|
Mae Safon Iechyd Gorfforaethol* Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu safon ansawdd genedlaethol ar gyfer hybu iechyd. Mae'n nodi'r meini prawf ar gyfer asesu ansawdd gwasanaeth iechyd galwedigaethol.
Staffio
Mae angen tystiolaeth ar aseswyr bod gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn cael ei ddarparu gan gyflogeion cymwys megis:
- cynghorydd meddygol â diploma mewn meddygaeth alwedigaethol;
- nyrs gofrestredig â chymhwyster iechyd galwedigaethol cydnabyddedig; neu
- nyrs gofrestredig â llwybr diffiniedig i gyngor arbenigol.
Rheolaeth
Bydd aseswyr yn dymuno gweld tystiolaeth bod risgiau iechyd galwedigaethol yn cael eu rheoli'n effeithiol, drwy, er enghraifft: strategaethau ymyrryd ataliol:
- monitro effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran diwallu anghenion y sefydliad;
- sgrinio iechyd;
- goruchwylio iechyd;
- strategaethau imiwneiddio;
- strategaethau dychwelyd i'r gwaith a reolir;
- cyngor iechyd sy'n ymwneud â gwaith;
- mynediad i gwnsela;
- hybu iechyd;
- rhoi mynediad i'r ddarpariaeth iechyd galwedigaethol at dîm amlddisgyblaethol sy'n berthnasol i anghenion y sefydliad.
Lefelau gwasanaeth
ydd aseswyr hefyd yn dymuno gweld tystiolaeth o'r canlynol:
- bod gan y gwasanaeth iechyd galwedigaethol safon atgyfeirio glir sy'n ddigonol ac yn briodol i anghenion y sefydliad;
- bod cyflogeion yn gallu hunanatgyfeirio a bod cyfleuster i feddygon teulu atgyfeirio;bod cyflogeion yn gallu cael mynediad at wasanaeth iechyd galwedigaethol cynhwysfawr, cymwys a chyfrinachol;
- gall cyflogeion gael eu hatgyfeirio gan reolwyr llinell neu gyflogeion priodol eraill, megis y swyddog iechyd a diogelwch neu swyddogion undeb.
Ffynhonnell: *Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru
|