Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
24/06/2011
Yn dilyn fy llythyr dyddiedig 17 Mai 2011, rwyf bellach mewn sefyllfa i ymateb i'ch cais am wybodaeth yn eich llythyr dyddiedig 13 Mai 2011, yn gofyn am y canlynol:
Copïau o adroddiadau lleol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Byrddau Iechyd (ac eithrio Powys), Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar y contract meddygon ymgynghorol (moderneiddio tâl: astudiaeth gwireddu buddiannau'r contract meddygon ymgynghorol).
Bwriadwn gyhoeddi pob un o'r adroddiadau rydych wedi gofyn amdano. O ganlyniad, mae'r adroddiadau yn rhan o'r eithriad a ddarperir yn adran 22 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Er bod datgelu'r adroddiadau er budd y cyhoedd, caiff hyn ei sicrhau drwy eu cyhoeddi. Ar yr un pryd, mae er budd y cyhoedd i Swyddfa Archwilio Cymru allu paratoi adroddiadau'n briodol i'w cyhoeddi ar ein gwefan. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu cyfieithu pob adroddiad i'r Gymraeg er mwyn trin yr iaith Gymraeg a Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Rwyf wedi penderfynu bod budd y cyhoedd mewn paratoi'r adroddiadau'n briodol, gan gynnwys eu cyhoeddi'n ddwyieithog yn bwysicach na budd y cyhoedd i'w datgelu ar unwaith, ac rwyf felly yn cadw at yr eithriad ac yn peidio â darparu'r adroddiadau i chi mewn ymateb i'ch cais.
Rwyf hefyd ar ddeall eich bod eisoes wedi cael yr adroddiadau a nodwyd yn eich cais ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae adroddiadau sydd ar gael i chi drwy ffyrdd eraill yn rhan o'r eithriad a ddarperir yn adran 21 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac nid oes rhaid i mi eu darparu i chi mewn ymateb i'ch cais.
Os bydd gennych unrhyw gwyn am y ffordd yr wyf yn ymdrin â'ch cais, anfonwch e-bost ataf neu ysgrifennwch ataf drwy'r post.
Mae'n rhaid i mi hefyd eich cyfeirio at adran 50 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. O dan yr adran honno cewch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth benderfynu a ymdriniwyd â'ch cais yn unol â'r Ddeddf. Mae manylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
The Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
e-bost : casework@ico.gsi.gov.uk
Ffôn: 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Fodd bynnag dylech nodi y byddai'r Comisiynydd Gwybodaeth fel arfer yn disgwyl i chi ddilyn pob cam o dan ein gweithdrefnau cwyno mewnol ni cyn gwneud cais o'r fath. Mae rhagor o ganllawiau i'w gweld ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn http://www.informationcommissioner.gov.uk.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os bydd gennych unrhyw gwestiynau.
Yn gywir,
Ian Phillips
Arbenigwr Cydymffurfiaeth