Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn adolygu ac yn pennu graddfeydd ffioedd yn flynyddol ar gyfer gwaith archwilio cyrff llywodraeth leol, sydd hefyd yn berthnasol i archwiliadau o gyrff y GIG. Mae'r graddfeydd ffioedd yn un o ddulliau'r Archwilydd Cyffredinol o reoleiddio costau archwiliadau cyhoeddus yng Nghymru, drwy bennu terfynau ac adolygu ffioedd yn erbyn y terfynau hynny. Mae graddfeydd ffioedd hefyd yn rhoi fframwaith i archwilwyr asesu faint o waith archwilio blynyddoli sydd angen ei wneud a'r ffi y dylid ei chodi am y gwaith hwnnw mewn corff penodol a archwilir.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn llunio'r graddfeydd ffioedd ar sail dull cynllunio archwiliadau sy'n seiliedig ar sero sy'n ystyried natur amrywiol agweddau ar adnoddau gwrthwynebol sy'n llywio cymhlethdodii ac ansawddiii. Yna caiff y gofynion o ran adnoddau eu trosi'n raddfeydd ffioedd ar sail uniongyrchol gostau cyflawni'r gwaith, sy'n cynnwys costau teithio a chynhaliaeth. Mae'r graddau ffioedd canlyniadol ar ffurf cromlin gyda dibyniaeth leihaol ar faint y cyrff a archwilir, yn hytrach na dibyniaeth linol seml ar wariant neu dreuliau gweithredu gros.
Caiff y graddau ffioedd eu meincnodi yn erbyn ffioedd a godir gan asiantaethau archwilio eraill yn y DU, lle y bo'n briodol.
Er na ellir defnyddio graddfeydd ffioedd i archwilio cyrff unigryw llywodraeth ganolog, caiff dull cynllunio archwiliadau sy'n seiliedig ar sero ei ddefnyddio o hyd, a chaiff y gofynion o ran adnoddau eu trosi'n ffioedd pwrpasol sy'n uniongyrchol seiliedig ar gostau cyflawni'r gwaith.
I weld fersiwn graffig o'r raddfa ffioedd ar gyfer math penodol o gorff a archwilir (gan gynnwys data meincnodi priodol os oes angen ac os yw ar gael), dewiswch y graffigyn priodol o'r rhestr isod:| Graddfa ffioedd | Heb ddata meincnodi | Gyda data meincnodi |
| Awdurdodau Unedol, Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG (gan eithrio Ymddiriedolaethau Ambiwlans) | Dolen i'r graffigyn | Dolen i'r graffigyn |
| Awdurdodau tân ac achub ac ymddiriedolaethau ambiwlans | Dolen i'r graffigyn | Dolen i'r graffigyn |
| Awdurdodau parciau cenedlaethol | Dolen i'r graffigyn | |
| Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid (dros dro) | Dolen i'r graffigyn | |
| Ymddiriedolaethau prawf a mathau eraill o gyrff llywodraeth leoliv |
Mae'n ofynnol i archwilwyr arddel eu barn broffesiynol, a lywir gan y Cod Ymarfer Archwilio, safonau cyfrifyddu ac archwilio perthnasol a chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn pennu pa ffioedd sy'n gymwys i gorff penodol a archwilir o ystyried y math o gorff sydd dan sylw.
Lle na fydd ffioedd arfaethedig yn perthyn i'r raddfa ffioedd benodedig neu lle y byddant wedi newid mwy na ±5 y cant o flwyddyn i flwyddyn, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn adolygu'r ffioedd arfaethedig er mwyn sicrhau bod yr amgylchiadau perthnasol dan sylw yn cynnig eglurhad digonol neu'n cael eu diwygio yn unol â hynny. Bydd hyn yn cyfyngu ar y posibilrwydd o godi ffioedd gormodol neu annigonol. Ar ôl cyflwyno'r rheolaethau hyn trafodir y ffi gyda'r corff perthnasol a archwilir ac, yn amodol ar unrhyw wybodaeth bellach sy'n effeithio ar y gwaith i'w gyflawni, fe'i cadarnheir fel y ffi i'w chodi ar y corff hwnnw.
————————
i Ymhlith y gwaith archwilio blynyddol mae'r holl waith a gyflawnir mewn perthynas ag archwilio cyfrifon, archwiliadau ac astudiaethau gwerth am arian, ac asesiadau a gyflawnir o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, lle y bo'n gymwys. Nid yw gwaith archwilio blynyddol yn cynnwys yr hyn sy'n mynd y tu hwnt i ddyletswyddau cyffredinol archwilwyr, megis her etholwyr, archwiliadau eithriadol, arolygiadau arbennig a gwaith sy'n ymwneud ag atal gwariant anghyfreithlon. Mae graddfeydd ffioedd gwahanol hefyd yn gymwys i'r gwaith o ardystio hawliadau a ffurflenni mewn perthynas â grantiau a dalwyd neu gymorthdaliadau a roddwyd i gyrff gwasanaethau llywodraeth leol.
ii Gall risgiau cyrff a archwilir a ffactorau eraill megis ei ofynion gwleidyddol, ei fframwaith cyflwyno adroddiadau ariannol a'i benderfyniadau busnes, ym marn yr archwilydd, ddylanwadu ar faint o waith archwilio sydd angen ei wneud i sicrhau y cyflawnir dyletswyddau'r archwilydd yn briodol.
iii Gall effaith y rheolaethau a'r trefniadau y mae'r corff a archwilir wedi'u rhoi ar waith i gyflawni ei amcanion ac, wrth wneud hynny, i reoli a lliniaru effeithiau cymhlethdodau, risgiau a ffactorau eraill gael dylanwad ar allu'r archwilydd i gyflawni ei gyfrifoldebau'n briodol.
iv Gellir cymhwyso'r raddfa ffioedd ar gyfer ymddiriedolaethau prawf a mathau eraill o gyrff llywodraeth leol at gynghorau tref a chymuned a mathau eraill o gyrff llywodraeth leol lle mae'r incwm neu'r gwariant yn fwy nag £1 filiwn y flwyddyn. Mae cynghorau tref a chymuned a mathau eraill o gyrff llywodraeth leol sydd ag incwm neu wariant o hyd at £1 filiwn yn cael eu harchwilio ar sail 'sicrwydd cyfyngedig' - i gael rhagor o fanylion darllenwch lythyr ymgynghori Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei gynigion mewn perthynas â graddfeydd ffioedd llywodraeth leol ar gyfer 2013-2014.