Bydd y dolenni canlynol yn eich tywys i rai o'r gwefannau rheoli adeiladau mwyaf defnyddiol.
Sefydliadau
Rheoli eiddo ac asedau
Adeiladu a dylunio
| Adeiladu Arbenigrwydd – mae Adeiladu Arbenigrwydd yn sefydliad sy'n anelu at lywio'r agenda newid ym maes adeiladu drwy wella perfformiad y diwydiant a chreu gwell amgylchedd adeiledig. |
| Y Comisiwn er Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig (CABE) – CABE yw cynghorydd Llywodraeth y DU ar bensaernïaeth, dylunio trefol a mannau cyhoeddus. |
| Comisiwn Dylunio Cymru – mae Comisiwn Dylunio Cymru yn sefydliad cenedlaethol a sefydlwyd i hyrwyddo gwaith dylunio da ac amgylchedd adeiledig o ansawdd uchel. |
| Cymdeithas Prif Benseiri Awdurdodau Lleol (SCALA) – mae SCALA yn sefydliad sy'n cynnwys penseiri o'r sector cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig sy'n ymrwymedig i gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran datblygu, dylunio, adeiladu a rheoli ystad y sector cyhoeddus. |
Cynaliadwyedd
| Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (SDC) Cymru – SDC Cymru yw corff cynghori annibynnol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu cynaliadwy, sy'n cyflwyno adroddiadau ar feysydd polisi allweddol gan gynnwys llywodraeth leol, adfywio ac iechyd. |
| Canolfan Technoleg Amgen Cymru (CAT) – mae CAT yn sefydliad sy'n helpu i chwilio am dechnolegau a ffyrdd o fyw sy'n gynaliadwy yn fyd-eang, yn gyfan ac yn gadarn yn ecolegol. |
| BRE – mae Ymddiriedolaeth BRE yn gweithio'n agos gyda sectorau wedi'u targedu (gan gynnwys ysbytai, ysgolion, swyddfeydd, y sector manwerthu a'r sector hamdden) i'w helpu i fanteisio i'r eithaf ar arloesedd, cynaliadwyedd a sicrwydd. |
| Yr Ymddiriedolaeth Garbon – mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio gyda sefydliadau i leihau allyriadau carbon nawr, a datblygu technolegau carbon isel masnachol ar gyfer y dyfodol. |
| Arbed Ynni Cymru – mae Arbed Ynni Cymru yn hyrwyddo'r defnydd o fesurau arbed ynni ac yn nodi sut mae effeithlonrwydd ynni yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i gyflawni uchelgeisiau datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru. |
| Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn darparu amrywiaeth o gyngor, cymorth a gwasanaethau i helpu awdurdodau lleol i ateb yr her o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn eu holl weithgareddau. |
Gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol
| Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) – mae CLlLC yn cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru. Mae'r tri awdurdod tân ac achub, pedwar awdurdod yr heddlu a'r tri awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. |
| Y Rhwydwaith Gwella – rhydd y Rhwydwaith Gwella adnoddau ymarferol a gwybodaeth am wella gwasanaethau cyhoeddus. |
| Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) – mae DTA Cymru yn gorff cenedlaethol ar gyfer ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru, ac mae'n rhan o Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu'r DU, y rhwydwaith menter gymunedol ac adfywio. |
Dogfennau cyfarwyddyd
|