|
Ym mis Mai 2008, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiadau o drefniadau rheoli fflyd mewn 50 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd yr adolygiadau'n seiliedig ar ddull archwilio yr ydym bellach wedi'i addasu yn ddau offeryn hunanasesu. Gall sefydliadau'r sector cyhoeddus ddefnyddio'r offerynnau i adolygu eu trefniadau rheoli fflyd lle na wnaed gwaith yn flaenorol, neu i wneud gwaith dilynol ar eu hadolygiad archwiliad allanol ffurfiol.
Rydym wedi datblygu dulliau 'manwl' a 'lefel uchel' sy'n cwmpasu'r pum maes allweddol canlynol yng nghylch oes y fflyd:
- strategaeth;
- caffael;
- cynnal a chadw;
- rhedeg;
- gwaredu.
Offeryn hunanasesu manwl - cliciwch i'w weld Gall rheolwyd fflyd, archwilwyr mewnol ac eraill ddefnyddio'r offeryn hwn i gynnal adolygiad manwl o drefniadau rheoli fflyd eu sefydliad.
Offeryn hunanasesu lefel uchel - cliciwch i'w weld Gall cyfarwyddwyr, aelodau, swyddogion anweithredol ac eraill ddefnyddio'r offeryn lefel uchel hwn i gael trosolwg o drefniadau rheoli fflyd eu sefydliad.
|