|
Mae angen systemau ar sefydliadau i'w galluogi i flaenoriaethu syniadau a'u profi drwy gynlluniau peilot cyn penderfynu a ddylid eu datblygu.
Y pethau allweddol y dylai cyrff sector cyhoeddus eu gwneud yw:
- Datblygu system benodol i'w galluogi i sgrinio a gwerthuso syniadau newydd yn y sefydliad ac ymhob is-uned berthnasol (er enghraifft, cyfarwyddiaethau neu adrannau ac ar lefel gorfforaethol). Mae'n bwysig bod syniadau sy'n deillio o un rhan o'r sefydliad ar gael i eraill, oherwydd gallant ysgogi enghraifft arall o arloesi yn y rhan hwnnw o'r sefydliad.
- Dylai fod gan y sefydliad strategaeth arloesi sy'n gysylltiedig â'r broses flaenoriaethu, fel bod y sefydliad yn gallu sicrhau bod ei brosiectau arloesi yn canolbwyntio ar ei flaenoriaethau allweddol. Er enghraifft, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a'r hinsawdd a ragwelir ar gyfer y dyfodol, bydd gan nifer o gyrff cyhoeddus strategaethau arloesi sy'n rhoi blaenoriaeth i'r canlynol:
- gwaith arloesi sy'n rhyddhau arbedion arian parod ac yn cynnal neu'n gwella effeithiolrwydd; neu
- yn darparu effeithlonrwydd sy'n rhyddhau arbedion arian parod.
- Dylai'r broses flaenoriaethu gynnwys nifer fach o feini prawf strategol clir, ansoddol a meintiol y caiff prosiectau arloesi posibl eu hasesu yn eu herbyn. Dylai'r broses o ddadansoddi risgiau ac effeithiau posibl hefyd lywio'r broses flaenoriaethu.
- Dylai fod trefniadau rheoli rhaglen a phortffolio effeithiol ar waith ar draws prosiectau arloesi'r sefydliad. Mae'n arbennig o bwysig i:
- gysoni cynnwys y portffolio â blaenoriaethau strategol allweddol, er enghraifft drwy fatrics dyrannu gweithgareddau;
- rhannu'r dysgu o faterion generig sy'n deillio o'r rhaglen gyfan;
- osgoi cynnal gormod o brosiectau a fyddai'n rhoi pwysau ar adnoddau ac yn achosi rhwystrau a allai effeithio'n andwyol ar ganlyniadau;
- dod â phrosiectau i ben pan fydd yn amlwg nad ydynt yn debygol o weithio;
- sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yn gyflym fel nad yw syrthni yn arwain at achosion o oedi na llai o gyfranogiad gan staff am eu bod yn rhwystredig â'r prosesau mewnol araf;
- sicrhau bod y portffolio'n gytbwys o ran:
- prosiectau uchelgeisiol a rhai a allai gael effaith fawr, hyd yn oed os ydynt yn cynnwys mwy o risgiau, a phrosiectau risg isel sy'n fwy tebygol o ddarparu newid;
- gwaith arloesol byrdymor a thymor hwy.
- Dylai cyrff sector cyhoeddus ystyried ariannu'r cynlluniau peilot mwyaf addawol a darparu digon o adnoddau ar eu cyfer. Mae angen arian neu gyfranogiad staff i ddatblygu syniadau yn brototeipiau neu gynlluniau peilot. Gellir sefydlu cyllidebau neu adnoddau dynol penodol i gefnogi arloesedd fel ffactorau i ysgogi arloesedd, naill ai mewn adran neu sefydliad neu ar draws partneriaeth.
|