Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Modelau darparu iechyd galwedigaethol > Dylai fod yn bosibl amcangyfrif lefel y gwasanaeth sydd ei hangen
Argraffu'r Dudalen
Dylai fod yn bosibl amcangyfrif lefel y gwasanaeth sydd ei hangen
Dylai fod yn bosibl i gyflogwr amcangyfrif lefel y gwasanaeth sydd ei hangen drwy edrych ar yr amrywiaeth o swyddogaethau sy'n debygol o gael eu cyflawni gan gyflogeion ar lefelau gwahanol. Bydd hyn yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir yn y sefydliad, er enghraifft:
  • A yw asesiadau gweithfannau wedi'u cynnwys yn y briff iechyd galwedigaethol neu a oes modd eu cwmpasu o fannau eraill (Adnoddau Dynol, TG neu Iechyd a Diogelwch)?
  • Beth yw'r lefel recriwtio debygol i grwpiau galwedigaethol gwahanol?

Astudiaeth achos – mae Prifysgol Caerdydd yn categoreiddio swyddi yn ôl y risg i iechyd

Mae Prifysgol Caerdydd yn categoreiddio lefel y risg i iechyd ym mhob swydd gan ddefnyddio'r lliwiau coch/melyn/gwyrdd. Caiff hyn ei nodi ym mhrosesau swyddi gwag i sicrhau y trefnir dulliau sgrinio cyn cyflogi yn briodol, gan amrywio o ddull syml o graffu ar holiadur iechyd wedi'i lunio'n dda ar gyfer rhai rolau (gwyrdd) i archwiliad corfforol trylwyr ar gyfer y rolau coch.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru