Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Y Gyfnewidfa Arfer Da >Rheoli Fflyd > Dolenni defnyddiol
Argraffu'r Dudalen
Dolenni defnyddiol
Bydd y dolenni canlynol yn eich cysylltu â rhai o'r gwefannau mwyaf defnyddiol a ganfuwyd gennym wrth gynnal ein hadolygiad o reoli fflyd ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru.

  Dolenni defnyddiol rheoli fflyd

Cymdeithas gweithredwyr fflydau ceir
ACFO yw'r prif sefydliad sy'n cynrychioli a chynorthwyo anghenion yr holl weithredwyr fflyd.

Yr Adran Drafnidiaeth
Mae gwefan yr Adran Drafnidiaeth yn darparu polisi, canllawiau ac ymchwil i alluogi trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Mae hyn yn golygu system drafnidiaeth sy'n cydbwyso anghenion yr economi, yr amgylchedd a chymdeithas.

Direct Gov
Mae'r safle hwn yn rhoi mynediad hawdd i'r gwasanaethau cyhoeddus a ddefnyddiwch a'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a gyflenwir gan lywodraeth y DU.
DVLA
Mae gwefan asiantaeth cerbydau a thrwyddedau gyrru'r DU yn rhoi manylion gofynion a rheoliadau o ran trwyddedau gyrru, a Threth Cerbyd (VED).

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn rhoi cyngor am ddim i helpu i wella defnydd tanwydd cerbydau eich sefydliad a lleihau costau tanwydd.

Arfer Gorau Cludo Nwyddau
Caiff Arfer Gorau Cludo Nwyddau ei ariannu gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) (a'i reoli gan Faber Maunsell Cyf) i hyrwyddo effeithlonrwydd gweithredol o fewn gweithrediadau cludo nwyddau yn Lloegr.
Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau
Prif lais cludo nwyddau yn y Deyrnas Unedig.
Y Ddraig Werdd
Mae Safon y Ddraig Werdd yn cynnig system reoli amgylcheddol sy'n berthnasol i anghenion penodol unrhyw sefydliad, mawr neu fach yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Mae HSE yn cynnal ac yn noddi ymchwil, hyrwyddo hyfforddiant ac yn darparu gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â risgiau i iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Y Sefydliad Rheoli Fflydau Ceir
Y Sefydliad Rheoli Fflydau Ceir yw unig sefydliad annibynnol y Deyrnas Unedig sy'n ymroddedig i ddatblygu gallu a gwella safle gweithwyr proffesiynol ym maes fflyd.
Sefydliad y Cludwyr Ffyrdd (RHA)
Mae'r RHA yn darparu ymgyrchu, cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau busnes penodol i'r diwydiant cludo nwyddau.
Y Sefydliad Trafnidiaeth Ffyrdd (RTA)
Mae'r RTA yn rhoi sylw i'r newyddion trafnidiaeth ffyrdd diweddaraf sy'n cwmpasu newyddion cyfreithiol a newyddion o'r diwydiant.

Y Swyddfa Drafnidiaeth
Mae'r safle hwn wedi'i gynllunio i fod yn ‘bwynt cyswllt cyntaf’ ar gyfer holl brosesau'r llywodraeth a gwybodaeth i fusnesau trafnidiaeth fasnachol yn y Deyrnas Unedig.

Yr Asiantaeth Ardystio Cerbydau
Diben y safle yw helpu prynwyr ceir newydd i:

  • leihau effaith eu cerbyd ar yr amgylchedd;
  • nodi'r dreth cerbyd a/neu'r dosbarth treth Car Cwmni perthnasol, yn seiliedig ar eu lefel CO2
Data Defnydd Ynni Cerbydau
Mae'r safle hwn yn rhoi data ar ddefnydd CO2 a thanwydd cerbydau.
Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
Mae VOSA yn darparu amrywiaeth o wasanaethau trwyddedu, profi a gorfodi gyda'r nod o wella safonau cerbydau o ran eu haddasrwydd ar gyfer y ffordd a sicrhau cydymffurfiaeth gweithredwyr a gyrwyr.
Y Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron Cyfyngedig
Y Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron Cyfyngedig (SMMT), a sefydlwyd yn 1902, yw'r brif gymdeithas fasnach ar gyfer diwydiant cerbydau'r DU. Gall y safle hwn ddarparu enwau cyswllt ac arbenigedd i chi, a'ch helpu i nodi cyfleoedd i arbed amser ac arian.

  Dolenni Dynladdiad Corfforaethol a Lladd Corfforaethol

Y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau (FTA)
Canllaw Cydymffurfio FTA.

Cyflogwyr Llywodraeth Leol
Canllawiau Cyflogwyr Llywodraeth Leol ar Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladd Corfforaethol 2007.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae'r canllawiau hyn yn darparu rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2007 a'i gweithredu.

Gwasanaeth Cyhoeddus
Cwestiynau Cyffredin ar y Ddeddf gan Rheolwr Prosiect Addasrwydd Ffordd VOSA.

 

A fyddech cystal â gadael i ni wybod os oes yna unrhyw wefannau perthnasol eraill y dylwn eu gweld drwy e-bostio goodpractice@wao.gov.uk

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru