|
Mae angen mewnbwn parhaus gan reolwyr ar unrhyw ddarpariaeth iechyd galwedigaethol i sicrhau ei bod yn cael ei hintegreiddio'n llawn i weithgarwch gweithredol. Arfer da yw nodi'r fframwaith rheoli yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, y contract, y telerau ymgysylltu neu elfennau eraill o'r fframwaith gwasanaeth.
Dylai rheolwyr ddiffinio'n glir lefelau'r gwasanaeth sydd eu hangen gan ddarparwyr iechyd galwedigaethol
Fel mewn unrhyw faes rheoli, gall diffyg safonau diffiniedig neu ddisgwyliadau a rennir o ran lefelau gwasanaeth arwain at safbwyntiau gwahanol am amcanion.
Un feirniadaeth gyffredin o ddarparwyr iechyd galwedigaethol yw bod amseroedd ymateb yn araf (IRS (2007) ‘Occupational health’s role in managing absence’, IRS Employment Review 30 Gorffennaf 2007). Caiff y gwasanaethau iechyd galwedigaethol mwyaf effeithiol eu rhedeg o fewn fframwaith cytûn o safonau lefel gwasanaeth. Er enghraifft, caiff cyflogeion mewn categorïau penodol eu gweld o fewn x o ddiwrnodau, caiff adroddiadau eu hysgrifennu o fewn y o ddiwrnodau, cwblheir asesiadau cyncyflogaeth mewn z awr (gweler, er enghraifft, gwasanaeth iechyd galwedigaethol Cyngor Sir Caerfyrddin).
Mae angen i reolwyr ddiffinio'r rheswm dros bob atgyfeiriad yn glir
Beirniadaeth bellach gan reolwyr yw bod adroddiadau iechyd galwedigaethol weithiau'n rhy gyffredinol neu'n methu â dangos dealltwriaeth o'r gweithle.
I'r gwrthwyneb, canfu'r un ymchwil fod cynghorwyr iechyd galwedigaethol yn cwyno nad oeddent bob amser yn gwybod pam yr atgyfeiriwyd rhywun atynt (IRS Employment Review 30 Gorffennaf 2007).
Dylai unrhyw atgyfeiriad at gynghorwyr iechyd galwedigaethol nodi'r meysydd penodol sy'n peri pryder. Dylid sicrhau bod sianel gyfathrebu gydnabyddedig yn dda, er enghraifft drwy reolwr y gwasanaeth iechyd galwedigaethol, i osgoi camddealltwriaeth.
| Astudiaeth Achos – Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae'r Cyngor yn cyflawni enillion effeithlonrwydd drwy reoli absenoldeb oherwydd salwch.
Ar hyn o bryd, mae'n gwneud ymdrech ar y cyd i leihau nifer y dyddiau salwch a gollir gan gyflogeion drwy gyfrwng ei uned iechyd galwedigaethol ei hun. Mae gan gyflogeion fynediad at feddygon iechyd galwedigaethol, cynghorwyr, nyrs a ffisiotherapydd i'w helpu i aros yn eu gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith yn gynt nag a fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Mae'r uned iechyd galwedigaethol hefyd yn cynnal ymgyrchoedd goruchwylio iechyd a hybu iechyd rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd sylweddol. Caiff ei llwyddiant ei hadlewyrchu yn y gostyngiad mewn ystadegau absenoldeb oherwydd salwch dros y blynyddoedd diwethaf. |
Mae angen i reolwyr reoli costau
Mae angen i sefydliadau sefydlu system gyfrifyddu effeithiol i reoli cost gwasanaethau iechyd galwedigaethol. Bydd y dull atgyfeirio, p'un a yw cyflogeion yn hunanatgyfeirio neu reolwyr yn gweithredu fel porthorion i'r gwasanaeth, yn effeithio ar faint y galw am wasanaethau ac felly'r costau.
Mae angen i reolwyr fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd eu gwasanaeth iechyd galwedigaethol
Weithiau prin yw'r gwaith monitro neu werthuso a wneir o ganlyniadau achosion iechyd galwedigaethol.
- Adborth: Awgrymodd ymchwilwyr IRS y gallai sefydlu system i gael adborth agored ac adeiladol rhwng adnoddau dynol, cynghorwyr iechyd galwedigaethol, rheolwyr llinell a rhanddeiliaid eraill leihau'r gwrthdaro a'r camddealltwriaeth.
- Diweddariadau rheolaidd: Mae angen i reolwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am achosion unigol yn rheolaidd ar gyfnodau y penderfynir arnynt ymlaen llaw.
- Gwerthuso: Dylid gwerthuso rôl, lleoliad, gwasanaethau ac effeithiolrwydd cost gwasanaeth iechyd galwedigaethol y sefydliad bob blwyddyn neu ddwy. Dylai'r gwerthusiadau gynnwys pob rhanddeiliaid a defnyddio ystadegau absenoldeb a data arall. Lle caiff gwasanaeth ei gontractio allan, mae'r gwerthusiad yn debygol o ffurfio rhan o'r broses ail-dendro.
|