
Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2008
Stadiwm SWALEC, Caerdydd
Mawrth 25 Tachwedd 2008, Stadiwm SWALEC, Caerdydd
Ar 25 Tachwedd 2008 cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru Cynhadledd Rheoli Fflyd yn Stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd. Dyluniwyd y gynhadledd er mwyn rhannu Arfer Da i helpu i wella gwasanaethau, lleihau costau ac isafu effaith fflyd y sector cyhoeddus yng Nghymru ar yr amgylchedd.
Mynychodd dros 120 o randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddus y gynhadledd. Fe wnaeth y gynhadledd ddenu ystod o siaradwyr ac arddangoswyr proffil uchel, gan gynnwys Quentin Willson (cyflwynydd teledu a newyddiadurwr), Tony Cowley (Rheolwr Fflyd a Logisteg Cenedlaethol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) a David Melding (Aelod Cynulliad a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio y Cynulliad).
 |
Tony Cowley Rheolwr Fflyd a Logisteg Cenedlaethol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Soniodd Tony am yr hyn y mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ei wneud yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i wella ei fflyd, gan roi enghreifftiau a oedd yn drosglwyddiadwy i sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd rhan gyntaf y cyflwyniad yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth, gan egluro:
- sut yr ymgynghorwyd staff a pharafeddygon i sicrhau bod ambiwlansiau yn cwrdd ag anghenion staff a defynddwyr;
- cafodd sefydliadau y sector cyhoeddus yng Nghymru eu hannog i gydweithio i ennill mynediad hwy i ddarpariaeth tanwydd a chynhaliaeth.
Roedd ail ran y cyflwyniad yn canolbwyntio ar ymrwymiad staff, sydd wedi cael effaith ar:
- foral staff trwy eu cynnwys wrth lunio dyluniad cerbydau a’r buddiannau mae wedi ei gael ar y gallu i gyflawni eu rôl yn fwy effeithlon ac arbed munudau gwerthfawr ar adegau critigol;
- leihau salwch staff, afiechyd ac ymddeoliad cynnar.
Yn olaf, nododd Tony hefyd y gwelliant mewn effeithlonrwydd y mae’r ymddiriedolaeth wedi ei gyflawni, sydd yn cynnwys:
- lleihau amser di-fynd, lleihau costau a gwella amserau ymateb teithwyr;
- gwella effeithlonrwydd tanwydd gyda llai o effaith ar yr amgylchedd.
 |
David Melding Aelod Cynulliad a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio y Cynulliad |
Darparodd David drosolwg o rôl Pwyllgor Archwilio y Cynulliad Cenedlaethol a’i rôl fel y Cadeirydd cyn mynd ymlaen i egluro yr hyn sydd yn ofynnol ar lefel lleol a chenedlaethol er mwyn gwella fflyd y sector cyhoeddus:
- sicrhau bod gan bob sefydliad Strategaeth Rheoli Fflyd;
- sefydlu grwpiau meincnodi cenedlaethol a rhanbarthol;
- darparu cymorth caffael hwy i facsimeiddio gwerth am arian;
- gwella’r ffocws cwsmeriaid ar y gwasanaethau a gynigir gan Gwerth Cymru;
- asesu’r lefel o ddefnydd ac effeithiolrwydd contractau Gwerth Cymru, a chymryd camau addas i facsimeiddio’r ddau;
- darparu cyngor, arweiniad a chymorth ar gynaliadwyedd.
 |
Quentin Willson Cyflwynydd Teledu a Newyddiadurwr |
Fe wnaeth Quentin ddarparu persbectif allanol annibynnol ar ystod o faterion fflyd, gan gynnwys:
- annog mwy o weithio cydweithredol rhwng y sector cyhoeddus yng Nghymru a’r sector preifat;
- gwella effeithlonrwydd trwy rannu arfer da ac herio rhanddeiliaid i adolygu eu hymagwedd cyfredol;
- adolygu ymarferion cyfredol i gymryd cynaliadwyedd i ystyriaeth a chydbwyso anghenion y gwasanaeth gyda’r ymarferion cynaliadwy
 |
Jeremy Colman Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilydd Cyffredinol |
Fe wnaeth Jeremy nodi y gallai rheoli fflyd effeithiol wella darpariaeth gwasanaeth, gwella diogelwch gyrrwyr a’r cyhoedd, lleihau costau gweithredu a lleihau effaith y fflyd ar yr amgylchedd.
Adroddodd Jeremy bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyfunol yn gweithredu tua 16,000 o gerbydau a gostiodd dros £200 miliwn y flwyddyn i’w redeg yn 2006/2007. Mae’r cerbydau yma yn gyrru tua 250 miliwn o filltiroedd y flwyddyn – sydd yn cyfateb i fwy na 1,100 o deithiau i’r gofod. Mae’r teithiau yma yn cynhyrchu dros 110,000 tunnell o garbon deuocsid (CO2) pob blwyddyn sydd yn ddigon i lenwi 145,000 pwll nofio Olympaidd.
Cyflwynodd Jeremy darganfyddiadau Briffio Rheoli Fflyd Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru a ddaeth i’r canlyniad nad yw’r ymagwedd ar draws Cymru i reoli fflyd wedi gwenud y defyndd gorau posibl o adnoddau i gynorthwyo darpariaeth gwasanaeth effeithiol:
- nid oes gan y rhan fwyaf o sefydliadau strategaethau rheoli fflyd cadarn. Anaml y gwnant herio angen teithiau, neu’r modd y mae gwasanaethau fflyd yn cael eu darparu. Mae rheoli perfformiad gwasanaethau fflyd yn gyfyng hefyd;
- mae trefniadau caffael yn amrywiol. Mae cyfyngder ar y defyndd o gydweithio o gontractau canolog. Roedd cyfyngder o ystyriaeth penderfyniadau ‘costau oes gyfan’;
- mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau drefniadau effeithiol i helpu sicrhau defnydd effeithlon o’u fflydoedd ond mae ystyriaeth annigonol o’r fflyd lwyd (gweithwyr sy’n berchen ceir eu hunain a’u defynddio ar gyfer pwrpas busnes);
- mae trefniadau gwaredu yn amrywiol ac nid yw pob sefydliad yn sicrhau y gwerth gorau am arian yn yr ardal yma.
Hydref 2008: Brîff ar Reoli Fflyd
 |
Anthony Snow Swyddfa Archwilio Cymru, Prif Swyddog Gweithredu |
Fe wnaeth Anthony egluro pam bod Swyddfa Archwilio Cymru ynghlwm wrth Ddysgu a Rennir ac Arfer Da. Mae’r ateb yn syml – i helpu’r sector cyhoeddus i osgoi ail-ddyfeisio’r olwyn.
Fe wnaeth Anthony ddarparu’r rhanddeiliaid â gwybodaeth ar gynnyrch yn seiliedig ar y we y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datblygu ar gyfer Rheoli Fflyd, Rheoli Grantiau, Rheoli Absenoldeb Oherwydd Salwch, Iechyd Galwedigaethol, Rheoli Adeiladau a Chau Cyfrifon yn Gynt. Lle bo’n briodol, mae’r rhain yn cynnwys offer hunan asesu ac astudiaethau achos o gymorth i ddefnyddwyr.
Yn benodol ar gyfer Rheoli Fflyd, soniodd Anthony am wefan Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, sydd yn cynnwys:
Cliciwch yma i lawrlwytho cyflwyniad Anthony
Dychwelyd I frig y dudalen
Fe wnaeth Quentin Willson ganmol Swyddfa Archwilio Cymru am drefnu’r Gynhadledda dywedodd:
“It’s really great to see a public body like this re-examining everything they do when it comes to cars, transport, fleets and vans. There are lessons here that will be learned across the private sector too, and among private individuals. Hundreds of millions of pounds are spent on vehicle fleets in the public sector, and not only are these bodies financially accountable and have a moral duty to show they are spending the money properly, but there are lessons that can be learned across the wider transport sector."
Daeth llawer o bobl i Gynhadledd Rheoli Fflyd Swyddfa Archwilio Cymru ac roedd pawb wedi ei gwerthfawrogi yn fawr. Darganfyddodd arolwg bod 93% o’r mynychwyr wedi ymateb gan ddweud bod y Gynhadledd unai yn ‘ardderchog’ neu yn ‘dda’. Derbyniodd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd adborth bositif iawn wrth fynychwyr a oedd yn hapus iawn gyda’r lleoliad a’r cyflwyniadau a mynychwyr a oedd yn croesawi’r cyfle i rannu profiadau gyda chyd-weithwyr fflyd proffesiynol.
Isod ceir detholiad o ddyfyniadau wrth gynrychiolwyr ar y diwrnod:
“Ar y cyfan roedd y Gynhadledd yn ardderchog gyda rhai cyflwyniadau gwych. Llawn werth ei fynychu. Diolch."
“Amlinellodd y gynhadledd rhai amcanion clir ynglyn â rheoli fflydoedd trafnidiaeth a chadarnhau fy marn y dylai sefydliadau cael gwared ar gerbydau “fflyd lwyd” lle bo’n bosibl.“
“Digwyddiad Cymraeg ydoedd, felly roedd y canfyddiadau yn lleol. Teimlais bod y cyflwyniadau yn dda ac yn berthnasol.”
“Cefais y teimlad ein bod yn anelu at yr un gôl – gwerth gorau.”
“Cododd fy ymwybyddiaeth dros ystod o faterion rheoli fflyd.”
“Adnabod ein bod yn wynebu’r un materion a phroblemau.”
“Dysgu am farn mynychwyr eraill a’r modd y maent yn delio gydag amrywiaeth o faterion.”
“Rhoddwyd arweiniad yn y gweithdai ar botensial buddion trwy gyflwyno prosesau newydd, trefniadau ayyb. Roeddent yn gywir ac wedi eu rheoli yn dda.”
“Roedd y ddau gweithdy a fynychais yn ardderchog. Anelwyd ar y lefel cywir a dosbarthwyd yn dda iawn.”
“Lleoliad da iawn, ac roedd y gymysgedd o gleientiaid yn gywir.”
“Cyfle defnyddiol i rannu profiadau ar draws y sector cyhoeddus mwy eang yng Nghymru."
Dychwelyd I frig y dudalen
Gweithdy 1 — Dull strategol o hyfforddi a datblygu
Mark Kerr, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys
Darparodd Mark mewnwelediad i ymagwedd strategol Cyngor Sir Powys i ymrwymiad, hyfforddiant a datblygiad staff sydd yn defnyddio cerbydau’r Cyngor i ollwng eu dyletswyddau. Soniodd Mark hefyd am effaith bositif ymagwedd y Cyngor a oedd yn cynnwys lleihad mewn defnydd tanwydd, damweiniau ac absenoldeb oherwydd salwch.
Yn olaf, soniodd Mark am nifer o fentrau arfer da o fewn y Cyngor gan gynnwys ei lwfans teithio newydd.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r cyflwyniad - saesneg yn unig
Gweithdy 2 — Datblygu fflyd werdd, diogel ac effeithlon
Eynon & Rob Lane, Asiantaeth yr Amgylchedd
Soniodd Dale am y modd y mae’r Asiantaeth wedi datblygu fflyd cynaliadwy, diogel ac effeithlon sy’n cwrdd â gofynion gweithredol. Aeth Rob ymlaen i son am yr ‘hierarchaeth teithio’ a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth fel arweiniad teithio i staff. Trafodwyd enghreifftiau a phrofiadau o dechnegolegau amgen y mae’r Asiantaeth yn treialu (e.e. LPG).
Yn olaf, soniodd Dale a Rob am yr enillion effeithlon y mae’r Asiantaeth wedi gweld budd ohonynt o ganlyniad i’w ymagwedd cynaliadwy i Reoli Fflyd.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r cyflwyniad - saesneg yn unig
Gweithdy 3 — Mentrau diogelu fflyd a gyflwynwyd gan Nwy Prydain
John York Nwy Prydain
Gyda chyfrifoldeb am dros 10,000 o gerbydau, fe wnaeth Jon ddarparu rhanddeiliaid ag atebion arloesol o’r sector preifat trwy ffocysu ar 3 thema allweddol:
Cynaliadwyedd/Rheoli Tanwydd
- rhaglen o gyflwyno terfynau cyflymder;
- dod i gytundeb gyda staff i welliant effeithlonrwydd tanwydd a lleihau achosion damweiniau
Cyfathrebu gyda gweithwyr o bell
- negeseuon testun maes
- ffyrdd eraill i weithwyr o bell
Edrych ar ôl eich trwydded gyrru a’ch swydd
- gwiriadau ail gyflogi
- gwiriadau trwydded
- atgoffwyr terfynau cyflymder
Cliciwch yma i lawrlwytho’r cyflwyniad - saesneg yn unig
Gweithdy 4 — Deall y Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol 2007
Claire Rawle Cyfreithwyr Morgan Cole
Trwy gyflwyniad a chwarae rôl, soniodd Claire am oblygiadau Deddf Dynladdiad Corfforaethol 2007 ar sefydliadau y sector cyhoeddus yng Nghymru. Darparodd y gweithdy y rhanddeiliaid â gwybodaeth pellach ar y risgiau allweddol mewn perthynas â’i fflydoedd, ac arweiniad ar yr hyn y dylent ei wneud i leddfu’r risgiau hynny.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r cyflwyniad - saesneg yn unig
Bywgraffiadau
Cliciwch yma i weld bywgraffiadau siaradwyr y gweithdai
Dychwelyd I frig y dudalen
Yn garedig iawn, fe wnaeth y sefydliadau canlynol gefnogi’r Gynhadledd:
Dychwelyd I frig y dudalen
Dychwelyd I frig y dudalen
Pe dymunir wybodaeth pellach, cysyllter â Geraint Norman ar geraint.norman@wao.gov.uk neu 07810 056 683.
Dychwelyd I frig y dudalen