|
Mae'r label 'cynghorydd iechyd galwedigaethol' yn cwmpasu amrywiaeth o rolau:
Mae cyflogwyr yn defnyddio amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
| |
Canran y cyflogwyr |
Nyrsys iechyd galwedigaethol Meddygon iechyd galwedigaethol * Cynghorwyr Ffisiotherapyddion Ymarferwyr iechyd a diogelwch Arbenigwyr eraill y GIG Meddygon Teulu fel rhan o'u gwaith GIG Meddygon Teulu Cwmnïau Therapyddion cyflenwol Hylenydd galwedigaethol Arall |
84 80 53 31 29 11 10 8 5 1 4 |
| Cyfanswm nifer y sefydliadau a holwyd |
97 |
* Naill ai ymgynghorydd iechyd galwedigaethol neu feddyg teulu â phrofiad arbenigol
Ffynhonnell: IRS (2007) ‘Occupational health’s role in managing sickness absence’ IRS Employment review 30 Gorffennaf 2007
Mae cost staff gwahanol yn amrywio'n sylweddol ac felly mae angen i gyflogwyr ystyried pwy all ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen yn fwyaf effeithlon:
- Cyflog sylfaenol y GIG ar gyfer meddyg ymgynghorol yw £69,000-£90,000 y flwyddyn (a dyfarndaliadau rhagoriaeth/ymrwymiad a chostau cyflogaeth). Bydd cyflog nyrs neu gynghorydd yn tueddu i fod rhwng £19,000 a £32,000 (Bandiau 5 a 6 Agenda ar gyfer Newid). Fodd bynnag, mae prinder perthynol cynghorwyr iechyd galwedigaethol (meddygon a nyrsys) yn golygu y gall cyflogau fod ar ben uchaf y graddfeydd hyn. Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am raddfeydd cyflog GIG Cymru yn http://www.wales.nhs.uk/page.cfm?pid=4269
- Ar y cyfan caiff cost ymarferydd meddygol iechyd galwedigaethol ei thrafod â'r darparwr gwasanaeth am batrwm wythnosol diffiniedig (er enghraifft, dau hanner diwrnod). Mae'r gost yn debygol o ddechrau ar £200 fesul hanner diwrnod. Bydd yn dibynnu ar ffactorau yn cynnwys profiad/cymwysterau'r cynghorydd; pa un a yw'r trefniant yn bersonol neu drwy bractis (sy'n effeithio ar orbenion) a ph'un a yw'r ymgynghoriad yn digwydd yn eiddo'r cyflogwr. Yn flaenorol, cafodd ffioedd a dalwyd i feddygon oedd yn cynorthwyo awdurdodau lleol yn uniongyrchol eu trafod yn ganolog. Fodd bynnag, o fis Ebrill 2008, cânt eu pennu'n lleol. (Cliciwch yma i gael canllawiau ar ffioedd ar gyfer 2007-2008).
- Mae cost ffisiotherapydd yn amrywio oherwydd bydd llawer yn cael eu cyflogi yn y sector preifat lle mae ffioedd yn dechrau ar £30 yr awr ar hyn o bryd. Yn y GIG, caiff y rhan fwyaf o ffisiotherapyddion eu talu ym mand 6 - 7 (£23,000 - £37,000 ar hyn o bryd).
- Mae'n debygol mai cyn-nyrs brofiadol fydd y rheolwr gwasanaethau. Bydd rhaid i'w gyflog/chyflog gyd-fynd â rolau rheoli eraill yn y sefydliad.
- Gall hefyd fod costau cyflogeion gweinyddol yn dibynnu ar raddfa'r gwasanaeth iechyd galwedigaethol.
|