Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch >Esiamplau o arfer da > Astudiaethau achos iechyd galwedigaethol
Argraffu'r Dudalen
Astudiaethau achos iechyd galwedigaethol
Rydym yn rheoli achosion o absenoldeb cyflogeion yn gadarnhaol drwy sicrhau bod rheolwyr llinell yn ymyrryd yn gynnar, cynyddu nifer yr achosion a gyfeirir at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol allanol er mwyn mynd i'r afael â materion absenoldeb yn rhagweithiol a gwella lefelau presenoldeb, gan gyfrannu at y lleihad yn ein ffigurau absenoldeb oherwydd salwch. Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wella iechyd ein cyflogeion, rheoli pob achos o absenoldeb unigol yn rhagweithiol a llunio rhaglenni dychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.

Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wella iechyd ein cyflogeion, rheoli pob achos o absenoldeb unigol yn rhagweithiol a llunio rhaglenni dychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.'

 Blwyddyn  Salwch Swyddogion Heddlu (dyddiau)   Salwch Staff yr Heddlu (dyddiau)
 2004/2005  11.6  11.6 
 2005/2006  9.82  8.35 
 2006/2007
(y chwarter olaf)
 1.92  2 

Cysylltwch â:  Gareth Cowley, Pennaeth Adnoddau Dynol. Ffôn 01267 226400.

Mae'r tîm Iechyd Galwedigaethol mewnol yn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddulliau rhagweithiol o atal achosion o absenoldeb.

NODWEDDION ALLWEDDOL:

  • Mae asesu anghenion staff yn ofalus yn hanfodol er mwyn darparu gofal wedi'i dargedu a chost effeithiol:

    Cyflogir ffisiotherapydd am nifer o sesiynau bob wythnos ac mae'n cynnig apwyntiadau i unrhyw swyddog neu aelod o staff a thriniaeth ar unwaith i unrhyw un sydd i ffwrdd o'r gwaith yn sâl ag unrhyw fath o broblem cyhyrsgerbydol.
    Yn hytrach nag aros i weld Swyddog Meddygol mae apwyntiadau ar unwaith am driniaeth ffisiotherapi broffesiynol yn darparu enillion cost a budd sylweddol. Gall y Swyddog Meddygol (meddyg iechyd galwedigaethol ymgynghorol) drefnu ei hamser er mwyn trin yr achosion mwy difrifol a chymhleth.
  • Cyflogir Cynghorydd Lles, sy'n gweithio'n agos gyda'r Ffisiotherapydd yn y tîm Iechyd Galwedigaethol, i gynorthwyo unigolion â phatrymau deiet ac ymarfer corff a chydlynu rhwydwaith o 'Hyrwyddwyr Lles' gwirfoddol ar draws yr heddlu, y rhoddir amser penodol iddynt y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gyflawni'r rôl hon bob mis er mwyn hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau a helpu unigolion.

  • Cynhelir 'Ffeiriau Iechyd' yn flynyddol ym mhob lleoliad a gorsaf yn ardal Dyfed-Powys. Mae hwn yn ddigwyddiad mawr sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd, ffordd o fyw ac atal salwch. Anogir pob aelod o staff i ddod i'r digwyddiad hwn i gael prawf pwysedd gwaed, colesterol, ffitrwydd, mynegai màs y corff a gweithrediad yr ysgyfaint ac i gael gwybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd sy'n hyrwyddo lles.    Mae'r ymweliadau hyn hefyd yn rhoi'r cyfle i staff gael brechiadau sy'n angenrheidiol er mwyn atal firysau a gludir gan waed. Mae'r ymweliadau hyn yn gyfle perffaith i ddarparu cyngor iechyd galwedigaethol i bob aelod o staff.
  • Mae'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn buddsoddi tua £13,000 y  flwyddyn ar ymgynghoriadau arbenigol preifat bob blwyddyn, a £44,000 ar driniaeth breifat, gan gynnwys llawdriniaethau a sganiau MRI.  Gwneir penderfyniadau o ran cyllid ar sail cyfrifiad cost a budd sy'n dangos arbedion cost. Dengys gwerthusiad o gost/budd y gwariant hwn yng nghyd-destun lleihau amser a gollwyd, nad yw'r buddsoddiad ond yn talu am ei hun, ond yn creu gwerth am arian sylweddol hefyd.
  • Yn 2005/2006 dangosodd y gyllideb llawdriniaethau yn unig arbedion sylfaenol o £338,340. Nid yw hyn yn cynnwys arbedion cudd megis perfformiad a chostau recriwtio.

 Blwyddyn  Nifer y staff a gafodd eu trin  Cost  Arbedion posibl
 2003/2004  10  £32,999  £140,711.00
 2004/2005  10  £32,353

£248,375.00

 2005/2006  13  £46,355  £338,340.00 

  • Caiff Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ynghyd â gwasanaeth cynghori eu defnyddio'n gynyddol i gynorthwyo unigolion sy'n absennol oherwydd salwch oherwydd materion seicolegol cymhleth.  Penodwyd Seicolegydd â sgiliau Therapi Ymddygiadol Gwybyddol arbenigol yn ddiweddar er mwyn rhoi cymorth i staff ar unwaith.
  • Drwy gynnal Archwiliad Straen mewnol gan ddefnyddio arbenigwr cenedlaethol blaenllaw, a chynnwys 'Meddwl Iach yn y Gwaith', rhoddir cymorth sy'n canolbwyntio ar atebion i staff sy'n ymdopi ag unrhyw bryder.

Heddlu Dyfed-Powys:

 'Dim ond neges e-bost gyflym i ddiolch i bawb ohonoch yn yr adran iechyd galwedigaethol am y gwasanaeth a'r help a gefais dros y chwe mis diwethaf. Mae arnaf ofn meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na fyddai gwasanaeth o'r fath ar gael nid yn unig i mi ond hefyd i aelodau eraill o staff sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg i mi. Cydnabu'r adran Iechyd Galwedigaethol yn gyflym nad oedd popeth yn iawn â'r gwasanaeth yr oeddwn yn ei gael eisoes a gwnaethant ymyrryd ar gam cynnar i ymdrin â'r materion a oedd yn gysylltiedig â'm hanaf. Pe na fyddech wedi ymyrryd mor brydlon ag y gwnaethoch teimlaf y gallai'r driniaeth yr oeddwn yn ei chael am fy anaf fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol i'm gyrfa.'

Cysylltwch â: Maria Vanderpas, Rheolwr Iechyd Galwedigaethol. Ffôn 01267 226682 neu maria.vanderpas@dyfed-powys.pnn.police.uk.

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru