Amdanom ni

Gwneud i Arian Cyhoeddus Gyfrif

Swyddfa Archwilio Cymru yw corff gwarchod gwasnaethau cyhoeddus Cymru.

Ei nod yw hybu gwelliant, fel bod pobl Cymru yn cael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol, sydd yn cael eu rheoli'n dda ac yn cynnig y gwerth gorau am arian.

Ein sefydliad

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn arwain Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae 250 o staff Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi'r Archwilydd Cyffredinol, yn gweithio mewn swyddfeydd ledled Cymru.

Mae'r staff yn cynnwys arwchilwyr ariannol (sydd yn arolygu cyfrifon cyrff cyhoeddus), archwilwyr perfformiad (sydd yn arolygu sut y darperir gwasanaethau cyhoeddus) a staff corfforaethol (mewn gwasanaethau megis adnoddau dynol, TG a chyfathrebu).

Ein hanes

Cafodd Swyddfa Archwilio Cymru ei greu ar 1 Ebrill 2005 yn dilyn uniad Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Gendlaethol Cymru.

Rhoddodd hyn un corff archwilio i Gymru, fel yn yr Alban, sydd yn delio â phob sector o lywodraeth, heblaw am y sectorau nad ydynt wedi eu datganoli, sydd wedi eu neilltuo i lywdoraeth y DU.

Yn ogystal â chreu Swyddfa Archwilio Cymru, ehangodd y gyfraith bwerau'r Archwilydd Cyffredinol i ddilyn y 'bunt gyhoeddus' be bynnag yr âi. Golyga hyn y gall yr Archwilydd Cyffredinol arolygu cwmnïau sector cyhoeddus ble y mae arian cyhoeddus wedi cael ei dderbyn.

Ein bwriad

Mae ein hamcanon ar gyfer y dair blynedd nesaf yn ein Cynllun Strategol 2009-2012.

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith, ewch i adran Ein Gwaith y wefan hon.