|
Mae'r canllaw Cyfnewidfa Arfer Da hwn yn canolbwyntio ar gyrff cyhoeddus ac archwilwyr allanol o ran yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i ategu a hwyluso'r broses o gyflwyno adroddiadau ariannol amserol. Cynlluniwyd y canllaw hwn yn benodol i ystyried y gofynion o safbwynt y ddwy ochr.
Cyrff cyhoeddus
O safbwynt corff cyhoeddus, mae cyflwyno adroddiadau ariannol amserol yn cynnwys tri grwp o bobl:
- bydd angen i uwch reolwyr ac aelodau'r corff cyhoeddus bennu'r cyfeiriad cyffredinol;
- bydd angen i adrannau cyllid sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu paratoi o fewn terfynau amser byrrach;
- bydd angen i adrannau gwasanaethau roi gwybodaeth gywir am y cyfrifon i'r adran gyllid.
Y bwrdd ac uwch reolwyr
Aelodau ac uwch reolwyr sy'n gyfrifol am faterion ariannol eu cyrff cyhoeddus. At ddiben proses lywodraethu dda, rhaid iddynt gael datganiad o gyfrifon cyn gynted â phosibl ar ôl i'r flwyddyn ddod i ben. Felly, dylid rhoi blaenoriaeth i gyhoeddi'r cyfrifon hyn yn brydlon. Aelodau ac uwch reolwyr sy'n creu'r diwylliant sydd ei angen i gyflwyno adroddiadau ariannol amserol.
Yr adran gyllid
Yr adran gyllid fydd yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau ariannol amserol. Bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu'r systemau a'r prosesau ariannol sydd eu hangen i baratoi ei chyfrifon.
Adrannau gwasanaethau
Adrannau gwasanaethau sy'n rheoli'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau i ddefnyddwyr. Maent yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i'r adran gyllid fel y gellir llunio cyfrifon diwedd y flwyddyn, ee croniadau. Mae adolygiadau o wybodaeth ariannol yn ystod y flwyddyn yn rhoi rhybudd cynnar o risgiau posibl. Mae prosesau rheolaeth gyllidebol gref gan gyrff cyhoeddus yn allweddol i lwyddiant y gwaith o gyflwyno adroddiadau ariannol amserol.
Archwilwyr allanol
Bydd angen i archwilwyr allanol werthuso'r systemau a roddwyd ar waith i gau'r cyfrifon. Mae'n hanfodol bod archwilwyr allanol a chyrff cyhoeddus ill dau yn deall eu priod gyfrifoldebau ar gyfer cau'r cyfrifon a'r archwiliad. Dylai archwilwyr allanol geisio sicrhau nad oes unrhyw beth yn peri syndod i gyrff cyhoeddus sydd am gau eu cyfrifon yn gynnar. Bydd angen i archwilwyr allanol adolygu eu hamserlen ar gyfer yr archwiliad. Byddant hefyd yn adolygu trefniadau'r corff ar gyfer paratoi'r cyfrifon ac yn sicrhau bod dull 'unedig' cytûn o gynnal yr archwiliad allanol ar waith.
|