Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae'r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, yn gyfrifol am rediad dyddiol Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ar ran yr Archwilydd Cyffredinol:

  • a benodwyd gan Ei Mawrhydi Y Frenhines 
  • sy'n annibynnol
  • sy'n adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • sy'n atebol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol o reolaeth ariannol a gwaith Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn helpu'r Archwilydd Cyffredinol drwy archwilio, ar ei ran, amryw o agweddau ar sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol:

  • Llywodraeth Cymru a'i chyrff noddedig a chysylltieidig 
  • Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
  • cyrff y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru

Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn penodi archwilwyr allanol cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau unedol, heddlu, awdurdodau prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymunedol.

Ynghyd â chynnal archwilio ariannol, rôl yr Archwilydd Cyffredinol yw i edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian y cyhoedd, gan gynnwys cyflawni gwerth yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Mae swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn benodiad statudol gan Ei Mawrhydi Y Frenhines yn unol â gofynion atodlen 8 Deddf Llywodraeth Leol 2006.

Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru yn 2005 drwy uno y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru a'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru.