Ein gwaith ar Arloesedd ac Effeithlonrwydd
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd y dirywiad economaidd. Bydd gwariant cyhoeddus yn parhau i gynyddu, ond bydd y cynnydd yn fwy na'r hyn y rhoddwyd cyfrif amdano wrth ad-dalu'r ddyled genedlaethol a gronnwyd yn ystod y dirwasgiad a chostau cynyddol mewn meysydd fel budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU yn wynebu toriadau cyllidebol mewn termau real o 3.2 y cant y flwyddyn - 3.4 y cant ar ôl rhoi cyfrif am gymorth tramor - rhwng 2011-12 a 2013-14. Yng Nghymru, byddai gostyngiad o 3.4 y cant yn cyfateb i doriad mewn termau real o £0.5 biliwn y flwyddyn yn y gyllideb a ddatganolwyd i Gymru.
Bydd gwasanaethau sy'n dibynnu ar wariant cyfalaf yn wynebu heriau penodol. Disgwylir i arian cyfalaf ostwng yn llawer cyflymach na refeniw. Mae rhagolygon y Trysorlys yn dangos bod cyllidebau cyfalaf yn debygol o fod 40 y cant yn is mewn termau real yn 2013-14 o gymharu â 2009-10. Ceir rhagor o fanylion ar effeithiau toriadau cyllid yng Nghymru yma, yn ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus.
Drwy fabwysiadu arloesi effeithiol fel nodwedd graidd, gall sefydliadau sector cyhoeddus wella eu proses o ddarparu gwasanaethau yn erbyn y pwysau o alw cynyddol ac adnoddau cyfyngedig.
Mae 'helpu cyrff cyhoeddus Cymru i wella'r ffordd y maent yn defnyddio adnoddau o fewn cyfyngiadau cynyddol yr economi a'r amgylchedd' yn un o amcanion allweddol Strategaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2009-2012. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn anelu at gefnogi blaenoriaethau arloesedd ac effeithlonrwydd penodol drwy Bartneriaeth Effeithlonrwydd ac Arloesedd, fel y nodir yn y ddogfen bolisi Canlyniadau Gwell ar gyfer Cyfnod Anoddach: Y Cyfnod Nesaf o Wella Gwasanaethau Cyhoeddus.
Fel rhan o'n hymateb i'r heriau ariannol sy'n wynebu cyrff sector cyhoeddus, rydym yn cyflawni rhaglen waith i gefnogi gwaith arloesi mwy effeithiol ac effeithlonrwydd a reolir yn dda. Gobeithiwn gyfrannu at waith y Bartneriaeth Effeithlonrwydd ac Arloesedd drwy ddefnyddio ein cylch gwaith archwilio a'r wybodaeth a gafwyd drwy weithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd ein prosiect yn canolbwyntio ar sefyllfa gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar gyfer creu gwerth drwy arloesi.
Anelwn at:
- rannu canfyddiadau'r gwaith ymchwil academaidd a gomisiynwyd gennym i ystyried effeithiolrwydd meddylfryd systemau yn y broses o wella gwasanaethau cyhoeddus;
- cyfweld â phrif weithredwyr cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru am eu hymagwedd tuag at arloesi ac effeithlonrwydd, fel rhan o'n gwaith archwilio cyffredinol;
- cyhoeddi arolwg i staff rheng flaen er mwyn casglu gwybodaeth am y rôl a chwaraeir ganddynt o ran effeithlonrwydd ac arloesi;
- datblygu cronfa o astudiaethau achos o Gymru a thu hwnt sy'n berthnasol i broses effeithiol o reoli arloesedd ac effeithlonrwydd.
Cynnyrch y prosiect fydd:
- adnodd ar-lein yn darparu deunyddiau a gasglwyd ar arloesedd ac effeithlonrwydd;
- astudiaethau achos a phecynnau cymorth hunanasesu i gefnogi arloesedd ac effeithlonrwydd;
- adroddiad briffio cenedlaethol ar reoli arloesedd ac effeithlonrwydd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru;
- digwyddiadau wyneb yn wyneb i rannu dysgu ac annog proses gyflym o drosglwyddo gwybodaeth, os oes digon o alw am hyn.
|