Gall trefniadau gwan gael effaith andwyol ar gynghorau lleol. Yn ystod ein hymchwil, nodwyd achosion gennym lle roedd cynghorau wedi dioddef colledion. Ym mhob un o'r achosion, roedd angen i drefniadau'r cyngor gael eu gwella. Mae'r astudiaethau achos hyn yn nodi'r problemau a wynebir gan y cynghorau ac yn nodi gwelliannau i drefniadau'r cyngor.