Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Y Gyfnewidfa Arfer Da > Arian cynghorau cymuned > Ydych chi'n rhan ohono?
Argraffu'r Dudalen
Ydych chi'n rhan ohono?
Ei wneud yn iawn – y cyngor a'r clerc

Mae'r cyngor yn gyfrifol am reoli ei arian a'i asedau. Pan fydd y cyngor yn gwneud hynny, mae'n rhaid iddynt ei wneud yn iawn.

Y cyngor sy'n penderfynu ar faint i godi'r dreth gyngor. Mae hefyd yn penderfynu ar y tâl a godir am y gwasanaethau a ddarperir ganddo a sut y caiff ei arian ei wario. Mae'r gyfraith yn gwneud y cyngor yn gyfrifol am reoli ariannol a'r system o wiriadau ariannol a balansau. Mae'n rhaid i'r cyngor hefyd sicrhau y caiff ei gyfrifon eu paratoi a'u harchwilio bob blwyddyn.

Mae'n rhaid i gynghorau benodi Swyddog Ariannol Cyfrifol (RFO) i reoli ei faterion ariannol. Yr RFO yw'r clerc gan amlaf, ond nid oes rhaid iddo fod. Mae'r RFO yn sicrhau y cedwir y cyfrifon yn briodol.

Gwneud yn siwr ei fod wedi'i wneud yn iawn - archwilwyr mewnol ac allanol

Mae archwilwyr mewnol ac allanol yn gwneud yn siwr bod trefniadau'r cyngor yn iawn.

Mae'r cyngor yn penodi ei archwilydd mewnol sy'n gweithredu fel un o'r unigolion sy'n archwilio ei wiriadau ariannol a'i falansau. Mae'n rhaid i'r archwilydd mewnol fod yn annibynnol ar reolwyr y cyngor a'r unigolion eraill sy'n archwilio gwiriadau a balansau. Mae'r archwilydd mewnol yn gwneud yn siwr bod systemau'r cyngor o wiriadau a balansau yn gweithio'n briodol. Mae'n rhaid i'r archwilydd mewnol gyflwyno adroddiadau ar ei ganfyddiadau i'r cyngor o leiaf unwaith y flwyddyn, ond gall gyflwyno adroddiadau ar ei waith yn fwy aml.

Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n penodi archwilwyr mewnol ar gyfer cynghorau lleol. Mae'r archwilydd allanol yn sicrhau bod gan y cyngor wiriadau ariannol a balansau effeithiol a'i fod wedi paratoi'r cyfrifon yn gywir. Mae'r archwilydd allanol yn rhoi ei farn ar p'un a oedd y cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon yn gywir.

Yn gweld ei fod wedi'i wneud yn iawn - y cyhoedd

Bydd aelodau'r cyhoedd a thalwyr y dreth cyngor am weld bod eu cyngor wedi gwneud y pethau iawn i reoli ei arian cymunedol yn effeithiol.

Mae'r gyfraith yn caniatáu i'r cyhoedd arolygu cyfrifon blynyddol y cyngor a'i gofnodion cyfrifyddu cyn yr archwiliad allanol. Gall y cyhoedd hefyd ofyn cwestiynau i'r archwilydd a chyflwyno gwrthwynebiad i rywbeth yn y cyfrifon os byddant yn dymuno gwneud hynny.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru