|
Gellir cael mathau amrywiol o wasanaethau iechyd galwedigaethol yn dibynnu ar faint a gofynion y sefydliad:
Gwasanaeth mewnol llawn
Yn aml ceir gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol llawn mewn sefydliadau mawr megis gwasanaethau ysbyty'r GIG lle mae gofynion iechyd galwedigaethol mewnol yn esgor ar ddigon o alw i ledaenu cost y gwasanaeth.
Mantais y model hwn yw argaeledd arbenigwyr penodol sy'n deall busnes y cyflogwr ac yn gallu rhoi mewnbwn awdurdodol ar unrhyw fater. Yn y GIG, gall adrannau iechyd galwedigaethol gynhyrchu incwm drwy werthu gwasanaethau i gyflogwyr eraill.
Fodd bynnag, ceir risgiau os na chaiff gwasanaethau iechyd galwedigaethol eu rheoli na'u monitro'n ddigonol drwy safonau gwasanaeth diffiniedig a gall rhwystredigaeth gronni o ganlyniad i ddiffyg eglurder ynghylch blaenoriaethau'r gwasanaeth. Gweler ‘Gwneud y defnydd gorau o wasanaethau iechyd galwedigaethol’.
Gwasanaeth mewnol rhannol
Ar y cyfan nid yw gwasanaethau mewnol rhannol yn cyflogi ymarferydd meddygol yn llawn amser ond maent yn defnyddio cyflogeion rhan amser rheolaidd neu gontract am farn feddygol yn ôl yr angen. Mae'r opsiwn hwn yn llai drud na chyflogi arbenigwyr iechyd galwedigaethol llawn amser a gall fod yn addas i sefydliadau llai a'r rhai sy'n wynebu nifer cyfyngedig, penodol o beryglon.
Prynu i mewn i wasanaeth mewnol rhywun arall
Prynu i mewn i wasanaeth arall drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth naill ai am ffi benodedig neu ar sail 'fesul achos'. Nid yw'n anghyffredin cael gwasanaeth mewnol rhannol a phrynu cyngor meddygol arbenigol neu ymyriadau i mewn drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth.
Pan fydd y model hwn yn gweithio'n dda, gall gynnig mynediad at drefniant ar raddfa fawr sydd wedi'i adnoddu'n dda. Fodd bynnag, mae yna risg y bydd y sefydliad cynnal yn rhoi mwy o flaenoriaeth i'w anghenion ei hun ac mai'r cwsmer fydd ar waelod y rhestr bob amser. Gellir lleihau'r risg hon drwy reoli a monitro'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn gadarn.
Gasanaeth partneriaeth (a rennir)
Gellir ariannu gwasanaethau partneriaeth (a rennir) drwy godi tâl pro rata ar filiau cyflog y sefydliadau dan sylw. Drwy gyflawni maint, yna mae'r gweithrediad yn gallu cyfiawnhau cyflogi ymgynghorwyr iechyd galwedigaethol a mabwysiadu arfer da ar gyfer datblygu cyflogeion. Y risg yw bod y 'cydberchenogaeth' yn arwain at ddrwgdybiaeth ym mhob sefydliad bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r sefydliad arall!
Dfnyddio darparwr allanol
Defnyddio darparwr allanol, er enghraifft, meddyg teulu lleol neu gwmni iechyd galwedigaethol arbenigol. Mae hwn yn drefniant syml, masnachol, gyda chontract, safonau gwasanaeth diffiniedig, a dulliau adrodd/adolygu.
Y manteision yw bod y dulliau monitro ac adolygu a'r ail-dendro rheolaidd yn hybu perfformiad. Nid yw'r sefydliad cynnal yn wynebu'r her o recriwtio, ac efallai y bydd gan y darparwr adnoddau mewn mannau eraill wrth gefn neu i ateb cynnydd yn y galw.
|