Apwyntiad cyntaf gyda Chynghorydd   pum diwrnod (wyth diwrnod ar hyn o bryd oherwydd llwyddiant y gwasanaeth*).

Mae'r Adran Iechyd Galwedigaethol hefyd yn rheoli'r rhyngwyneb â Swyddog Meddygol allanol i sicrhau cyfathrebu clir.

2. Sicrhau y caiff pawb eu cynnwys a'u cynorthwyo ar draws y  'system gyfan': Ni all yr Adran Iechyd Galwedigaethol weithio ar ei phen ei hun. Mae rheolwyr llinell ac Adnoddau Dynol yn bartneriaid allweddol, ac mae angen llawer o gyd-barch rhyngddynt.

3. Cyflwyno pwyntiau sbardun newydd ar gyfer cyfeirio achosion i'r Adran Iechyd Galwedigaethol e.e. unrhyw un sy'n absennol am saith diwrnod neu fwy â salwch sy'n ymwneud ag anhwylder cyhyrsgerbydol, straen (ac ati), beichiogrwydd neu salwch sy'n gysylltiedig â'r Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (damwain yn y gwaith).

4. Mae'r Adran Iechyd Galwedigaethol wedi bod yn rhan o gynadleddau achos sydd wedi cynorthwyo 65 o aelodau o staff (mewn un flwyddyn) i gael apwyntiadau llwybr carlam ar gyfer ffisiotherapi, MRI, apwyntiadau gyda meddygon ymgynghorol ac ati, am gost o £14,450; o'r 54 o achosion a ystyriwyd, ymddeolodd 39 o aelodau o staff oherwydd salwch;cynorthwywyd 80 o aelodau o staff i adsefydlu yn raddol neu rhoddwyd dyletswyddau ysgafn iddynt ar ôl cyfnod hir o absenoldeb; 
cafwyd 20 o achosion am adleoli meddygol.

Mae'r cynadleddau achos wedi cynnwys rhai achosion lle mae'r cyflogai yn bresennol, rhai lle caiff yr Undebau Llafur eu cynnwys, ac mae'r ymateb cyffredinol yn 'gadarnhaol tu hwnt', gydag aelodau o staff yn gwerthfawrogi'r rhain fel arwydd bod 'rhywun yn poeni'.

5. Mae'r Adran iechyd Galwedigaethol yn cynnal rhaglenni arolygu Iechyd i fodloni gofynion statudol, gan strwythuro'r gwaith sgrinio i ddiwallu anghenion penodol y rôl.

6. *Darperir y Gwasanaeth Cynghori'n fewnol gan Gynghorydd sesiynol, neu fyfyrwyr Cynghori sydd ar eu blwyddyn olaf ac o dan oruchwyliaeth mewn achosion llai cymhleth. Yn yr un modd caiff staff Iechyd Galwedigaethol oruchwyliaeth glinigol broffesiynol.
Uchafswm nifer y sesiynau ar gyfer cyflogai = chwech.
Cynhelir sesiynau grwp i ddiwallu anghenion penodol.

7. Mae'r Adran Iechyd Galwedigaethol yn cynnal gweithgareddau/ mentrau hybu iechyd i gefnogi'r Safon Iechyd Gorfforaethol (enillwyd gwobr Aur) fel rhoi'r gorau i ysmygu, sgrinio ffyrdd o fyw, cysylltiadau â diwrnodau ymwybyddiaeth o iechyd cenedlaethol, gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes maetheg, datblygu chwaraeon ac ati.

8. Caiff data absenoldeb ei gasglu a'i adolygu'n fisol gan reolwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddi achosion salwch a chanran y cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith a gynhaliwyd.

Cynhyrchir data gweithgarwch Iechyd Galwedigaethol yn fisol sy'n dangos nifer yr achosion a gaiff eu cyfeirio, y defnydd o'r gwasanaeth, rhwyg rhwng cyfarwyddiaethau, rhesymau dros gyfeirio achosion.

9. Fel rhan o'r astudiaeth beilot o salwch adolygwyd sawl ffurflen ac adroddiad safonol.

10. Gweithiodd y gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd Galwedigaethol ar y cyd i ddarparu hyfforddiant i reolwyr a goruchwylwyr allweddol o ran rheoli absenoldeb oherwydd salwch.

11. Lefel uchel o weithgarwch o ran hyrwyddo'r adran Iechyd Galwedigaethol a lefel y cymorth y gall ei chynnig i reolwyr ac unigolion fel ei gilydd.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru