Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Modelau darparu iechyd galwedigaethol > Gall sefydliadau llai ei chael yn anodd darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol
Argraffu'r Dudalen
Gall sefydliadau llai ei chael yn anodd darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol
Gall sefydliadau bach (0-50 o gyflogeion) a chanolig (51-249 o gyflogeion) ei chael yn anodd darparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau iechyd galwedigaethol.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi nodi atebion amrywiol:

  • Mae gan rai sefydliadau bach 'gymdogion da', lle mae cwmni mwy yn cynnig eu gwasanaethau cymorth i fusnesau bach yn eu cadwyn gyflenwi.
  • Mae rhai yn gweithredu ar eu pen eu hunain. Mae rhai sefydliadau bach yn ei chael yn fuddiol gwneud trefniadau partneriaeth lleol â phobl broffesiynol ym maes iechyd. Gall y cysylltiadau hyn hefyd helpu i roi cyngor ar sut i osgoi risg yn y gweithle.
  • Mae rhai'n gwneud trefniadau drwy eu hyswiriant atebolrwydd cyflogwr. Mae'r rhan fwyaf o yswirwyr yn cynnig y gwasanaeth hwn bellach.

Ffynhonnell: http://www.hse.gov.uk/msd/backpain/employers.htm

Mae ffynonellau amrywiol o gymorth ar gael i sefydliadau bach a chanolig:

Hybu Gwaith Cymru

Mae Hybu Gwaith Cymru yn wasanaeth cynghori diduedd am ddim a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae'n cynnig cyngor a chymorth wedi'u teilwra ar iechyd yn y gweithle, diogelwch a materion dychwelyd i'r gwaith i fusnesau bach a chanolig. Mae'r holl gyngor a roddir a'r holl ymweliadau yn gyfrinachol, yn ddiduedd ac am ddim.

Mae Hybu Gwaith Cymru yn rhoi cyngor dros y ffôn ac yn cynnal ymweliadau am ddim â'r gweithle i helpu i ddatrys problemau. Ei nod yw trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau'n uniongyrchol i reolwyr a gweithwyr, gan eu galluogi i fynd i'r afael ag unrhyw faterion iechyd yn y gweithle eu hunain yn y dyfodol, a'u datrys. Mae'r gwasanaeth peilot yn rhedeg o ddechrau mis Mawrth 2008 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2009.

Gall y rhai sy'n ffonio gysylltu â Hybu Gwaith Cymru drwy ffonio Llinell Ymholiadau Hybu Gwaith Cymru ar 0845 609 6006 neu fynd i wefan Hybu Gwaith Cymru.


  Gwasanaethau iechyd galwedigaethol y GIG

Yn Lloegr, mae NHS Plus yn rhwydwaith o adrannau iechyd galwedigaethol GIG sy'n darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol i gyflogwyr nad ydynt yn y GIG, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Yng Nghymru, gall BBaCh brynu gwasanaethau iechyd galwedigaethol yn uniongyrchol gan rai o ymddiriedolaethau'r GIG.

Mae Iechyd Galwedigaethol Ychwanegol yn gynllun a weithredir o fewn y GIG yn yr Alban i ddarparu mynediad cyflym i wasanaethau megis ffisiotherapi a therapi ymddygiad gwybyddol gyda phob achos yn cael ei reoli gan reolwr achos penodol.


  Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae cyngor ar gael hefyd drwy linell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - 0845 345 0055

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru