|
|
|
Addas i'r diben
|
 |
Mae hyn yn disgrifio cerbyd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rôl y bydd yn ei chyflawni.
|
Yn unol ag arfer gorau, mae Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn cynnal gweithdai gyda gyrwyr i drafod manylebau cerbydau.
Cyswllt: Andrew Davies andrew.davies@bromor-tr.wales.nhs.uk
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymgynghori â'i staff o ran eu gofynion ar gyfer cynllunio ambiwlansys newydd.
Cyswllt: Tony Cowley tony.cowley@ambulance.wales.nhs.uk |
|
Yn ystod y broses o brynu / comisiynu cerbyd gosod conau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, aethpwyd ag aelodau staff unigol i'r saer cerbydau i brofi'r cerbyd newydd. Gwnaed addasiadau ar y cam hwn i'r mecanwaith uchder gollwng i ganiatáu i bobl o wahanol daldra weithredu'r peiriant gollwng.
Cyswllt: Nigel Jones nigel.jones@conwy.gov.uk |
|
|
|
|
|
Ail-rychu
|
 |
Ail-rychu teiars yw aildorri teiar sydd wedi treulio er mwyn sicrhau bod dyfnder y gwadn yn ddigon dwfn. Mae hyn yn ymestyn oes y teiar heb orfod prynu teiar newydd. Rhaid ail-rychu teiar yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr.
|
|
|
|
|
Ailwadnu neu ailgastio
|
 |
Ailwadnu teiars yw gosod gwadn newydd yn lle gwadn sydd wedi treulio yn hytrach na newid y teiar cyfan. mae'n costio tua 60% o gost teiar newydd. Fodd bynnag, rhaid ail-wadnu yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr.
|
|
|
|
|
Allyriadau CO2
|
 |
Y carbon deuocsid a gaiff ei ryddhau yn nwyon gwacáu cerbydau. Caiff ei fesur yn g/km.
O 6 Ebrill 2002, cyflwynodd y Llywodraeth ddull diwygiedig o drethu ceir cwmnïau a oedd yn cysylltu'r tâl Budd mewn Da (BIK) ar gyfer ceir cwmni, a gofrestrwyd o 1 Ionawr 1998, fel canran o bris y car a'r allyriadau CO2. Nid yw'r ffigur CO2 yn newid am oes y cerbyd. Mae'r Gymdeithas Gwneuthurwyr Moduron yn darparu tabl cyfrifo.
Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni wedi llunio canllaw i helpu i leihau allyriadau o gerbydau diesel.
Mae'r allyriadau CO2 o gerbydau hybrid, cerbydau a bwerir gan nwy (e.e. LPG) ac allyriadau o gerbydau sy'n defnyddio biodanwydd yn llai nag allyriadau o beiriannau petrol a diesel, ar y cyfan.
|
|
|
|
|
Amser segur cerbydau
|
 |
Y cyfnod o amser pan nad yw cerbyd ar gael ar gyfer gwaith. Gall hyn fod oherwydd ffactorau megis gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd neu nas cynlluniwyd, atgyweirio teiars neu osod ffenestr flaen newydd. Er mwyn defnyddio'r cerbyd yn effeithlon, gellir lleihau'r amser segur drwy gynllunio gwaith cynnal a chadw yn effeithiol. Gall hyn gynnwys trefnu oriau'r gweithdy fel bod gwaith cynnal a chadw yn digwydd y tu allan i'r oriau pan fydd angen y cerbyd.
|
|
|
|
|
Archwiliadau cerbydau dyddiol
|
 |
Am resymau diogelwch dylid archwilio cerbydau bob dydd a dylid rhoi gwybod am unrhyw namau ar unwaith. Dylid rhoi gwybod drwy daflen namau cerbydau dyddiol neu daflen gyfatebol. Yn dibynnu ar y cerbyd, dylai'r archwiliadau gynnwys rhai o'r mesurau canlynol, neu bob un ohonynt:
- tanwydd, olew, dwr;
- teiars a nytiau olwynion;
- drychau, cyfeirwyr, y corn;
- sychyddion, golchyddion, ffenestr flaen;
- yr uned tacograff os yw'n berthnasol;
- y deial cyflymder;
- breciau a chyplyddion trydanol;
- goleuadau, adlewyrchyddion, y batri;
- llywio, breciau;
- diffoddydd tân;
- gwregysau diogelwch;
- blwch cymorth cyntaf.
|
|
|
|
|
Argaeledd cerbydau
|
 |
Bydd ffactorau megis gofynion cynnal a chadw, llwyth gwaith sy'n fwy na chapasiti'r fflyd a'r ffaith nad yw cerbydau yn y lleoliad cywir yn effeithio ar argaeledd cerbydau. Gellir defnyddio systemau i sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o gerbydau ar gael, yn cynnwys dyrannu cerbydau i yrwyr neu waith penodol, defnyddio dyfeisiau olrhain i wybod union leoliad cerbydau a gwneud gwaith cynnal a chadw y tu allan i oriau gwaith cerbydau.
|
|
|
|
|
Arwerthiannau
|
 |
Mae arwerthiannau cerbydau proffesiynol yn opsiwn ar gyfer gwerthu cerbydau. Mae nifer o sefydliadau sector cyhoeddus wedi mabwysiadu'r dull gwaredu hwn sy'n arbed amser ac ymdrech ac sy'n helpu i sicrhau pris gwerthu cystadleuol. Mae rhai arwerthiannau arbenigol ond yn gwerthu ceir, ond bydd eraill yn gwerthu faniau, cerbydau masnachol ysgafn, cerbydau codi a dadlwytho, bysiau mini, bysiau gwasanaethau lles, ambiwlansys, cerbydau gyriant 4 olwyn, cerbydau masnachol trwm a cherbydau trin gwastraff.
Ledled y DU ceir sawl gwefan arwerthu masnachol sy'n darparu canllawiau ar ddulliau costeffeithiol o waredu cerbydau.
|
|
|
|
|
Biodanwydd
|
 |
Unrhyw fath o danwydd a gynhyrchir yn artiffisial o bethau byw, neu o'r gwastraff a gynhyrchir ganddynt. Dros y blynyddoedd diwethaf daeth i olygu ethanol, biodiesel neu danwydd hylif arall a wnaed o gnydau yn cynnwys yd, cansen siwgr a had rêp.
Mae Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf pump y cant o'r tanwydd a werthir mewn gorsafoedd petrol yn fiodanwydd erbyn 2010.
Bydd gwarantau gweithgynhyrchwyr cerbydau fel arfer yn caniatáu defnyddio cymysgedd o hyd at 5 y cant o fiodiesel yn eu peiriannau.
|
|
|
|
|
Camweddau
|
 |
Y camweddau gyrru mwyaf cyffredin yw pan nad yw'r gyrrwr yn cymryd seibiannau digonol, yn cwblhau'r tacograff yn anghywir, yn methu â darparu'r holl wybodaeth filltiredd neu'n cynhyrchu siartiau brwnt neu siartiau a ddifrodwyd. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw hyfforddi gyrwyr a thrafod sut y gellir osgoi camweddau. Gall dadansoddi siartiau tacograff nodi camweddau mewn perthynas â rheoliadau gyrru.
|
|
|
|
|
Cardiau tanwydd
|
 |
Mae gyrwyr yn defnyddio'r cardiau hyn i dalu am danwydd, ac wedyn codir tâl ar eu sefydliad am y tanwydd ar gyfradd ostyngedig ar ddiwedd pob mis fel arfer. Mae cardiau ar gael o gwmnïau olew mawr a sefydliadau masnachol eraill.
Mae'r defnydd o gardiau tanwydd yn caniatáu i sefydliadau fonitro'r defnydd o danwydd gan y gall y system gysylltiedig gynhyrchu adroddiadau defnydd ac amlygu unrhyw bryniannau neu dueddiadau anarferol.
|
|
|
|
|
Cerbydau a bwerir gan nwy
|
 |
Mae nwy petrolewm hylifedig (LPG) yn danwydd amgen y gellir ei ddefnyddio mewn cerbydau, fel arfer ar y cyd â phetrol. Mae LPG yn costio tua hanner pris petrol a diesel ar hyn o bryd. Mae cerbyd a bwerir gan LPG yn cynhyrchu llai o allyriadau peryglus na cherbyd sy'n defnyddio naill ai petrol neu ddiesel. Fodd bynnag, mae argaeledd a dibynadwyedd LPG ledled Cymru wedi arwain at rai sefydliadau yn rhoi'r gorau i brofion.
Mae'n aml yn hawdd addasu cerbydau i ddefnyddio LPG ond mae'n bwysig dewis cerbydau sy'n addas i'w haddasu, sicrhau y cynhelir profion a gwirio manylion gwarantau gwneuthurwyr.
|
|
|
|
|
Cerbydau hybrid
|
 |
Mae'r cerbydau hyn yn dueddol o ddefnyddio injan betrol neu ddisl fel y brif ffynhonnell bwer ond maent hefyd yn defnyddio modur trydan i gynorthwyo i bweru'r cerbyd o dan amgylchiadau gyrru penodol. Mae pob cerbyd hybrid yn defnyddio brecio atgynhyrchiol, sy'n golygu y defnyddir yr ynni a gynhyrchir wrth frecio i wefru’r batri. Mae cerbydau hybrid yn cynhyrchu llai o allyriadau oherwydd bod llai o angen i newid gêr, yn enwedig mewn traffig trefol. Mae gan gerbydau hybrid dreth ac maent yn denu rhwymedigaeth dreth budd mewn da personol is.
|
Mae Ymddireidolaeth GIG Cwm Taf (a sefydlwyd yn ffurfiol ar 1 Ebrill 2008 a’i gyfuno gyda chyn Ymddiriedolaethau GIG Gogledd Morgannwg, Pontypridd a Rhondda) yn prydlesu cerbyd hybrid Toyota fel rhan o’i fflyd.
Cyswllt: Bill Herridge bill.herridge@nglam-tr.wales.nhs.uk |
|
|
|
|
|
Cerbydau Tanwydd Amgen
|
 |
Yn draddodiadol, pwerwyd cerbydau gan beiriannau petrol neu ddiesel, ond mae cerbydau tanwydd amgen bellach ar gael sydd ag allyriadau CO2.
Mae'r enghreifftiau'n cynnwys cerbydau hybrid a cherbydau sy'n defnyddio nwy petrolewm hylifedig (LPG), biodiesel neu fatris trydanol.
Mae cerbydau trydanol yn dibynnu'n bennaf ar drydan a gynhyrchir o danwydd ffosil i ailwefru eu batris. Allyrrir CO2 wrth gynhyrchu'r trydan, ond ni fydd y cerbyd yn allyrru CO2.
|
|
|
|
|
Cofnodion cynnal a chadw fflyd
|
 |
Mae'r cofnodion hyn yn cynnwys manylion archwiliadau diogelwch, gwaith cynnal a chadw rheolaidd, adroddiadau am namau ar gerbydau ac atgyweiriadau i gerbydau. Mae cofnodion fflyd cyflawn a chyfoes yn helpu sefydliadau i leihau costau, dilysu gwarantau ac amddiffyn eu hunan pe bai achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn eu herbyn. Mae angen i ddeiliaid trwydded O gadw cofnodion am 15 mis fel y gall yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) archwilio'r cofnodion ar gyfer y cyfnod hwnnw.
|
|
|
|
|
Cofnodion gyrwyr
|
 |
Mae sefydliadau'n cofnodi manylion am bob gyrrwr. Mae'r cofnodion hyn yn cynnwys:
- manylion trwyddedau gyrru ac arnodiadau;
- yr hyfforddiant a gafwyd;
- hanes damweiniau;
- p'un a roddwyd cerdyn tanwydd;
- yr hawl i yrru mathau penodol o gerbydau;
- gwybodaeth i gefnogi cynlluniau ceir megis gradd y car a chyfraniad ariannol y gyrrwr.
Mae nifer o sefydliadau sector cyhoeddus yn defnyddio meddalwedd rheoli fflyd i reoli cofnodion gyrwyr.
|
|
|
|
|
Cofrestr o asedau'r fflyd
|
 |
Mae'r gofrestr hon yn cynnwys manylion pob math o gerbyd yn y fflyd yn cynnwys y math o gerbyd, y rhif cofrestru, y dyddiad yr ychwanegwyd at y fflyd a'r dyddiad y bwriedir ei newid am gerbyd newydd. Gellir cadw'r wybodaeth hon ar becyn meddalwedd cynnal a chadw fflyd a'i chysylltu ag amserlenni cynnal a chadw a manylion yswiriant yn cynnwys yr hanes damweiniau. Mae'n bwysig diweddaru'r gofrestr a sicrhau bod gwahanol adrannau o fewn sefydliad yn gallu cael gafael ar yr un fersiwn gyfoes o'r gofrestr.
|
|
|
|
|
Contract Cynnal a Chadw
|
 |
Cytundeb yw hwn rhwng sefydliad sy'n rhedeg fflyd o gerbydau a darparwr gwasanaethau cynnal a chadw. Dylai'r contract nodi manylion rhaglen waith cynnal a chadw y cytunwyd arni ar gyfer pob cerbyd yn y fflyd, gan nodi, er enghraifft, amlder gwaith cynnal a chadw a'r lefelau cytûn o'r gefnogaeth a ddarperir.
Ar gyfer cerbydau llog a phrydles, mae cynnal a chadw fel arfer yn rhan o'r tâl misol sefydlog, er nid ym mhob achos.
|
|
|
|
|
Cost terfynu cynnar
|
 |
Mae contract prydles y cerbyd yn ddilys am gyfnod penodol o amser. Os yw sefydliad am ddod â chontract i ben cyn y dyddiad terfyn, bydd y cwmni prydlesu fel arfer yn codi tâl cosb am ddychwelyd y cerbyd yn gynnar. The contract covering the lease of a vehicle is valid for a specified time period. If an organisation wants to cancel a contract before the end date, the leasing company will usually make a penalty charge for the early return of the vehicle.
|
|
|
|
|
Costau oes gyfan
|
 |
Wrth brynu cerbydau, dylai sefydliadau ystyried 'costau oes gyfan' pob opsiwn. Mae hyn yn cynnwys:
- cost prydles neu ddibrisiant;
- cynnal a chadw;
- tanwydd/milltiredd;
- trethiant;
- yswiriant;
- taliad misol;
- gwerth gwaredu;
- cost terfynu cynnar;
- ffitiadau mewnol/allanol;
- decalau neu baent.
Dylai penderfyniadau caffael hefyd gynnwys ffactorau anariannol megis argaeledd cefnogaeth a materion eraill o ran ansawdd.
Mae costau oes gyfan yn helpu i nodi'r amser adnewyddu gorau.
|
|
|
|
|
Cyfleusterau cynnal a chadw mewnol
|
 |
Cyfleusterau gweithdy sy'n eiddo i sefydliad ac a weithredir ganddo. Mae'r manteision yn cynnwys gwell hyblygrwydd, argaeledd ac arbenigedd ar fathau penodol o gerbydau. Mae'r anfanteision yn cynnwys gorbenion o ran offer a staff a gofyniad i ddiweddaru sgiliau er mwyn bod yn gyson â datblygiadau technolegol.
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu arfer da drwy weithredu cyfleuster cynnal a chadw mewnol gyda sifftiau hyblyg gan gynnig gwasanaeth rhwng 6am a 9pm. Nod hyn yw cyfateb cyflenwad a galw. Mae'n arfer da adolygu hyn yn flynyddol.
Enw cyswllt: Mike Donovan m.donovan@npt.gov.uk |
|
|
|
|
|
Cyfnodau gwasanaeth cynnal a chadw
|
 |
Y cyfnod o amser rhwng gwaith cynnal a chadw ac archwilio cerbydau. Ar gyfer deiliaid trwydded O rhaid datgan y cyfnod hwn a chadw ato. Fel arfer, rhaid archwilio cerbydau trwydded O (dros 3500kg) bob chwe wythnos.
O ran ceir mae'r cyfnod cynnal a chadw fel arfer yn dilyn canllawiau'r gwneuthurwyr.
|
|
|
|
|
Cyfyngwyr cyflymder
|
 |
Mae’n ofynnol i gerbydau nwyddau sy'n drymach na 3.5 tunnell a bysiau gyda mwy nag wyth sedd ar gyfer teithwyr (waeth beth yw ei bwysau) a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2005, gael cyfyngwr cyflymder ffordd. Bydd y cyfyngwr yn cyfyngu'r cyflymder uchaf i 56 milltir yr awr (90km/awr) ar gyfer cerbydau nwyddau, a 62 milltir yr awr (100km/awr) ar gyfer bysiau.
|
Mae rhai sefydliadau wedi gosod cyfyngwyr cyflymder ar eu cerbydau er mwyn atal goryrru a hefyd gwella darbodusrwydd tanwydd.
Cyswllt: Lyndon Knight lyndonknight@monmouthshire.gov.uk |
|
|
|
|
|
Cylchdroi cerbydau
|
 |
Gellir symud cerbydau rhwng lleoliadau er mwyn sicrhau nad yw rhai cerbydau'n cael eu defnyddio'n fwy nag eraill. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd gyda cherbydau gweithredol a cherbydau cronfa yn hytrach na cherbydau a ddyrannwyd i unigolion.
|
|
|
|
|
Cynllunio teithiau
|
 |
Gellir cynllunio amserau a llwybrau teithiau er mwyn cyfyngu ar nifer y teithiau, milltiredd a hyd teithiau. Dylai staff a rheolwyr sy'n ymwybodol o'r angen i leihau milltiredd a hyd teithiau ofyn a yw'r daith yn angenrheidiol. Gellir ystyried opsiynau amrywiol gan gynnwys:
- y defnydd o fideo gynadledda;
- teithio gydag eraill;
- defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Mae meddalwedd cynllunio teithiau masnachol yn opsiwn ar gyfer cynllunio teithiau a gwasanaethau cymhleth.
Gweler polisi Cow ar gynllunio teithiau - Roberts
|
|
|
|
|
Dadansoddiad cost a budd
|
 |
Dadansoddi'r costau a'r buddiannau sy'n gysylltiedig â ffordd o weithredu neu ddewis o gamau gweithredu. Cyfrifir y costau a'r buddiannau er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu neu i benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen gyda rhywbeth.
Er enghraifft, efallai y byddai sefydliad am gyfrifo cost a budd gosod dyfeisiau olrhain ar gerbydau graeanu. Mae'r gost yn cynnwys prynu'r ddyfais olrhain, gosod y ddyfais, y costau refeniw parhaus a'r gost o hyfforddi cyflogeion. Byddai'r budd yn cynnwys gwell gwybodaeth am ba ffyrdd a raeanwyd ac ar ba amser, gwell diogelwch ar gyfer defnyddwyr ffordd a'r potensial o leihau damweiniau.
|
|
|
|
|
Datblygiadau technolegol
|
 |
Mae'r offer a'r dyfeisiau technolegol amrywiol sydd ar gael i'w defnyddio o fewn y fflyd yn datblygu'n barhaus. Mae datblygiadau o'r fath yn cynnwys:
- peiriannau sy'n allyrru llai o co2;
- cerbydau trydanol a hybrid;
- dyfeisiau olrhain cerbydau;
- camerâu a osodir ar gerbydau;
- teiars mwy effeithlon;
- dylunio cerbydau er mwyn gwella diogelwch pe bai damwain.
|
|
|
|
|
Deddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladd Corfforaethol 2007
|
 |
Gellir dod o hyd i fanylon am y Ddeddf drwy glicio ar y linc isod.
Daeth y Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2008. Mae'n bosibl cael sefydliadau yn euog o ddynladdiad corfforaethol o ganlyniad i fethiannau rheoli difrifol sy'n arwain at achos difrifol o dorri eu dyletswydd gofal. Gall torri dyletswydd gofal gynnwys methu â darparu cerbydau a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Canllaw defnyddiol i Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol 2007 a defnydd cerbydau busnes.
Gallai methiant i gydymffurfio â'r Ddeddf arwain at farwolaethau, anafiadau difrifol yn ogystal â chosbau neu ddirwyon mawr.
|
|
|
|
|
Defnydd personol
|
 |
Mae defnydd personol o gerbyd sefydliad yn cynnwys defnydd nad yw'n gysylltiedig â busnes megis cymudo i weithle'r gyrrwr sy'n fudd mewn da trethadwy yn gyffredinol. Dylid cynnwys y rheolau o ran y defnydd personol o gerbydau yn y llawlyfr gyrwyr.
Defnydd busnes o gerbyd sefydliad yw defnyddio'r cerbyd i wneud gwaith sy'n ofynnol gan gyflogwr. Gall gynnwys dosbarthu neu gasglu nwyddau a theithio rhwng swyddfeydd a safleoedd yn ystod y cyfnod gwaith.
Sefydliadau proffesiynol - Mae'r sefydliadau hyn yn darparu gwybodaeth, canllawiau a chyfleoedd rhwydweithio i reolwyr fflyd a defnyddwyr. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
|
|
|
|
|
Fflyd llwyd
|
 |
Defnyddio cerbydau cyflogeion at ddibenion busnes. Mae'r ceir hyn yn tueddu i fod yn hyn na cheir a brydlesir neu a logir gydag allyriadau CO2 uwch. Gall y defnydd o fflyd llwyd arwain at gostau teithio uwch a’r costau trafod sylweddol o brosesu hawliadau treuliau unigol.
Mae Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC) wedi llunio canllawiau ar y defnydd priodol o'r fflyd llwyd. Mae'n allweddol i sefydliadau ystyried materion o ran dynladdiad corfforaethol gan fod gan y cyflogwr ddyletswydd gofal i sicrhau bod y cerbydau hyn yn ddiogel.
|
|
|
|
|
Fflyd sydd â gormod o ragofynion
|
 |
Os oes gan gerbyd ormod o ragofynion, mae'n golygu bod ganddo nodweddion diangen o ganlyniad i gaffael aneffeithiol. Er enghraifft, gallai fod gan gerbydau ategolion diangen neu beiriannau sy'n rhy fawr. Yn ogystal ag achosi traul diangen, gall gormod o ragofynion arwain at ddefnydd diangen o danwydd a chostau cynnal a chadw sy'n uwch na'r angen.
Wrth benderfynu ar fanylebau cerbydau, dylai croestoriad priodol o ddefnyddwyr ymwneud â'r broses i sicrhau'r fanyleb orau posibl.
Yn yr un modd, gallai fod gan y pecyn meddalwedd a ddefnyddir i gefnogi'r fflyd ormod o ragofynion a nodweddion nas defnyddir.
|
|
|
|
|
Fideo Gynadledda
|
 |
Mae fideo gynadledda yn defnyddio technoleg sain a fideo i ganiatáu i bobl mewn lleoliadau gwahanol gynnal cyfarfodydd 'rhithwir'. Dylai hyn efelychu amgylchedd cyfarfod arferol yn gywir, gan alluogi'r ddwy ochr i weld, clywed a chyflwyno deunydd, yn union fel pe baent yn yr un ystafell. Gall fideo gynadledda gyflymu gweithdrefnau busnes yn yr un ffordd y mae peiriannau ffacs a systemau e-bost wedi chwyldroi'r ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth. Yr arbedion mesuradwy amlycaf yw costau teithio a'r amser a wastreffir yn teithio.
|
|
|
|
|
Grwpiau defnyddwyr
|
 |
Gall sefydliadau elwa ar holi barn gyrwyr a defnyddwyr cerbydau eraill wrth ystyried prynu, gwella neu adnewyddu cerbyd. Fel arfer, grwpiau defnyddwyr yw'r ffordd orau o gasglu'r safbwyntiau hyn.
|
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Grwp Defnyddwyr Trafnidiaeth Corfforaethol sy'n cyfarfod i drafod pob agwedd ar reoli fflyd, ac mae gan Heddlu De Cymru Grwp Defnyddwyr Cerbydau'r Heddlu.
Cyswllt: Ray Forsoy ray.forsoy@south-wales.pnn.police.uk |
|
|
|
|
|
Gwerth gweddilliol
|
 |
Gwerth rhagweledig cerbyd pan fydd yn cyrraedd diwedd ei oes.
|
|
|
|
|
Gwirio trwyddedau gyrwyr
|
 |
Dylid gwirio trwyddedau gyrwyr fel rhan o'r broses recriwtio staff, yn ogystal ag ar sail barhaus (pob chwe mis yn ddelfrydol). Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni wedi llunio dogfen sy'n rhoi canllawiau manwl. Mae nifer o sefydliadau yn darparu cyfleuster gwirio trwyddedau gyrwyr ar-lein. Am ffi, gall sefydliadau sector preifat ddarparu gwybodaeth yn awtomatig os yw gyrrwr yn colli ei drwydded ond yn methu â rhoi gwybod i'w gyflogwr.
|
|
|
|
|
Hyfforddiant gyrwyr
|
 |
Mae gan sefydliadau ddyletswydd gofal i hyfforddi gyrwyr a defnyddwyr cerbydau eraill er mwyn gwella'u perfformiad ac i gadw eu hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel. Mae angen i sefydliadau benderfynu pa hyfforddiant a ddarperir - er enghraifft, gellir rhoi hyfforddiant cyffredinol i bob gyrrwr tra bod y sawl sy'n defnyddio cerbydau arbenigol yn cael hyfforddiant uwch. Gellir darparu hyfforddiant yn fewnol neu gan ddarparwr allanol. Dylai'r hyfforddiant gynnwys:
- hyfforddiant ar yrru'n ddiogel a gwneud defnydd effeithlon o danwydd.
- y defnydd o offer atodol megis pibellau dwr ar injan dân ac offer graeanu;
- codi a chario;
- gweithredu ôl-lifttiau - mae Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent yn cynnal yr hyfforddiant hwn ar gyfer ei staff;
- diweddaru deddfwriaeth - mae sefydliadau megis y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau (FTA) yn ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol. Dylid cynnwys manylion gofynion lefel uchel deddfwriaeth mewn cylchlythyron sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. (gweler yr astudiaeth achos)
- ymgyfarwyddo â cherbydau newydd;
- Hyfforddiant Golau Glas;
- y Cynllun Asesu Gyrwyr Bysiau Mini (MIDAS) - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent hyfforddwyr mewnol.
|
|
|
|
|
lechyd a Diogelwch
|
 |
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar y cyd â'r Adran Drafnidiaeth wedi cynhyrchu llyfryn o'r enw Driving at work: Managing work-related road safety at work.
Gweler hefyd dynladdiad corfforaethol.
| Astudiaethau Achos Arfer Da - Corgi |
|
|
|
|
|
Llawlyfr gyrwyr
|
 |
Dylid darparu llawlyfr i yrwyr a defnyddwyr cerbydau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i weithredu cerbydau yn ddiogel ac yn effeithlon. Dylid ategu'r llawlyfr gyda hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a defnyddwyr.
Dylid rhoi copi o'r llawlyfr i bob gyrrwr a dylai fod yn ofynnol iddynt lofnodi datganiad i gadarnhau eu bod wedi ei dderbyn. Dylent ddarllen a deall y llawlyfr a'i gadw yn eu meddiant wrth ddefnyddio cerbydau fflyd. Dylai'r llawlyfr gynnwys:
- manylion y risgiau sy'n gysylltiedig â gyrru;
- polisi gyrru'r sefydliad e.e. y defnydd o ffonau symudol neu offer llywio â lloeren.
- cyngor cyffredinol ar yrru'n ofalus e.e. pynciau megis blinder gyrwyr;
- cyngor ar yrru effeithlon neu amddiffynnol sydd â'r nod o arbed tanwydd a lleihau'r tebygrwydd o ddamweiniau;
- cyngor ar yr hyn i'w wneud pe bai damwain;
- manylion cyswllt mewn argyfwng o ran torri i lawr, teiars a'r ffenestr flaen.
|
Mae'r Grwp Rheolwyr Trafnidiaeth ac Offer (Grwp Awdurdod Lleol Cymru Gyfan) yn gweithio ar dempled llawlyfr arfer gorau i staff ar hyn o bryd.
Enw cyswllt: Russell Powell russell.powell@newport.gov.uk |
|
|
|
|
|
Llogi yn ôl y galw
|
 |
Llogi cerbyd dros dro er mwyn llenwi bylchau mewn darpariaeth fflyd neu i ddiwallu galw tymhorol. Bydd y cerbydau a logwyd fel arfer yn rhai modern gyda milltiredd isel ac allyriadau CO2 isel.
|
|
|
|
|
Meincnodi
|
 |
Cymharu perfformiad un sefydliad â pherfformiad sefydliadau eraill. Mesurir perfformiad yn ôl diffiniadau a safonau penodedig fel y gellir cymharu data yn uniongyrchol.
Mae angen i feincnodi ym maes rheoli fflyd ganolbwyntio nid yn unig ar wybodaeth ariannol, ond hefyd ar faterion amgylcheddol, y defnydd o danwydd, darparu gwasanaethau, adborth defnyddwyr a manylebau cerbydau.
Nodir enghreifftiau o feincnodi isod.
|
|
|
|
|
Namau ar gerbydau
|
 |
Dylai gyrwyr roi gwybod am namau drwy ddefnyddio ffurflen nam ar gerbyd. Bydd angen rhoi sylw ar unwaith i rai namau, er y gall fod yn briodol aros am y gwaith cynnal a chadw cynlluniedig nesaf cyn mynd i'r afael â mân namau.
Fel rhan o'r Cynllun Trwsio Namau ar Gerbydau (VDRS) gall yr heddlu stopio cerbyd y maent yn amau bod nam anghyfreithlon arno. Yna mae gan y gyrrwr 14 diwrnod i drwsio'r nam i osgoi erlyniad. Nid yw hyn yn gymwys os yw'r cerbyd wedi bod mewn damwain, os oes pedwar nam neu fwy ar y cerbyd neu os yw'r heddwas o'r farn bod y nam mor ddifrifol nad yw wedi'i gwmpasu gan y cynllun.
|
|
|
|
|
Newidiadau deddfwriaethol
|
 |
Mae angen i reolwyr fflyd sicrhau eu bod hwy eu hunain a staff eraill yn ymwybodol o newidiadau deddfwriaethol o fewn gweithrediadau fflyd. Mae newidiadau deddfwriaethol diweddar yn cynnwys y Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladd Corfforaethol 2007 a diwygiadau i reolau cofnodion gyrwyr y UE.
Mae'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn cynnwys safonau allyriadau Ewro 5 ar gyfer ceir a faniau ym mis Medi 2009 a'r Gyfarwyddeb Hyfforddi Gyrwyr ym mis Medi 2008 ar gyfer gyrwyr cerbydau teithwyr a mis Medi 2009 ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau.
|
|
|
|
|
Olrhain cerbydau
|
 |
Gellir gosod dyfeisiau olrhain cerbydau ar gerbydau er mwyn caniatáu monitro eu lleoliad daearyddol gan ddefnyddio technoleg lloeren. Gellir diweddaru lleoliad cerbydau bob 60 eiliad. Mae'r systemau'n gallu cofnodi hanes taith a'i storio er mwyn ei ddadansoddi yn y dyfodol.
Mae systemau o'r fath yn ddefnyddiol ar gyfer gwirio a yw cerbydau'n cael eu defnyddio'n briodol h.y. o fewn yr oriau a ganiateir, neu ar gyfer nodi'r cerbyd agosaf i ddarparu gwasanaeth, er enghraifft gwaith atgyweirio brys.
Mae systemau olrhain cerbydau modern hefyd yn cynnwys systemau cyfathrebu.
|
|
|
|
|
Oriau domestig
|
 |
Ceir rheolau sy'n cyfyngu ar nifer yr oriau y caniateir i yrwyr weithredu cerbydau o fewn cyfnod penodol o amser. Mae'r rheolau o ran oriau domestig yn gymwys i yrwyr ar deithiau o fewn y DU sydd wedi'u heithrio o reolau'r UE. Nid yw'r rheolau'n gymwys i'r heddlu a'r frigâd dân.
Mae'r rheolau'n cynnwys cyfyngiad gyrru o 10 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr a chyfyngiad dyletswydd o 11 awr o fewn unrhyw gyfnod o 24 awr.
|
|
|
|
|
PG9
|
 |
Fel arfer rhoddir tystysgrifau PG9 gan archwilwyr cerbydau’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ar gyfer namau mwy difrifol a allai effeithio ar addasrwydd y cerbyd ar gyfer y ffordd neu a allai ei wneud yn anniogel. Bydd rhoi'r dystysgrif hon yn golygu bod y sefydliad wedi'i wahardd rhag defnyddio'r cerbyd tan fod y nam wedi'i gywiro. Mae rhai heddweision wedi'u hyfforddi a'u hawdurdodi i roi tystysgrifau PG9.
Os yw'r gwaharddiad yn ddi-oed, ni ellir symud y cerbyd ar y ffordd gyhoeddus. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y nam, gellir oedi gwahardd y cerbyd am hyd at 10 diwrnod, sy'n golygu y gellir symud y cerbyd ar y ffordd gyhoeddus tan y dyddiad penodedig.
Er mwyn codi'r gwaharddiad, rhaid i'r cerbyd basio prawf MOT. Yna rhaid cyflwyno'r dystysgrif MOT a'r PG9 yng ngorsaf yr heddlu fel y gellir rhoi hysbysiad i godi'r gwaharddiad.
|
|
|
|
|
Polisi adnewyddu
|
 |
Dylid bod modd deall y polosi yn gyffredinol. Gall fod yn gysylltiedig ag amser a milltiredd e.e. gellir adnewyddu ceir ar ôl tair blynedd neu 60,000 milltir neu gellir cadw cerbydau milltiredd isel am gyfnod hwy. Bydd gan y polisi adnewyddu gysylltiad agos â chyllidebau rheoli fflyd a pholisïau ariannol fel y gellir caffael cerbydau newydd mewn modd costeffeithiol. Gall unrhyw lithriant arwain at fynd i gostau gormodol naill ai drwy gostau cynnal a chadw neu daliadau am filltiredd gormodol.
|
|
|
|
|
Polisi gwaredu
|
 |
Mae polisi gwaredu yn nodi sut y gall sefydliad waredu cerbydau nad oes mo'u hangen arno bellach. Mae'r polisi yn ystyried:
- symud i safle gwaredu;
- dibrisio;
- difrod;
- yswiriant;
- comisiwn;
- paratoi;
- gweinyddu gwerthiannau;
- diogelwch;
- parcio;
- treth ffordd heb ddarfod;
- ffïoedd arwerthiant;
- cyflymder y gwerthiant - fel rheol gyffredinol, cedwir y costau'n isel po gyflymaf y caiff cerbyd ei werthu.
|
|
|
|
|
Prawf MOT
|
 |
Mae prawf y Weinyddiaeth Drafnidiaeth (MOT) yn sicrhau bod cerbydau yn ddiogel ac yn addas ar gyfer y ffordd. Profir cerbydau o dan 3,500kg pwysau gros, megis ceir a faniau bach, yn flynyddol, ond nid oes angen prawf MOT arnynt am y tair blynedd gyntaf o'u hoes.
Caiff cerbydau dros 3,500kg pwysau gros nad ydynt wedi'u heithrio o brofion eu profi'n flynyddol mewn naill ai gorsaf brofi cerbydau nwyddau neu weithdy gweithredwr dynodedig.
|
|
|
|
|
Prydlesu
|
 |
Cyn penderfynu prydlesu cerbyd, dylid cyfrif y 'costau oes gyfan' a'u cymharu ag opsiynau caffael eraill. Os mai prydlesu yw'r opsiwn rhataf, yna gellir defnyddio dull costio oes gyfan i nodi'r cyfnod prydlesu a'r darparwr gorau.
Mae telerau prydles yn debygol o gynnwys taliad misol sefydlog yn gyfnewid am y defnydd o gerbyd. Mae'r contract yn debygol o nodi amodau penodol o ran defnyddio'r cerbyd megis terfyn milltiredd a gytunwyd ymlaen llaw gyda ffi gosb ar gyfer pob milltir dros y terfyn hwn. Mae felly yn hanfodol i amcangyfrif milltiredd mor gywir â phosibl.
|
|
|
|
|
Rhaglen rheoli tanwydd
|
 |
Gall tanwydd gyfrif am hyd at 30 y cant o gostau gweithredu fflyd. Gall gweithredu rhaglen rheoli tanwydd helpu i leihau'r defnydd o danwydd a'r gost. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i brisiau tanwydd barhau i godi.
Mae rhaglenni o'r fath yn cynnwys hyfforddi gyrwyr o ran technegau gyrru sy'n gwneud defnydd effeithiol o danwydd, cofnodi darbodusrwydd tanwydd yn fanwl gywir, tablau cynghrair gyrwyr o ran darbodusrwydd tanwydd, adolygiad o gyflenwyr tanwydd, mwy o wybodaeth am y defnydd o danwydd ac ymgyrch gyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd tanwydd. Nid yw rhaglen rheoli tanwydd gynhwysfawr yn ateb byrdymor gan nad yw gwelliannau mesuradwy yn amlwg tan o leiaf chwe i ddeunaw mis ar ôl gweithredu'r rhaglen.
|
|
|
|
|
Rheoli allweddi cerbydau
|
 |
Er mwyn osgoi achosion o ddwyn cerbydau neu ddwyn o gerbydau, cedwir allweddi yn ddiogel ac fe'u rhoddir i yrwyr pan fo angen. Dylid cadw allweddi sbâr yn ddiogel hefyd. Dylid ond rhoi allweddi i yrwyr sydd wedi'u hyfforddi i yrru cerbydau penodol, a dylai hyn ffurfio rhan o bolisi diogelwch trafnidiaeth y gweithle.
|
|
|
|
|
Rheolwr y Fflyd
|
 |
Mae'r Rheolwr Fflyd hwn fel arfer yn gyfrifol am y cylch oes rheoli fflyd llawn a ddisgrifir yn y canllaw arfer da hwn. Gall y rôl hon gynnwys peirianneg y fflyd a gall teitl y swydd adlewyrchu hyn. Os nad oes rheolwr fflyd, dyrennir y cyfrifoldebau am y fflyd i eraill o fewn y sefydliad.
|
|
|
|
|
Strategaeth
|
 |
Er mwyn gweithredu'n effeithiol, mae angen Strategaeth Rheoli Fflyd gymeradwy ar sefydliadau sy'n cysylltu â'u hamcanion corfforaethol a meysydd eraill o reoli asedau megis adeiladau a TGCh.
Dylai'r Strategaeth Rheoli Fflyd gynnwys:
- yr angen busnes am fflyd
- darparu gwasanaeth
- polisi caffael a gwaredu cerbydau
- monitro perfformiad
- materion amgylcheddol
- y defnydd o danwydd
- gweithio ar draws adrannau mewnol
- gweithio gyda sefydliadau partner
- rheoli adnoddau
|
|
|
|
|
Tacograffau
|
 |
Mae'r rhain yn cofnodi'r pellter a deithiwyd, cyflymder, amser gyrru, cyfnodau gwaith neu bresenoldeb y gyrrwr yn y gwaith a seibiannau o'r gwaith a chyfnodau saib dyddiol.
Mae tacograffau analog yn cofnodi'r wybodaeth ar siart bapur a thacograffau digidol yn cofnodi'r wybodaeth yn electronig. Gosodir tacograffau digidol ym mhob cerbyd a gofrestrwyd ar ôl 1 Mai 2006 sydd angen tacograff.
Mae'n ofynnol i weithredwyr Trwydded O fonitro canlyniadau tacograffau i sicrhau cydymffurfiaeth, er enghraifft â'r rheolau o ran oriau gyrwyr.
|
|
|
|
|
Taliadau milltiredd gormodol
|
 |
Mae contract prydlesu neu logi cerbyd yn debygol o gynnwys terfyn milltiredd. Os yw'r milltiredd yn fwy na'r terfyn a nodwyd yn y contract ar ddiwedd y cyfnod prydlesu neu logi, bydd y cwmni prydlesu neu logi yn codi tâl am filltiredd gormodol. Codir y tâl ar gyfradd benodol fesul milltir dros y terfyn. Mae angen i sefydliadau fod mor fanwl gywir â phosibl wrth gytuno ar y terfyn milltiredd a geir o fewn telerau'r brydles neu'r achos o logi. Fodd bynnag, gall fod yn anodd pennu terfyn milltiredd priodol oherwydd gall y defnydd o gerbyd newid yn ystod y cyfnod prydlesu neu logi. Gall sefydliadau felly ystyried cylchdroi'r defnydd o gerbydau er mwyn rheoli'r milltiredd.
|
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro wedi negodi contract milltiredd net gyda'i gwmni prydlesu. Golyga hyn er y codir tâl am filltiredd gormodol, mae'r Awdurdod hefyd yn derbyn credyd ar ddiwedd y cyfnod prydlesu os yw milltiredd y cerbyd yn is na'r terfyn a nodwyd yn y contract.
Cyswllt: Alan Hare alanh@pembrokeshirecoast.org.uk |
|
|
|
|
|
Tendro
|
 |
Mae'r broses dendro yn golygu gwahodd cynigion gan ddarparwyr i ddarparu cerbyd neu wasanaeth penodol. Gall fod angen gosod y tendr yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).
Unwaith y derbynnir y cynigion tendr, cânt eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol. Dewisir y tendr yn dilyn ymgynghoriad mewnol.
Mae pryniannau drwy gontractau canolog megis y rheini a hwyluswyd gan Gwerth Cymru eisoes yn cydymffurfio â gofynion OJEU.
|
|
|
|
|
Toll tanwydd
|
 |
Mae toll tanwydd yn dreth a godir gan y Llywodraeth ar bris tanwydd cerbydau. Cyfraddau cyfredol y doll yw:
- petrol di-blwm – 48.35 ceiniog y litr;
- diesel sylffwr isel iawn - 48.35 ceiniog y litr;
- bio diesel - 28.35 ceiniog y litr;
- nwy petrolewm hylifedig - 12.21 ceiniog y litr.
|
|
|
|
|
Trefniadau Torri i Lawr ac achub
|
 |
Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud os yw eu cerbyd yn torri i lawr. Gall sefydliadau ddarparu eu gwasanaethau torri i lawr ac achub eu hunain, ond fel arfer defnyddir darparwyr arbenigol allanol.
Pe bai cerbyd yn torri i lawr, dylai fod gan yrwyr rif ffôn i'w alw, a dylai fod ganddynt y wybodaeth ganlynol wrth law:
- rhif cofrestru'r cerbyd;
- lleoliad y cerbyd;
- rhif ffôn cyswllt;
- gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd;
- disgrifiad o'r broblem.
Mae hefyd angen i sefydliadau ystyried a oes gan eu gyrwyr ffonau symudol i'w defnyddio.
|
|
|
|
|
Treth Car (VED)
|
 |
Mae'r dreth hon yn seiliedig ar allyriadau CO2 a'r math o danwydd a chodir y dreth yn flynyddol.
Mae cyfradd VED ostyngedig ar gael ar gyfer cerbydau sy'n gymwys ar gyfer Tystysgrif Llygredd Is (RPC) oherwydd eu hallyriadau isel.
Gall cerbyd a gofrestrwyd cyn 1 Hydref 2006 ac a addaswyd i gyrraedd gwell safon o ran allyriadau drwy osod trap gronynnol i'r system wacáu neu osod peiriant newydd, dderbyn Tystysgrif Llygredd Is. Gall cerbydau sy'n cynnwys peiriannau Ewro 5 gyda synhwyrydd ocsid nitraidd, sy'n rheoli cyfyngiadau trorym, hefyd dderbyn Tystysgrif Llygredd Is cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru yn y DU erbyn 1 Hydref 2009.
Mae cerbydau'r gwasanaeth tân, ambiwlansys, cerbydau'r GIG a cherbydau'r heddlu wedi'u heithrio o VED.
|
|
|
|
|
Trwydded O
|
 |
Rhaid i unrhyw sefydliad sy'n gweithredu cerbydau nwyddau at ddibenion masnachol ar ffyrdd yn y DU fod yn ddeiliaid Trwydded O. Rhaid cynnal cerbydau sy'n drymach na 3.5 tunnell o bwysau gros ar y plât o dan y Drwydded O.
Mae'r cerbydau canlynol wedi'u heithrio o'r Drwydded O:
- Yr Heddlu – pob cerbyd
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub – pob cerbyd
- Ambiwlans – pob cerbyd a
- Cerbydau awdurdodau lleol a ddefnyddir i glirio eira neu er mwyn graeanu ffyrdd.
Os delir Trwydded O mae'n bwysig ei bod yn cynnwys y manylion diweddaraf yn cynnwys swyddog a enwyd, niferoedd y cerbydau ac ôl-gerbydau a manylion y trefniadau cynnal a chadw. Mae hyn yn cynnwys cludwr llog neu wobrwyo, busnesau sy'n rhedeg eu fflydoedd eu hunain (gweithredwyr hunan-gyfrif), a chyrff sector cyhoeddus. Mae unrhyw un sy'n gweithredu cerbydau nwyddau bach, a ddifiniwyd fel cerbydau sy'n pwyso llai na 3.5 tunnell o bwysau gros ar y plat (neu 1,552kg heb lwyth os nad oes pwysau ar y plât) wedi'i eithrio.
|
|
|
|
|
Y defnydd o danwydd
|
 |
Gall tanwydd gyfrif am hyd at 30 y cant o gostau gweithredu fflyd felly mae rheoli'r defnydd o danwydd yn hanfodol. Dylai effeithlonrwydd tanwydd yn ffactor pwysig o ran dewis cerbydau. Gall sefydliadau leihau'r defnydd o danwydd drwy gynllunio teithiau'n well, addasu ymddygiad gyrwyr drwy hyfforddiant a chyflwyno systemau rheoli tanwydd i fonitro'r defnydd o danwydd.
|
|
|
|
|
Y defnydd o gerbydau
|
 |
Mesurir hyn drwy gyfrifo'r amser gwirioneddol y caiff y cerbyd ei ddefnyddio fel cyfran o'r amser y mae'r cerbyd ar gael i'w ddefnyddio. Os yw cerbydau'n segur am gyfnodau hir yn ystod oriau gwaith arferol yna bydd y defnydd ohonynt yn isel. Gellir defnyddio'r dull mesur hwn i helpu i bennu maint y fflyd sydd ei hangen mewn gwirionedd.
|
|
|
|
|
Yr amser adnewyddu gorau
|
 |
Y pwynt yn oes cerbyd lle y bydd costau cadw'r cerbyd yn fwy na'r buddiannau. Fel arfer gall hyn fod pan fod y warant yn dod i ben neu pan fydd angen prawf MOT (tair blynedd ar gyfer ceir).
Os yw cerbyd yn cael ei ddychwelyd i'r cwmni prydlesu, mae angen cynllunio da i sicrhau yr archebir y cerbyd newydd mewn da bryd. Os nad yw hyn yn digwydd, codir taliadau misol ychwanegol a thaliadau milltiredd a allai fod yn ormodol. Dylai sefydliadau nodi'r amser adnewyddu gorau drwy gynnal ymarfer 'costau oes gyfan'.
|
|
|
|
|
Yswiriant
|
 |
Mae polisi yswiriant yn gontract rhwng parti sy'n wynebu risg ac yswiriwr. Mae'r yswiriwr yn cytuno i gymryd y cyfan neu ran o'r risgiau penodol yn gyfnewid am dâl a elwir y 'premiwm' yswiriant. Gall rhai sefydliadau ddewis 'hunan-yswirio' drwy neilltuo arian y gellir ei ddefnyddio pe bai damwain. Pa bynnag ddull a ddefnyddir, mae yswiriant car yn orfodol. Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn darparu canllawiau o ran gofynion yswiriant cerbydau.
|
|
|
|