Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
01/09/2011
Yn dilyn fy e-bost ar 19 Awst 2011, rwyf bellach mewn sefyllfa i allu ymateb i'ch cais am wybodaeth, a oedd yn gofyn:
A yw Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflogi UNRHYW swyddog sydd wedi gweithio i Awdurdod Addysg Cyngor Sir Penfro yn y 12 mis diwethaf, ac os yw, pa swydd a gradd oedd gan yr unigolyn hwnnw yn Sir Benfro?
Yn ôl ein cofnodion ni, a chyn belled ag y gwelaf, nid yw Swyddfa Archwilio Cymru (Archwilydd Cyffredinol Cymru i fod yn fanwl gywir) yn cyflogi unrhyw un sydd wedi gweithio i Awdurdod Addysg Cyngor Sir Penfro yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Nid wyf wedi cyflwyno unrhyw eithriadau, ond os ydych am gwyno am y ffordd rwyf wedi ymdrin â'ch cais, ysgrifennwch neu anfonwch e-bost ataf.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Yn gywir,
Ian Phillips