|
Mae cam nesaf y broses arloesi yn cynnwys asesu canlyniadau'r cynlluniau peilot a phenderfynu a ddylid cynnal cynllun peilot arloesi ar raddfa fwy, a sut i wneud hynny. Yn y bôn, hwn yw'r cam gweithredu. Mae disgyblaethau rheoli prosiect sylfaenol yn hanfodol ar y cam hwn, ac mewn cyrff sector cyhoeddus, datblygu gwasanaeth yw'r elfen hanfodol o hynny.
Mae'r ystyriaethau allweddol i gyrff sector cyhoeddus yn cynnwys y canlynol:
- Mae rheoli prosiect a rheoli newid yn hanfodol:
- Mae angen sefydlu gweithdrefnau rheoli prosiect, cyfrifoldebau a mecanweithiau adolygu, gan gynnwys adolygiad porth (neu adolygiad tebyg) a phrosesau cymeradwyo er mwyn galluogi prosiectau i symud ymlaen i'r cam nesaf. Hefyd, dylai fod trefniadau cadarn ar waith i reoli amrywiaeth a newidiadau i gwmpas y prosiect.
- Mae sgiliau rheoli newid ehangach yn bwysig wrth ailadrodd ac ehangu prosiectau arloesol. Yn benodol, mae angen cyfleu'r angen am newid, rheoli'r risgiau a'r cyfleoedd gweithredu a delio'n fedrus â'r materion dilynol i'r sefydliad, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ehangach.
- Mesuriadau clir a dealladwy o gynnydd yn seiliedig ar bwrpas y prosiect yn y pen draw, gan adlewyrchu gwerth o safbwynt y defnyddiwr terfynol.
- Model y ddarpariaeth, gan gynnwys a ddylid sefydlu gwasanaeth amlddisgyblaethol neu dîm datblygu cynnyrch i ddatblygu'r cysyniad o arloesi a'i roi ar waith yn llawn; ac a ddylid penodi prif hyrwyddwr ar gyfer y gwaith arloesi er mwyn helpu i oresgyn rhwystrau a gwneud cynnydd.
- Yr angen am gyfathrebu a gwaith tîm effeithiol y tu mewn i'r sefydliad a'r tu allan iddo:
- yn y sefydliad mae'r ystyriaethau allweddol yn cynnwys cyfleoedd datblygu tîm, arweinyddiaeth a'r gwobrau a'r gydnabyddiaeth sydd ar gael ar gyfer gwaith tîm effeithiol;
- mae angen i randdeiliaid allanol ddeall modelau gwasanaeth newydd a rhai sydd wedi'u newid yn ogystal â'u rôl eu hunain o ran sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn llwyddiannus.
- Yr angen i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol y prosiect arloesi a sicrhau bod eu hadborth yn llywio newidiadau o ran cynllunio a gweithredu. Dylai prosesau gweithredu ar gyfer gwaith arloesi ddefnyddio adborth gan gwsmeriaid a mewnbwn gan ddefnyddwyr terfynol drwy'r broses gyfan.
- Yr angen am gymhellion i annog staff a sefydliadau i fod yn arloesol. Ar gyfer staff y sector cyhoeddus yn benodol, mae angen rhoi cydnabyddiaeth i gyfoedion, sy'n tueddu i fod yn ysgogydd mwy pwerus ar gyfer staff na gwobr ariannol. Mae angen cymhellion ar sefydliadau i gyflwyno, mabwysiadu neu addasu gwaith arloesi llwyddiannus. Mae gwobr ariannol yn fwy priodol ar lefel sefydliadau a gall ysgogi gweithgareddau arloesol.
- Dylai sefydliadau hefyd fod yn ofalus wrth fabwysiadu 'arfer gorau' ar raddfa fawr. Mae cyd-destun yn hanfodol a dylai sefydliadau rannu dysgu ac ystyried arfer da sefydliadau eraill ond gan sicrhau eu bod yn mabwysiadu'r arferion da hyn yn hytrach na'u haddasu heb eu beirniadu, i sicrhau bod eu prosiect arloesi neu newid yn cyfateb i gyd-destun ac amodau penodol eu sefydliad. Dysgu o fewn sefydliad a dysgu a rennir â sefydliadau eraill yw'r nodwedd graidd ar gyfer hwyluso gwaith arloesi effeithiol.
|